Terfynu cytundeb partneriaeth dreftadaeth gan yr awdurdod cynllunio lleol9

1

Caiff awdurdod cynllunio lleol, drwy orchymyn, derfynu unrhyw gytundeb partneriaeth dreftadaeth y mae’n barti iddo neu unrhyw ddarpariaeth mewn cytundeb o’r fath.

2

Caiff gorchymyn a wneir o dan y rheoliad hwn gynnwys darpariaeth atodol, gysylltiedig, ddarfodol, drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

3

Nid yw gorchymyn a wneir gan yr awdurdod cynllunio lleol o dan baragraff (1) yn cael effaith oni chaiff ei gadarnhau gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 11(4).

4

Caiff gorchymyn i derfynu cytundeb partneriaeth dreftadaeth, mewn perthynas ag unrhyw gydsyniad adeilad rhestredig a roddwyd gan y cytundeb mewn cysylltiad ag unrhyw waith, gael ei arfer unrhyw bryd cyn i’r gwaith hwnnw gael ei gwblhau, ond nid yw’r terfyniad yn effeithio ar hynny o’r gwaith hwnnw ag a gyflawnwyd yn flaenorol.