2021 Rhif 1352 (Cy. 351)

Llywodraeth Leol, Cymru
Y Gymraeg

Rheoliadau Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015 (Diwygio) 2021

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 26, 27, 39 a 150(5) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 20111.

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 150(2) o’r Mesur hwnnw2.

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015 (Diwygio) 2021.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Rhagfyr 2021.

Diwygio Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 20152

1

Mae Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 20153 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 1(4) (enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli)—

a

yn y diffiniad o “corff”, ar ôl “neu gyngor bwrdeistref sirol” mewnosoder “, cyd-bwyllgor corfforedig”;

b

yn y lle priodol mewnosoder—

  • ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 20214;

3

Yn rheoliad 3(1) (safonau sy’n benodol gymwys), ar ôl “cynghorau bwrdeistref sirol” mewnosoder “, cyd-bwyllgor corfforedig”.

Rebecca EvansY Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1) (“y Mesur”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer pennu safonau ymddygiad mewn perthynas â’r Gymraeg (“safonau”).

Mae adran 25 o’r Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i berson gydymffurfio â safon ymddygiad mewn perthynas â’r Gymraeg a bennir gan Weinidogion Cymru os yw’r person y agored i orfod cydymffurfio â safonau’r Gymraeg a bod y safon yn gymwysadwy i’r person, yn ogystal â bod amodau eraill yn cael eu bodloni.

Mae adran 26 o’r Mesur yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu safonau drwy reoliadau, ac mae adran 39 yn eu galluogi i ddarparu bod safon yn benodol gymwys i berson drwy awdurdodi Comisiynydd y Gymraeg (“y Comisiynydd”) i roi hysbysiad i’r person hwnnw sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â’r safon (“hysbysiad cydymffurfio”).

Mae Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015 (“Rheoliadau 2015”) yn pennu safonau mewn perthynas ag ymddygiad Gweinidogion Cymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol. Mae Rheoliadau 2015 hefyd yn awdurdodi’r Comisiynydd (yn ddarostyngedig i eithriadau penodol) i roi hysbysiad cydymffurfio, mewn perthynas â safonau a bennir gan Reoliadau 2015, i’r cyrff hynny.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2015 er mwyn dod â chyd-bwyllgorau corfforedig, a sefydlir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, o fewn cwmpas y safonau penodedig hynny ac yn galluogi’r Comisiynydd i wneud hysbysiad cydymffurfio mewn cysylltiad â’r corff hwnnw.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.