RHAN 1Cyffredinol

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw—

(a)

prif gyngor;

(b)

gweithrediaeth prif gyngor (o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000);

(c)

cyngor cymuned;

(d)

cyd-fwrdd ar gyfer ardal yng Nghymru, sy’n dal i fodoli yn rhinwedd adran 263(1) o Ddeddf 1972;

(f)

awdurdod tân ac achub ar gyfer ardal yng Nghymru, a gyfansoddwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(2) neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno’n gymwys iddo;

(g)

awdurdod Parc Cenedlaethol;

(h)

cydbwyllgor o ddau neu ragor o’r cyrff a grybwyllir yn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (g);

(i)

pwyllgor neu gydbwyllgor o unrhyw un neu ragor o’r cyrff a grybwyllir yn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (h);

ystyr “awdurdod Parc Cenedlaethol” (“National Park authority”) yw awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer ardal yng Nghymru, a sefydlwyd o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(3);

ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972(4);

ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw deddfiad i’r graddau y mae’n cynnwys darpariaeth a fyddai o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru pe bai wedi ei chynnwys mewn Deddf Cynulliad;

ystyr “prif gyngor” (“principal council”) yw cyngor ar gyfer sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru.