Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws) (Cymru) 2020

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 45R o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (p. 22), i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn wyth niwrnod ar hugain gan ddechrau â’r diwrnod y gwnaed yr offeryn, yn ddarostyngedig i’w estyn dros gyfnodau o ddiddymu, neu pan fo toriad am fwy na phedwar diwrnod.

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 308 (Cy. 68)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws) (Cymru) 2020

Gwnaed

am 3:15 p.m. ar 17 Mawrth 2020

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

am 5:30 p.m. ar 17 Mawrth 2020

Yn dod i rym

18 Mawrth 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45B, 45C, 45F a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws) (Cymru) 2020 a deuant i rym ar 18 Mawrth 2020.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “ardal heintiedig” (“infected area”) yw unrhyw ardal (gan gynnwys gwlad) y mae‘r Ysgrifennydd Gwladol wedi datgan, drwy hysbysiad a gyhoeddir ar www.gov.uk, fel ardal lle y gwyddys neu y tybir bod Coronafeirws yn cael ei drosglwyddo’n gyson o fod dynol i fod dynol, neu y mae risg uchel y caiff haint neu halogiad (â Choronafeirws) eu mewnforio drwy deithio o’r ardal honno i’r Deyrnas Unedig;

ystyr “Coronafeirws” (“Coronavirus”) yw Coronafeirws y syndrom anadlu acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) sy’n achosi’r clefyd a elwir yn “COVID-19”;

ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984;

ystyr “gofynion ynglŷn â sgrinio” (“screening requirements”) yw’r gofynion a nodir yn rheoliad 6(1);

ystyr “Iechyd Cyhoeddus Cymru” (“Public Health Wales”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru(2);

ystyr “oedolyn cyfrifol” (“responsible adult”), mewn perthynas â phlentyn, yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn (o fewn ystyr Deddf Plant 1989(3)) neu berson sydd â’r plentyn o dan ei warchodaeth neu ei ofal am y tro;

ystyr “plentyn” (“child”) yw person o dan 18 oed;

ystyr “swyddog iechyd cyhoeddus” (“public health officer”) yw ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig neu berson sy’n gweithio o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru o dan oruchwyliaeth ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig;

ystyr “swyddog meddygol” (“medical officer”) yw ymarferydd meddygol cofrestredig a ddynodwyd at ddibenion y Rheoliadau hyn gan Weinidogion Cymru;

ystyr “ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig” (“registered public health consultant”) yw ymgynghorydd iechyd cyhoeddus a gofrestrwyd yn broffesiynol ac sy’n gweithio yn Iechyd Cyhoeddus Cymru;

ystyr “ynysu” (“isolation”) mewn perthynas â pherson yw gwahanu’r person hwnnw oddi wrth unrhyw berson arall mewn modd sy’n atal heintio neu halogi (â Choronafeirws)—

(a)

mewn cyfleuster a ddynodir, drwy hysbysiad a gyhoeddir ar www.llyw.cymru, at ddibenion y Rheoliadau hyn gan Weinidogion Cymru;

(b)

yng nghartref y person hwnnw;

(c)

mewn ysbyty;

(d)

mewn man addas arall.

(2Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at haint neu halogiad(4), sut bynnag y’i mynegir, yn gyfeiriad at haint neu halogiad â Choronafeirws, ac mae ymadroddion perthynol i’w dehongli yn unol â hynny.

(3Mae i ymadroddion Saesneg eraill a’r ymadroddion Cymraeg cyfatebol a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Neddf 1984 yr un ystyr ag sydd iddynt yn y Ddeddf honno.

(4Rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato yn y diffiniad o “ynysu” ym mharagraff (1) gael ei ddilyn, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, drwy gyhoeddi’r hysbysiad yn y London Gazette ac mewn o leiaf un papur newydd sy’n cylchredeg yng Nghymru.

Datganiad bygythiad difrifol ac uniongyrchol

3.—(1Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn datgan, drwy hysbysiad a gyhoeddir ar www.llyw.cymru, fod mynychder neu drosglwyddiad Coronafeirws yn fygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd, a bod mynychder neu drosglwyddiad Coronafeirws wedi cyrraedd pwynt lle y byddai’n rhesymol ystyried bod y mesurau a amlinellir yn y Rheoliadau hyn yn ffordd effeithiol o oedi neu atal trosglwyddiad arwyddocaol pellach Coronafeirws (“datganiad bygythiad difrifol ac uniongyrchol”).

(2Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu datganiad bygythiad difrifol ac uniongyrchol drwy hysbysiad dilynol a gyhoeddir ar www.llyw.cymru.

(3Cyn gwneud datganiad o dan baragraff (1), neu ddirymu datganiad o dan baragraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw priodol i unrhyw gyngor gan Brif Swyddog Meddygol neu un o Ddirprwy Brif Swyddogion Meddygol Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

(4Nid yw cyhoeddi hysbysiad o dan baragraff (2) yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw gamau a gymerir yn unol â’r Rheoliadau hyn cyn cyhoeddi’r hysbysiad.

(5Rhaid i hysbysiad a gyhoeddir o dan baragraff (1) neu (2) gael ei ddilyn drwy gyhoeddi’r hysbysiad, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, yn y London Gazette ac mewn o leiaf un papur newydd sy’n cylchredeg yng Nghymru.

Cadw personau gan Weinidogion Cymru neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig

4.—(1Pan fo Amod A neu B wedi ei fodloni mewn perthynas â pherson (“P”), caiff Gweinidogion Cymru neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig, at ddibenion sgrinio, asesu a gosod unrhyw gyfyngiadau neu ofynion o dan reoliad 5, osod gofyniad ar P i’w gadw tan ba un bynnag o’r canlynol sydd ddiweddaraf—

(a)diwedd y cyfnod o 48 awr sy’n dechrau â’r amser y mae cadwad P o dan y rheoliad hwn yn dechrau;

(b)unrhyw amser y cydymffurfiwyd ag unrhyw ofynion ynglŷn â sgrinio a osodwyd ar P neu mewn perthynas â P o dan reoliad 5(1) ac y cyflawnwyd yr asesiad y cyfeirir ato yn y rheoliad hwnnw mewn perthynas â P.

(2Amod A yw—

(a)bod gan Weinidogion Cymru neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig sail resymol dros gredu bod P wedi ei heintio neu wedi ei halogi â Choronafeirws, neu y gallai fod wedi ei heintio neu wedi ei halogi ag ef, a

(b)bod Gweinidogion Cymru neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig yn ystyried bod risg y gallai P heintio neu halogi eraill.

(3Amod B yw bod P—

(a)wedi cyrraedd Cymru ar awyren, llong neu drên o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig, boed yn uniongyrchol ynteu drwy Ogledd Iwerddon, yr Alban neu Loegr, a

(b)wedi ymadael ag ardal heintiedig, neu fod gan Weinidogion Cymru neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig sail resymol dros gredu bod P wedi ymadael ag ardal heintiedig, o fewn y cyfnod o 14 diwrnod yn union cyn y dyddiad y cyrhaeddodd P Gymru.

(4Pan osodir cyfyngiad neu ofyniad arbennig o dan y rheoliad hwn, rhaid i’r person sy’n gosod y cyfyngiad neu’r gofyniad ddatgan bod hwnnw yn ddibynnol y ffaith bod mynychder neu drosglwyddiad Coronafeirws yn fygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd fel y cyfeirir ato yn rheoliad 3.

Gosod cyfyngiadau a gofynion

5.—(1Pan fo Amod A neu B (a nodir yn rheoliad 4) wedi ei fodloni mewn perthynas â pherson (“P”), caiff Gweinidogion Cymru neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig—

(a)(ar lafar neu mewn ysgrifen) osod ar P neu mewn perthynas â P un neu ragor o ofynion ynglŷn â sgrinio i lywio asesiad, gan Weinidogion Cymru neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig, ynghylch a yw P yn cyflwyno risg o heintio neu halogi eraill neu a allai beri risg o heintio neu halogi eraill,

(b)cyflawni asesiad o’r fath mewn perthynas â P, ac

(c)yn dilyn asesiad o’r fath, (ar lafar neu mewn ysgrifen) osod ar P neu mewn perthynas â P unrhyw gyfyngiad neu ofyniad arall y mae Gweinidogion Cymru neu, yn ôl y digwydd, ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig yn ystyried ei fod yn angenrheidiol at ddibenion dileu neu leihau’r risg y cyfeirir ati yn is-baragraff (a), gan gynnwys cyfyngiad neu ofyniad arbennig(5).

(2Dim ond os bydd Gweinidogion Cymru neu, yn ôl y digwydd, ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig yn ystyried, wrth wneud y penderfyniad, fod y cyfyngiad neu’r gofyniad yn gymesur â’r hyn y ceisir ei gyflawni drwy ei osod y caniateir gwneud penderfyniad i osod cyfyngiad neu ofyniad o dan baragraff (1).

(3Caniateir i gyfyngiad neu ofyniad a osodir o dan baragraff (1)—

(a)gan Weinidogion Cymru gael ei amrywio (ar lafar neu mewn ysgrifen) gan Weinidogion Cymru;

(b)gan ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig gael ei amrywio (ar lafar neu mewn ysgrifen) gan Weinidogion Cymru neu gan ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig.

(4Pan osodir cyfyngiad neu ofyniad o dan baragraff (1)(c) ar blentyn neu mewn perthynas â phlentyn, rhaid i berson sy’n oedolyn cyfrifol mewn perthynas â’r plentyn sicrhau bod y plentyn yn cydymffurfio â’r cyfyngiad neu’r gofyniad, i’r graddau y mae’n rhesymol i’r person hwnnw allu gwneud hynny.

(5Pan osodir cyfyngiad neu ofyniad ar lafar ar berson o dan y rheoliad hwn, neu pan gaiff cyfyngiad neu ofyniad a osodir o dan y rheoliad hwn ei amrywio ar lafar, rhaid darparu i’r person (neu, yn achos plentyn, i berson sy’n oedolyn cyfrifol mewn perthynas â’r plentyn) hysbysiad ysgrifenedig o’r cyfyngiad neu’r gofyniad a osodwyd neu a amrywiwyd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(6Pan osodir cyfyngiad neu ofyniad arbennig o dan baragraff (1)(c), rhaid i’r person sy’n gosod y cyfyngiad neu’r gofyniad ddatgan ei fod yn ddibynnol ar y ffaith bod mynychder neu drosglwyddiad Coronafeirws yn fygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd fel y cyfeirir ato yn rheoliad 3.

(7Nid yw paragraff (1) yn effeithio ar arfer unrhyw un neu ragor o bwerau yn rhinwedd rheoliad 8.

Gofynion ynglŷn â sgrinio

6.—(1At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae’r gofynion ynglŷn â sgrinio, mewn perthynas â pherson (“P”) yn ofynion i’r perwyl bod rhaid i P─

(a)ateb cwestiynau am iechyd P neu ei amgylchiadau perthnasol eraill (gan gynnwys hanes teithio a gwybodaeth am unigolion eraill y gallai P fod wedi bod mewn cysylltiad â hwy),

(b)dangos unrhyw ddogfennau a all gynorthwyo ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig neu swyddog iechyd cyhoeddus wrth asesu iechyd P,

(c)ar unrhyw adeg ag y caiff ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig ei bennu, caniatáu i swyddog iechyd cyhoeddus, neu swyddog meddygol, gymryd sampl fiolegol gan P, gan gynnwys sampl o secretiadau resbiradol neu waed P, drwy ddulliau priodol gan gynnwys drwy swabio ceudod trwyn a ffaryncs P, neu ddarparu sampl o’r fath, a

(d)darparu digon o wybodaeth i alluogi swyddog iechyd cyhoeddus i gysylltu â P ar unwaith yn ystod unrhyw gyfnod y caiff ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig ei bennu, pan fo’r ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig yn ystyried bod darparu gwybodaeth o’r fath yn angenrheidiol er mwyn lleihau neu ddileu’r risg y bydd P yn heintio neu’n halogi eraill.

(2Pan fo P—

(a)yn blentyn, a

(b)yng nghwmni oedolyn cyfrifol,

mae paragraff (3) yn gymwys.

(3Rhaid i’r oedolyn cyfrifol─

(a)sicrhau bod P yn ateb cwestiynau yn unol â pharagraff (1)(a),

(b)ateb y cwestiynau os na all P wneud hynny neu os na all wneud hynny mewn modd dibynadwy,

(c)dangos unrhyw ddogfennau, sy’n ofynnol o dan baragraff (1)(b), ar ran P,

(d)caniatáu i swyddog iechyd cyhoeddus, neu swyddog meddygol, gymryd sampl fiolegol gan P, gan gynnwys sampl o secretiadau resbiradol neu waed P, drwy ddulliau priodol gan gynnwys drwy swabio ceudod trwyn a ffaryncs P, neu ddarparu sampl o’r fath, ac

(e)darparu gwybodaeth pan fydd swyddog iechyd cyhoeddus yn ei gwneud yn ofynnol o dan baragraff (1)(d).

Gosod rhagor o gyfyngiadau a gofynion

7.—(1Mewn achos pan fo Amod A neu B (a nodir yn rheoliad 4) wedi ei fodloni mewn perthynas â pherson (“P”)—

(a)yn dilyn asesiad, gan Weinidogion Cymru neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig, o’r risg a gyflwynir gan P yn unol â rheoliad 5(1), neu

(b)yn dilyn rhyddhau P ar ôl cael ei gadw o dan reoliad 5, neu ar ôl cael ei ynysu o dan reoliad 8,

caiff Gweinidogion Cymru neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig (ar lafar neu mewn ysgrifen) osod ar P unrhyw un neu ragor o’r gofynion a bennir ym mharagraff (2) pan fo Gweinidogion Cymru neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny er mwyn lleihau neu ddileu’r risg y bydd P yn heintio neu’n halogi eraill.

(2Y gofynion a bennir yn y paragraff hwn yw bod P—

(a)yn darparu manylion cysylltu P i swyddog iechyd cyhoeddus;

(b)yn rhoi gwybodaeth i swyddog iechyd cyhoeddus a allai gynorthwyo i asesu iechyd P;

(c)ar unrhyw adeg y caiff swyddog iechyd cyhoeddus ei bennu, yn caniatáu i’r swyddog neu i swyddog meddygol gymryd sampl fiolegol gan P, gan gynnwys sampl o secretiadau resbiradol neu waed P, drwy ddulliau priodol gan gynnwys drwy swabio ceudod trwyn a ffaryncs P, neu’n darparu sampl o’r fath;

(d)yn cydymffurfio ag unrhyw amod arall a bennir neu’n cymryd unrhyw fesur arall a bennir.

(3Mae’r amodau neu’r mesurau y caniateir eu pennu o dan baragraff (2)(d) yn cynnwys—

(a)cyfyngiad ar deithio gan P;

(b)cyfyngiad ar weithgareddau P;

(c)cyfyngiad ar gyswllt P â phersonau a bennir.

(4Ni chaiff y cyfnod y gosodir cyfyngiad ar ei gyfer o dan baragraff (3) fod yn hwy na 14 diwrnod gan ddechrau â’r diwrnod y gosodir y cyfyngiad.

(5Caiff Gweinidogion Cymru neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig (ar lafar neu mewn ysgrifen)—

(a)amrywio unrhyw ofyniad a osodir o dan y rheoliad hwn, a

(b)gosod ar P unrhyw ofynion ychwanegol a bennir ym mharagraff (2).

(6Cyn gosod neu amrywio gofyniad o dan y rheoliad hwn, rhaid i Weinidogion Cymru neu, yn ôl y digwydd, ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig—

(a)rhoi gwybod i P (neu pan fo P yn blentyn, rhoi gwybod i berson sy’n oedolyn cyfrifol mewn perthynas â P) am y gofyniad neu’r amrywiad y mae Gweinidogion Cymru neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig yn meddwl ei osod neu ei wneud, a

(b)rhoi sylw i unrhyw sylwadau perthnasol gan P (neu, pan fo P yn blentyn, gan berson sy’n oedolyn cyfrifol mewn perthynas â P), o ran ei addasrwydd.

(7Pan fo gofyniad o dan y rheoliad hwn yn cael ei osod ar blentyn neu mewn perthynas â phlentyn, neu’n cael ei amrywio mewn perthynas â phlentyn, rhaid i berson sy’n oedolyn cyfrifol mewn perthynas â’r plentyn sicrhau bod y plentyn yn cydymffurfio â’r gofyniad, i’r graddau y mae’n rhesymol i’r person hwnnw allu gwneud hynny.

(8Pan fo Gweinidogion Cymru neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig yn gosod gofyniad ar P ar lafar o dan y rheoliad hwn, neu’n amrywio gofyniad o’r fath ar lafar, rhaid i Weinidogion Cymru neu, yn ôl y digwydd, ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig ddarparu i P (neu pan fo P yn blentyn, i berson sy’n oedolyn cyfrifol mewn perthynas â P) hysbysiad ysgrifenedig o’r gofyniad sydd wedi ei osod neu wedi ei amrywio.

(9Nid yw paragraff (1) yn effeithio ar arfer unrhyw un neu ragor o bwerau yn rhinwedd rheoliad 5(1)(c).

Ynysu personau yr amheuir eu bod wedi eu heintio â Choronafeirws

8.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo Amod A neu B (a nodir yn rheoliad 4) wedi ei fodloni mewn perthynas â pherson (“P”).

(2Caiff Gweinidogion Cymru neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig ei gwneud yn ofynnol i P gael ei ynysu os bydd Gweinidogion Cymru neu, yn ôl y digwydd, ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig—

(a)â sail resymol dros gredu bod P wedi ei heintio neu wedi ei halogi â Choronafeirws, neu y gallai fod wedi ei heintio neu wedi ei halogi ag ef, a

(b)yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny er mwyn lleihau neu ddileu’r risg y bydd P yn heintio neu’n halogi eraill.

(3Pan fo gan ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig sail resymol dros gredu bod P wedi ei heintio neu wedi ei halogi â Choronafeirws, neu y gallai fod wedi ei heintio neu wedi ei halogi ag ef, caiff yr ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig gadw P hyd nes y ceir penderfyniad Gweinidogion Cymru neu, yn ôl y digwydd, penderfyniad ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig o dan baragraff (2).

(4Pan fo paragraff (2) yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru neu, yn ôl y digwydd, ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig osod un neu ragor o ofynion ynglŷn â sgrinio ar P neu mewn perthynas â P.

(5Pan osodir cyfyngiad neu ofyniad arbennig o dan y rheoliad hwn, rhaid i’r person sy’n gosod y cyfyngiad neu’r gofyniad ddatgan bod hwnnw’n ddibynnol ar y ffaith bod mynychder neu drosglwyddiad Coronafeirws yn fygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd fel y cyfeirir ato yn rheoliad 3.

(6Nid yw paragraff (1) yn effeithio ar arfer unrhyw un neu ragor o bwerau yn rhinwedd rheoliad 5(1)(c).

Cadw neu ynysu: darpariaethau ychwanegol

9.—(1Pan fo P wedi ei gadw neu wedi ei ynysu o dan reoliad 5 neu 8 neu wedi ei ddarostwng i gyfyngiadau neu ofynion o dan reoliad 7, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw priodol i lesiant P.

(2Pan fo P wedi ei gadw neu wedi ei ynysu o dan reoliad 5 neu 8 neu wedi ei ddarostwng i gyfyngiadau neu ofynion o dan reoliad 7 am gyfnod sy’n hwy na 14 diwrnod, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu parhad cadwad P cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol drwy gyfeirio at ddarpariaethau’r rheoliadau hynny.

(3Ar ôl pob cyfnod dilynol o 24 awr pan fo P wedi ei gadw neu wedi ei ynysu o dan reoliad 5 neu 8 neu wedi ei ddarostwng i gyfyngiadau neu ofynion o dan reoliad 7, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu parhad ac amodau cadwad P drwy gyfeirio at ddarpariaethau’r rheoliadau hynny.

(4Pan fo P wedi ei gadw neu wedi ei ynysu o dan reoliad 5 neu 8 neu wedi ei ddarostwng i gyfyngiadau neu ofynion o dan reoliad 7, caiff Gweinidogion Cymru neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig ei gwneud yn ofynnol i P gydymffurfio â gofynion ynglŷn â sgrinio os yw Gweinidogion Cymru neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny er mwyn lleihau neu ddileu’r risg y gallai P heintio neu halogi eraill.

(5Pan fo P wedi ei gadw o dan reoliad 4, caiff Gweinidogion Cymru neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig ei gwneud yn ofynnol i P symud i le addas.

(6Rhaid i Weinidogion Cymru neu, yn ôl y digwydd, ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig hysbysu P (neu, pan fo P yn blentyn, hysbysu person sy’n oedolyn cyfrifol mewn perthynas â P), cyn gynted ag y bydd cadwad P o dan reoliad 4 neu 5 yn dechrau, neu cyn gynted ag y penderfynir ynysu P o dan reoliad 8, o’r canlynol─

(a)y ffaith bod P wedi ei gadw neu wedi ei ynysu,

(b)y pwerau y mae P wedi ei gadw neu wedi ei ynysu odanynt,

(c)y rheswm dros gadw neu ynysu P,

(d)y camau nesaf a all gael eu cymryd a chan bwy,

(e)y rhwymedigaeth i barhau i adolygu’r angen i gadw neu ynysu P,

(f)y gosb ar gyfer—

(i)dianc, neu geisio dianc, rhag cael ei gadw neu ei ynysu o dan reoliad 15(1)(b);

(ii)darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol yn fwriadol neu’n ddi-hid o dan reoliad 15(2);

(iii)rhwystro person rhag cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn o dan reoliad 15(3), ac

(g)yr hawl i apelio i’r llys ynadon o dan reoliad 12, pan fo’n gymwys.

Cyfyngiadau neu ofynion: grwpiau

10.—(1Mae’r pwerau yn rheoliadau 4, 5 ac 8 yn cynnwys pwerau i osod cyfyngiad neu ofyniad mewn perthynas â grŵp o bersonau, gan gynnwys cyfyngiad neu ofyniad arbennig.

(2At y dibenion hynny mae’r rheoliadau hynny yn cael effaith fel a ganlyn.

(3Yn rheoliad 4—

(a)ym mharagraff (2), mae cyfeiriadau at P yn gyfeiriadau at bob person yn y grŵp;

(b)ym mharagraff (3), mae cyfeiriadau at P yn gyfeiriadau at bob person yn y grŵp sydd wedi cyrraedd ar yr un awyren, llong neu drên ac wedi ymadael â’r un ardal;

(c)ym mharagraff (1) (i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau hynny), mae’r cyfeiriad at “person” i’w ddarllen yn unol â hynny, ac mae’r pŵer i osod gofyniad i’w gadw i’w ddarllen fel pŵer i osod y gofyniad hwnnw ar unrhyw un neu ragor o’r personau yn y grŵp o dan sylw.

(4Yn rheoliad 5—

(a)ym mharagraff (1), mae’r cyfeiriad at “person” i’w ddarllen yn unol â pharagraff (3) o’r rheoliad hwn;

(b)yng ngweddill y paragraff hwnnw, mae cyfeiriadau at P yn gyfeiriadau at un neu ragor o’r personau yn y grŵp o dan sylw.

(5Yn rheoliad 8—

(a)ym mharagraff (1), mae’r cyfeiriad at “person” i’w ddarllen yn unol â pharagraff (3) o’r rheoliad hwn;

(b)yng ngweddill y rheoliad hwnnw, mae cyfeiriadau at P yn gyfeiriadau at un neu ragor o’r personau yn y grŵp o dan sylw.

Apelio

11.—(1Caiff person y gosodir cyfyngiad neu ofyniad mewn perthynas ag ef o dan y Rheoliadau hyn apelio i’r llys ynadon yn erbyn y penderfyniad i osod y gofyniad neu’r cyfyngiad hwnnw.

(2Caiff person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn y gosodir cyfyngiad neu ofyniad mewn perthynas ag ef o dan y Rheoliadau hyn apelio i’r llys ynadon yn erbyn y penderfyniad i osod y cyfyngiad neu’r gofyniad hwnnw.

Gorfodi

12.—(1Pan osodir gofyniad i berson gael ei gadw neu ei ynysu o dan reoliad 4, 5 neu 8, caiff cwnstabl wneud unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)mynd â’r person i le addas, a bennir gan Weinidogion Cymru neu swyddog iechyd cyhoeddus, i gadw’r person neu i’w ynysu;

(b)cadw’r person o dan gadwad neu wedi ei ynysu.

(2Pan fo person yn dianc o gyfnod cadw neu ynysu a osodwyd o dan reoliad 4, 5 neu 8, caiff cwnstabl fynd â’r person i’r ddalfa a dychwelyd y person i’r man cadw neu ynysu, neu fynd â’r person i le addas arall a bennir gan swyddog iechyd cyhoeddus.

(3Caiff cwnstabl ddefnyddio grym rhesymol, os bydd ei angen, wrth arfer pŵer o dan y rheoliad hwn.

Cadwad cychwynnol personau i alluogi sgrinio ac asesu

13.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os oes gan gwnstabl sail resymol dros amau—

(a)bod person (“P”) wedi ei heintio neu wedi ei halogi â Choronafeirws, neu y gallai fod wedi ei heintio neu wedi ei halogi ag ef,

(b)bod risg y gallai P heintio neu halogi eraill, ac

(c)ei bod yn angenrheidiol cyfarwyddo, symud neu gadw P er budd P, er mwyn diogelu personau eraill neu er mwyn cynnal diogelwch y cyhoedd.

(2Caiff cwnstabl—

(a)cyfarwyddo P i fynd ar unwaith i ysbyty neu le addas arall a bennir yn y cyfarwyddyd at ddibenion sgrinio, asesu a gosod unrhyw gyfyngiadau neu ofynion o dan reoliad 5,

(b)symud P i ysbyty neu le addas arall at ddibenion gosod unrhyw gyfyngiadau neu ofynion o dan reoliad 5, neu

(c)os yw P eisoes mewn ysbyty neu le addas arall, cadw P yn y lle hwnnw neu symud P i ysbyty arall neu le addas arall at ddibenion gosod unrhyw gyfyngiadau neu ofynion o dan reoliad 5.

(3Caniateir i’r pŵer ym mharagraff (2) gael ei arfer pan fo P mewn unrhyw le.

(4At ddiben arfer y pŵer ym mharagraff (2), caiff cwnstabl fynd i mewn i unrhyw le.

(5Cyn arfer y pŵer ym mharagraff (2) rhaid i’r cwnstabl—

(a)cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, ymgynghori ag ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig a rhoi sylw dyledus i farn ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig ac unrhyw wybodaeth a ddarperir gan ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig mewn perthynas â P,

(b)rhoi sylw priodol i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru, ac

(c)pan nad ymgynghorwyd o dan is-baragraff (a)—

(i)ymgynghori ag ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r pŵer ym mharagraff (2) gael ei arfer, a

(ii)rhoi sylw priodol i farn ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig ac unrhyw wybodaeth a ddarperir gan ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig mewn perthynas â P.

(6Caniateir i berson sy’n cael ei symud i ysbyty neu fan addas arall neu ei gadw mewn ysbyty neu fan addas arall o dan y rheoliad hwn gael ei gadw yno am gyfnod nad yw’n hwy na’r cyfnod cadw a ganiateir.

(7Caiff cwnstabl neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig neu berson a awdurdodir gan y naill neu’r llall ohonynt at ddibenion y paragraff hwn, fynd â pherson a gedwir mewn ysbyty neu le addas arall i un neu ragor o ysbytai neu leoedd addas eraill, cyn diwedd y cyfnod cadw a ganiateir.

(8Caniateir i berson a gymerir i ysbyty neu le addas arall o dan baragraff (7) gael ei gadw yno am gyfnod sy’n dod i ben heb fod yn hwyrach na’r cyfnod cadw a ganiateir.

(9Caiff cwnstabl ddefnyddio grym rhesymol, os bydd ei angen, wrth arfer pŵer o dan y rheoliad hwn.

(10Yn y rheoliad hwn—

ystyr “y cyfnod cadw a ganiateir” (“the permitted period of detention”) yw’r cyfnod cadw cychwynnol a’r cyfnod estynedig a awdurdodir;

ystyr “y cyfnod cychwynnol” (“the initial period”) yw’r cyfnod o 24 awr sy’n dechrau—

(a)

mewn achos pan symudir y person i ysbyty neu le addas arall, â’r amser y mae’r person yn cyrraedd y lle hwnnw, neu

(b)

mewn achos pan gedwir y person mewn ysbyty neu le addas arall, â’r amser y mae’r cwnstabl yn penderfynu cadw’r person yn y lle hwnnw;

ystyr “y cyfnod estynedig a awdurdodir” (“the authorised extended period”) yw unrhyw gyfnod pellach a bennir mewn awdurdodiad o dan baragraff (11).

(11Caiff cwnstabl neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig, ar unrhyw adeg cyn i’r cyfnod cychwynnol ddod i ben, awdurdodi cadw person am gyfnod pellach heb fod yn hwy na 24 awr (gan ddechrau ar unwaith ar ddiwedd y cyfnod cychwynnol).

(12Dim ond os yw’r person sy’n rhoi’r awdurdodiad yn ystyried bod yr estyniad yn angenrheidiol am nad yw’n rhesymol ymarferol i gwblhau gosod unrhyw gyfyngiadau neu ofynion o dan reoliad 5 cyn diwedd y cyfnod cychwynnol y caniateir rhoi awdurdodiad o dan baragraff (11).

Troseddau

14.—(1Mae person (“P”) yn cyflawni trosedd os bydd P—

(a)yn methu, heb esgus rhesymol, â chydymffurfio â chyfyngiad neu ofyniad a osodir o dan reoliad 4(1), 5(1), 7(1) neu 9(4) neu (5);

(b)yn dianc, neu’n ceisio dianc, rhag cael ei gadw neu ei ynysu o dan reoliad 4, 5 neu 8.

(2Mae person sy’n darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol yn fwriadol neu’n ddi-hid i unrhyw berson sy’n cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd.

(3Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn rhwystro unrhyw berson sy’n cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd.

(4Mae oedolyn cyfrifol sy’n methu, heb esgus rhesymol, â chydymffurfio â rheoliad 5(4), 6(3) neu 7(7) yn cyflawni trosedd.

(5Mae trosedd a bennir ym mharagraffau (1), (2), (3) neu (4) i’w chosbi ar gollfarn ddiannod â dirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Dod i ben

15.—(1Mae’r Rheoliadau hyn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau ar y diwrnod y deuant i rym.

(2Nid yw’r rheoliad hwn yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn cyn iddynt beidio â chael effaith.

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

Am 3:15 p.m. ar 17 Mawrth 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn cydategu’r gyfundrefn diogelu iechyd a geir yn Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (“Deddf 1984”) os ceir bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd o’r feirws a elwir Coronafeirws neu “Coronafeirws y syndrom anadlu acíwt difrifol 2”, sy’n achosi’r clefyd a elwir yn “COVID-19”.

Mae rheoliad 2 yn diffinio’r termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau.

Mae rheoliad 3 yn darparu bod y Rheoliadau yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud datganiad ar www.llyw.cymru bod mynychder neu drosglwyddiad Coronafeirws yn fygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a bod mynychder neu drosglwyddiad Coronafeirws wedi cyrraedd pwynt lle y byddai’n rhesymol ystyried bod y mesurau a amlinellir yn y Rheoliadau hyn yn ffordd effeithiol o oedi neu atal Coronafeirws rhag cael ei drosglwyddo ymhellach.

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn bosibl i berson gael ei gadw at ddibenion sgrinio pan fydd amodau penodol wedi eu bodloni.

Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn bosibl i ofynion ynglŷn â sgrinio a gofynion eraill gael eu gosod ar berson pan fydd amodau penodol wedi eu bodlon.

Mae rheoliad 6 yn nodi’r gofynion ynglŷn â sgrinio.

Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn bosibl i ragor o gyfyngiadau a gofynion gael eu gosod ar bersonau penodol at ddiben lleihau neu ddileu’r risg y bydd personau yn heintio neu’n halogi eraill.

Mae rheoliad 8 yn darparu ar gyfer ynysu personau.

Mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth ychwanegol mewn perthynas ag achosion pan fo personau yn cael eu cadw neu eu hynysu.

Mae rheoliad 10 yn ei gwneud yn bosibl i gyfyngiadau a gofynion gael eu gosod mewn perthynas â grwpiau o bersonau.

Mae rheoliadau 11 a 12 yn darparu ar gyfer apelio a gorfodi.

Mae rheoliad 13 yn darparu pwerau i gwnstabliaid gadw personau.

Mae rheoliad 14 yn darparu ar gyfer troseddau.

Mae rheoliad 15 yn darparu i’r Rheoliadau ddod i ben ar ddiwedd cyfnod o ddwy flynedd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1984 p. 22 (“Deddf 1984”). Mewnosodwyd adrannau 45B, 45C, 45F a 45P gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14) (“Deddf 2008”). Mae’r swyddogaethau o dan yr adrannau hynny wedi eu roi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”). O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984, y Gweinidog priodol o ran Cymru yw Gweinidogion Cymru.

(2)

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru gan O.S. 2009/2058 (Cy. 177).

(4)

Gweler adran 45A o Ddeddf 1984 i gael y dehongliad o “infection” a “contamination”. Mewnosodwyd adran 45A gan adran 129 o Ddeddf 2008.

(5)

Gweler adrannau 45C a 45T o Ddeddf 1984 i gael ystyr “special restriction or requirement”. Dyma gyfyngiad neu ofyniad a all gael ei osod gan ynad heddwch yn rhinwedd adran 45G(2), 45H(2) neu 45I(2) o Ddeddf 1984. Mae adran 45G(2) yn cynnwys cyfeiriadau at gadw ac ynysu.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources