2020 Rhif 319 (Cy. 72)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 9 a 45(2) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 20021.

Gosodwyd drafft oʼr Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 140(3)(a) oʼr Ddeddf honno ac feʼi cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad2.

Enwi, cychwyn a dehongli1

1

Enwʼr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020.

2

Dawʼr Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2020 yn union ar ôl i Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 20203 ddod i rym.

3

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Prif Reoliadau” yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 20054.

Diwygioʼr Prif Reoliadau2

1

Mae’r Prif Reoliadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 30 (adroddiad darpar fabwysiadydd), ym mharagraff (2)(d), ar ôl “plentyn” mewnosoder “, ac wrth benderfynu ar addasrwydd cwpl i fabwysiadu plentyn rhaid iʼr asiantaeth roi sylw priodol iʼr angen am sadrwydd a sefydlogrwydd yn eu perthynas”.

3

Yn Atodlen 4A (addasu Rhan 4), ym mharagraff 4(b), ym mharagraff (2)(ch) sydd wedi ei amnewid, ar ôl “plentyn” mewnosoder “, ac wrth benderfynu ar addasrwydd cwpl i fabwysiadu plentyn rhaid iʼr asiantaeth roi sylw priodol iʼr angen am sadrwydd a sefydlogrwydd yn eu perthynas”.

Julie MorganY Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Maeʼr Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 (“y Prif Reoliadau”), syʼn gwneud darpariaeth ynghylch arfer gan asiantaethau mabwysiadu (awdurdodau lleol a chymdeithasau mabwysiadu cofrestredig) eu swyddogaethau mewn perthynas â mabwysiadu o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002.

Mae diwygiadau pellach wedi eu gwneud iʼr Prif Reoliadau gan Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2020. Maeʼr Rheoliadau hynny, yn bennaf, yn rhoi Rhan 4 newydd yn lleʼr un bresennol yn y Prif Reoliadau er mwyn darparu ar gyfer proses gymeradwyo dau gam ar gyfer darpar fabwysiadwyr. Roedd y Rheoliadau hynny yn ddarostyngedig iʼr weithdrefn negyddol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Maeʼr diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gosod gofyniad ar asiantaethau mabwysiadu, wrth asesu addasrwydd cwpl i fabwysiadu plentyn, i roi sylw priodol iʼr angen am sadrwydd a sefydlogrwydd yn eu perthynas. Dylid darllen y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn ar y cyd âʼr diwygiadau a wneir gan Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2020.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.