Busnesau llety gwyliau sy’n darparu gwasanaethau ar-lein etc.I12
Yn rheoliad 5 o’r prif Reoliadau, yn lle paragraff (3) rhodder—
3
I’r graddau y mae rheoliad 4(4) yn gymwys i unrhyw fusnes arall a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1, mae’r rhwymedigaeth ar y person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes yn gymwys yn ddarostyngedig i’r angen i ddarparu llety i unrhyw bersonau sy’n aros yn y llety hwnnw pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym ac—
a
na allant ddychwelyd i’w prif breswylfa, neu
b
sy’n defnyddio’r llety fel eu prif breswylfa.
3A
I’r graddau y mae rheoliad 4(4) yn gymwys i fusnes a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1, mae’r rhwymedigaeth ar y person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes yn gymwys yn ddarostyngedig i’r angen—
a
i gynnal y busnes, neu i gadw unrhyw fangre a ddefnyddir yn y busnes ar agor, at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano;
b
i gynnal y busnes drwy ddarparu gwybodaeth neu wasanaethau eraill—
i
drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar-lein,
ii
dros y ffôn, gan gynnwys ymholiadau drwy neges destun, neu
iii
drwy’r post.