Gorchymyn Dinas a Sir Abertawe (Trefniadau Etholiadol) 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (ׅ“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Mawrth 2020 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Dinas a Sir Abertawe. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 36 i 32, ond cynyddu nifer y cynghorwyr o 72 i 75.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Dinas a Sir Abertawe ac yn cyflwyno’r Atodlen sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Dinas a Sir Abertawe.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gweithredu argymhellion ynghylch newidiadau i ffiniau cymunedol a threfniadau etholiadol ar gyfer rhai cymunedau yn Ninas a Sir Abertawe.

Mae erthygl 4 yn diddymu cymuned bresennol y Cocyd, ac mae erthygl 5 yn creu cymunedau newydd y Cocyd a Waunarlwydd.

Mae erthygl 6 yn diddymu cymunedau presennol y Castell a St Thomas ac mae erthygl 7 yn creu cymunedau newydd y Castell, St Thomas, a’r Glannau.

Mae erthygl 8 yn gwneud newidiadau i’r ffin rhwng wardiau cymunedol West Cross a Newton yng nghymuned y Mwmbwls.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

Mae printiau o’r mapiau a labelwyd 1 i 6 y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol), a chyda Chyngor Abertawe. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Abertawe yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.