- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
13.—(1) Caiff person perthnasol ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw un y mae’r person perthnasol yn credu’n rhesymol—
(a)ei fod wedi cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau hyn, a
(b)ei fod yn 18 oed neu drosodd.
(2) Hysbysiad yw hysbysiad cosb benodedig sy’n cynnig i’r person y’i dyroddir iddo y cyfle i gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig i awdurdod lleol a bennir yn yr hysbysiad.
(3) Rhaid i’r awdurdod lleol a bennir yn yr hysbysiad fod yr awdurdod (neu yn ôl y digwydd, unrhyw un o’r awdurdodau) yn yr ardal yr honnir bod y drosedd wedi ei chyflawni ynddi.
(4) Pan ddyroddir hysbysiad i berson o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â throsedd—
(a)ni chaniateir dwyn achos am y drosedd cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad yr hysbysiad;
(b)ni chaniateir euogfarnu’r person o’r drosedd os yw’r person yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.
(5) Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—
(a)rhoi manylion rhesymol fanwl am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn creu’r drosedd;
(b)datgan y cyfnod pryd (oherwydd paragraff (4)(a)) na ddygir achos am y drosedd;
(c)pennu swm y gosb benodedig;
(d)datgan enw a chyfeiriad y person y caniateir talu’r gosb benodedig iddo;
(e)pennu dulliau o dalu a ganiateir.
(6) Rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff 5(c) fod yn £60 (yn ddarostyngedig i baragraffau (7) ac (8)).
(7) Caiff hysbysiad cosb benodedig bennu, os telir £30 cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau yn dilyn dyddiad yr hysbysiad, mai dyna yw swm y gosb benodedig.
(8) Os yw’r person y dyroddir hysbysiad cosb benodedig iddo eisoes wedi derbyn hysbysiad cosb benodedig o dan y Rheoliadau hyn, swm y gosb benodedig yw £120.
(9) Beth bynnag y bo unrhyw ddull arall a bennir o dan baragraff (5)(e), caniateir talu cosb benodedig drwy dalu ymlaen llaw a phostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb (mewn arian parod neu fel arall) i’r person y nodir ei enw o dan baragraff (5)(d) i’r cyfeiriad a nodir.
(10) Pan fo llythyr yn cael ei anfon fel a grybwyllir ym mharagraff (9), ystyrir bod taliad wedi ei wneud ar yr adeg y byddai’r llythyr hwnnw wedi cael ei ddanfon yn nhrefn arferol y post.
(11) Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif—
(a)sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran y person sydd â chyfrifoldeb am faterion ariannol yr awdurdod lleol, a
(b)sy’n datgan bod y taliad am y gosb benodedig wedi dod i law, neu heb ddod i law, erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif,
yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatgenir.
(12) Pan ddyroddir cosb benodedig mewn perthynas â’r drosedd honedig o dorri’r gofyniad yn rheoliad 9(4), mae cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at “awdurdod lleol” i’w darllen fel pe baent yn cynnwys cyfeiriadau at awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: