Rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, a osodwyd gerbron Senedd Cymru o dan baragraff 8 o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020 (p. 7), i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru o fewn 40 niwrnod gan ddechrau â’r diwrnod y gwneir yr offeryn.
Offerynnau Statudol Cymru
2020 Rhif 624 (Cy. 144)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Gofynion y Cwricwlwm (Diwygio paragraff 7(5) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020
Gwnaed
am 10.00 a.m. ar 22 Mehefin 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
am 4.00 p.m. ar 22 Mehefin 2020
Coming into force
23 Mehefin 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer eu pwerau o dan baragraff 8 o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020(1).
Enwi a dod i rym
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofynion y Cwricwlwm (Diwygio paragraff 7(5) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Mehefin 2020.
Diwygio paragraff 7(5) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020
2. Ym mharagraff 7(5) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020—
(a)mewnosoder ar ôl paragraff (c)—
“(ca)section 69 of, and Schedule 19 to, the School Standards and Framework Act 1998 (duty to secure due provision of religious education);”;
(b)mewnosoder ar ôl paragraff (e)—
“(ea)section 109 of that Act (implementation of the National Curriculum in maintained schools);
(eb)section 110 of that Act (implementation of the National Curriculum in nursery schools etc.);
(ec)sections 116A to 116K of that Act (the local curricula);”;
(c)mewnosoder ar ôl paragraff (g)—
“(h)the National Curriculum (Key Stage 2 Assessment Arrangements) (Wales) Order 2004 (S.I. 2004/2915 (W. 254));
(i)the National Curriculum (Key Stage 3 Assessment Arrangements) (Wales) Order 2005 (S.I. 2005/1394 (W. 108));
(j)the Education (National Curriculum) (Assessment Arrangements for Reading and Numeracy) (Wales) Order 2013 (S.I. 2013/433 (W. 51));
(k)the National Curriculum (Assessment Arrangements for the Foundation Phase and the Second and Third Key Stages) (Wales) Order 2014 (S.I. 2014/1999 (W. 200));
(l)the National Curriculum (Moderation of Assessment Arrangements for the Second and Third Key Stages) (Wales) Order 2015 (S.I. 2015/1309 (W. 113));
(m)the National Curriculum (Desirable Outcomes, Educational Programmes and Baseline and End of Phase Assessment Arrangements for the Foundation Phase) (Wales) Order 2015 (S.I. 2015/1596 (W. 195)).”
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
Am 10.00 a.m. ar 22 Mehefin 2020
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae paragraff 7(5) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020 yn rhestru deddfiadau y caiff Gweinidogion Cymru eu datgymhwyso am gyfnod penodedig drwy hysbysiad. Mae rheoliad 2 yn ychwanegu adran 69 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac Atodlen 19 iddi, ac adrannau 109, 110 a 116A i 116K o Ddeddf Addysg 2002, ynghyd â gorchmynion a wneir o dan adran 108 o’r Ddeddf honno, at y rhestr honno. Mae’r darpariaethau sydd wedi eu hychwanegu yn rhoi swyddogaethau i awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu, penaethiaid ac eraill mewn perthynas â darparu addysg grefyddol, Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru a’r cwricwlwm lleol.