Offerynnau Statudol Cymru
Adnoddau Dŵr, Cymru
Gwnaed
12 Mai 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
14 Mai 2020
Yn dod i rym
15 Mai 2020
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud ag adnoddau dŵr(2).
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) 2020 a deuant i rym ar 15 Mai 2020.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Mae Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 4 (hyd y tymor ymdrochi) rhodder—
“4. For the purposes of these Regulations, the bathing season in Wales—
(a)subject to paragraph (b), begins on 15th May and ends at the end of the day on 30th September in each year;
(b)for the year 2020, begins on 22nd June and ends at the end of the day on 30th September.”
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
12 Mai 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau a nodir isod, ac yn y modd a eglurir, o ganlyniad i bwysau a blaenoriaethu gwaith sy’n gysylltiedig â’r feirws o’r enw’r Coronafeirws neu “coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2”, sy’n achosi’r clefyd o’r enw “COVID-19”.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 4 o Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 er mwyn newid dyddiad cychwyn y tymor ymdrochi yng Nghymru am y flwyddyn 2020.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1972 p. 68. Diddymwyd Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (“Deddf 1972”) gan adran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) (“Deddf 2018”) gan gael effaith o’r diwrnod ymadael (“exit day”). Mae “exit day” wedi ei ddiffinio yn adran 20 o Ddeddf 2018 fel 31 Ionawr 2020 am 11pm. Er gwaethaf y diddymiad hwnnw mae Deddf 1972 yn parhau i gael effaith gydag addasiadau tan ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu (“IP completion day”), yn rhinwedd adran 1A o Ddeddf 2018. Mewnosodwyd adran 1A gan adran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1) (“Deddf 2020”). Mae “IP completion day” wedi ei ddiffinio yn adran 1A fel 31 Rhagfyr 2020 am 11pm (yr ystyr a roddir yn adran 39 o Ddeddf 2020). Diwygiwyd adran 2(2) o Ddeddf 1972 yn flaenorol gan adran 27(1) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o’r Atodlen iddi.
Gweler O.S. 2003/2901 ar gyfer y dynodiad a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn rhinwedd adrannau 59 a 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 28 o Atodlen 11 iddi, mae’r dynodiad hwnnw bellach wedi ei roi i Weinidogion Cymru. Mae O.S. 2003/2901 wedi ei ddirymu’n rhagolygol gan O.S. 2018/1011 o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
O.S. 2013/1675, wedi ei ddiwygio’n rhagolygol ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu gan O.S. 2019/558.