Cyfyngiadau ar symud a chynulliadau yn ystod cyfnod yr argyfwng
8.—(1) Yn ystod cyfnod yr argyfwng, ni chaiff unrhyw berson adael y man lle y mae’n byw heb esgus rhesymol.
(2) At ddibenion paragraff (1), mae esgus rhesymol yn cynnwys yr angen—
(a)i gael, oddi wrth unrhyw fusnesau a restrir yn Rhan 4 o Atodlen 1—
(i)angenrheidiau sylfaenol, gan gynnwys bwyd a chyflenwadau meddygol i’r rheini yn yr un aelwyd (gan gynnwys anifeiliaid yr aelwyd) neu ar gyfer personau hyglwyf;
(ii)cyflenwadau (gan gynnwys arian) ar gyfer cynnal, cynnal a chadw a gweithrediad yr aelwyd, neu aelwyd y person hyglwyf, neu i gael arian;
(b)i wneud ymarfer corff, ddim mwy nag unwaith y dydd, naill ai ar ei ben ei hun neu gydag aelodau eraill o’i aelwyd;
(c)i geisio cymorth meddygol, gan gynnwys cael gafael ar unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 42 o Atodlen 1 neu i gael mynediad at wasanaethau milfeddygol;
(d)i ddarparu gofal neu gymorth, gan gynnwys gofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(1), i berson hyglwyf, neu i ddarparu cymorth brys;
(e)i roi gwaed;
(f)i deithio at ddibenion gwaith neu i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol, pan na fo’n rhesymol ymarferol i’r person hwnnw weithio, neu ddarparu’r gwasanaethau hynny, o’r man lle y mae’n byw;
(g)i fynd i angladd—
(i)aelod o aelwyd y person,
(ii)aelod agos o’r teulu (gan gynnwys partner, plentyn, llysblentyn neu blentyn maeth, neu riant),
(iii)ffrind, os nad yw unrhyw aelod o aelwyd yr ymadawedig neu unrhyw aelod o deulu agos yr ymadawedig yn mynd, neu
(iv)fel gofalwr person sy’n mynd fel person a grybwyllir yn is-baragraff (i), (ii) neu (iii);
(h)i fodloni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu i gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
(i)i gael gafael ar wasanaethau cyhoeddus hanfodol, gan gynnwys—
(i)gofal plant neu gyfleusterau addysgol (pan fo’r rhain yn dal i fod ar gael i blentyn y person);
(ii)gwasanaethau cymdeithasol;
(iii)gwasanaethau a ddarperir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau;
(iv)gwasanaethau a ddarperir i ddioddefwyr (megis dioddefwyr trosedd neu drais domestig);
(j)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw yn yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, i barhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
(k)yn achos gweinidog yr efengyl neu arweinydd addoli, i fynd i’w fan addoli;
(l)i symud tŷ pan fo’n angenrheidiol;
(m)i osgoi anaf neu salwch neu i ddianc rhag risg o newid.
(3) At ddibenion paragraff (1), mae’r man lle y mae person yn byw yn cynnwys y fangre lle y mae’n byw ynghyd ag unrhyw ardd, iard, tramwyfa, gris, garej, tŷ allan neu unrhyw atodyn i fangre o’r fath.
(4) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw berson sy’n ddigartref.
(5) Yn ystod cyfnod yr argyfwng, ni chaiff unrhyw berson gymryd rhan mewn cynulliad mewn man cyhoeddus o fwy na dau berson ac eithrio—
(a)pan fo’r holl bersonau yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd,
(b)pan fo’r cynulliad yn hanfodol at ddibenion gwaith,
(c)i fynd i angladd, neu
(d)pan fo’n angenrheidiol—
(i)i hwyluso symud tŷ,
(ii)i ddarparu gofal neu gynhorthwy i berson hyglwyf, yn cynnwys gofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006,
(iii)i ddarparu cynhorthwy brys, neu
(iv)i gymryd rhan mewn achos cyfreithiol, neu gyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol.
2006 p. 47. Rhoddwyd is-baragraff (3B), ar y cyd ag is-baragraffau (1), (3) a (3A) i (3E), yn lle is-baragraffau (1) i (3) gan adran 66(2) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 (p. 9).