Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws: Cau Busnesau Hamdden, Llwybrau Troed a Thir Mynediad) (Cymru) 2020

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 45R o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (p. 22), i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn wyth niwrnod ar hugain gan ddechrau â’r diwrnod y gwnaed yr offeryn, yn ddarostyngedig i’w estyn dros gyfnodau o ddiddymu, neu pan fo toriad am fwy na phedwar diwrnod.

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 334 (Cy. 76)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws: Cau Busnesau Hamdden, Llwybrau Troed a Thir Mynediad) (Cymru) 2020

Gwnaed

am 10.00 p.m. ar 23 Mawrth 2020

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

24 Mawrth 2020

Yn dod i rym

am 12.00 pm. ar 24 Mawrth am 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1), 45C(3)(c), 45C(4)(d), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).

Gwneir y Rheoliadau mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlu acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru o’r farn bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, dod i rym, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws: Cau Busnesau Hamdden, Llwybrau Troed a Thir Mynediad) (Cymru) 2020 a deuant i rym am 12.00 p.m. ar 24 Mawrth 2020.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3At ddiben y Rheoliadau hyn ystyr “coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlu acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2).

Y gofyniad i gau busnesau hamdden yn ystod yr argyfwng

2.—(1Rhaid i berson sy’n gyfrifol am redeg busnes a restrir yn Rhan 1 o’r Atodlen, yn ystod y cyfnod perthnasol, gau ei fangre a pheidio â rhedeg ei fusnes.

(2Os yw busnes a restrir yn yr Atodlen (“busnes A”) yn ffurfio rhan o fusnes mwy o faint (“busnes B”), mae’r person sy’n gyfrifol am redeg busnes B yn cydymffurfio â’r gofyniad ym mharagraff (1) os yw’n cau busnes A.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y cyfyngiadau a osodir gan y rheoliad hwn bob 28 o ddiwrnodau, gyda’r adolygiad cyntaf yn cael ei gynnal cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod y gwneir y Rheoliadau hyn.

(4Cyn gynted ag y bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried nad oes angen y cyfyngiadau a nodir yn y rheoliad hwn mwyach i atal, i ddiogelu rhag, i reoli neu i ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint yng Nghymru â’r coronafeirws, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi cyfarwyddyd yn terfynu’r cyfnod perthnasol.

(5Caiff cyfarwyddyd a gyhoeddir o dan baragraff (4) derfynu’r cyfnod perthnasol mewn perthynas â rhai o’r busnesau a restrir yn yr Atodlen, neu bob busnes a restrir yn yr Atodlen.

(6At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)mae “person sy’n gyfrifol am redeg busnes” yn cynnwys perchennog a rheolwr y busnes hwnnw;

(b)mae’r “cyfnod perthnasol” yn cychwyn pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym ac yn dod i ben ar y diwrnod a bennir mewn cyfarwyddyd a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (7).

Darpariaeth bellach yn ymwneud â chau safleoedd gwyliau

3.—(1I’r graddau y mae rheoliad 2 (1) yn gymwys i safle gwyliau, mae’r oblygiad ar y person sy’n gyfrifol am gyflawni’r busnes (“P”) yn cynnwys oblygiad ar P i ddefnyddio ymdrechion gorau P i’w gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy’n defnyddio cartref symudol neu garafán ar y safle pan fo’r fangre yn cau i adael y fangre.

(2Ond nid yw’r oblygiad ym mharagraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw berson sy’n defnyddio cartref symudol i bobl fyw ynddo ar y safle gwyliau o dan gytundeb a wnaed o dan Ran 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013.

Gofyniad i gau rhai llwybrau troed cyhoeddus a thir mynediad yn ystod yr argyfwng

4.—(1Os yw paragraff (1) yn gymwys i lwybr troed neu dir mynediad yn ardal awdurdod perthnasol, rhaid i’r awdurdod perthnasol —

(a)gau y llwybr troed neu’r tir mynediad erbyn 12.00 y.h. ar 25 Mawrth 2020, a

(b)ei gadw ar gau nes ei fod o’r farn nad yw cau mwyach yn angenrheidiol i atal, amddiffyn rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd cyhoeddus i fynychder neu ymlediad haint yn ei ardal gyda’r coronafeirws.

(2Mae’r paragraff hwn yn gymwys i’r llwybrau troed a’r tir mynediad yn ei ardal mae awdurdod perthnasol yn ystyried—

(a)sydd â thuedd i niferoedd mawr o bobl yn ymgasglu arnynt neu i fod yn agos at ei gilydd arnynt, neu

(b)mae’r defnydd ohono’n peri risg uchel fel arall i fynychder neu ymlediad haint yn ei ardal gyda’r coronafeirws.

(3Rhaid i’r awdurdod perthnasol gyhoeddi rhestr o lwybrau troed neu dir mynediad sydd wedi ei gau yn ei ardal ar wefan.

(4At ddibenion y rheoliad hwn —

(a)mae cyfeiriadau at lwybr troed yn cynnwys llwybr ceffylau, a

(b)mae cyfeiriadau at lwybr troed neu dir mynediad yn cynnwys rhannau o lwybr troed neu dir mynediad.

(5Yn y rheoliad hwn —

(a)ystyr “awdurdod perthnasol” yw —

(i)Cyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol yng Nghymru,

(ii)awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru,

(iii)Cyfoeth Naturiol Cymru, neu

(iv)yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

(b)mae i “llwybr troed” a “llwybr ceffylau” yr un ystyr â roddir i “footpath” a “bridleway” (yn eu trefn) yn adran 329 (1) o Ddeddf Priffyrdd 1980;

(c)mae “tir mynediad” yn cynnwys tir y mae gan y cyhoedd fynediad ato yn rhinwedd ei berchnogaeth gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ond heblaw hynny mae iddo yr un ystyr ag “access land” yn adran 1 (1) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.

Troseddau a chosbau

5.—(1Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn torri reoliad 2 yn cyflawni trosedd.

(2Mae person sy’n rhwystro, heb esgus rhesymol, unrhyw berson sy’n cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd.

(3Mae trosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w gosbi ar gollfarn ddiannod drwy ddirwy.

(4Os profir bod trosedd o dan baragraff (1) a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol—

(a)wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog o’r corff, neu

(b)y gellir ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran y swyddog hwnnw,

mae’r swyddog (yn ogystal â’r corff corfforaethol) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn ac i gael achos wedi’i ddwyn yn ei erbyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(5Ym mharagraff (4), ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforaethol, yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i’r corf corfforaethol.

Gorfodi cyfyngiadau ac erlyn

6.—(1Caiff person a ddynodir gan Weinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau sy’n angenrheidiol i orfodi gofyniad i gau mangre neu gyfyngiad a osodir gan reoliad 2.

(2Caniateir dwyn achos am drosedd o dan reoliad 5 gan unrhyw berson a ddynodir gan Weinidogion Cymru.

Dod i ben

7.—(1Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar ddiwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau ar y diwrnod y deuant i rym.

(2Nid yw’r rheoliad hwn yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn cyn iddynt ddod i ben.

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

Am 10.00 p.m. ar 23 Mawrth 2020

Rheoliad 2

YR ATODLENY busnesau y mae’n rhaid iddynt gau

RHAN 1MATH O FUSNES

1.  Safleoedd gwyliau.

2.  Safleoedd gwersylla.

3.  Arcêdau difyrion.

4.  Canolfannau chwarae dan do.

RHAN 2DEHONGLI

5.—(1Yn yr Atodlen hon, ystyr “safle gwyliau” yw unrhyw dir yng Nghymru y mae cartref symudol wedi ei leoli arno at ddibenion bod yn gartref i berson (gan gynnwys unrhyw dir yng Nghymru a ddefnyddir ar y cyd â’r tir) y mae’r caniatâd cynllunio mewn cysylltiad ag ef, neu y mae trwydded y safle ar gyfer y tir—

(a)wedi ei ddatgan i’w roi at ddiben ei ddefnyddio ar gyfer gwyliau yn unig, neu

(b)yn ei gwneud yn ofynnol bod adegau o’r flwyddyn pan ni chaniateir lleoli unrhyw gartref symudol ar y safle i fod yn gartref i berson.

(2At ddibenion penderfynu a yw safle yn safle gwyliau ai peidio, anwybyddir unrhyw ddarpariaeth o’r caniatâd cynllunio perthnasol neu’r drwydded safle sy’n caniatáu gosod cartref symudol ar y tir i bobl fyw ynddo drwy gydol y flwyddyn os awdurdodir y cartref i’w feddiannu gan —

(a)y person sy’n berchennog ar y safle, neu

(b)person a gyflogir gan y person hwnnw ond nad yw’n meddiannu’r cartref symudol o dan gytundeb y mae Rhan 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn gymw

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gau safleoedd carafannau gwyliau, safleoedd gwersylla, arcedau difyrion a chanolfannau chwarae dan do i ddiogelu yn erbyn risgiau i iechyd y cyhoedd sy’n deillio o goronafeirws. Byddant ar gau hyd nes y rhoddir cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru yn caniatáu iddynt ailagor. Mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y cyfyngiadau a osodir gan y Rheoliadau bob 28 o ddiwrnodau.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn gosod oblygiad, at yr un diben, ar awdurdodau lleol, awdurdodau Parciau Cenedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gau rhai llwybrau troed a thir mynediad cyhoeddus.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1984 p. 22 (“Deddf 1984”). Mewnosodwyd adrannau 45C, 45F a 45P gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaethau o dan yr adrannau hynny wedi eu rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog Priodol”). O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984 y Gweinidog Priodol o ran Cymru yw Gweinidogion Cymru.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources