Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 399 (Cy. 88)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru

Gwnaed

3 Ebrill 2020

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

6 Ebrill 2020

Yn dod i rym

am 12.01 a.m. ar 7 Ebrill 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i fygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynycher a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020(2) ac mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y diwygiadau yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, dod i rym a chymhwysoLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020 a deuant i rym am 12.01 a.m. ar 7 Ebrill 2020.

(2Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020(3).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 7.4.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(1)

Busnesau llety gwyliau sy’n darparu gwasanaethau ar-lein etc.LL+C

2.  Yn rheoliad 5 o’r prif Reoliadau, yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) I’r graddau y mae rheoliad 4(4) yn gymwys i unrhyw fusnes arall a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1, mae’r rhwymedigaeth ar y person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes yn gymwys yn ddarostyngedig i’r angen i ddarparu llety i unrhyw bersonau sy’n aros yn y llety hwnnw pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym ac—

(a)na allant ddychwelyd i’w prif breswylfa, neu

(b)sy’n defnyddio’r llety fel eu prif breswylfa.

(3A) I’r graddau y mae rheoliad 4(4) yn gymwys i fusnes a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1, mae’r rhwymedigaeth ar y person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes yn gymwys yn ddarostyngedig i’r angen—

(a)i gynnal y busnes, neu i gadw unrhyw fangre a ddefnyddir yn y busnes ar agor, at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano;

(b)i gynnal y busnes drwy ddarparu gwybodaeth neu wasanaethau eraill—

(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar-lein,

(ii)dros y ffôn, gan gynnwys ymholiadau drwy neges destun, neu

(iii)drwy’r post.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 7.4.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(1)

Cyfyngiad ar fannau gwaith eraillLL+C

3.  Ar ôl rheoliad 6 o’r prif Reoliadau mewnosoder—

Cyfyngiad cyffredinol ar fannau gwaith

6A.(1) Rhaid i berson sy’n gyfrifol am waith a gyflawnir mewn mangre lle mae person yn gweithio, pan yw gwaith o’r fath yn cael ei gyflawni yn ystod cyfnod yr argyfwng, gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu ofalwr a’r person a gynorthwyir gan y gofalwr).

(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i fangre a ddefnyddir i gynnal busnes, neu ddarparu gwasanaeth, a restrir yn Atodlen 1.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 7.4.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(1)

Cyfyngiadau ar fannau addoli, amlosgfeydd, mynwentydd a chanolfannau cymunedolLL+C

4.  Yn rheoliad 7 o’r prif Reoliadau—

(a)ym mharagraff (2), ar ôl “addoli”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, mewnosoder “(ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu ofalwr a’r person a gynorthwyir gan y gofalwr)”;

(b)ym mharagraff (4), ar ôl “amlosgfa”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, mewnosoder “(ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu ofalwr a’r person a gynorthwyir gan y gofalwr)”;

(c)ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(4A) Rhaid i berson sy’n gyfrifol am fynwent gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng pob person mewn claddedigaeth sy’n digwydd yn y fynwent yn ystod cyfnod yr argyfwng (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu ofalwr a’r person a gynorthwyir gan y gofalwr).;

(d)ym mharagraff (5)(b), ar ôl “fangre” mewnosoder “(ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu ofalwr a’r person a gynorthwyir gan y gofalwr)”;

(e)ar ôl paragraff (5) mewnosoder—

(6) At ddiben y rheoliad hwn—

(a)mae “claddu” yn cynnwys rhoi lludw person marw yn y ddaear;

(b)mae “mynwent” yn cynnwys claddfa ac unrhyw fan arall sydd sy’n cael ei ddefnyddio i gladdu’r meirw.

(f)yn y pennawd, ar ôl “amlosgfeydd” mewnosoder “, mynwentydd”.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 7.4.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(1)

Canllawiau ar gynnal pellter o 2 fetr rhwng personauLL+C

5.  Ar ôl rheoliad 7 o’r prif Reoliadau mewnosoder—

Canllawiau ar gynnal pellter o 2 fetr rhwng personau

7A.(1) Rhaid i berson sy’n ddarostyngedig i ofyniad neu gyfyngiad yn—

(a)rheoliad 4(1) fel y mae’n gymwys i ffreuturau yn y gweithle,

(b)rheoliad 6(1),

(c)rheoliad 6A(1), neu

(d)rheoliad 7(1), (3), (4A) neu (5),

roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch y camau rhesymol sydd i’w cymryd i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau.

(2) O ran Gweinidogion Cymru—

(a)cânt ddiwygio canllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1), a

(b)rhaid iddynt gyhoeddi’r canllawiau (ac unrhyw ddiwygiadau).

(3) Caiff canllawiau o dan y rheoliad hwn gynnwys (drwy gyfeirio neu drosi) ganllawiau, codau ymarfer neu ddogfennau eraill a gyhoeddir gan berson arall (er enghraifft, cymdeithas fasnach, corff sy’n cynrychioli aelodau o ddiwydiant neu undeb llafur).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 7.4.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(1)

Mynd i angladdauLL+C

6.  Yn rheoliad 8(2)(g) o’r prif Reoliadau, yn lle paragraffau (i) i (iv) rhodder—

(i)fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

(ii)os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 7.4.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(1)

Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadolLL+C

7.—(1Mae’r prif Reoliadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 1(3), ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—

(da)mae “mangre” yn cynnwys unrhyw adeilad neu strwythur ac unrhyw dir;.

(3Yn rheoliad 3(2), yn lle “15” rhodder “16”.

(4Yn rheoliad 10—

(a)ym mharagraff (1)(a), ar ôl “6” mewnosoder “, 6A”;

(b)ym mharagraff (12), ar ôl “6,” mewnosoder “6A,”.

(5Yn rheoliad 12(1)(a), ar ôl “6,” mewnosoder “ 6A,”.

(6Yn rheoliad 13—

(a)ym mharagraff (2), yn lle “awdurdod lleol a bennir yn yr hysbysiad.” rhodder “—

(a)awdurdod lleol, neu

(b)person a ddynodir gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn,

fel y caiff yr hysbysiad ei bennu.;

(b)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A) Caiff Gweinidogion Cymru eu dynodi hwy eu hunain o dan baragraff (2)(b).;

(c)ym mharagraff (3), yn lle “Rhaid i’r awdurdod lleol a bennir yn yr hysbysiad” rhodder “Pan fo awdurdod lleol wedi ei bennu yn yr hysbysiad rhaid iddo”;

(d)ym mharagraff (8), ar ôl “£120” mewnosoder “ac nid yw paragraff (7) yn gymwys”;

(e)ym mharagraff (11)(a), yn lle “yr awdurdod lleol, a” rhodder “—

(i)yr awdurdod lleol, neu

(ii)y person a ddynodir o dan baragraff (2)(b),

a bennir yn yr hysbysiad cosb benodedig y mae’r achos yn ymwneud ag ef, a.

(7Yn Atodlen 1—

(a)ym mharagraff 29, yn lle “yn”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, rhodder “oddi ar”;

(b)yn lle paragraff 44, rhodder—

44.  Siopau cyflenwadau amaethyddol neu ddyframaethu.

44A.  Marchnadoedd neu arwerthiannau da byw.

(c)ym mhennawd yr Atodlen ar ôl “gyfyngiadau” mewnosoder “penodol”.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 7.4.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(1)

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

3 Ebrill 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliadau 5, 7 ac 8 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 (y “prif Reoliadau”), yn mewnosod rheoliadau newydd 6A a 7A yn y prif Reoliadau, ac yn gwneud mân ddiwygiadau pellach a diwygiadau canlyniadol iddynt.

Mae rheoliad 5 o’r prif Reoliadau yn gwneud darpariaeth sy’n ymwneud â darparwyr llety gwyliau sy’n ddarostyngedig i’r gofyniad i beidio â chynnal eu busnes o dan reoliad 4(4) o’r prif Reoliadau. Mae rheoliad 2 yn diwygio paragraff (3) o reoliad 5 ac yn ychwanegu is-baragraff newydd (3A) ato er mwyn ei gwneud yn glir y gall pob busnes o’r fath barhau i ddarparu gwasanaethau ar-lein neu dros y ffôn neu drwy’r post, ac agor mangre ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol.

Mae rheoliad 3 yn mewnosod rheoliad newydd 6A yn y prif Reoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n gyfrifol am waith sy’n cael ei gyflawni yn unrhyw fan (pan fo gwaith o’r fath yn cael ei gyflawni yn ystod y cyfnod argyfwng ac ar yr amod nad yw’n fangre i fusnes neu wasanaeth a restrir yn Atodlen 1) gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau yn y fangre (oni bai bod y personau yn aelodau o’r un aelwyd neu’n ofalwr a’r person a gynorthwyir gan y gofalwr).

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 7 o’r prif Reoliadau fel nad yw’r gofyniad i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau mewn man addoli, amlosgfa neu ganolfan gymunedol yn gymwys i bersonau o’r un aelwyd neu i ofalwyr a phersonau y maent yn gofalu amdanynt. Mae hefyd yn mewnosod paragraff newydd (4A) i reoliad 7 gyda’r effaith bod rhaid i berson sy’n gyfrifol am fynwent gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau o aelwydydd gwahanol sy’n mynd i gladdedigaeth yn y fynwent. Yn olaf, mewnosoder paragraff (6) newydd sy’n diffinio “mynwent” a “claddedigaeth” at ddiben rheoliad 7.

Mae rheoliad 5 yn mewnosod rheoliad newydd 7A yn y prif Reoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy’n ddarostyngedig i ofyniad i gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau mewn man roi sylw i ganllawiau gan Weinidogion Cymru ynghylch cymryd y mesurau hynny.

Mae rheoliad 8(1) o’r prif Reoliadau yn darparu na chaiff unrhyw berson, yn ystod cyfnod yr argyfwng, adael y man lle y mae’n byw heb esgus rhesymol. Mae rheoliad 8(2) yn nodi rhestr nad yw’n hollgynhwysol o’r gweithgareddau sydd i’w hystyried yn esgusodion rhesymol.

Mae is-baragraff (g) o reoliad 8(2) yn darparu bod mynd i angladd yn esgus rhesymol i berson os yw’n angladd aelod o aelwyd y person (paragraff (i)); aelod agos o’r teulu (paragraff (ii)); neu ffrind, pan na fo unrhyw aelod o aelwyd yr ymadawedig neu unrhyw aelod agos o’i deulu yn mynd (paragraff (iii)). Mae rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 8(2)(g) gyda’r effaith bod mynd i’r angladd i’w ystyried yn esgus rhesymol i adael y man lle y mae person yn byw os yw’r person yn gyfrifol am drefnu’r angladd neu os caiff ei wahodd (ond noder y bydd terfynau ar nifer y personau a gaiff fynd i angladd o ganlyniad i’r cyfyngiadau a osodir gan reoliad 7 o’r prif Reoliadau).

Mae rheoliad 7 yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol gan gynnwys—

  • mewnosod diffiniad o “mangre” at ddibenion y prif Reoliadau, sy’n ei gwneud yn glir fod unrhyw adeilad neu strwythur neu unrhyw dir (hynny yw, mannau awyr agored) yn cyfrif fel mangre o dan y Rheoliadau;

  • caniatáu i Weinidogion Cymru ddynodi person i gael taliadau o gosbau penodedig yn lle gwneud taliadau i’r awdurdod lleol yr honnir bod y drosedd wedi digwydd yn ei ardal;

  • ychwanegu siopau cyflenwadau dyframaethu a marchnadoedd ac arwerthiannau da byw at y rhestr yn Rhan 4 o Atodlen 1 i’r prif Reoliadau gyda’r effaith y cânt aros ar agor ond bod rhaid iddynt gydymffurfio â gofynion rheoliad 6(1) o’r prif Reoliadau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1984 p. 22. Mewnosodwyd adrannau 45C, 45F a 45P gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaethau o dan yr adrannau hyn wedi eu rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”). O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984, y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru..