Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru
Gwnaed
9 Tachwedd 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 175(7) ac (8) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021(1).
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaeth Drosiannol a Diwygio Gorchymyn Cychwyn Rhif 1) 2021.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;
mae i “etholiad llywodraeth leol” (“local government election”) yr ystyr a roddir gan adran 171(1) o Ddeddf 2021.
2. Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2021 i rym ar 17 Tachwedd 2021—
(a)adrannau 19 i 21;
(b)paragraffau 1(3) i 1(5), 1(7), 1(9), 5 a 13 o Atodlen 2.
3.—(1) Mae erthygl 6 o Orchymyn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Arbed) 2021(2) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (t) rhodder “(t) paragraffau 1, 3 i 5 a 6(1) i (4) o Atodlen 6;”.
4.—(1) Er bod y darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (2) yn dod i rym yn rhinwedd erthygl 2, nid ydynt ond yn cael effaith mewn perthynas ag etholiad llywodraeth leol pan gynhelir y bleidlais ar 5 Mai 2022 neu ar ôl hynny.
(2) Y darpariaethau yw—
(a)adrannau 19 i 21;
(b)paragraffau 1(3) i 1(5) ac 1(7) o Atodlen 2.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
9 Tachwedd 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Hwn yw’r pedwerydd gorchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”).
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2021 i rym ar 17 Tachwedd 2021—
adran 19 (cymhwysiad person i gael ei ethol a dal swydd fel aelod o awdurdod lleol yng Nghymru);
adran 20 (anghymhwysiad person rhag cael ei ethol a bod yn aelod o awdurdod lleol);
adran 21 (anghymhwysiad aelod o awdurdod lleol yng Nghymru rhag cael ei benodi i swydd daledig);
paragraffau 1(3) i 1(5), 1(7), 1(9), 5 a 13 o Atodlen 2 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol mewn perthynas ag etholiadau).
Mae erthygl 3 yn diwygio erthygl 6 o Orchymyn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Arbed) 2021 i hepgor paragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf 2021 rhag y darpariaethau a ddygir i rym ar 5 Mai 2022. Mae paragraff 2 o Atodlen 6 yn ddarpariaeth drosiannol sy’n ymwneud â chynorthwywyr gweithrediaethau awdurdodau lleol nad oes angen ei dwyn i rym gan fod erthygl 2 yn dwyn i rym baragraffau 1(3) ac 1(7) o Atodlen 2.
Mae erthygl 4 yn gwneud darpariaeth drosiannol i sicrhau nad yw’r darpariaethau a restrir ym mharagraff (2) a ddygir i rym gan erthygl 2 ar 17 Tachwedd 2021 ond yn cael effaith mewn perthynas ag etholiad llywodraeth leol a gynhelir ar 5 Mai 2022 neu ar ôl hynny. Mae hyn yn golygu y bydd y darpariaethau perthnasol yn cael effaith at ddibenion y trefniadau paratoadol sydd eu hangen ar gyfer etholiad o’r fath, gan gynnwys penderfynu a yw ymgeisydd yn gymwys i gael ei ethol. Fodd bynnag, ni fydd y darpariaethau a restrir yn erthygl 4(2) yn cael unrhyw effaith at ddibenion unrhyw etholiad llywodraeth leol a gynhelir cyn 5 Mai 2022.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) wedi eu dwyn i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Gweler adran 175(1) o Ddeddf 2021 am ddarpariaethau a ddaeth i rym drannoeth y diwrnod y cafodd Deddf 2021 y Cydsyniad Brenhinol. Gweler adran 175(3) am ddarpariaethau a ddaeth i rym 2 fis ar ôl i Ddeddf 2021 gael y Cydsyniad Brenhinol. Cafodd Deddf 2021 y Cydsyniad Brenhinol ar 20 Ionawr 2021. Gweler hefyd adran 175(4) am ddarpariaethau a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2021.