RHAN 2LL+CMynychu o bell

Mynychu o bellLL+C

5.—(1Nid yw adran 4 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011(1) (mynychu cyfarfodydd prif gynghorau o bell) yn cael effaith mewn perthynas â chyfarfod a gynhelir cyn 1 Mai 2021.

(2Caniateir i gyfarfod awdurdod lleol a gynhelir cyn y dyddiad hwnnw gael ei gynnal drwy gyfrwng unrhyw offer neu gyfleuster arall sy’n galluogi personau nad ydynt yn yr un lle i siarad â’i gilydd a chael eu clywed gan ei gilydd (pa un a yw’r offer neu’r cyfleuster hefyd yn galluogi’r personau hynny i weld ei gilydd ai peidio).

(3O ran cyfeiriad mewn unrhyw ddeddfiad neu offeryn arall—

(a)at berson yn mynychu cyfarfod awdurdod lleol neu’n bresennol mewn cyfarfod awdurdod lleol, mae’n cynnwys, mewn perthynas â chyfarfod a gynhelir drwy’r dulliau a ddisgrifir ym mharagraff (2), mynychu’r cyfarfod drwy ddefnyddio’r dulliau hynny;

(b)nid yw’r lle y cynhelir cyfarfod awdurdod lleol i gael ei ddarllen fel pe bai’n gyfyngedig i un lleoliad corfforol.

(4Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn cyfyngu ar bwerau awdurdod lleol i wneud rheolau sefydlog, trefniadau gweithrediaeth neu reolau eraill ynghylch cyfarfodydd a gynhelir drwy’r dulliau a ddisgrifir ym mharagraff (2).

(5Rhaid i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y rheoliad hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 5 mewn grym ar 22.4.2020, gweler rhl. 1(3)

(1)

2011 mccc 4. Diwygiwyd adran 4 gan adran 59 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4).