2020 Rhif 1609 (Cy. 335)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

Cymeradywyd gan Senedd Cymru

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(3) a (4)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19841.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

RHAN 1Cyflwyniad, adolygu a dod i ben

Enwi, cymhwyso a dod i rymI841

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

3

Daw’r Rheoliadau hyn, ac eithrio Rhan 6, i rym ar F3920 Rhagfyr 2020.

4

Daw Rhan 6 i rym ar 23 Rhagfyr 2020.

AdolyguI252

Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn, a pha un a yw’r cyfyngiadau a’r gofynion hynny yn gymesur â’r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ceisio ei gyflawni drwyddynt—

a

erbyn 7 Ionawr 2021;

b

o leiaf unwaith yn y cyfnod rhwng 8 Ionawr 2021 a 28 Ionawr 2021;

c

o leiaf unwaith ym mhob cyfnod dilynol o 21 o ddiwrnodau.

Annotations:
Commencement Information
I25

Rhl. 2 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Dod i benI723

Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar ddiwedd y dydd ar F12528 Mai 2021.

RHAN 2Lefelau o gyfyngiadau ar ymgynnull, ar deithio ac ar ddefnyddio mangreoedd busnesau a gwasanaethau

Lefelau o gyfyngiadauI474

1

Mae Atodlenni 1 i 4 yn nodi cyfyngiadau a gofynion a all fod yn gymwys mewn ardal mewn perthynas ag—

a

cynulliadau;

b

trefnu digwyddiadau;

F89c

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

d

defnyddio mangreoedd busnesau neu wasanaethau penodedig sydd fel arfer yn agored i’r cyhoedd.

2

Mae’r cyfyngiadau a’r gofynion a nodir yn Atodlen 1 yn gymwys mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 1.

3

Mae’r cyfyngiadau a’r gofynion a nodir yn Atodlen 2 yn gymwys mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 2.

4

Mae’r cyfyngiadau a’r gofynion a nodir yn Atodlen 3 yn gymwys mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 3.

5

Mae’r cyfyngiadau a’r gofynion a nodir yn Atodlen 4 yn gymwys mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 4.

6

Mae Atodlen 5 yn nodi pa un o Atodlenni 1 i 4 sy’n gymwys i ardal drwy bennu lefel ar gyfer yr ardal honno.

F276A

Ond, mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 3, am y cyfnod sy’n dod i ben ar ddiwedd y diwrnod ar F432 Mai 2021, mae Atodlen 3 i’w thrin fel pe bai Atodlen 3A wedi ei rhoi yn ei lle.

6B

Ac mae Atodlen 5 yn nodi addasiadau dros dro canlyniadol sy’n gymwys mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 3 am y cyfnod a bennir ym mharagraff (6A).

F1287

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

8

Yn y Rheoliadau hyn—

a

“ardal Lefel Rhybudd 1” yw ardal a bennir yn y tabl yn Atodlen 5, pan fo’r tabl yn nodi ei bod yn ardal Lefel Rhybudd 1;

b

“ardal Lefel Rhybudd 2” yw ardal a bennir yn y tabl yn Atodlen 5, pan fo’r tabl yn nodi ei bod yn ardal Lefel Rhybudd 2;

c

“ardal Lefel Rhybudd 3” yw ardal a bennir yn y tabl yn Atodlen 5, pan fo’r tabl yn nodi ei bod yn ardal Lefel Rhybudd 3;

d

“ardal Lefel Rhybudd 4” yw ardal a bennir yn y tabl yn Atodlen 5, pan fo’r tabl yn nodi ei bod yn ardal Lefel Rhybudd 4.

RHAN 3Gofyniad i ynysu etc.

PENNOD 1Gofyniad i ynysu etc. pan fo person yn cael canlyniad positif am y coronafeirws neu wedi dod i gysylltiad agos â pherson o’r fath

Dehongli’r RhanI1435

1

Yn y Rhan hon, ystyr “cysylltiad agos” yw cysylltiad y mae swyddog olrhain cysylltiadau yn ystyried y gall arwain at risg o haint neu halogiad â’r coronafeirws, gan gynnwys—

a

dod i gysylltiad wyneb yn wyneb â pherson o bellter o lai nag 1 metr;

b

treulio mwy na 15 munud o fewn 2 fetr i berson;

c

teithio mewn car neu gerbyd bach arall gyda pherson neu’n agos i berson ar awyren neu yn yr un cerbyd mewn trên.

2

Yn rheoliadau 6 ac 8, mae cyfeiriadau at “oedolyn” (“O”) yn cynnwys cyfeiriadau at blentyn sy’n 16 neu’n 17 oed.

3

At ddibenion y Rhan hon, mae gan berson gyfrifoldeb dros blentyn os oes gan y person—

a

gwarchodaeth neu ofal am y plentyn am y tro, neu

b

cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

4

At ddibenion y Rheoliadau hyn, nid yw hysbysiad drwy ap ffôn clyfar Covid 19 y GIG a ddatblygir ac a weithredir gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn hysbysiad.

Annotations:
Commencement Information
I143

Rhl. 5 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Gofyniad i ynysu: oedolyn â’r coronafeirwsI1866

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau yn hysbysu oedolyn (“O”) fod O wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.

2

Ni chaiff O ymadael â’r man lle y mae O yn byw, neu fod y tu allan i’r man hwnnw, cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad O oni bai bod rheoliad 10 neu 11 yn gymwys.

3

Os yw swyddog olrhain cysylltiadau yn gofyn am hynny, rhaid i O hysbysu’r swyddog—

a

am enw pob person sy’n byw yn y man lle y mae O yn byw, a

b

am gyfeiriad y man hwnnw.

4

Diwrnod olaf ynysiad O yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwrnod y prawf a arweiniodd at roi’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

5

Ond pan fo O yn rhoi gwybod i swyddog olrhain cysylltiadau y diwrnod y datblygodd symptomau gyntaf, diwrnod olaf ynysiad O yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae O yn rhoi gwybod mai dyna’r diwrnod y datblygodd y symptomau gyntaf.

Annotations:
Commencement Information
I186

Rhl. 6 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Gofyniad i ynysu: plentyn â’r coronafeirwsI307

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau yn hysbysu oedolyn (“O”) fod plentyn (“P”) y mae O yn gyfrifol amdano wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.

2

Ni chaiff P ymadael â’r man lle y mae P yn byw, neu fod y tu allan i’r man hwnnw, cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad P oni bai bod rheoliad 10 neu 11 yn gymwys.

3

Os yw swyddog olrhain cysylltiadau yn gofyn am hynny, rhaid i O hysbysu’r swyddog—

a

am enw pob person sy’n byw yn y man lle y mae P yn byw, a

b

am gyfeiriad y man hwnnw.

4

Diwrnod olaf ynysiad P yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwrnod y prawf a arweiniodd at roi’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

5

Ond mewn achos pan fo O yn rhoi gwybod i swyddog olrhain cysylltiadau y diwrnod y datblygodd P symptomau gyntaf, diwrnod olaf ynysiad P yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae O yn rhoi gwybod mai dyna’r diwrnod y datblygodd P symptomau gyntaf.

Annotations:
Commencement Information
I30

Rhl. 7 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Gofyniad i ynysu ar ôl cysylltiad agos: oedolynI1618

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau yn hysbysu oedolyn (“O”) fod O wedi dod i gysylltiad agos â pherson (“C”) sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.

2

Ni chaiff O ymadael â’r man lle y mae O yn byw, neu fod y tu allan i’r man hwnnw, cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad O oni bai bod rheoliad 10 neu 11 yn gymwys.

3

Os gofynnir iddo gan swyddog olrhain cysylltiadau, rhaid i O hysbysu’r swyddog am gyfeiriad y man lle y mae O yn byw.

4

Diwrnod olaf ynysiad O yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae swyddog olrhain cysylltiadau yn ei gofnodi fel y diwrnod olaf y daeth O i gysylltiad agos ag C cyn i O gael yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

5

Ond pan fo O yn byw yn yr un man ag C, diwrnod olaf ynysiad O yw—

a

pan fo C, neu, pan fo C yn blentyn, oedolyn cyfrifol (“OC”) ar ran C, yn rhoi gwybod i swyddog olrhain cysylltiadau y diwrnod y datblygodd C symptomau gyntaf, diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae C, neu OC, yn rhoi gwybod mai dyna’r diwrnod y datblygodd C symptomau gyntaf;

b

pan na roddir gwybod am unrhyw symptomau, diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwrnod y prawf a arweiniodd at roi’r hysbysiad i C, neu OC, fod C wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.

Annotations:
Commencement Information
I161

Rhl. 8 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Gofyniad i ynysu ar ôl cysylltiad agos: plentynI679

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau yn hysbysu oedolyn (“O”) fod plentyn (“P”) y mae O yn gyfrifol amdano wedi dod i gysylltiad agos â pherson (“C”) sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.

2

Ni chaiff P ymadael â’r man lle y mae P yn byw, neu fod y tu allan i’r man hwnnw, cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad P oni bai bod rheoliad 10 neu 11 yn gymwys.

3

Os gofynnir iddo gan swyddog olrhain cysylltiadau, rhaid i O hysbysu’r swyddog am gyfeiriad y man lle y mae P yn byw.

4

Diwrnod olaf ynysiad P yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae swyddog olrhain cysylltiadau yn ei gofnodi fel y diwrnod olaf y daeth P i gysylltiad agos ag C cyn i O gael yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

5

Ond pan fo P yn byw yn yr un man ag C, diwrnod olaf ynysiad P yw—

a

pan fo C, neu, pan fo C yn blentyn, oedolyn cyfrifol (“OC”) ar ran C, yn rhoi gwybod i swyddog olrhain cysylltiadau y diwrnod y datblygodd C symptomau gyntaf, diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae C, neu OC, yn rhoi gwybod mai dyna’r diwrnod y datblygodd C symptomau gyntaf, neu

b

pan na roddir gwybod am unrhyw symptomau, diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwrnod y prawf a arweiniodd at roi’r hysbysiad i C, neu OC, fod C wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.

Annotations:
Commencement Information
I67

Rhl. 9 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Gofynion ynysu: eithriadau cyffredinolI16010

1

Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo’n ofynnol i berson beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw, neu fod y tu allan iddo, yn rhinwedd rheoliad 6(2), 7(2), 8(2) neu 9(2).

2

Caiff y person ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw a bod y tu allan iddo am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol i—

a

ceisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen hyn ar frys neu ar gais ymarferydd meddygol cofrestredig;

b

cael gafael ar wasanaethau milfeddygol—

i

pan fo eu hangen ar frys, a

ii

pan na fo’n bosibl i berson arall yn y man lle y mae’r person yn byw gael gafael ar y gwasanaethau hynny;

c

cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol, pan na fo’n bosibl nac yn ymarferol gwneud hynny heb ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw;

d

osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

e

am resymau tosturiol, gan gynnwys mynd i angladd—

i

aelod o’r teulu;

ii

ffrind agos;

f

cael angenrheidiau sylfaenol (gan gynnwys ar gyfer personau eraill yn y man lle y mae’r person yn byw neu unrhyw anifeiliaid anwes yn y man hwnnw) pan na fo’n bosibl nac yn ymarferol—

i

i berson arall yn y man lle y mae’r person yn byw eu cael, neu

ii

eu cael drwy eu danfon i’r man hwnnw gan drydydd parti;

g

cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus (gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol neu wasanaethau i ddioddefwyr)—

i

pan fo cael gafael ar y gwasanaeth yn hanfodol i lesiant y person, a

ii

pan na fo’r gwasanaeth yn gallu cael ei ddarparu os yw’r person yn aros yn y man lle y mae’r person yn byw;

h

symud i fan gwahanol i fyw pan fo’n mynd yn anymarferol aros yn y man lle y mae’r person yn byw;

i

pan fo’r person yn blentyn nad yw’n byw ar yr un aelwyd â rhieni’r plentyn, neu un o rieni’r plentyn, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld y plentyn a rhieni’r plentyn, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion yr is-baragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, neu sy’n gofalu amdano.

3

Nid yw rheoliadau 6(2), 7(2), 8(2) a 9(2) yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

4

Nid yw rheoliad 6(2) yn gymwys i berson—

a

sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws yn ystod astudiaeth ymchwil (y “prawf blaenorol”), a

b

sy’n cael canlyniad positif am y coronafeirws yn ystod yr un astudiaeth o fewn y cyfnod o 90 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad y prawf blaenorol.

Annotations:
Commencement Information
I160

Rhl. 10 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Gofynion ynysu: eithriad ar gyfer y rheini sy’n cymryd rhan mewn cynllun profiI9711

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan—

a

bo’n ofynnol i berson (“P”) beidio ag ymadael â’r man lle y mae P yn byw neu fod y tu allan i’r man hwnnw yn rhinwedd rheoliad 8(2) neu 9(2) (“y gofyniad ynysu”), a

b

bo P yn cytuno i gymryd rhan mewn cynllun profi.

2

Os yw prawf cyntaf P o dan y cynllun profi yn negatif am y coronafeirws, mae’r gofyniad ynysu yn peidio â bod yn gymwys i P o’r adeg y mae P yn cael canlyniad y prawf, yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4).

3

Os yw canlyniad prawf a gymerir gan P o dan y cynllun profi yn bositif am y coronafeirws, mae’r gofyniad ynysu yn gymwys i P o’r adeg y mae P yn cael canlyniad y prawf fel pe na bai wedi peidio â bod yn gymwys yn rhinwedd y paragraff (2).

4

Er gwaethaf paragraff (2), mae’r gofyniad ynysu yn gymwys i P ar—

a

diwrnodau nad ydynt yn ddiwrnodau prawf;

b

unrhyw ddiwrnod y mae’n ofynnol i P gymryd prawf o dan y cynllun ond y mae’n methu â gwneud hynny.

5

Os yw P yn cael canlyniad negatif am y coronafeirws yn ei brawf olaf o dan y cynllun profi, mae’r gofyniad ynysu yn peidio â bod yn gymwys i P o’r cynharaf o—

a

yr adeg y mae P yn cael canlyniad y prawf, neu

b

diwrnod olaf ynysiad P a gyfrifir yn unol â rheoliad 8 neu 9 yn ôl y digwydd.

6

Pan fo P yn blentyn—

a

rhaid i berson a chanddo gyfrifoldeb dros P gytuno ar ran P fod P i gymryd rhan mewn cynllun profi;

b

mae’r cyfeiriadau ym mharagraffau (2) a (5)(a) at P yn cael canlyniad prawf yn cynnwys cyfeiriadau at berson a chanddo gyfrifoldeb dros P yn cael y canlyniad.

7

Yn y rheoliad hwn—

a

ystyr “cynllun profi” yw cynllun sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru y mae’n ofynnol odano i P gymryd nifer o brofion am y coronafeirws a bennir yn y cynllun, ar ddyddiadau ac mewn modd a bennir felly;

b

ystyr “diwrnod nad yw’n ddiwrnod prawf” yw diwrnod, rhwng y diwrnod y mae P yn cymryd y prawf cyntaf a’r prawf olaf o dan y cynllun, nad yw’n ofynnol i P gymryd prawf o dan y cynllun.

Annotations:
Commencement Information
I97

Rhl. 11 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

F201Gofyniad i ynysu: darpariaeth benodol ar gyfer pobl sydd yng Nghymru ar 22 Ionawr 2021 ac sydd wedi bod yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd Congo neu Weriniaeth Unedig Tanzania yn y 10 niwrnod blaenorolF20611A

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Gofyniad i ynysu: darpariaeth benodol ar gyfer pobl sydd yng Nghymru ar 29 Ionawr 2021 ac sydd wedi bod mewn gwledydd penodol yn y 10 niwrnod blaenorolF8411AA

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Gofyniad i ynysu: eithriad penodol ar gyfer pobl sydd wedi bod mewn gwledydd penodol F6011B

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Gofyniad ar bersonau a chanddynt gyfrifoldeb dros blantI1712

Pan fo gofyniad wedi ei osod ar blentyn o dan reoliad 7(2)F97neu 9(2) , rhaid i berson a chanddo gyfrifoldeb dros y plentyn gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod y plentyn yn cydymffurfio â’r gofyniad.

Tynnu’n ôl hysbysiad sy’n gwneud ynysu yn ofynnolI7313

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau—

a

wedi rhoi hysbysiad o dan reoliad 6(1), 7(1), 8(1) neu 9(1) (“yr hysbysiad gwreiddiol”), ond

b

yn hysbysu derbynnydd yr hysbysiad gwreiddiol wedi hynny fod yr hysbysiad wedi ei dynnu’n ôl.

2

Mae’r hysbysiad gwreiddiol i’w drin fel pe na bai wedi ei roi.

Annotations:
Commencement Information
I73

Rhl. 13 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

PENNOD 2Gwybodaeth

Pŵer i ddefnyddio a datgelu gwybodaethI5814

1

Ni chaiff swyddog olrhain cysylltiadau ond datgelu gwybodaeth berthnasol i berson (“deiliad yr wybodaeth”) y mae’n angenrheidiol i ddeiliad yr wybodaeth ei chael—

a

at ddibenion—

i

cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn,

ii

atal perygl i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i ledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu

iii

monitro lledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu

F151aa

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

b

at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir yn is-baragraff (a) neu sydd fel arall â chysylltiad â’r diben hwnnw.

2

Gwybodaeth berthnasol yw—

a

pan fo’n ofynnol i berson ynysu yn unol â rheoliad 6(2), 7(2), 8(2) neu 9(2)

i

gwybodaeth gyswllt a dyddiad geni’r person, neu, pan fo’r person yn blentyn, manylion cyswllt yr oedolyn a hysbysir ei bod yn ofynnol i’r plentyn ynysu a dyddiad geni’r plentyn;

ii

y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad o dan reoliad 6(1), 7(1), 8(1) neu 9(1);

iii

y cyfnod penodol y mae’n ofynnol i’r person beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw neu fod y tu allan iddo mewn cysylltiad ag ef, wedi ei gyfrifo yn unol â rheoliad 6, 7, 8 neu 9;

b

cadarnhad na chafodd person ganlyniad positif am y coronafeirws ac enw, gwybodaeth gyswllt a dyddiad geni’r person, neu, pan fo’r person yn blentyn, enw a manylion cyswllt oedolyn a chanddo gyfrifoldeb dros y plentyn yn ogystal ag enw a dyddiad geni’r plentyn.

3

Ni chaiff deiliad yr wybodaeth ddefnyddio gwybodaeth berthnasol a ddatgelir o dan baragraff (1) ond i’r graddau y bo hynny’n angenrheidiol—

a

at ddibenion—

i

cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn,

ii

atal perygl i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i ledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu

iii

monitro lledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu

b

at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir ym is-baragraff (a) neu sydd fel arall â chysylltiad â’r diben hwnnw.

4

Yn ddarostyngedig i baragraff (6), ni chaiff deiliad yr wybodaeth ond datgelu hynny o wybodaeth berthnasol i berson arall (y “derbynnydd”) y mae’n angenrheidiol i’r derbynnydd ei chael—

a

at ddibenion—

i

cyflawni un o swyddogaethau’r derbynnydd o dan y Rheoliadau hyn,

ii

atal perygl i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i ledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu

iii

monitro lledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu

b

at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir yn is-baragraff (a) neu sydd fel arall â chysylltiad â’r diben hwnnw.

5

Yn ddarostyngedig i baragraff (7), nid yw datgeliad sydd wedi ei awdurdodi gan y rheoliad hwn yn torri—

a

rhwymedigaeth o safbwynt cyfrinachedd sy’n ddyledus gan y person sy’n gwneud y datgeliad, na

b

unrhyw gyfyngiad arall ar ddatgelu gwybodaeth (sut bynnag y’i gorfodir).

6

Nid yw’r rheoliad hwn yn cyfyngu ar yr amgylchiadau pan ganiateir i wybodaeth gael ei datgelu fel arall o dan unrhyw ddeddfiad arall neu reol gyfreithiol.

7

Nid oes unrhyw beth yn y rheoliad hwn yn awdurdodi defnyddio neu ddatgelu data personol pan fo gwneud hynny yn torri’r ddeddfwriaeth diogelu data.

8

Yn y rheoliad hwn, mae i “deddfwriaeth diogelu data” a “data personol” yr un ystyron â “data protection legislation” a “personal data” yn adran 3 o Ddeddf Diogelu Data 20182.

F114RHAN 3ACyfyngiadau teithio etc.

Annotations:

Cyfyngiad ar deithio rhyngwladol14A

1

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol—

a

ymadael â Chymru i deithio i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, neu

b

teithio i fan cychwyn, neu fod yn bresennol ynddo, at ddiben teithio oddi yno i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin.

2

At ddibenion paragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—

a

os yw’r diben y mae’r person yn teithio i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin ato yn rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol;

b

os yw un o’r amgylchiadau ym mharagraff (4) yn gymwys.

3

Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson deithio i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin atynt yn cynnwys—

a

cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol;

b

osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

c

gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

d

cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

e

darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 20063, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

f

mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

g

symud cartref;

h

ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

i

cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.

4

Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(b) yw bod y person yn—

a

darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

b

mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—

i

fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu

ii

fel gofalwr parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;

c

mynd i angladd—

i

fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

ii

os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

iii

fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;

d

athletwr elît ac yn teithio at ddibenion hyfforddi neu gystadlu;

e

darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn—

i

digwyddiad chwaraeon elît, neu

ii

digwyddiad chwaraeon sy’n digwydd y tu allan i’r ardal deithio gyffredin;

f

teithio er mwyn pleidleisio mewn etholiad.

5

Nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys i berson y cyfeirir ato yn Atodlen 5A.

6

Yn y rheoliad hwn, ac yn rheoliadau 14B a 29—

a

mae i “yr ardal deithio gyffredin” yr un ystyr â “the common travel area” yn Neddf Mewnfudo 19714;

b

ystyr “man cychwyn” yw terfynfa ryngwladol neu unrhyw fan arall yng Nghymru y caiff person deithio ohono i gyrchfan y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Ffurflen datganiad teithio rhyngwladol14B

1

Rhaid i berson (“P”) sy’n bresennol mewn man cychwyn at ddiben teithio oddi yno i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, os gofynnir iddo wneud hynny gan swyddog gorfodaeth, ddarparu ffurflen datganiad teithio rhyngwladol wedi ei chwblhau i’r swyddog.

2

Rhaid i’r ffurflen datganiad teithio rhyngwladol fod ar y ffurf a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru5 a chynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

a

enw llawn P,

b

dyddiad geni a chenedligrwydd P,

c

rhif pasbort P, neu rif cyfeirnod dogfen deithio P (fel y bo’n briodol),

d

cyfeiriad cartref P,

e

cyrchfan P,

f

y rheswm y mae P yn teithio i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin,

g

datganiad bod P yn ardystio bod yr wybodaeth y mae P yn ei darparu yn wir, ac

h

y dyddiad y mae’r datganiad wedi ei gwblhau.

3

Pan fo P yn teithio gyda phlentyn neu berson nad oes ganddo alluedd (“G”), y mae gan P gyfrifoldeb drosto, rhaid i P, os gofynnir iddo wneud hynny gan swyddog gorfodaeth, ddarparu ffurflen datganiad teithio rhyngwladol wedi ei chwblhau sy’n ymwneud ag G i’r swyddog.

4

Nid yw’r rhwymedigaeth ym mharagraff (1) yn gymwys—

a

i G, na

b

i berson y cyfeirir ato yn Atodlen 5A.

5

Yn y rheoliad hwn, nid oes gan berson alluedd os nad oes ganddo alluedd, o fewn ystyr “lack capacity” yn adran 2 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 20056, i gwblhau’r ffurflen datganiad teithio rhyngwladol.

RHAN 4Cymryd mesurau ataliol mewn mangreoedd rheoleiddiedig

Mangreoedd rheoleiddiedig a phersonau cyfrifolI4115

1

At ddibenion y Rheoliadau hyn, y canlynol yw “mangreoedd rheoleiddiedig”—

a

mangreoedd busnesau neu wasanaethau a restrir yn Atodlen 7, i’r graddau y mae gan y cyhoedd fynediad iddynt neu y caniateir i’r cyhoedd gael mynediad iddynt;

b

cerbyd a ddefnyddir i ddarparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus;

c

mangre arall lle y mae gwaith yn cael ei wneud.

2

Yn y Rhan hon, ystyr “person cyfrifol”, mewn perthynas â mangre reoleiddiedig, yw—

a

mewn perthynas â mangre y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(a) a (b), y person sy’n gyfrifol am y fangre,

b

mewn perthynas â mangre y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(c), y person sy’n gyfrifol am y gwaith sy’n cael ei wneud yn y fangre.

Annotations:
Commencement Information
I41

Rhl. 15 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Gofyniad i gymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirwsI5716

1

At ddibenion lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn mangre reoleiddiedig, neu ledaenu’r coronafeirws gan y rheini sydd wedi bod mewn mangre reoleiddiedig, rhaid i’r person cyfrifol—

F3za

cynnal asesiad penodol o’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y fangre ac, wrth wneud hynny, ymgynghori â phersonau sy’n gweithio yn y fangre neu gynrychiolwyr y personau hynny;

a

cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—

i

y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng aelodau o’r un aelwyd neu ofalwr a’r person sy’n cael cynhorthwy gan y gofalwr);

ii

pan fo’n ofynnol i bersonau aros i fynd i’r fangre, y cynhelir pellter o 2 fetr rhyngddynt (ac eithrio rhwng aelodau o’r un aelwyd neu ofalwr a’r person sy’n cael cynhorthwy gan y gofalwr),

b

cymryd pob mesur rhesymol arall at y diben hwnnw, er enghraifft mesur sy’n cyfyngu ar ryngweithio agos wyneb yn wyneb ac yn cynnal hylendid megis—

i

newid trefn mangre gan gynnwys lleoliad dodrefn a gweithfannau;

ii

rheoli’r defnydd o fynedfeydd, tramwyfeydd, grisiau a lifftiau;

iii

rheoli’r defnydd o gyfleusterau a rennir megis toiledau a cheginau;

iv

fel arall, rheoli’r defnydd o unrhyw ran arall o’r fangre neu fynediad iddi;

v

gosod rhwystrau neu sgriniau;

vi

darparu, neu’n ei gwneud yn ofynnol defnyddio, cyfarpar diogelu personol, ac

c

darparu gwybodaeth i’r rheini sy’n mynd i’r fangre neu’n gweithio ynddi ynglŷn â sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

2

Mae mesurau y gellir eu cymryd o dan baragraff (1) hefyd yn cynnwys—

a

peidio â gwneud gweithgareddau penodol;

b

cau rhan o’r fangre;

c

caniatáu i berson sydd fel arfer yn gweithio yn y fangre ynysu, a’i alluogi i wneud hynny, oherwydd profi’n bositif am y coronafeirws neu am ei fod wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif, am gyfnod—

i

a argymhellir mewn canllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru;

ii

a bennir mewn hysbysiad a roddir i’r person gan swyddog olrhain cysylltiadau;

d

casglu gwybodaeth gyswllt oddi wrth bob person yn y fangre a’i chadw am 21 o ddiwrnodau at ddiben ei darparu i unrhyw un o’r canlynol, ar eu cais neu ar ei gais—

i

Gweinidogion Cymru;

ii

swyddog olrhain cysylltiadau;

e

cymryd mesurau rhesymol i sicrhau bod gwybodaeth gyswllt o’r fath yn gywir.

F2113

Rhaid i asesiad o dan baragraff (1)(za)—

a

bodloni gofynion rheoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 (“Rheoliadau 1999”), a

b

cael ei gynnal—

i

pa un a yw’r person cyfrifol eisoes wedi cynnal asesiad o dan y rheoliad hwnnw ai peidio, a

ii

pa un a yw’r rheoliad hwnnw yn gymwys i’r person cyfrifol ai peidio.

4

At ddibenion paragraff (3)—

a

mae rheoliad 3 o Reoliadau 1999 i’w ddarllen fel pe bai’r geiriau “by regulations 16, 17 and 17A of the Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 5) (Wales) Regulations 2020” wedi eu rhoi yn lle “by or under the relevant statutory provisions F14...”, yn y ddau le y maent yn digwydd, a

b

os na fyddai rheoliad 3 o Reoliadau 1999 yn gymwys i berson cyfrifol oni bai am baragraff (3)(b)(ii)—

i

mae’r rheoliad hwnnw i’w drin fel pe bai’n gymwys i’r person fel pe bai’r person yn gyflogwr, a

ii

mae personau sy’n gweithio yn y fangre i’w trin, at ddibenion y rheoliad hwnnw fel y mae’n gymwys yn rhinwedd paragraff (3)(b)(ii), fel pe baent wedi eu cyflogi gan y person cyfrifol.

Mesurau penodol sy’n gymwys i fangreoedd trwyddedigI18817

F1071

Pan fo rheoliad 16(1) yn gymwys i berson sy’n gyfrifol am fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre, mae’r mesurau sydd i’w cymryd gan y person cyfrifol yn cynnwys y canlynol (ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt)—

a

cael person sy’n rheoli mynediad i’r fangre F44...;

b

ei gwneud yn ofynnol i gwsmeriaid fod yn eistedd yn y fangre yn unrhyw le ac eithrio wrth far—

i

pan fyddant yn archebu bwyd neu ddiod,

ii

pan weinir bwyd neu ddiod iddynt, a

iii

pan fyddant yn bwyta neu’n yfed.

3

Ond pan fo bwyd yn cael ei ddarparu yn y fangre ar sail bwffe, caiff cwsmeriaid ddewis bwyd o’r bwffe a dychwelyd i’r man lle y maent yn eistedd.

4

Nid yw paragraff (1)F120 yn gymwys i—

a

ffreuturau yn y gweithle, neu

b

mangreoedd mewn sefydliad addysgol.

5

At ddibenion paragraff (1)—

a

nid yw bwyd neu ddiod a werthir mewn llety gwyliau neu lety teithio fel rhan o wasanaeth ystafell i’w drin neu i’w thrin fel pe bai’n cael ei werthu i’w fwyta yn y fangre neu ei gwerthu i’w hyfed yn y fangre;

b

mae bwyd neu ddiod a werthir i’w fwyta neu i’w hyfed mewn ardal sy’n gyfagos i’r fangre lle y mae seddi yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid i’w drin neu i’w thrin fel pe bai’n cael ei werthu i’w fwyta yn y fangre neu ei gwerthu i’w hyfed yn y fangre.

6

Pan fo mangre reoleiddiedig nad yw wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre yn caniatáu i gwsmeriaid yfed eu halcohol eu hunain yn y fangre, mae paragraffau (1) i (4) yn gymwys i’r fangre honno fel y maent yn gymwys i fangreoedd sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre.

F99Mesurau penodol sy’n gymwys i fangreoedd manwerthu17A

Pan fo rheoliad 16(1) yn gymwys i berson sy’n gyfrifol am fangre fanwerthu busnes sy’n cynnig nwyddau neu wasanaethau ar gyfer eu gwerthu neu eu llogi yn y fangre honno (gan gynnwys busnesau sy’n gwerthu bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre), mae’r mesurau sydd i’w cymryd gan y person cyfrifol yn cynnwys y canlynol (ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt)—

a

mesurau ar gyfer rheoli mynediad i’r fangre a chyfyngu ar nifer y cwsmeriaid sydd yn y fangre ar unrhyw adeg;

b

darparu cynhyrchion diheintio dwylo neu gyfleusterau golchi dwylo i’w defnyddio gan gwsmeriaid pan fyddant yn mynd i’r fangre ac yn ymadael â hi;

c

mesurau i ddiheintio unrhyw fasgedi, trolïau neu gynwysyddion tebyg a ddarperir i gwsmeriaid eu defnyddio yn y fangre;

d

er mwyn atgoffa cwsmeriaid i gynnal pellter o 2 fetr rhyngddynt ac i wisgo gorchudd wyneb—

i

arddangos arwyddion a chymhorthion gweledol eraill;

ii

gwneud cyhoeddiadau yn rheolaidd.

Canllawiau ynghylch cymryd mesurau rhesymolI18718

1

Rhaid i berson y mae’n ofynnol iddo gymryd mesurau rhesymol o dan reoliad 16(1)F112, 17(1) neu 17A roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch y mesurau hynny.

2

O ran Gweinidogion Cymru—

a

cânt ddiwygio canllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1), a

b

rhaid iddynt gyhoeddi’r canllawiau (ac unrhyw ddiwygiadau).

3

Caiff canllawiau o dan y rheoliad hwn gynnwys (drwy gyfeirio neu drosi) ganllawiau, codau ymarfer neu ddogfennau eraill a gyhoeddir gan berson arall (er enghraifft, cymdeithas fasnach, corff sy’n cynrychioli aelodau o ddiwydiant neu undeb llafur).

4

Mae canllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan—

a

paragraff (1) o reoliad 20 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 20203, neu

b

paragraff (1) o reoliad 24 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 20204,

i’w trin fel pe baent yn ganllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1) o’r rheoliad hwn.

F203RHAN 4ACymryd mesurau ataliol wrth ymgyrchu mewn etholiad

Annotations:

Gofyniad i gymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws wrth ymgyrchu mewn etholiad18A

1

Rhaid i berson sy’n gyfrifol am gyflawni neu hwyluso gweithgaredd sy’n cynnwys cymryd rhan mewn cynulliad at ddibenion darbwyllo unrhyw berson i bleidleisio neu i beidio â phleidleisio mewn modd penodol mewn etholiad—

a

cymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg—

i

y bydd unrhyw berson sy’n ymwneud â’r gweithgaredd yn dod i gysylltiad â’r coronafeirws, a

ii

y bydd unrhyw berson o’r fath yn lledaenu’r coronafeirws, a

b

wrth gymryd y mesurau hynny, roi sylw i unrhyw ganllawiau amdanynt a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

2

O ran y mesurau sydd i’w cymryd o dan baragraff (1)(a)—

a

rhaid iddynt gynnwys cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad (ac eithrio rhwng aelodau o’r un aelwyd neu ofalwr a’r person a gynorthwyir gan y gofalwr), a

b

gallant gynnwys cymryd mesurau eraill sy’n cyfyngu ar ryngweithio wyneb yn wyneb agos ac yn cynnal hylendid megis—

i

cyfyngu ar nifer y personau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad;

ii

gwisgo gorchuddion wyneb;

iii

cyfyngu ar nifer y personau sy’n trin taflenni neu ddeunyddiau eraill.

3

O ran Gweinidogion Cymru—

a

cânt ddiwygio canllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1)(b), a

b

rhaid iddynt gyhoeddi’r canllawiau (ac unrhyw ddiwygiadau).

RHAN 5Gorchuddion wyneb

Gofyniad i wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddusI219

1

Rhaid i berson (“P”) sy’n teithio fel teithiwr mewn cerbyd a ddefnyddir i ddarparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus wisgo gorchudd wyneb.

2

Ond nid yw hyn yn ofynnol—

a

pan fo esemptiad yn gymwys o dan baragraff (3);

b

pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb, ac o ran hynny gweler paragraff (4).

3

Mae esemptiad i’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn gymwys—

a

pan fo P yn blentyn o dan 11 oed;

b

mewn cerbyd sy’n darparu gwasanaeth cludiant i’r ysgol;

c

ar fferi—

i

pan fo’r rhan o’r fferi sydd ar agor i deithwyr yn yr awyr agored yn gyfan gwbl, neu

ii

pan ellir cynnal pellter o 2 fetr o leiaf rhwng personau ar y rhan o’r fferi sydd ar agor i deithwyr;

d

ar long fordeithio;

e

pan ddyrennir caban, man cysgu neu lety tebyg arall i P yn y cerbyd, ar unrhyw adeg pan yw P yn y llety hwnnw—

i

ar ei ben ei hunan, neu

ii

gydag aelodau o aelwyd P neu ofalwr i aelod o’r aelwyd yn unig;

f

pan—

i

caniateir i P, neu pan fo’n ofynnol fel arfer i P, fynd i gerbyd ac aros ynddo wrth ddefnyddio’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus,

ii

na fo’r cerbyd ei hunan yn cael ei ddefnyddio ar gyfer darparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, a

iii

bo P yn aros yn y cerbyd hwnnw;

g

ar gerbyd awyr na chychwynnodd o fan yng Nghymru, ac nad yw i lanio mewn man yng Nghymru;

h

ar lestr nad yw’n docio mewn porthladd yng Nghymru.

4

Mae’r amgylchiadau pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb yn cynnwys—

a

pan na fo P yn gallu rhoi gorchudd am ei wyneb, neu wisgo neu dynnu gorchudd wyneb, oherwydd salwch neu nam corfforol neu feddyliol, neu anabledd (o fewn yr ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 20105);

b

pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn cyfathrebu â pherson sy’n cael anhawster i gyfathrebu (mewn perthynas â lleferydd, iaith neu fel arall);

c

pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn osgoi niwed neu anaf, neu’r risg o niwed neu anaf, i P neu i eraill;

d

pan fo P yn teithio i osgoi anaf, neu i ddianc rhag risg o niwed, ac nad oes gan P orchudd wyneb;

e

pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb i—

i

cymryd meddyginiaeth;

ii

bwyta neu yfed, os caniateir gwneud hyn yn y cerbyd a bod hynny’n rhesymol angenrheidiol (er enghraifft oherwydd hyd y daith);

f

pan ofynnir i P dynnu’r gorchudd wyneb gan—

i

swyddog gorfodaeth, neu

ii

gweithredwr y gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, cyflogai i’r gweithredwr neu berson sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr.

5

Rhaid i weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus y mae paragraff (1) yn gymwys iddo ddarparu gwybodaeth i deithwyr am y gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb yn ei gerbydau.

6

At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “gwasanaeth cludiant i’r ysgol” yw unrhyw wasanaeth cludiant nad yw ond yn cael ei ddarparu at ddiben—

a

cludo person i’r ysgol ac o’r ysgol neu’r man arall y mae’r person yn cael addysg neu hyfforddiant ynddo, neu

b

hwyluso fel arall bresenoldeb person mewn ysgol neu fan arall y mae’r person yn cael addysg neu hyfforddiant ynddo.

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 19 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Gofyniad i wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus penodol o dan doI17720

1

Rhaid i berson (“P”) wisgo gorchudd wyneb yn ardaloedd cyhoeddus o dan do mangreoedd y mae gan y cyhoedd fynediad iddynt neu y caniateir i’r cyhoedd gael mynediad iddynt.

2

Ond nid yw hyn yn ofynnol—

a

pan fo P yn blentyn o dan 11 oed;

b

pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb, ac o ran hynny gweler paragraff (3).

3

Mae’r amgylchiadau pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb yn cynnwys—

a

pan na fo P yn gallu rhoi gorchudd am ei wyneb, neu wisgo neu dynnu gorchudd wyneb, oherwydd salwch neu nam corfforol neu feddyliol, neu anabledd (o fewn yr ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010);

b

pan fo P yn ymgymryd â gweithgaredd ac y gellir ystyried fod gwisgo gorchudd wyneb yn ystod y gweithgaredd hwnnw yn peri risg i iechyd P;

c

pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn cyfathrebu â pherson sy’n cael anhawster i gyfathrebu (mewn perthynas â lleferydd, iaith neu fel arall);

d

pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn osgoi niwed neu anaf, neu’r risg o niwed neu anaf, i P neu i eraill;

e

pan fo P yn y fangre i osgoi anaf, neu i ddianc rhag risg o niwed, ac nad oes gan P orchudd wyneb;

f

pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb i—

i

cymryd meddyginiaeth;

ii

bwyta neu yfed, pan fo’n rhesymol angenrheidiol;

g

pan ofynnir i P dynnu’r gorchudd wyneb gan swyddog gorfodaeth;

h

pan fo P yn eistedd mewn mangre lle y gwerthir bwyd neu ddiod, neu lle y’i darperir fel arall, i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre.

Annotations:
Commencement Information
I177

Rhl. 20 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Canllawiau ynghylch gofynion i wisgo gorchuddion wynebI12721

1

Rhaid i weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus y mae rheoliad 19 yn gymwys iddo roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch—

a

y gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn unol â pharagraffau (1) i (4) o reoliad 19 a gorfodi’r gofyniad hwnnw o dan reoliad 32;

b

darparu gwybodaeth i deithwyr yn unol â pharagraff (5) o reoliad 19.

2

O ran Gweinidogion Cymru—

a

cânt ddiwygio canllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1), a

b

rhaid iddynt gyhoeddi’r canllawiau (ac unrhyw ddiwygiadau).

3

Caiff canllawiau o dan y rheoliad hwn gynnwys (drwy gyfeirio neu drosi) ganllawiau, codau ymarfer neu ddogfennau eraill a gyhoeddir gan berson arall (er enghraifft, cymdeithas fasnach, corff sy’n cynrychioli aelodau o ddiwydiant neu undeb llafur).

4

Mae canllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan—

a

paragraff (2) o reoliad 20 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020, neu

b

paragraff (2) o reoliad 24 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020,

i’w trin fel pe baent yn ganllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1) o’r rheoliad hwn.

Annotations:
Commencement Information
I127

Rhl. 21 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

RHAN 6Darparu addysg mewn ysgol

Darparu addysg mewn ysgol i ddisgyblion penodol pan fo mangreoedd ysgolion ar gauI55I9522

1

Mae paragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â disgybl perthnasol—

a

os yw mangre’r ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi ar gau i’r disgybl hwnnw am gyfnod o 3 diwrnod ysgol yn olynol o leiaf, a

b

os yw’r cau mewn ymateb i fygythiad i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad y coronafeirws.

2

At ddibenion paragraff (1), ystyr “disgybl perthnasol” yw disgybl cofrestredig—

a

y mae’r awdurdod lleol priodol sy’n cynnal yr ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi yn ystyried ei fod yn blentyn i weithiwr hanfodol, neu

b

y mae perchennog yr ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi yn ystyried y dylai’r disgybl fynd i’r ysgol oherwydd ei hyglwyfedd.

3

Rhaid i berchennog yr ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi wneud trefniadau i’r disgybl fynd i fangre ysgol at ddiben darparu addysg ar y trydydd diwrnod ysgol a phob diwrnod ysgol dilynol yn y cyfnod pan fydd mangre’r ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi ar gau.

4

Ond nid yw paragraff (3) yn gymwys os, ar y diwrnod ysgol o dan sylw—

a

yw’n ofynnol i’r disgybl beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r disgybl yn byw neu beidio â bod y tu allan i’r man hwnnw yn rhinwedd rheoliad 6(2), 7(2), 8(2)F67neu 9(2) , neu

b

os yw’r disgybl yn ynysu fel arall ar ôl—

i

cael ei hysbysu drwy ap ffôn clyfar Covid 19 y GIG a ddatblygir ac a weithredir gan yr Ysgrifennydd Gwladol, neu

ii

cael ei gynghori i wneud hynny gan berchennog yr ysgol lle y mae’r disgybl wedi ei gofrestru neu gan ddarparwr gofal plant.

5

Wrth benderfynu, at ddibenion paragraff (1)(a), a yw mangre ysgol ar gau i ddisgybl, mae’r ffaith y gall y fangre honno fod ar agor yn rhinwedd paragraff (3) i’w diystyru.

6

Wrth benderfynu a yw disgybl yn blentyn i weithiwr hanfodol, rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru ynghylch nodi plant gweithwyr hanfodol.

Methiant i gydymffurfio â rheoliad 22I175I5323

Mae unrhyw fethiant gan berchennog i gydymffurfio â rheoliad 22 yn orfodadwy drwy gais am waharddeb gan Weinidogion Cymru neu gan yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol i’r Uchel Lys neu’r Llys Sirol, heb rybudd.

Annotations:
Commencement Information
I175

Rhl. 23 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I53

Rhl. 23 mewn grym ar 23.12.2020, gweler rhl. 1(4)

Dehongli’r Rhan honI113I15924

Yn y Rhan hon—

a

mae i “ysgol feithrin a gynhelir” yr ystyr a roddir i “maintained nursery school” gan adran 22(9) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 19986;

b

mae i “ysgol a gynhelir” yr ystyr a roddir i “maintained school” gan adran 20(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

c

mae i “perchennog” yr ystyr a roddir i “proprietor” gan adran 579(1) o Ddeddf Addysg 19967;

d

mae i “disgybl” yr un ystyr â “pupil” yn adran 3 o Ddeddf Addysg 1996;

e

mae i “uned cyfeirio disgyblion” yr ystyr a roddir i “pupil referral unit” gan adran 19(2) o Ddeddf Addysg 1996;

f

mae i “disgybl cofrestredig” yr ystyr a roddir i “registered pupil” gan adran 434(5) o Ddeddf Addysg 1996;

g

ystyr “ysgol” yw ysgol a gynhelir, ysgol feithrin a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion;

h

mae i “diwrnod ysgol” yr ystyr a roddir i “school day” gan adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996.

Annotations:
Commencement Information
I113

Rhl. 24 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I159

Rhl. 24 mewn grym ar 23.12.2020, gweler rhl. 1(4)

RHAN 7Gorfodi

Swyddogion gorfodaethI325

1

At ddibenion rheoliad 26 ac Atodlen 8, ystyr “swyddog gorfodaeth” yw person sydd wedi ei ddynodi gan awdurdod lleol—

a

at ddibenion y Rheoliadau hyn,

b

o dan reoliad 17(A1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 20208,

c

o dan reoliad 21(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020, neu

d

o dan reoliad 25(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020.

2

At ddibenion rheoliadau F20914B, 18A,19, 20, 27 i 34, 36 a 47, ystyr “swyddog gorfodaeth” yw—

a

cwnstabl,

b

swyddog cymorth cymunedol yr heddlu,

c

person sydd wedi ei ddynodi gan—

i

Gweinidogion Cymru, neu

ii

awdurdod lleol,

at ddibenion y Rheoliadau hyn (ond gweler paragraff (3)), neu

d

person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol o dan—

i

rheoliad 10(11)(c) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 20209 yn berson perthnasol (o fewn yr ystyr a roddir gan y rheoliad hwnnw),

ii

rheoliad 17(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 at ddibenion y Rheoliadau hynny,

iii

rheoliad 21(2) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020 at ddibenion y Rheoliadau hynny, neu

iv

o dan reoliad 25(2) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020,

(ond gweler paragraff (3)).

3

Ni chaiff person sydd wedi ei ddynodi gan awdurdod lleol arfer swyddogaethau swyddog gorfodaeth ond—

a

mewn perthynas â thorri gofyniad (neu achos honedig o’i dorri) yn—

i

rheoliad 16(1)F8, 17(1) neu 17A

ii

paragraff 7(1)F152... o Atodlen 1,

iii

paragraff 7(1)F26... o Atodlen 2,

iv

paragraff 7(1), 8(1) neu F689(1) o Atodlen 3, neu

v

paragraff 7(1), 8(1), 9(1)F18, 10(1) neu 11(3) o Atodlen 4, neu

b

o dan ac yn rhinwedd Atodlen 8.

Gorfodi’r gofyniad i gymryd mesurau ataliolI4926

Mae Atodlenni 8 a 9 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhoi swyddogaethau i swyddogion gorfodaeth at ddiben gorfodi rheoliadau 16(1)F197, 17(1) a 17A ac mewn cysylltiad â rhoi’r swyddogaethau hynny.

Hysbysiadau cydymffurfioI16327

1

Caiff swyddog gorfodaeth roi hysbysiad cydymffurfio i berson os oes gan y swyddog sail resymol dros amau bod y person yn torri gofyniad yn—

F149za

rheoliad 18A(1),

a

rheoliad 19(5),

b

paragraff 7(1)F148... o Atodlen 1,

c

paragraff 7(1)F172... o Atodlen 2,

d

paragraff 7(1), 8(1) neu F909(1) o Atodlen 3, neu

e

paragraff 7(1), 8(1), 9(1)F12, 10(1) neu 11(3) o Atodlen 4.

2

Caiff hysbysiad cydymffurfio bennu mesurau y mae rhaid i’r person y’i rhoddir iddo eu cymryd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol er mwyn atal y person hwnnw rhag parhau i dorri’r gofyniad.

Pwerau symud a gwasgaru: cynulliadau a bod oddi cartrefI16228

1

Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person yn cymryd rhan mewn cynulliad mewn annedd breifat yn groes i—

a

paragraff 1(1) o Atodlen 1,

b

paragraff 1(1) o Atodlen 2,

c

paragraff 1(1) o Atodlen 3, neu

d

paragraff 2(1) o Atodlen 4.

2

Caiff y swyddog gorfodaeth—

a

cyfarwyddo’r cynulliad i wasgaru;

b

os oes gan y swyddog sail resymol dros amau nad yw’r person yn byw yn yr annedd—

i

cyfarwyddo’r person i ymadael â’r annedd;

ii

symud y person o’r annedd.

3

Mae paragraff (4) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person yn cymryd rhan mewn cynulliad mewn man ac eithrio annedd breifat yn groes i—

a

paragraff 2(1) o Atodlen 1,

b

paragraff 2(1) neu (3) o Atodlen 2,

c

paragraff 2(1) neu F493(1) o Atodlen 3, neu

d

paragraff 2(1) o Atodlen 4.

4

Caiff y swyddog gorfodaeth—

a

cyfarwyddo’r cynulliad i wasgaru;

b

cyfarwyddo’r person i ymadael â’r man lle y mae’r cynulliad yn digwydd;

c

symud y person o’r man hwnnw.

5

Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person i ffwrdd o’r man lle y mae’r person yn byw yn groes i baragraff 1(1) o Atodlen 4, caiff y swyddog—

a

cyfarwyddo’r person i ddychwelyd i’r man lle y mae’r person yn byw;

b

symud y person i’r man hwnnw.

F28Pwerau sy’n ymwneud â chyfyngiadau teithio29

1

Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person ar fin ymadael â Chymru i deithio i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, ac eithrio o fan cychwyn, yn groes i reoliad 14A(1)(a).

2

Caiff y swyddog gorfodaeth gyfarwyddo’r person i beidio ag ymadael â Chymru.

3

Mae paragraff (4) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person wedi ymadael â Chymru i deithio i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, ac eithrio o fan cychwyn, yn groes i reoliad 14A(1)(a).

4

Caiff y swyddog gorfodaeth—

a

cyfarwyddo’r person i ddychwelyd i Gymru;

b

dychwelyd y person i Gymru.

5

Mae paragraff (6) yn gymwys pan fo swyddog gorfodaeth yn ystyried—

a

bod person (“P”) yn bresennol mewn man cychwyn at ddibenion teithio oddi yno i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, a

b

bod y gofyniad yn rheoliad 14B(1) yn gymwys i P a bod P wedi methu â chydymffurfio â’r gofyniad.

6

Caiff y swyddog gorfodaeth gyfarwyddo P i gwblhau ffurflen datganiad teithio rhyngwladol a chaiff bennu amser erbyn pryd y mae’r ffurflen i’w chwblhau.

7

Mae paragraff (8) yn gymwys—

a

pan fo swyddog gorfodaeth yn ystyried bod y cyfyngiad yn rheoliad 14A(1) yn gymwys yn achos person (“P”) sy’n bresennol mewn man cychwyn, a

b

pan fo P naill ai—

i

yn methu â chydymffurfio â’r gofyniad yn rheoliad 14B(1), ac na fo’n cwblhau’r ffurflen datganiad teithio rhyngwladol pan y’i cyfarwyddir i wneud hynny o dan baragraff (5), neu

ii

yn darparu ffurflen datganiad teithio rhyngwladol wedi ei chwblhau i’r swyddog gorfodaeth y mae’r swyddog yn ystyried nad yw’n datgelu esgus rhesymol.

8

Caiff y swyddog gorfodaeth—

a

cyfarwyddo P i ymadael â’r man cychwyn heb ymadael â’r Deyrnas Unedig;

b

symud y person o’r man cychwyn.

Pwerau sy’n ymwneud â thorri gofyniad ynysuI9830

Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person i ffwrdd o’r man lle y mae’n byw yn groes i reoliad 6(2), 7(2), 8(2)F17neu 9(2) , caiff y swyddog—

a

cyfarwyddo’r person i ddychwelyd i’r man lle y mae’r person yn byw;

b

symud y person i’r man hwnnw.

Pwerau sy’n ymwneud â digwyddiadauI19731

1

Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”)—

a

yn cyflawni trosedd o dan reoliad 39(2);

b

yn ymwneud â threfnu digwyddiad yn groes i (neu y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried ei fod yn debygol o fod yn groes i) baragraff 4 o Atodlen 1, paragraff 4 o Atodlen 2, F71paragraff 5 o Atodlen 3 neu baragraff 4 o Atodlen 4.

2

Caiff y swyddog gorfodaeth—

a

cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn stopio’r digwyddiad;

b

symud P o leoliad y digwyddiad;

c

cyfarwyddo unrhyw berson i ymadael â’r digwyddiad;

d

symud unrhyw berson o’r digwyddiad;

e

pan na fo’r digwyddiad wedi dechrau—

i

cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn atal y digwyddiad rhag digwydd;

ii

symud P o leoliad arfaethedig y digwyddiad.

3

Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn ymwneud â threfnu digwyddiad sydd wedi ei awdurdodi o dan baragraff 5 o Atodlen 1, paragraff 5 o Atodlen 2F40...F37, paragraff 6 o Atodlen 3 neu baragraff 5 o Atodlen 4 y mae’r swyddog yn ystyried ei fod yn cael ei gynnal yn groes i ofyniad, cyfyngiad neu amod arall a bennir mewn perthynas â’r awdurdodiad, caiff y swyddog—

a

cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn sicrhau cydymffurfedd â’r gofyniad, y cyfyngiad neu’r amod arall;

b

cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn stopio’r digwyddiad;

c

symud P o leoliad y digwyddiad;

d

cyfarwyddo unrhyw berson i ymadael â’r digwyddiad;

e

symud unrhyw berson o’r digwyddiad.

Gorfodi gofynion gorchuddion wynebI14532

1

Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person yn torri (neu ar fin torri) rheoliad 19(1), caiff y swyddog—

a

cyfarwyddo’r person i beidio â mynd i’r cerbyd sy’n darparu’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus o dan sylw;

b

symud y person o’r cerbyd.

2

Pan fo gan—

a

gweithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus,

b

cyflogai i’r gweithredwr, neu

c

person sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr,

sail resymol dros amau bod person ar fin torri rheoliad 19(1), caiff y gweithredwr, y cyflogai neu’r person awdurdodedig gyfarwyddo’r person i beidio â mynd i’r cerbyd sy’n darparu’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus o dan sylw.

3

Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person yn torri (neu ar fin torri) rheoliad 20(1), caiff y swyddog—

a

cyfarwyddo’r person i beidio â mynd i’r fangre;

b

symud y person o’r fangre.

Annotations:
Commencement Information
I145

Rhl. 32 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Gorfodi: plantI19633

1

Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) y caiff y swyddog arfer pŵer mewn cysylltiad ag ef o dan y Rhan hon yn blentyn gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—

a

caiff y swyddog gyfarwyddo U i gymryd unrhyw gamau gweithredu mewn cysylltiad â P y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn briodol, a

b

rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y swyddog i P.

2

At ddibenion paragraff (1), mae gan U gyfrifoldeb dros blentyn os oes gan U—

a

gwarchodaeth neu ofal am y plentyn am y tro, neu

b

cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

Annotations:
Commencement Information
I196

Rhl. 33 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Pŵer mynediadI16934

1

Caiff swyddog gorfodaeth fynd i fangre—

a

os oes gan y swyddog sail resymol dros amau bod gofyniad a osodir gan y Rheoliadau hyn yn cael, wedi cael neu ar fin cael ei dorri yn y fangre, a

b

os yw’n ystyried ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben canfod a yw’r gofyniad yn cael, wedi cael neu ar fin cael ei dorri.

2

Caiff swyddog gorfodaeth sy’n mynd i fangre yn unol â pharagraff (1) fynd ag unrhyw bersonau eraill, cyfarpar a deunyddiau i’r fangre y mae’n ymddangos i’r swyddog eu bod yn briodol.

3

Rhaid i swyddog gorfodaeth sy’n mynd i fangre yn unol â pharagraff (1)

a

os gofynnir iddo gan berson yn y fangre, ddangos tystiolaeth o bwy yw’r swyddog ac amlinellu’r diben yr arferir y pŵer ato;

b

os nad yw’r fangre wedi ei meddiannu neu os yw’r meddiannydd yn absennol dros dro, adael y fangre wedi ei diogelu rhag mynediad anawdurdodedig yr un mor effeithiol ag yr oedd pan aeth y swyddog iddi.

4

Ni chaiff swyddog gorfodaeth fynd i fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat onid yw’r swyddog gorfodaeth yn gwnstabl.

Annotations:
Commencement Information
I169

Rhl. 34 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Pŵer yr heddlu i gynnal archwiliadau ar y ffyrddI1535

1

At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “archwiliad ar y ffordd” yw arfer y pŵer a roddir gan adran 163 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 198810 mewn ardal yn y fath fodd i stopio, yn ystod y cyfnod pan fydd y pŵer hwnnw yn parhau i gael ei arfer yn yr ardal honno, bob cerbyd neu gerbydau sydd wedi eu dethol yn ôl unrhyw faen prawf.

2

Caiff cwnstabl gynnal archwiliad ar y ffordd at ddiben canfod a yw cerbyd yn cario person y mae’r cwnstabl yn credu’n rhesymol—

a

ei fod wedi cyflawni, neu

b

ei fod yn bwriadu cyflawni

trosedd o dan y Rheoliadau hyn.

3

Rhaid i archwiliad ar y ffordd gael ei awdurdodi gan gwnstabl o reng uwch-arolygydd neu’n uwch.

4

Ond caiff cwnstabl o dan y rheng honno awdurdodi archwiliad ar y ffordd os yw’r cwnstabl yn ystyried ei fod yn angenrheidiol fel mater o frys.

5

Caiff cwnstabl awdurdodi archwiliad ar y ffordd os oes gan y cwnstabl sail resymol dros gredu bod person y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yn yr ardal y byddai cerbydau’n cael eu stopio ynddi, neu ar fin bod yn yr ardal honno.

6

Rhaid i awdurdodiad fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo bennu—

a

yr ardal y mae cerbydau i’w stopio ynddi;

b

y cyfnod, nad yw’n hwy na 7 niwrnod, pan ganiateir cynnal yr archwiliad ar y ffordd;

c

a yw’r archwiliad ar y ffordd i’w gynnal—

i

yn barhaus drwy gydol y cyfnod, neu

ii

ar adegau penodol yn ystod y cyfnod (ac yn yr achos hwnnw rhaid i’r awdurdodiad bennu’r adegau hynny);

d

enw’r cwnstabl sy’n rhoi’r awdurdodiad.

7

Pan fo archwiliad ar y ffordd wedi ei awdurdodi o dan baragraff (4)

a

ni chaiff y cyfnod a bennir ym mharagraff (6)(b) fod yn hwy na 2 ddiwrnod;

b

rhaid i’r cwnstabl sy’n rhoi’r awdurdodiad, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl rhoi’r awdurdodiad, roi gwybod i gwnstabl o reng uwch-arolygydd neu’n uwch ei fod wedi ei roi.

8

Caiff cwnstabl o reng uwch-arolygydd neu’n uwch roi awdurdodiad yn ysgrifenedig i archwiliad ar y ffordd barhau am gyfnod pellach, nad yw’n hwy na 7 niwrnod, y tu hwnt i’r cyfnod yr awdurdodwyd yr archwiliad ar y ffordd amdano yn wreiddiol.

9

Pan fo cerbyd yn cael ei stopio yn ystod archwiliad ar y ffordd, mae gan y person sy’n gyfrifol am y cerbyd ar yr adeg pan yw’n cael ei stopio hawlogaeth i gael datganiad ysgrifenedig am ddiben yr archwiliad ar y ffordd drwy gyflwyno cais yn ysgrifenedig—

a

i’r heddlu sy’n gyfrifol am yr ardal lle y cynhelir yr archwiliad ar y ffordd, a

b

heb fod yn hwyrach na diwedd y cyfnod o 12 mis o’r diwrnod pan stopiwyd y cerbyd.

Annotations:
Commencement Information
I15

Rhl. 35 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Gorfodi: darpariaeth atodolI2636

1

Caiff swyddog gorfodaeth gymryd camau gweithredu eraill i hwyluso arfer pŵer a roddir i’r swyddog gan y Rhan hon.

2

Caiff y camau gweithredu a gymerir o dan baragraff (1) gynnwys—

a

ei gwneud yn ofynnol i berson roi unrhyw wybodaeth neu ateb unrhyw gwestiwn y mae’r swyddog yn ystyried—

i

ei bod neu ei fod yn angenrheidiol er mwyn galluogi’r swyddog i benderfynu pa un ai i arfer pŵer a roddir i’r swyddog gan y Rhan hon, neu

ii

ei bod neu ei fod yn berthnasol fel arall i arfer pŵer o’r fath;

b

cyfarwyddo person i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.

3

Caiff cwnstabl ddefnyddio grym rhesymol wrth arfer pŵer o dan—

a

rheoliad 28(2)(b)(ii), (4)(c) neu (5)(b);

b

rheoliad 29(4)(b) neu (8)(b);

c

rheoliad 30(b);

d

rheoliad 31(2)(b), (d) neu (e)(ii), neu (3)(c) neu (e);

e

rheoliad 32(1)(b) neu (3)(b);

f

rheoliad 34(1).

4

Ni chaiff swyddog gorfodaeth ond arfer pŵer o dan y Rhan hon os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny.

5

Yn y Rhan hon a Rhan 8, mae cyfeiriadau at ofyniad yn cynnwys cyfeiriadau at gyfyngiad.

Annotations:
Commencement Information
I26

Rhl. 36 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

RHAN 8Troseddau a chosbau

PENNOD 1Troseddau

Troseddau sy’n ymwneud â chynulliadau a bod oddi cartrefI6237

1

Mae person sy’n torri gofyniad yn—

a

Paragraff 1(1) neu 2(1) o Atodlen 1,

b

paragraff 1(1) neu 2(1) neu (3) o Atodlen 2,

c

paragraff 1(1)F352(1) neu 3(1) o Atodlen 3, neu

d

paragraff 1(1) neu 2(1) o Atodlen 4,

yn cyflawni trosedd.

2

Mae person sy’n cymryd rhan mewn cynulliad—

a

sy’n digwydd mewn annedd breifat,

b

lle y mae mwy na 15 o bobl yn bresennol, ac

c

lle y mae pobl yn ymgynnull yn groes i—

i

paragraff 1(1) o Atodlen 1,

ii

paragraff 1(1) o Atodlen 2,

iii

paragraff 1(1) o Atodlen 3, neu

iv

paragraff 2(1) o Atodlen 4,

yn cyflawni trosedd.

F34Troseddau cyfyngiadau teithioI6538

1

Mae person sy’n torri gofyniad yn—

a

rheoliad 14A, neu

b

rheoliad 14B,

yn cyflawni trosedd.

2

Mae’n drosedd i berson ddarparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol ar ffurflen datganiad teithio rhyngwladol o dan reoliad 14B pan fo’r person yn gwybod bod yr wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol, neu’n ddi-hid o ran a yw’r wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol.

3

Nid yw paragraff (2) yn gymwys pan fo’r wybodaeth anwir neu gamarweiniol wedi ei rhoi am resymau diogelwch gwladol.

Troseddau sy’n ymwneud â threfnu digwyddiadauI4539

1

Mae person sy’n torri gofyniad yn—

a

paragraff 4 o Atodlen 1,

b

paragraff 4 o Atodlen 2,

c

F91paragraff 5 o Atodlen 3,

d

paragraff 4 o Atodlen 4,

yn cyflawni trosedd.

2

Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn ymwneud â threfnu digwyddiad cerddoriaeth mawr sydd heb ei drwyddedu yn cyflawni trosedd.

3

At ddibenion paragraff (2)

a

ystyr “digwyddiad cerddoriaeth mawr sydd heb ei drwyddedu” yw digwyddiad—

i

y mae mwy na 30 o bobl yn bresennol ynddo,

ii

lle y mae cerddoriaeth yn cael ei chwarae neu ei pherfformio at ddiben adloniant neu at ddibenion sy’n cynnwys y diben hwnnw, a

iii

lle o ran chwarae neu berfformio cerddoriaeth—

aa

y mae’n weithgaredd trwyddedadwy (o fewn ystyr “licensable activity” yn Neddf Trwyddedu 200311), a

bb

nas cynhelir o dan awdurdodiad nac yn unol ag awdurdodiad (o fewn yr ystyr a roddir i “authorisation” gan adran 136(5) o’r Ddeddf honno);

b

nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad cerddorol mawr sydd heb ei drwyddedu os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad drwy fynd iddo.

Troseddau sy’n ymwneud â gofynion ynysu ac olrhain cysylltiadauI10740

1

Mae person sydd—

a

yn torri gofyniad yn rheoliad 6(2), 7(2), 8(2), 9(2)F94... neu 12, neu

b

heb esgus rhesymol, yn torri gofyniad yn rheoliad 6(3), 7(3), 8(3)F159neu 9(3) ,

yn cyflawni trosedd.

2

Mae’n drosedd i berson (“P”) roi gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i swyddog olrhain cysylltiadau—

a

o dan reoliad 6(3), 7(3), 8(3)F105neu 9(3) , neu

b

ynghylch—

i

gwybodaeth gyswllt P, neu

ii

personau y gall P fod wedi dod i gysylltiad agos â hwy,

pan fo P yn gwybod bod yr wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol, neu pan fo P yn ddi-hid o ran a yw’r wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol.

3

Ym mharagraff (2), mae i “cysylltiad agos” yr un ystyr ag yn Rhan 3.

Trosedd o fethu â gwisgo gorchudd wynebI1441

Mae person sy’n torri’r gofyniad yn rheoliad 19(1) neu 20(1) yn cyflawni trosedd.

Annotations:
Commencement Information
I14

Rhl. 41 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Troseddau sy’n ymwneud â busnesau a gwasanaethauI19042

1

Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn torri gofyniad yn—

a

F21paragraff 7(1) o Atodlen 1,

b

F32paragraff 7(1) o Atodlen 2,

c

paragraffau 7(1), 8(1) neu F1199(1) o Atodlen 3, neu

d

paragraffau 7(1), 8(1), 9(1)F51, 10(1) neu 11(3) o Atodlen 4,

yn cyflawni trosedd.

2

Mae gweithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus sydd, heb esgus rhesymol, yn torri’r gofyniad yn rheoliad 19(5) yn cyflawni trosedd.

3

Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chymryd y mesurau a bennir mewn hysbysiad gwella mangre a ddyroddir o dan baragraff 1(1) o Atodlen 8 o fewn y terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad yn cyflawni trosedd.

4

Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn torri paragraff 3(1) o Atodlen 8 yn cyflawni trosedd.

5

Mae person sydd—

a

yn torri paragraff 3(2) o Atodlen 8, neu

b

heb esgus rhesymol, yn tynnu, yn cuddio neu’n difrodi hysbysiad neu arwydd y mae’n ofynnol ei arddangos o dan baragraff 7(2)(a) o’r Atodlen honno,

yn cyflawni trosedd.

Rhwystro a thorri cyfarwyddydau a hysbysiadau cydymffurfioI12243

1

Mae person sy’n rhwystro, heb esgus rhesymol, unrhyw berson rhag cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd.

2

Mae person sydd, heb esgus rhesymol—

a

yn torri cyfarwyddyd a roddir—

i

gan swyddog gorfodaeth o dan Ran 7, neu

ii

gan weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, cyflogai i’r gweithredwr, neu berson sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr, o dan reoliad 32(2), neu

b

yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio a roddir gan swyddog gorfodaeth o dan reoliad 27(1),

yn cyflawni trosedd.

Annotations:
Commencement Information
I122

Rhl. 43 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

CosbI4244

Mae trosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w chosbi ar euogfarn ddiannod drwy ddirwy.

Annotations:
Commencement Information
I42

Rhl. 44 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Arestio heb warantI8845

Mae adran 24 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 198412 yn gymwys mewn perthynas â throsedd o dan y Rheoliadau hyn fel pe bai’r rhesymau yn is-adran (5) yn cynnwys—

a

cynnal iechyd y cyhoedd;

b

cynnal trefn gyhoeddus.

Annotations:
Commencement Information
I88

Rhl. 45 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Troseddau a gyflawnwyd gan gyrff corfforedig etc.I1346

1

Os profir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforedig—

a

wedi ei chyflawni â chydsyniad neu ymoddefiad swyddog i’r corff, neu

b

i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog o’r fath,

mae’r swyddog (yn ogystal â’r corff corfforedig) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn, i gael achos yn ei erbyn a’i gosbi yn unol â hynny.

2

Ym mharagraff (1), ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforedig, yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforedig.

3

Caniateir i achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth gael ei ddwyn yn enw’r bartneriaeth yn hytrach nag yn enw unrhyw un neu ragor o’r partneriaid.

4

Caniateir i achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan gorff anghorfforedig ac eithrio partneriaeth gael ei ddwyn yn enw’r corff yn hytrach nag yn enw unrhyw un neu ragor o’i aelodau ac, at ddibenion unrhyw achos o’r fath, mae unrhyw reolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r corff hwnnw yn gorff corfforedig.

5

Mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 192513 ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 198014 yn gymwys mewn achos am drosedd a ddygir yn erbyn partneriaeth neu gorff anghorfforedig ac eithrio partneriaeth fel y maent yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforedig.

6

Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth ar ei heuogfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu o asedau’r bartneriaeth.

7

Mae dirwy a osodir ar gorff anghorfforedig ac eithrio partneriaeth ar ei euogfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu o gronfeydd y corff.

Annotations:
Commencement Information
I13

Rhl. 46 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

PENNOD 2Cosbau penodedig

Hysbysiadau cosb benodedigI10547

1

Caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i berson y mae’r swyddog yn credu’n rhesymol—

a

ei fod wedi cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau hyn, a

b

ei fod yn 18 oed neu drosodd.

2

Hysbysiad yw hysbysiad cosb benodedig sy’n cynnig i’r person y’i dyroddir iddo y cyfle i gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig i—

a

awdurdod lleol, neu

b

person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn,

a bennir yn yr hysbysiad.

3

Caiff Gweinidogion Cymru eu dynodi hwy eu hunain o dan baragraff (2)(b).

4

Mae person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan—

a

rheoliad 13 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020,

b

rheoliad 21 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020,

c

rheoliad 31 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020, neu

d

rheoliad 37 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020

i’w drin fel pe bai wedi ei ddynodi at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn.

5

Pan fo awdurdod lleol wedi ei bennu yn yr hysbysiad rhaid iddo fod yn awdurdod (neu yn ôl y digwydd, un o’r awdurdodau) yr honnir bod y drosedd wedi ei chyflawni yn ei ardal.

6

Pan fo hysbysiad wedi ei ddyroddi i berson o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â throsedd—

a

ni chaniateir dwyn unrhyw achos am y drosedd cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y dyroddir yr hysbysiad;

b

ni chaniateir euogfarnu’r person o’r drosedd os yw’r person yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I105

Rhl. 47 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Swm cosb benodedig: cyffredinolI6648

1

Oni bai bod rheoliad 49, F10949A,50, 51 neu 52 yn gymwys, swm cosb benodedig yw—

a

£60, neu

b

os telir £30 cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau yn dilyn dyddiad yr hybysiad, £30.

2

Ond os yw’r person y dyroddir hysbysiad cosb benodedig o’r fath iddo eisoes wedi cael hysbysiad cosb benodedig perthnasol—

a

nid yw paragraff (1) yn gymwys, a

b

y swm a bennir fel y gosb benodedig yw—

i

yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir, £120;

ii

yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir, £240;

iii

yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir, £480;

iv

yn achos y pumed hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir, £960;

v

yn achos y chweched hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir wedi hynny, £1,920.

3

Ym mharagraff (2), ystyr “hysbysiad cosb benodedig perthnasol” yw—

a

hysbysiad cosb benodedig pan fo swm y gosb benodedig wedi ei bennu o dan y rheoliad hwn;

b

hysbysiad cosb benodedig o dan—

i

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020,

ii

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 ac eithrio hysbysiad y mae rheoliad 21(7A) o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddo,

iii

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020 ac eithrio hysbysiad y mae rheoliad 31(8) o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddo,

iv

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 ac eithrio hysbysiad y mae rheoliad 39, 40, 41 neu 42 o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddo,

v

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 202015.

Swm cosb benodedig: cymryd rhan mewn cynulliad mawr mewn annedd breifatI17449

Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad â throsedd honedig o dan reoliad 37(2), swm y gosb benodedig yw £60.

Annotations:
Commencement Information
I174

Rhl. 49 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

F182Swm cosb benodedig: gofynion teithio rhyngwladol49A

Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad â throsedd honedig o dan reoliad 38(1)(a), swm y gosb benodedig yw £5000.

Swm cosb benodedig: trefnu digwyddiadI3850

1

Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad â throsedd honedig o dan reoliad 39(1), swm y gosb benodedig yw £500.

2

Ond os yw’r person y dyroddir iddo hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd honedig o’r fath eisoes wedi cael hysbysiad cosb benodedig perthnasol—

a

nid yw paragraff (1) yn gymwys, a

b

swm y gosb benodedig yw—

i

yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, £1,000;

ii

yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, £2,000;

iii

yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig a geir wedi hynny, £4,000.

3

Ym mharagraff (2), ystyr “hysbysiad cosb benodedig perthnasol” yw—

a

hysbysiad cosb benodedig pan fo swm y gosb benodedig wedi ei bennu o dan y rheoliad hwn;

b

hysbysiad cosb benodedig o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 y mae rheoliad 40 o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddo.

Annotations:
Commencement Information
I38

Rhl. 50 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Swm cosb benodedig: trefnu digwyddiad cerddoriaeth sydd heb ei drwyddeduI16451

Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad â throsedd honedig o dan reoliad 39(2), swm y gosb benodedig yw £10,000.

Annotations:
Commencement Information
I164

Rhl. 51 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Swm cosb benodedig: troseddau sy’n gysylltiedig â busnesI13852

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i hysbysiad cosb benodedig a ddyroddir mewn cysylltiad â throsedd honedig o dan reoliad 42(1), (2), (3) neu (4) (“trosedd busnes honedig”).

2

Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad â throsedd busnes honedig, swm y gosb benodedig yw £1,000.

3

Ond os yw’r person y dyroddir iddo hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd busnes honedig eisoes wedi cael hysbysiad cosb benodedig perthnasol—

a

nid yw paragraff (2) yn gymwys, a

b

swm y gosb benodedig yw—

i

yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, £2,000;

ii

yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, £4,000;

iii

yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir wedi hynny, £10,000.

4

Ym mharagraff (3), ystyr “hysbysiad cosb benodedig perthnasol” yw—

a

hysbysiad cosb benodedig a ddyroddir mewn cysylltiad â throsedd busnes honedig;

b

hysbysiad cosb benodedig o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 y mae rheoliad 42 o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddo.

Annotations:
Commencement Information
I138

Rhl. 52 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Cosbau penodedig: ffurf a gweithdrefnI17953

1

Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—

a

rhoi manylion rhesymol fanwl am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd;

b

datgan y cyfnod pryd (oherwydd rheoliad 47(6)(a)) na ddygir achos am y drosedd;

c

pennu swm y gosb benodedig a bennir o dan reoliad 48, 49, F13249A,50, 51 neu 52 (yn ôl y digwydd);

d

datgan enw a chyfeiriad y person y caniateir talu’r gosb benodedig iddo;

e

pennu dulliau o dalu a ganiateir.

2

Pa ddull bynnag arall a bennir o dan baragraff (1)(e), caniateir talu cosb benodedig drwy dalu ymlaen llaw a phostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb (mewn arian parod neu fel arall) at y person y nodir ei enw o dan baragraff (1)(d) i’r cyfeiriad a nodir.

3

Pan fo llythyr yn cael ei anfon fel y’i crybwyllir ym mharagraff (2), ystyrir bod taliad wedi ei wneud ar yr adeg y byddai’r llythyr hwnnw wedi cael ei ddanfon yn nhrefn arferol y post.

4

Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif—

a

sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran y person a chanddo gyfrifoldeb am faterion ariannol—

i

yr awdurdod lleol, neu

ii

y person sydd wedi ei ddynodi o dan reoliad 47(2)(b),

a bennir yn yr hysbysiad cosb benodedig y mae’r achos yn ymwneud ag ef, a

b

sy’n datgan bod y taliad am gosb benodedig wedi dod i law, neu heb ddod i law, erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif,

yn dystiolaeth o’r ffeithiau a nodwyd.

Hysbysiadau cosb benodedig: gwahardd cosbi ddwywaithI13054

1

Pan fo’r un weithred neu anweithred, neu fwy neu lai yr un weithred neu anweithred, gan berson yn gallu arwain at gred resymol bod y person wedi cyflawni mwy nag un drosedd o dan y Rheoliadau hyn, ni chaniateir dyroddi hysbysiad cosb benodedig i’r person ond mewn cysylltiad ag un o’r troseddau honedig.

2

Ond caniateir dyroddi hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd honedig o dan reoliad 37(1) yn ogystal â throsedd honedig o dan reoliad 37(2) pan fo’r un weithred, neu fwy neu lai yr un weithred, gan berson yn arwain at gred resymol bod y person wedi cyflawni’r naill drosedd a’r llall.

Annotations:
Commencement Information
I130

Rhl. 54 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

PENNOD 3Achosion

HunanargyhuddoI15755

1

Caniateir i wybodaeth berthnasol gael ei defnyddio fel tystiolaeth yn erbyn y person y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef mewn achos troseddol.

2

Pan fo’r wybodaeth yn cael ei defnyddio mewn achos ac eithrio am drosedd o dan y Rheoliadau hyn neu adran 5 o Ddeddf Anudon 191116 (datganiadau anwir a wneir ac eithrio ar lw)—

a

ni chaniateir i unrhyw dystiolaeth sy’n ymwneud â’r wybodaeth gael ei rhoi gan yr erlyniad nac ar ei ran, a

b

ni chaniateir i unrhyw gwestiwn sy’n ymwneud â’r wybodaeth gael ei ofyn gan yr erlyniad nac ar ei ran.

3

Nid yw paragraff (2) yn gymwys—

a

os rhoddir tystiolaeth sy’n ymwneud â’r wybodaeth gan y person a’i darparodd, neu ar ei ran, yn ystod yr achos, neu

b

os gofynnir cwestiwn sy’n ymwneud â’r wybodaeth gan y person hwnnw, neu ar ei ran, yn ystod yr achos.

4

Yn y rheoliad hwn, ystyr “gwybodaeth berthnasol” yw—

a

gwybodaeth sy’n wybodaeth berthnasol at ddibenion rheoliad 14;

b

gwybodaeth, neu’r ateb i gwestiwn, a roddir mewn ymateb i ofyniad a osodir o dan reoliad 36(1);

c

unrhyw beth sydd wedi ei gynnwys mewn dogfen neu gofnodion electronig a ddangosir mewn ymateb i ofyniad a osodir o dan baragraff 8(1) o Atodlen 8.

Annotations:
Commencement Information
I157

Rhl. 55 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

ErlynI7856

1

Ni chaniateir dwyn achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn ond gan—

a

y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus,

b

unrhyw berson sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru, neu

c

mewn perthynas ag achos am F150drosedd a grybwyllir ym mharagraff (1A), awdurdod lleol.

F1711A

Y troseddau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(c) yw—

a

trosedd o dan reoliad 42 ac eithrio trosedd o dan baragraff (2) o’r rheoliad hwnnw;

b

trosedd o dan reoliad 43(1) pan fo’r person sy’n cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn yn swyddog gorfodaeth sydd wedi ei ddynodi gan awdurdod lleol;

c

trosedd o dan reoliad 43(2)(a)(i) neu (b) pan fo’r swyddog gorfodaeth sy’n rhoi’r cyfarwyddyd neu’r hysbysiad cydymffurfio yn berson sydd wedi ei ddynodi gan awdurdod lleol.

2

Mae person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru o dan—

a

rheoliad 14 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020,

b

rheoliad 22 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020,

c

rheoliad 32 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020, neu

d

rheoliad 46 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020,

i’w drin fel pe bai wedi ei ddynodi o dan y rheoliad hwn.

RHAN 9Cyffredinol

DehongliI3257

1

Yn y Rheoliadau hyn—

a

“mae i “alcohol” yr ystyr a roddir i “alcohol” gan adran 191 o Ddeddf Trwyddedu 200317;

b

ystyr “seremoni briodas arall” yw seremoni—

i

sy’n seiliedig ar ffydd neu gred person, neu ei ddiffyg cred, i nodi uniad dau o bobl, ac eithrio seremoni at ddibenion gweinyddiad priodas neu ffurfio partneriaeth sifil,

ii

a gynhelir mewn mangre reoleiddiedig, a

iii

a drefnir gan sefydliad elusennol, llesiannol neu ddyngarol;

c

ystyr “gofalwr” yw person sy’n darparu gofal ar gyfer y person a gynorthwyir pan fo—

i

hawlogaeth gan y gofalwr i asesiad o dan adran 24 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 201418,

ii

y gofal yn rhan o ddarparu gwasanaethau gofal cymunedol o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, neu

iii

y gofal wedi ei ddarparu gan ddarparwr gofal sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 201619;

d

ystyr “plentyn” yw person sydd o dan 18 oed;

F147da

ystyr “gwasanaeth cysylltiad agos” yw gwasanaeth a ddarperir fel arfer gan unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

i

salonau gwallt a barbwyr;

ii

salonau ewinedd a harddwch gan gynnwys gwasanaethau lliw haul ac electrolysis;

iii

gwasanaethau tyllu’r corff a thatŵio;

e

ystyr “gwybodaeth gyswllt”, mewn perthynas â pherson, yw enw’r person a gwybodaeth sy’n ddigon i alluogi cysylltiad â’r person, (gan gynnwys rhif ffôn, ac, mewn perthynas â pherson mewn mangre reoleiddiedig, y dyddiad a’r amser yr oedd y person yn y fangre);

f

ystyr “swyddog olrhain cysylltiadau” yw—

i

person sydd wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen at ddibenion y gwasanaeth iechyd (o fewn ystyr “the health service” yn adran 206 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 200620 neu adran 108 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 197821);

ii

person sydd wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen gan awdurdod lleol,

sydd wedi ei ddynodi at ddibenion Rhan 3 gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru22 neu awdurdod lleol;

g

ystyr “coronafeirws” yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);

F179h

ystyr “athletwr elît” yw unigolyn—

i

sy’n ennill bywoliaeth o gystadlu mewn camp,

ii

sydd wedi ei ddynodi’n athletwr elît gan Gyngor Chwaraeon Cymru at ddibenion—

aa

y Rheoliadau hyn,

bb

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020,

cc

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020,

dd

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020, neu

ee

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020,

iii

sy’n “mabolgampwr elît” o fewn yr ystyr a roddir i “elite sportsperson” gan reoliad 2(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cyfyngiadau) (Pob Haen) (Lloegr) 2020,

iv

sy’n “mabolgampwr proffesiynol” o fewn yr ystyr a roddir i “professional sportsperson” gan reoliad 2(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws) (Cyfyngiadau a Gofynion) (Lefelau Lleol) (Yr Alban) 2020, neu

v

sy’n “athletwr elît” o fewn yr ystyr a roddir i “elite athlete” gan baragraff 39(2) o Atodlen 2 i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Gogledd Iwerddon) 2020;

i

ystyr “digwyddiad chwaraeon elît” yw digwyddiad chwaraeon nad yw ond athletwyr elît yn cystadlu ynddo;

j

ystyr “gorchudd wyneb” yw gorchudd o unrhyw fath sy’n gorchuddio trwyn a cheg person;

k

ystyr “busnes bwyd a diod” yw—

i

bariau (gan gynnwys bariau mewn clybiau aelodau);

ii

tafarndai;

iii

caffis, ffreuturau a bwytai (gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle ac ystafelloedd bwyta mewn clybiau aelodau);

l

ystyr “safle gwyliau” yw unrhyw dir yng Nghymru lle y gosodir cartref symudol neu garafán at ddibenion byw gan bobl (gan gynnwys unrhyw dir yng Nghymru a ddefnyddir ar y cyd â’r tir hwnnw), y mae’r caniatâd cynllunio perthnasol neu’r drwydded safle ar gyfer y tir mewn cysylltiad ag ef—

i

wedi ei fynegi i’w roi neu wedi ei mynegi i’w rhoi at ddefnydd gwyliau yn unig, neu

ii

yn ei gwneud yn ofynnol bod adegau o’r flwyddyn pan na chaniateir gosod unrhyw gartref symudol neu garafán ar y safle i bobl fyw ynddo neu ynddi.

m

ystyr “llety gwyliau neu lety teithio” yw llety mewn—

i

safleoedd gwersylla;

ii

safleoedd gwyliau;

iii

gwestai a llety gwely a brecwast;

iv

llety gwyliau arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau, hostelau a thai byrddio);

n

ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

o

mae i “cyfrifoldeb rhiant” yr un ystyr ag a roddir i “parental responsibility” yn Neddf Plant 198923;

p

mae “person sy’n gyfrifol am gynnal busnes” yn cynnwys perchennog a rheolwr y busnes hwnnw;

q

mae “mangre” yn cynnwys unrhyw adeilad neu strwythur ac unrhyw dir;

r

ystyr “gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus” yw gwasanaeth a ddarperir i’r cyhoedd ar gyfer cludo teithwyr ar ffordd, ar reilffordd, ar dramffordd, yn yr awyr neu ar y dŵr;

s

mae i “mangre reoleiddiedig” yr ystyr a roddir gan reoliad 15(1);

F183t

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

u

ystyr “aelwyd un oedolyn” yw—

i

aelwyd sydd ag 1 oedolyn (ac unrhyw nifer o blant), neu

ii

aelwyd sydd ag—

aa

1 oedolyn sydd â chyfrifoldebau gofalu am 1 oedolyn arall neu ragor ar yr aelwyd,

bb

yr oedolyn neu’r oedolion y gofelir amdanynt,

cc

dim oedolion eraill, a

dd

unrhyw nifer o blant;

v

mae “cerbyd” yn cynnwys awyren, car cebl, trên, tram a llestr;

w

mae “person hyglwyf” yn cynnwys—

i

unrhyw berson sy’n 70 oed neu’n hŷn;

ii

unrhyw berson o dan 70 oed sydd â chyflwr iechyd isorweddol;

iii

unrhyw berson sy’n feichiog;

iv

unrhyw blentyn;

v

unrhyw berson sy’n oedolyn hyglwyf o fewn yr ystyr a roddir i “vulnerable adult” gan adran 60(1) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 200626.

2

At ddibenion penderfynu a yw safle yn safle gwyliau ai peidio yn unol â pharagraff (1)(l), mae unrhyw ddarpariaeth yn y caniatâd cynllunio perthnasol neu yn y drwydded safle sy’n caniatáu gosod cartref symudol ar y tir i bobl fyw ynddo drwy gydol y flwyddyn i’w hanwybyddu os yw wedi ei hawdurdodi i’r canlynol feddiannu’r cartref symudol—

a

y person sy’n berchen ar y safle, neu

b

person sydd wedi ei gyflogi gan y person hwnnw nad yw’n meddiannu’r cartref symudol o dan gytundeb y mae Rhan 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 201327 yn gymwys iddo.

3

Yn y Rheoliadau hyn, o ran cyfeiriadau at “annedd breifat”—

a

maent yn cynnwys cwch preswyl ac unrhyw ardd, iard, tramwyfa, gris, tŷ allan neu unrhyw atodyn arall i’r annedd;

b

nid ydynt yn cynnwys y canlynol—

i

llety gwyliau neu lety teithio;

ii

llety mewn gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, o fewn yr ystyr a roddir i’r termau hynny gan Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;

iii

llety cyfiawnder troseddol.

4

At ddibenion y Rheoliadau hyn—

a

mae cynulliad pan fydd dau neu ragor o bobl yn yr un man er mwyn gwneud rhywbeth gyda’i gilydd;

b

mae digwyddiad yn achlysur—

i

sydd wedi ei gynllunio neu ei amserlennu at ddiben penodol, a

ii

pan fo unrhyw nifer o bobl yn yr un man at y diben hwnnw, pa un a ydynt yn cymryd rhan mewn cynulliad ai peidio.

5

At ddibenion y Rheoliadau hyn—

a

mae mangre o dan do os yw’n gaeedig neu’n sylweddol gaeedig o fewn yr ystyr a roddir gan F73reoliad 3 o Reoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020 ;

b

mae mangre wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol pan fo awdurdodiad wedi ei ganiatáu neu ei roi i’r fangre o dan Ddeddf Trwyddedu 2003, ac mae i “awdurdodiad” yr ystyr a roddir i “authorisation” gan adran 136(5) o’r Ddeddf honno.

6

At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae mangre sinema neu theatr yn sinema o sedd cerbyd neu’n theatr o sedd cerbyd—

a

os yw’r fangre yn yr awyr agored, a

b

os o ran personau sy’n mynd i arddangosiad ffilm neu berfformiad yn y fangre—

i

ni chânt ond gwneud hynny mewn cerbyd caeedig, a

ii

ni chânt, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, adael y cerbyd tra byddant yn y fangre.

7

At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae gweithgaredd “wedi ei drefnu”—

a

os yw wedi ei drefnu gan—

i

busnes,

ii

corff cyhoeddus neu sefydliad elusennol, llesiannol, addysgol neu ddyngarol,

iii

clwb neu sefydliad gwleidyddol, neu

iv

corff llywodraethu cenedlaethol camp neu weithgaredd arall, a

b

os yw’r person sy’n ei drefnu wedi—

i

cynnal asesiad risg a fyddai’n bodloni gofynion rheoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 199929, pa un a yw’r person yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hynny ai peidio, a

ii

cydymffurfio â gofynion rheoliadau 16 ac 18(1).

8

At ddibenion paragraff (7)(b)

a

mae rheoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 yn gymwys fel pe bai’r gweithgaredd yn ymgymeriad a wneir gan y person sy’n ei drefnu;

b

mae rheoliad 16 o’r Rheoliadau hyn yn gymwys fel pe bai—

i

y man lle y mae’r gweithgaredd yn digwydd yn fangre reoleiddiedig at ddibenion y rheoliad hwnnw, a

ii

y person sy’n trefnu’r gweithgaredd oedd y person cyfrifol mewn perthynas â’r fangre reoleiddiedig honno.

DirymuI8158

Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—

a

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020, ac eithrio rheoliad 48;

b

rheoliad 4 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 202030;

c

rheoliad 6 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 202031.

Annotations:
Commencement Information
I81

Rhl. 58 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Diwygiad canlyniadolI10959

Yn rheoliad 19(10) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020, ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—

e

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 os yw rheoliad 48 o’r Rheoliadau hynny yn gymwys i’r hysbysiad.

Annotations:
Commencement Information
I109

Rhl. 59 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Mark DrakefordY Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

ATODLEN 1Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 1

Rheoliad 4(2)

RHAN 1Cyfyngiadau ar ymgynnull

Cyfyngiad ar gynulliadau mewn anheddau preifatI631

1

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad mewn annedd breifat sy’n cynnwys mwy na 6 o bobl oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig.

2

Wrth bennu, at ddibenion is-baragraff (1), nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad nid yw’r canlynol i’w hystyried—

a

unrhyw blant o dan 11 oed, neu

b

gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.

3

At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—

a

os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

b

os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (5) yn gymwys.

4

Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—

a

cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

F45b

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

c

cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol;

d

darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

e

mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

f

symud cartref;

g

ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

h

cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.

5

Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3)(b) yw bod y person yn—

a

darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

b

osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed.

F198c

gweithio neu’n darparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol, neu’n cael gwasanaethau oddi wrth berson sy’n gweithio neu’n darparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

6

Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

Cyfyngiad ar gynulliadau mewn mannau cyhoeddusI1022

1

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad sy’n digwydd ac eithrio mewn annedd breifat—

a

o dan do, neu yn yr awyr agored mewn mangre reoleiddiedig, sy’n cynnwys mwy na 6 o bobl oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd;

b

yn yr awyr agored mewn mangre nad yw’n fangre reoleiddiedig, sy’n cynnwys mwy na 30 o bobl oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu aelwyd estynedig.

2

Wrth bennu, at ddibenion is-baragraff (1), nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad nid yw’r canlynol i’w hystyried—

a

unrhyw blant o dan 11 oed, neu

b

gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.

3

At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—

a

os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

b

os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (5) yn gymwys.

4

Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—

a

cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

b

gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

c

cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

d

darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

e

mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

f

symud cartref;

g

ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

h

cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;

i

cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.

5

Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3)(b) yw bod y person yn—

a

darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

b

osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

c

mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—

i

fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall,

ii

os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu

iii

fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;

d

mynd i angladd—

i

fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

ii

os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

iii

fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;

F108e

cymryd rhan mewn cynulliad o dan do o ddim mwy na 50 o bobl mewn mangre reoleiddiedig, neu gynulliad yn yr awyr agored o ddim mwy na 100 o bobl mewn mangre o’r fath, heb gyfrif (yn y naill achos na’r llall) bersonau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y fangre, i—

i

dathlu gweinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall a ddigwyddodd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;

ii

dathlu bywyd person ymadawedig y cynhelir ei angladd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;

f

mynd i addoldy;

g

athletwr elît ac yn hyfforddi neu’n cystadlu;

h

darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn digwyddiad chwaraeon elît;

i

cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu o dan do neu hwyluso digwyddiad o’r fath—

i

nad oes mwy na 50 o bobl yn bresennol ynddo, heb gyfrif personau o dan 11 oed neu bersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, a

ii

nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed ynddo;

j

cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored neu hwyluso digwyddiad o’r fath—

i

nad oes mwy na 100 o bobl yn bresennol ynddo, heb gyfrif personau o dan 11 oed neu bersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, F145oni bai bod y gweithgaredd wedi ei drefnu at ddibenion protestio, neu bicedu a gynhelir yn unol â Deddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 a

ii

nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed ynddo;

k

cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu, neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw, er datblygiad neu lesiant plant (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol);

l

mynd i ddigwyddiad neu hwyluso digwyddiad sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 5.

Aelwydydd estynedigI293

1

Caiff hyd at 3 aelwyd gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig.

2

Yn ychwanegol at yr hyd at 3 aelwyd a gaiff gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan is-baragraff (1), caiff 1 aelwyd F30anghenion llesiant hefyd gytuno i gael ei thrin fel rhan o’r aelwyd estynedig honno.

3

Er mwyn cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig, rhaid F190i holl aelodau’r aelwydydd gytuno.

4

Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o 1 aelwyd estynedig F2ar unrhyw un adeg.

5

Pan fo aelwydydd wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan—

a

paragraff 3 o Atodlen 2,

b

paragraff 3 o Atodlen 3, neu

F100ba

paragraff 4 o Atodlen 3A,

c

paragraff 3 o Atodlen 4,

mae’r aelwydydd hynny i’w trin fel pe baent wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan y paragraff hwn.

6

Mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig os yw unrhyw aelod o’r aelwyd F180... yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig.

F1746A

Mae is-baragraff (6B) yn gymwys—

a

pan fo person a fyddai’n aelod o aelwyd estynedig, neu sy’n aelod o aelwyd estynedig, yn blentyn, a

b

pan fo person (“P”) a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn aelod o aelwyd y plentyn.

6B

Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys—

a

mae’r cytundeb sy’n ofynnol gan is-baragraff (3) i’w roi gan P (ac nid gan y plentyn), a

b

mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig yn unol ag is-baragraff (6) os yw P yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig (pa un a yw’r plentyn yn peidio â chytuno hefyd ai peidio).

7

Os yw aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig gydag unrhyw aelwyd arall F98oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag unrhyw aelod o aelwyd arall gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig â’r aelwyd honno .

8

Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at aelwyd estynedig yn gyfeiriadau at aelwyd estynedig a ffurfir o dan neu yn rhinwedd y paragraff hwn.

F1409

Yn y paragraff hwn, ystyr “aelwyd anghenion llesiant” yw—

a

aelwyd un oedolyn;

b

aelwyd ag 1 neu ragor o blant a dim oedolion.

RHAN 2Cyfyngiadau ar drefnu digwyddiadau

Gwaharddiad ar drefnu digwyddiadauI1004

1

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymwneud â threfnu—

a

digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do lle y mae mwy na 50 o bobl yn bresennol, neu

b

digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored lle y mae mwy na 100 o bobl yn bresennol,

heb gyfrif personau F168... sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.

2

Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n ymwneud â threfnu digwyddiad a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 5.

3

At ddibenion is-baragraff (1)

a

nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad drwy fynd iddo;

b

mae esgus rhesymol yn cynnwys pan fo’r person wedi cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau nad oes mwy na 50 neu 100 o bobl yn bresennol, yn ôl y digwydd;

c

nid yw’r canlynol i’w trin yn ddigwyddiadau—

i

arddangosiad ffilm;

ii

perfformiad mewn theatr;

iii

marchnad;

iv

gwasanaeth crefyddol;

v

digwyddiad chwaraeon elît nad yw ond athletwyr elît a phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo yn bresennol ynddo.

Digwyddiadau awdurdodedigI925

1

Caiff Gweinidogion Cymru roi awdurdodiad ysgrifenedig i ddigwyddiad gael ei gynnal—

a

lle y mae mwy na 50 o bobl yn bresennol pan fo’r digwyddiad yn digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do, neu

b

lle y mae mwy na 100 o bobl yn bresennol pan fo’r digwyddiad yn digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored;

2

Nid yw’r cyfeiriadau yn is-baragraff (1) at niferoedd o bobl yn cynnwys personau F129... sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.

3

Caniateir rhoi awdurdodiad o dan is-baragraff (1) mewn perthynas â digwyddiad penodol neu ddisgrifiad penodol o ddigwyddiadau.

4

O ran awdurdodiad o dan is-baragraff (1)

a

rhaid iddo gael ei roi i berson y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn gyfrifol am drefnu’r digwyddiad, a

b

caiff ei gwneud yn ofynnol i’r digwyddiad gael ei gynnal yn unol ag unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru.

5

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi—

a

awdurdodiad a roddir o dan is-baragraff (1), a

b

manylion unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â digwyddiad sydd i’w gynnal o dan yr awdurdodiad.

6

Caiff Gweinidogion Cymru dynnu awdurdodiad yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person y rhoddwyd yr awdurdodiad iddo.

7

Ni chaniateir i awdurdodiad gael ei dynnu yn ôl o dan baragraff (6)

a

onid oes gan Weinidogion Cymru sail resymol dros gredu na chaiff y digwyddiad ei gynnal, neu nad yw’n cael ei gynnal, yn unol â gofyniad, cyfyngiad neu amod arall a bennir ganddynt, neu

b

onid yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur tynnu’r awdurdodiad yn ôl at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint gan y coronafeirws.

RHAN 3Cyfyngiadau ar deithio

Cyfyngiad ar deithio i ardal Lefel Rhybudd 1 ac o ardal Lefel Rhybudd 1F196I1836

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

RHAN 4Cyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau penodol

Cau mangreoedd a ddefnyddir gan fusnesau a gwasanaethau penodolI1707

1

O ran person sy’n gyfrifol am gynnal neu ddarparu busnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 9 neu 10

a

rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes neu’r gwasanaeth, a

b

ni chaiff gynnal y busnes neu’r gwasanaeth yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r rheoliad hwn.

2

Nid yw is-baragraff (1) yn atal—

a

gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;

b

defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;

c

defnyddio mangre i ddarlledu heb gynulleidfa yn bresennol yn y fangre (pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu) neu i ymarfer F188...;

d

defnyddio mangre ar gyfer darparu gwasanaethau neu wybodaeth (gan gynnwys gwerthu, llogi neu ddanfon nwyddau neu wasanaethau)—

i

drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

ii

dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu

iii

drwy’r post.

3

Pan—

a

bo’n ofynnol, yn rhinwedd y paragraff hwn, i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a

b

bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.

Cyfyngiadau ar fangreoedd trwyddedigF4I1528

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Busnesau neu wasanaethau y mae rhaid cau eu mangreoeddI1559

Clybiau nos, disgos, neuaddau dawnsio neu leoliadau eraill sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol lle y darperir cerddoriaeth fyw neu wedi ei recordio i aelodau’r cyhoedd neu aelodau’r lleoliad ddawnsio.

Annotations:
Commencement Information
I155

Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

ATODLEN 2Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 2

Rheoliad 4(3)

RHAN 1Cyfyngiadau ar ymgynnull

Cyfyngiad ar gynulliadau mewn anheddau preifatI561

F1611

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad mewn annedd breifat oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig.

F611A

Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath yn yr awyr agored os nad oes mwy na 6 pherson yn y cynulliad.

2

Wrth bennu, at ddibenion F6is-baragraff (1A) , nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad, nid yw’r canlynol i’w ystyried—

a

unrhyw blant o dan 11 oed F83, cyhyd â bod y personau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad (gan gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed) yn dod o ddim mwy na 6 aelwyd , neu

b

gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.

3

At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—

a

os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

b

os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (5) yn gymwys.

4

Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—

a

cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

F169b

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

c

cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol;

d

darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

e

mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

f

symud cartref;

g

ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

h

cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.

5

Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3)(b) yw bod y person yn—

a

darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

b

osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

F46ba

gweithio neu’n darparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol, neu’n cael gwasanaethau oddi wrth berson sy’n gweithio neu’n darparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

c

cymryd rhan mewn cynulliad o ddim mwy na 4 o bobl pan fo’r holl bersonau yn y cynulliad—

i

yn byw yn yr un fangre, a

ii

yn rhannu cyfleusterau toiled, ymolchi, bwyta neu goginio gyda’i gilydd.

6

Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

Cyfyngiad ar gynulliadau mewn mannau cyhoeddusI1812

1

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad—

a

sy’n digwydd yn unman ac eithrio—

i

mewn annedd breifat, neu

ii

mewn llety gwyliau neu lety teithio, a

b

sy’n cynnwys mwy na 4 o bobl, heb gynnwys—

i

unrhyw blant o dan 11 oed, na

ii

gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.

2

Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath—

a

sy’n digwydd o dan do F110..., os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd, neu

i

os nad oes mwy na 6 pherson yn y cynulliad neu,

ii

os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd, neu

F141aa

sy’n digwydd yn yr awyr agored mewn mangre reoleiddiedig—

i

os nad oes mwy na 6 pherson yn y cynulliad neu,

ii

os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd, neu

F52b

sy’n digwydd yn yr awyr agored ac eithrio mewn mangre reoleiddiedig—

i

os nad oes mwy na 6 pherson yn y cynulliad, neu

ii

os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig.

3

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad sy’n digwydd mewn llety gwyliau neu lety teithio oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd F33neu’r un aelwyd estynedig.

F1603A

Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath yn yr awyr agored os nad oes mwy na 6 pherson yn y cynulliad.

3B

Wrth bennu, at ddibenion is-baragraffau (2)(aa)(i), (2)(b)(ii) a (3A), nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad, nid yw’r canlynol i’w hystyried—

a

unrhyw blant o dan 11 oed, cyhyd â bod y personau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad (gan gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed) yn dod o ddim mwy na 6 aelwyd, neu

b

gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.

4

At ddibenion is-baragraffau (1) a (3), mae gan berson esgus rhesymol—

a

os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

b

os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (6) yn gymwys.

5

Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—

a

cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

b

gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

c

cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

d

darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

e

mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

f

symud cartref;

g

ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

h

cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;

i

cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.

F123j

ymweld â pherson sy’n preswylio mewn cartref gofal, â chaniatâd darparwr y gwasanaeth.

6

Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4)(b) yw bod y person yn—

a

darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

b

osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

c

mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—

i

fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall,

ii

os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu

iii

fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;

d

mynd i angladd—

i

fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

ii

os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

iii

fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;

F184e

cymryd rhan mewn cynulliad o dan do o ddim mwy na 30 o bobl mewn mangre reoleiddiedig, neu gynulliad yn yr awyr agored o ddim mwy na 50 o bobl mewn mangre o’r fath, heb gyfrif (yn y naill achos na’r llall) bersonau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y fangre, i—

i

dathlu gweinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall a ddigwyddodd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;

ii

dathlu bywyd person ymadawedig y cynhelir ei angladd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;

f

mynd i addoldy;

g

athletwr elît ac yn hyfforddi neu’n cystadlu;

h

darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn digwyddiad chwaraeon elît;

i

cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu o dan do neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw—

i

lle nad yw mwy na F17030 o bobl yn bresennol, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, a

ii

lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;

j

cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw—

F116i

lle nad yw mwy na 50 o bobl yn bresennol, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, oni bai bod y gweithgaredd wedi ei drefnu at ddibenion protestio, neu bicedu a gynhelir yn unol â Deddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992, a

ii

lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;

k

cymryd rhan mewn F104gweithgaredd wedi ei drefnu mewn mangre ac eithrio llety gwyliau neu lety teithio, neu’n hwyluso’r gweithgaredd hwnnw, er datblygiad personau a oedd o dan 18 oed ar 31 Awst 2020 (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol);

l

mynd i ddigwyddiad neu hwyluso digwyddiad sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 5.

7

Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

Aelwydydd estynedigI243

1

Caiff 2 aelwyd gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig.

2

Yn ychwanegol at y 2 aelwyd a gaiff gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan is-baragraff (1), caiff 1 aelwyd F69anghenion llesiant hefyd gytuno i gael ei thrin fel rhan o’r aelwyd estynedig honno.

3

Er mwyn cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig, rhaid F195i holl aelodau’r aelwydydd gytuno.

4

Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o 1 aelwyd estynedig F200ar unrhyw un adeg .

F1435

Pan fo aelwyd wedi cytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig ag aelwydydd eraill o dan baragraff 3 o Atodlen 1 (“yr aelwyd estynedig flaenorol”), dim ond â’r aelwydydd eraill hynny y caiff wneud cytundeb o dan y paragraff hwn, oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag aelod o’r aelwydydd hynny gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig flaenorol.

6

Pan fo aelwydydd wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan—

a

paragraff 3 o Atodlen 3, neu

F117aa

paragraff 4 o Atodlen 3A,

b

paragraff 3 o Atodlen 4,

mae’r aelwydydd hynny i’w trin fel pe baent wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan y paragraff hwn.

7

Mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig os yw unrhyw aelod o’r aelwyd F25... yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig.

F867A

Mae is-baragraff (7B) yn gymwys—

a

pan fo person a fyddai’n aelod o aelwyd estynedig, neu sy’n aelod o aelwyd estynedig, yn blentyn, a

b

pan fo person (“P”) a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn aelod o aelwyd y plentyn.

7B

Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys—

a

mae’r cytundeb sy’n ofynnol gan is-baragraff (3) i’w roi gan P (ac nid gan y plentyn), a

b

mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig yn unol ag is-baragraff (7) os yw P yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig (pa un a yw’r plentyn yn peidio â chytuno hefyd ai peidio).

8

Os yw aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig gydag unrhyw aelwyd arall F5oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag unrhyw aelod o aelwyd arall gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig â’r aelwyd honno .

9

Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at aelwyd estynedig yn gyfeiriadau at aelwyd estynedig a ffurfir o dan neu yn rhinwedd y paragraff hwn.

F910

Yn y paragraff hwn, ystyr “aelwyd anghenion llesiant” yw—

a

aelwyd un oedolyn;

b

aelwyd ag 1 neu ragor o blant a dim oedolion.

RHAN 2Cyfyngiadau ar drefnu digwyddiadau

Gwaharddiad ar drefnu digwyddiadauI1144

1

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymwneud â threfnu—

a

digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do lle y mae mwy na F18730 o bobl yn bresennol, neu

b

digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored lle y mae mwy na F5650 o bobl yn bresennol,

heb gyfrif personau F175... sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.

2

Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n ymwneud â threfnu digwyddiad a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 5.

3

At ddibenion is-baragraff (1)

a

nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad drwy fynd iddo;

b

mae esgus rhesymol yn cynnwys pan fo’r person wedi cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau nad oes mwy na F20830 neu 50 o bobl yn bresennol, yn ôl y digwydd;

c

nid yw’r canlynol i’w trin yn ddigwyddiadau—

i

arddangosiad ffilm;

ii

perfformiad mewn theatr;

iii

marchnad;

iv

gwasanaeth crefyddol;

v

digwyddiad chwaraeon elît nad yw ond athletwyr elît a phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo yn bresennol ynddo.

Digwyddiadau awdurdodedigI515

1

Caiff Gweinidogion Cymru roi awdurdodiad ysgrifenedig i ddigwyddiad gael ei gynnal—

a

lle y mae mwy na F19230 o bobl yn bresennol pan fo’r digwyddiad yn digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do, neu

b

lle y mae mwy na F6450 o bobl yn bresennol pan fo’r digwyddiad yn digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored;

2

Nid yw’r cyfeiriadau yn is-baragraff (1) at niferoedd o bobl yn cynnwys personau F38... sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.

3

Caniateir rhoi awdurdodiad o dan is-baragraff (1) mewn perthynas â digwyddiad penodol neu ddisgrifiad penodol o ddigwyddiadau.

4

O ran awdurdodiad o dan is-baragraff (1)

a

rhaid iddo gael ei roi i berson y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn gyfrifol am drefnu’r digwyddiad, a

b

caiff ei gwneud yn ofynnol i’r digwyddiad gael ei gynnal yn unol ag unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru.

5

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi—

a

awdurdodiad a roddir o dan is-baragraff (1), a

b

manylion unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â digwyddiad sydd i’w gynnal o dan yr awdurdodiad.

6

Caiff Gweinidogion Cymru dynnu awdurdodiad yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person y rhoddwyd yr awdurdodiad iddo.

7

Ni chaniateir i awdurdodiad gael ei dynnu yn ôl o dan baragraff (6)

a

onid oes gan Weinidogion Cymru sail resymol dros gredu na chaiff y digwyddiad ei gynnal, neu nad yw’n cael ei gynnal, yn unol â gofyniad, cyfyngiad neu amod arall a bennir ganddynt, neu

b

onid yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur tynnu’r awdurdodiad yn ôl at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint gan y coronafeirws.

RHAN 3Cyfyngiadau ar deithio

Cyfyngiad ar deithio i ardal Lefel Rhybudd 2 ac o ardal Lefel Rhybudd 2F20I746

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

RHAN 4Cyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau penodol

Cau mangreoedd a ddefnyddir gan fusnesau a gwasanaethau penodolI1717

1

O ran person sy’n gyfrifol am gynnal neu ddarparu busnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 9 neu 10

a

rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes neu’r gwasanaeth, a

b

ni chaiff gynnal y busnes neu’r gwasanaeth yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r rheoliad hwn.

2

Nid yw is-baragraff (1) yn atal—

a

gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;

b

defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;

c

defnyddio mangre i ddarlledu heb gynulleidfa yn bresennol yn y fangre (pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu) neu i ymarfer F167...;

d

defnyddio mangre ar gyfer darparu gwasanaethau neu wybodaeth (gan gynnwys gwerthu, llogi neu ddanfon nwyddau neu wasanaethau)—

i

drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

ii

dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu

iii

drwy’r post.

3

Pan—

a

bo’n ofynnol, yn rhinwedd y paragraff hwn, i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a

b

bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.

Cyfyngiadau ar fangreoedd trwyddedigF24I1498

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Busnesau neu wasanaethau y mae rhaid cau eu mangreoeddI709

Clybiau nos, disgos, neuaddau dawnsio neu leoliadau eraill sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol lle y darperir cerddoriaeth fyw neu wedi ei recordio i aelodau’r cyhoedd neu aelodau’r lleoliad ddawnsio.

Annotations:
Commencement Information
I70

Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I68I7010

Lleoliadau adloniant rhywiol (o fewn yr ystyr a roddir i “sexual entertainment venue” gan baragraff 2A o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982).

Annotations:
Commencement Information
I68

Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

F13011

Rinciau sglefrio iâ.

F79ATODLEN 3Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 3

Rheoliad 4(4)

Annotations:
Amendments (Textual)

RHAN 1Cyfyngiadau ar ymgynnull

Cyfyngiad ar gynulliadau mewn anheddau preifat1

1

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad mewn annedd breifat oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig.

2

Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath yn yr awyr agored os nad oes mwy na 6 pherson yn y cynulliad.

3

Wrth bennu, at ddibenion is-baragraff (2), nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad, nid yw’r canlynol i’w hystyried—

a

unrhyw blant o dan 11 oed, cyhyd â bod y personau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad (gan gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed) yn dod o ddim mwy na 6 aelwyd, neu

b

gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.

4

At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—

a

os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

b

os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (6) yn gymwys.

5

Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—

a

cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

b

cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol;

c

darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

d

mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

e

symud cartref;

f

ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

g

cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.

6

Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4)(b) yw bod y person yn—

a

darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

b

osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

c

gweithio neu’n darparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol, neu’n cael gwasanaethau oddi wrth berson sy’n gweithio yn y fangre neu’n darparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

d

cymryd rhan mewn cynulliad o ddim mwy na 4 o bobl pan fo’r holl bersonau yn y cynulliad—

i

yn byw yn yr un fangre, a

ii

yn rhannu cyfleusterau toiled, ymolchi, bwyta neu goginio gyda’i gilydd.

7

Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

Cyfyngiad ar gynulliadau mewn llety gwyliau neu lety teithio2

1

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad sy’n digwydd mewn llety gwyliau neu lety teithio oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig.

2

Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath yn yr awyr agored os nad oes mwy na 6 pherson yn y cynulliad.

3

Wrth bennu, at ddibenion is-baragraff (2), nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad, nid yw’r canlynol i’w hystyried—

a

unrhyw blant o dan 11 oed, cyhyd â bod y personau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad (gan gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed) yn dod o ddim mwy na 6 aelwyd, neu

b

gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.

4

At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—

a

os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

b

os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (6) yn gymwys.

5

Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—

a

cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

b

cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol;

c

darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

d

mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto.

6

Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4)(b) yw bod y person yn—

a

darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

b

osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

c

gweithio neu’n darparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

d

mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—

i

fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall,

ii

os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu

iii

fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;

e

cymryd rhan mewn cynulliad o dan do o ddim mwy na 15 o bobl mewn llety gwyliau neu lety teithio, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y fangre, i—

i

dathlu gweinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall a ddigwyddodd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;

ii

dathlu bywyd person ymadawedig y cynhelir ei angladd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020,

lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;

f

cymryd rhan mewn cynulliad yn yr awyr agored o ddim mwy na 30 o bobl mewn llety gwyliau neu lety teithio, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y fangre, i—

i

dathlu gweinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall a ddigwyddodd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;

ii

dathlu bywyd person ymadawedig y cynhelir ei angladd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;

g

cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu o dan do neu’n hwyluso’r gweithgaredd hwnnw—

i

lle nad yw mwy na 15 o bobl yn bresennol, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, a

ii

lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;

h

cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored neu’n hwyluso’r gweithgaredd hwnnw—

i

lle nad yw mwy na 30 o bobl yn bresennol, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, a

ii

lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;

i

mynd i ddigwyddiad neu hwyluso digwyddiad sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 6.

7

Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

Cyfyngiad ar gynulliadau mewn mannau cyhoeddus3

1

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad mewn mangre nad yw paragraff 1 na 2 yn gymwys iddi oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd.

2

Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath—

a

yn yr awyr agored mewn mangre reoleiddiedig os nad oes mwy na 6 pherson yn y cynulliad;

b

yn yr awyr agored ac eithrio mewn mangre reoleiddiedig—

i

os nad oes mwy na 6 pherson yn y cynulliad, neu

ii

os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd estynedig.

3

Wrth bennu, at ddibenion is-baragraff (2), nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad, nid yw’r canlynol i’w hystyried—

a

unrhyw blant o dan 11 oed, cyhyd â bod y personau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad (gan gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed) yn dod o ddim mwy na 6 aelwyd, neu

b

gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.

4

At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—

a

os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

b

os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (6) yn gymwys.

5

Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—

a

cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

b

gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

c

cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

d

darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

e

mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

f

symud cartref;

g

ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

h

cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;

i

cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny;

j

ymweld â pherson sy’n preswylio mewn cartref gofal, â chaniatâd darparwr y gwasanaeth.

6

Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4)(b) yw bod y person yn—

a

darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

b

osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

c

mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—

i

fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall,

ii

os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu

iii

fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;

d

mynd i angladd—

i

fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

ii

os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

iii

fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;

e

cymryd rhan mewn cynulliad o dan do o ddim mwy na 15 o bobl mewn mangre reoleiddiedig, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y fangre, i—

i

dathlu gweinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall a ddigwyddodd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;

ii

dathlu bywyd person ymadawedig y cynhelir ei angladd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020,

lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;

f

cymryd rhan mewn cynulliad yn yr awyr agored o ddim mwy na 30 o bobl mewn mangre reoleiddiedig, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y fangre, i—

i

dathlu gweinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall a ddigwyddodd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;

ii

dathlu bywyd person ymadawedig y cynhelir ei angladd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;

g

mynd i addoldy;

h

athletwr elît ac yn hyfforddi neu’n cystadlu;

i

darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn digwyddiad chwaraeon elît;

j

cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu o dan do neu’n hwyluso’r gweithgaredd hwnnw—

i

lle nad yw mwy na 15 o bobl yn bresennol, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, a

ii

lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;

k

cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored neu’n hwyluso’r gweithgaredd hwnnw—

i

lle nad yw mwy na 30 o bobl yn bresennol, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, oni bai bod y gweithgaredd wedi ei drefnu at ddibenion protestio, neu bicedu a gynhelir yn unol â Deddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992, a

ii

lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;

l

cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu neu’n hwyluso’r gweithgaredd hwnnw, er datblygiad neu lesiant personau a oedd o dan 18 oed ar 31 Awst 2020 (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol);

m

mynd i ddigwyddiad neu hwyluso digwyddiad sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 6.

7

Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

Aelwydydd estynedig4

1

Caiff 2 aelwyd gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig.

2

Yn ychwanegol at y 2 aelwyd a gaiff gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan is-baragraff (1), caiff 1 aelwyd anghenion llesiant hefyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig honno.

3

Er mwyn cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig, rhaid i holl aelodau’r aelwydydd gytuno.

4

Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai mewn 1 aelwyd estynedig ar unrhyw un adeg.

5

Pan fo aelwyd wedi cytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig ag unrhyw aelwydydd eraill o dan baragraff 3 o Atodlen 1 (“yr aelwyd estynedig flaenorol”), dim ond â’r aelwydydd eraill hynny y caiff wneud cytundeb o dan y paragraff hwn, oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag aelod o’r aelwydydd hynny gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig flaenorol.

6

Pan fo aelwydydd wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan—

a

paragraff 3 o Atodlen 2,

b

paragraff 4 o Atodlen 3A, neu

c

paragraff 3 o Atodlen 4,

mae’r aelwydydd hynny i’w trin fel pe baent wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan y paragraff hwn.

7

Mae aelwyd yn peidio â cael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig os yw unrhyw aelod o’r aelwyd yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig.

8

Mae is-baragraff (9) yn gymwys—

a

pan fo person a fyddai’n aelod o aelwyd estynedig, neu sy’n aelod o aelwyd estynedig, yn blentyn, a

b

pan fo person (“P”) a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn aelod o aelwyd y plentyn.

9

Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys—

a

mae’r cytundeb sy’n ofynnol gan is-baragraff (3) i’w roi gan P (ac nid gan y plentyn), a

b

mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig yn unol ag is-baragraff (7) os yw P yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig (pa un a yw’r plentyn yn peidio â chytuno hefyd ai peidio).

10

Os yw aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig ag unrhyw aelwyd arall oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag unrhyw aelod o aelwyd arall gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig gyda’r aelwyd honno.

11

Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at aelwyd estynedig yn gyfeiriadau at aelwyd estynedig a ffurfir o dan neu yn rhinwedd y paragraff hwn.

12

Yn y paragraff hwn, ystyr “aelwyd anghenion llesiant” yw—

a

aelwyd un oedolyn;

b

aelwyd ag 1 neu ragor o blant a dim oedolion.

RHAN 2Cyfyngiadau ar drefnu digwyddiadau

Gwaharddiad ar drefnu digwyddiadau5

1

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymwneud â threfnu—

a

digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do lle y mae mwy na 15 o bobl yn bresennol, neu

b

digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored lle y mae mwy na 30 o bobl yn bresennol,

heb gyfrif personau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.

2

Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n ymwneud â threfnu digwyddiad a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 6.

3

At ddibenion is-baragraff (1)—

a

nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad drwy fynd iddo;

b

mae esgus rhesymol yn cynnwys pan fo’r person wedi cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau nad oes mwy na 15 neu 30 o bobl yn bresennol, yn ôl y digwydd;

c

nid yw’r canlynol i’w trin yn ddigwyddiadau—

i

arddangosiad ffilm mewn sinema o sedd cerbyd;

ii

perfformiad mewn theatr o sedd cerbyd;

iii

marchnad;

iv

gwasanaeth crefyddol;

v

digwyddiad chwaraeon elît os athletwyr elît a phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo yw’r unig bobl sy’n bresennol.

Digwyddiadau awdurdodedig6

1

Caiff Gweinidogion Cymru roi awdurdodiad ysgrifenedig i ddigwyddiad gael ei gynnal—

a

lle y mae mwy na 15 o bobl yn bresennol pan fo’r digwyddiad yn digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do, neu

b

lle y mae mwy na 30 o bobl yn bresennol pan fo’r digwyddiad yn digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored.

2

Nid yw’r cyfeiriadau yn is-baragraff (1) at niferoedd o bobl yn cynnwys personau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.

3

Caniateir rhoi awdurdodiad o dan is-baragraff (1) mewn perthynas â digwyddiad penodol neu ddisgrifiad penodol o ddigwyddiadau.

4

O ran awdurdodiad o dan is-baragraff (1)—

a

rhaid iddo gael ei roi i berson y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn gyfrifol am drefnu’r digwyddiad, a

b

caiff ei gwneud yn ofynnol i’r digwyddiad gael ei gynnal yn unol ag unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru.

5

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi—

a

awdurdodiad a roddir o dan is-baragraff (1), a

b

manylion unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â digwyddiad sydd i’w gynnal o dan yr awdurdodiad.

6

Caiff Gweinidogion Cymru dynnu awdurdodiad yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person y rhoddwyd yr awdurdodiad iddo.

7

Ni chaniateir i awdurdodiad gael ei dynnu yn ôl o dan is-baragraff (6)—

a

onid oes gan Weinidogion Cymru sail resymol dros gredu na chaiff y digwyddiad ei gynnal, neu nad yw’n cael ei gynnal, yn unol â gofyniad, cyfyngiad neu amod arall a bennir ganddynt, neu

b

onid yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur tynnu’r awdurdodiad yn ôl at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint gan y coronafeirws.

RHAN 3Cyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau penodol

PENNOD 1Busnesau neu wasanaethau y mae’n ofynnol cau eu mangreoedd ond y caniateir mynediad cyfyngedig iddynt

Cau mangreoedd o dan do busnesau bwyd a diod7

1

Rhaid i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 11 i 13 (busnesau bwyd a diod) gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw ran o’i fangre sydd o dan do ac a ddefnyddir i fwyta bwyd neu i yfed diod.

2

Nid yw is-baragraff (1) yn atal—

a

defnyddio mangre ar gyfer—

i

gwerthu bwyd a diod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre, neu

ii

gwasanaethau sy’n darparu bwyd neu ddiod i bobl ddigartref;

b

darparu gwasanaeth ystafell mewn gwesty neu lety arall (pan fo’r gwesty neu’r llety arall yn parhau i weithredu yn unol â’r eithriadau a ganiateir gan baragraff 8);

c

ffreutur yn y gweithle rhag bod ar agor pan na fo dewis ymarferol arall i staff yn y gweithle hwnnw gael bwyd neu ddiod;

d

defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;

e

gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach.

3

Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i—

a

caffis a ffreuturau mewn ysbyty, cartref gofal, ysgol neu mewn llety a ddarperir ar gyfer myfyrwyr;

b

ffreuturau mewn carchar neu sefydliad y bwriedir ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu’r llu awyr neu at ddibenion Adran yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol am amddiffyn.

4

At ddibenion is-baragraff (1), mae ardal o dan do sy’n gyfagos i fangre’r busnes lle y mae seddau yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid y busnes (pa un ai gan y busnes ai peidio) i’w thrin fel pe bai’n rhan o fangre’r busnes hwnnw.

5

Pan—

a

bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a

b

bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.

Cau llety gwyliau neu lety teithio nad yw’n hunangynhwysol8

1

O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 14 i 17 (llety gwyliau neu lety teithio)—

a

rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes, a

b

ni chaiff gynnal busnes yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r paragraff hwn.

2

Ond nid yw is-baragraff (1) yn atal defnyddio mangre ar gyfer darparu llety—

a

mewn safle gwersylla neu safle gwyliau, ar yr amod mai pwyntiau dŵr a phwyntiau gwaredu gwastraff yw’r unig gyfleusterau a rennir a ddefnyddir gan westeion yn y safle gwersylla neu’r safle gwyliau, neu

b

mewn mangreoedd ar wahân a hunangynhwysol.

3

Ac nid yw is-baragraff (1) yn atal—

a

gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;

b

defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;

c

darparu llety ar gyfer unrhyw bersonau sy’n aros yn y llety hwnnw pan ddechreuodd y paragraff hwn fod yn gymwys yn fwyaf diweddar i’r ardal y mae’r llety wedi ei leoli ynddi ac—

i

nad ydynt yn gallu dychwelyd i’w prif breswylfa, neu

ii

sy’n defnyddio’r llety fel eu prif breswylfa;

d

defnyddio mangre i gynnal y busnes drwy ddarparu gwybodaeth neu wasanaethau eraill—

i

drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

ii

dros y ffôn, gan gynnwys ymholiadau drwy neges destun, neu

iii

drwy’r post.

4

Nid yw mangre ar wahân ac yn hunangynhwysol at ddibenion y paragraff hwn ond—

a

os y’i darperir i bersonau sy’n aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig, a

b

os na rennir unrhyw un neu ragor o’r canlynol ag aelodau o unrhyw aelwyd arall—

i

ceginau,

ii

mannau cysgu,

iii

ystafelloedd ymolchi, neu

iv

mannau cymunedol o dan do.

5

Yn y paragraff hwn—

a

nid yw derbynfa i’w thrin fel pe bai’n gyfleuster a rennir at ddibenion is-baragraff (2)(a);

b

mae “mannau cymunedol” yn cynnwys unrhyw ardal o’r fangre sydd ar agor i’r cyhoedd, ond nid yw’n cynnwys derbynfa na choridorau, lifftiau na grisiau a ddefnyddir i fynd i rannau eraill o’r fangre.

6

Pan—

a

bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a

b

bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.

PENNOD 2Busnesau neu wasanaethau y mae’n ofynnol cau eu mangreoedd

Cau busnesau a gwasanaethau9

1

O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir ym mharagraffau 18 i 35—

a

rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes neu’r gwasanaeth, a

b

ni chaiff gynnal y busnes neu’r gwasanaeth yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r paragraff hwn.

2

O ran ei gymhwysiad i fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraffau 27 (ffeiriau pleser, parciau diddanu a pharciau thema), 28 (busnesau gwyliau, gweithgareddau hamdden neu ddigwyddiadau), 29 (amgueddfeydd ac orielau), 32 (parciau a chanolfannau trampolîn), 33 (sbaon), 34 (lleoliadau ar gyfer digwyddiadau neu gynadleddau (gan gynnwys lleoliadau ar gyfer priodasau)) a 35 (atyniadau i ymwelwyr), nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i—

a

ardal gyhoeddus awyr agored o’r fangre, neu

b

ardal gyhoeddus o dan do o’r fangre pan fo’n angenrheidiol i’r ardal o dan do fod ar agor—

i

i ganiatáu mynediad i ardal gyhoeddus awyr agored,

ii

am resymau iechyd a diogelwch, neu

iii

i sicrhau y cydymffurfir â’r gofynion yn Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn mewn perthynas â’r fangre.

3

Nid yw is-baragraff (1) yn atal—

a

gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;

b

defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;

c

defnyddio mangre i ddarlledu heb gynulleidfa yn bresennol yn y fangre (pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu) neu i ymarfer;

d

defnyddio mangre ar gyfer darparu nwyddau neu wasanaethau (gan gynnwys eu gwerthu, eu llogi, eu casglu neu eu danfon) mewn ymateb i archeb neu ymholiad a wneir—

i

drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

ii

dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu

iii

drwy’r post;

e

defnyddio mangre ar gyfer darparu gwybodaeth—

i

drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

ii

dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu

iii

drwy’r post.

4

Er gwaethaf is-baragraff (1), caiff person sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth—

a

a restrir ym mharagraff 28 (busnesau gwyliau, gweithgareddau hamdden neu ddigwyddiadau) agor ardaloedd o dan do ei fangre i’r cyhoedd, ond dim ond at ddibenion hwyluso gweithgaredd wedi ei drefnu er datblygiad neu lesiant personau a oedd o dan 18 oed ar 31 Awst 2020 (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol);

b

a restrir ym mharagraff 33 (sbaon) agor ardaloedd o dan do ei fangre i’r cyhoedd, ond dim ond at ddibenion darparu, drwy apwyntiad, wasanaethau cysylltiad agos neu wasanaethau a ddarperir gan ddeintyddion, optegwyr, optometryddion, awdiolegwyr, ciropodyddion, ceiropractyddion, osteopathiaid, ffisiotherapyddion ac aciwbigwyr.

5

Pan—

a

bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a

b

bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.

PENNOD 3Busnesau a gwasanaethau y mae eu mangreoedd wedi eu hesemptio rhag y gofyniad i gau

Esemptiad rhag y gofyniad i gau10

1

Er gwaethaf darpariaethau blaenorol y Rhan hon—

a

caiff mangre a gymeradwywyd agor i’r cyhoedd i’r graddau y mae hyn yn ofynnol at ddibenion gweinyddu priodas, ffurfio partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall yn y fangre;

b

caiff mangre a ddefnyddir fel lleoliad ar gyfer gweinyddu priodas, ffurfio partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall, neu ar gyfer dathlu digwyddiad o’r fath, agor i’r cyhoedd at ddibenion galluogi person i ymweld â’r fangre, drwy apwyntiad, gyda golwg ar archebu’r fangre ar gyfer gweinyddu priodas, ffurfio partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall, neu ar gyfer dathlu digwyddiad o’r fath.

2

Yn y paragraff hwn, ystyr “mangre a gymeradwywyd” yw mangre sydd wedi ei chymeradwyo yn unol â Rheoliadau Priodasau a Phartneriaethau Sifil (Mangreoedd a Gymeradwywyd) 2005

a

fel mangre y caniateir i briodasau gael eu gweinyddu ynddi yn unol ag adran 26(1)(bb) o Ddeddf Priodas 1949, neu

b

at ddibenion adran 6(3A)(a) o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004.

PENNOD 4Rhestr o fangreoedd caeedig neu rannol gaeedig

Mangreoedd caeedig neu rannol gaeedigBusnesau bwyd a diod

11

Bariau (gan gynnwys bariau mewn clybiau aelodau).

12

Tafarndai.

13

Caffis, ffreuturau a bwytai (gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle ac ystafelloedd bwyta mewn clybiau aelodau).

Llety gwyliau neu lety teithio

14

Safleoedd gwersylla.

15

Safleoedd gwyliau.

16

Gwestai a llety gwely a brecwast.

17

Llety gwyliau arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau, hostelau a thai byrddio).

Hamdden a chymdeithasol etc.

18

Clybiau nos, disgos, neuaddau dawnsio neu leoliadau eraill sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol lle y darperir cerddoriaeth fyw neu wedi ei recordio i aelodau’r cyhoedd neu aelodau’r lleoliad ddawnsio.

19

Lleoliadau adloniant rhywiol (o fewn yr ystyr a roddir i “sexual entertainment venue” gan baragraff 2A o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982).

20

Sinemâu, ac eithrio sinemâu o sedd cerbyd.

21

Neuaddau cyngerdd a theatrau, ac eithrio theatrau o sedd cerbyd.

22

Casinos.

23

Neuaddau bingo.

24

Arcedau diddanu.

25

Alïau bowlio.

26

Canolfannau neu fannau chwarae o dan do.

27

Ffeiriau pleser, parciau diddanu a pharciau thema.

28

Busnesau gwyliau, gweithgareddau hamdden neu ddigwyddiadau.

29

Amgueddfeydd ac orielau.

30

Rinciau sglefrio iâ.

31

Parciau a chanolfannau trampolîn.

32

Parciau a chanolfannau sglefrio o dan do.

33

Sbaon.

34

Lleoliadau ar gyfer digwyddiadau neu gynadleddau (gan gynnwys lleoliadau ar gyfer priodasau).

35

Atyniadau i ymwelwyr.

F78ATODLEN 3ACyfyngiadau Lefel Rhybudd 3 Dros Dro

Rheoliad 4(6A)

Annotations:
Amendments (Textual)

RHAN 1Cyfyngiad ar ymgynnull

Cyfyngiad ar gynulliadau mewn anheddau preifat1

1

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad mewn annedd breifat oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig.

2

Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath yn yr awyr agored os nad oes mwy na 6 person F199... yn y cynulliad.

3

Wrth bennu, at ddibenion is-baragraff (2), nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad, nid yw’r canlynol i’w hystyried—

a

unrhyw blant o dan 11 oed F87, cyhyd â bod y personau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad (gan gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed) yn dod o ddim mwy na 6 aelwyd , neu

b

gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.

4

At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—

a

os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

b

os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (6) yn gymwys.

5

Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—

a

cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

F58b

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

c

cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol;

d

darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

e

mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

f

symud cartref;

g

ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

h

cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.

6

Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4)(b) yw bod y person yn—

a

darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

b

osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

F176ba

gweithio neu’n darparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol, neu’n cael gwasanaethau oddi wrth berson sy’n gweithio neu’n darparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

c

cymryd rhan mewn cynulliad o ddim mwy na 4 o bobl pan fo’r holl bersonau yn y cynulliad—

i

yn byw yn yr un fangre, a

ii

yn rhannu cyfleusterau toiled, ymolchi, bwyta neu goginio gyda’i gilydd.

F1187

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

8

Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

Cyfyngiad ar gynulliadau mewn llety gwyliau neu lety teithio2

1

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad sy’n digwydd mewn llety gwyliau neu lety teithio oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig.

F1941A

Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath yn yr awyr agored os nad oes mwy na 6 pherson yn y cynulliad.

1B

Wrth bennu, at ddibenion is-baragraff (1A), nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad, nid yw’r canlynol i’w hystyried—

a

unrhyw blant o dan 11 oed, cyhyd â bod y personau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad (gan gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed) yn dod o ddim mwy na 6 aelwyd;

b

gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.

2

At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—

a

os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

b

os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (4) yn gymwys.

3

Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—

a

cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

F66b

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

c

cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol;

d

darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

e

mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto.

4

Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2)(b) yw bod y person yn—

a

darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

b

osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed.

F77c

gweithio neu’n darparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

d

mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—

i

fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall,

ii

os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu

iii

fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;

e

cymryd rhan mewn cynulliad yn yr awyr agored o ddim mwy na 30 o bobl mewn llety gwyliau neu lety teithio, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y fangre, i—

i

dathlu gweinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall a ddigwyddodd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;

ii

dathlu bywyd person ymadawedig y cynhelir ei angladd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;

f

cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored neu’n hwyluso’r gweithgaredd hwnnw—

i

lle nad yw mwy na 30 o bobl yn bresennol, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, a

ii

lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;

g

mynd i ddigwyddiad neu’n hwyluso digwyddiad sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 5A.

5

Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

Cyfyngiad ar gynulliadau mewn mannau cyhoeddus3

1

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad sy’n digwydd mewn mangre nad yw paragraff 1 na 2 yn gymwys iddi oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd.

2

Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath yn yr awyr agored—

a

os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd estynedig, neu

b

os nad oes mwy na 6 person F121... yn y cynulliad.

3

Wrth bennu, at ddibenion is-baragraff (2)(b), nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad, nid yw’r canlynol i’w hystyried—

a

unrhyw blant o dan 11 oed F127, cyhyd â bod y personau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad (gan gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed) yn dod o ddim mwy na 6 aelwyd , neu

b

gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.

4

At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—

a

os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

b

os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (6) yn gymwys.

5

Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—

a

cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

b

gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

c

cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

d

darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

e

mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

f

symud cartref;

g

ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

h

cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;

i

cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny;

j

ymweld â pherson sy’n preswylio mewn cartref gofal, â chaniatâd darparwr y gwasanaeth.

6

Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4)(b) yw bod y person yn—

a

darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

b

osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

c

mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—

i

fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall,

ii

os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu

iii

fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;

d

mynd i angladd—

i

fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

ii

os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

iii

fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;

F31da

cymryd rhan mewn cynulliad yn yr awyr agored o ddim mwy na 30 o bobl mewn mangre reoleiddiedig, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y fangre, i—

i

dathlu gweinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall a ddigwyddodd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;

ii

dathlu bywyd person ymadawedig y cynhelir ei angladd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;

e

mynd i addoldy;

f

athletwr elît ac yn hyfforddi neu’n cystadlu;

g

darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn digwyddiad chwaraeon elît;

F70ga

cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored neu’n hwyluso’r gweithgaredd hwnnw—

i

lle nad yw mwy na 30 o bobl yn bresennol, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, oni bai bod y gweithgaredd wedi ei drefnu at ddibenion protestio, neu bicedu a gynhelir yn unol â Deddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992, a

ii

lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed.

h

cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored, neu’n hwyluso’r gweithgaredd hwnnw, er datblygiad neu lesiant personau a oedd o dan 18 oed ar 31 Awst 2020 (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol).

F136i

mynd i ddigwyddiad neu’n hwyluso digwyddiad sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 5A.

F1647

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

8

Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

Aelwydydd estynedig4

1

Caiff aelwyd anghenion llesiant ac aelwyd arall gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig.

2

Er mwyn cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig, rhaid i holl aelodau’r aelwydydd gytuno.

3

Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai mewn 1 aelwyd estynedig ar unrhyw un adeg.

4

Pan fo aelwydydd wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan baragraff 3 o Atodlen 4, mae’r aelwydydd hynny i’w trin fel pe baent wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan y paragraff hwn.

5

Mae aelwyd yn peidio â cael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig os yw unrhyw aelod o’r aelwyd yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig.

6

Mae is-baragraff (7) yn gymwys—

a

pan fo person a fyddai’n aelod o aelwyd estynedig, neu sy’n aelod o aelwyd estynedig, yn blentyn, a

b

pan fo person (“P”) a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn aelod o aelwyd y plentyn.

7

Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys—

a

mae’r cytundeb sy’n ofynnol gan is-baragraff (2) i’w roi gan P (ac nid gan y plentyn), a

b

mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig yn unol ag is-baragraff (5) os yw P yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig (pa un a yw’r plentyn yn peidio â chytuno hefyd ai peidio).

8

Os yw aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig gydag unrhyw aelwyd arall oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag unrhyw aelod o aelwyd arall gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig gyda’r aelwyd honno.

9

Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at aelwyd estynedig yn gyfeiriadau at aelwyd estynedig a ffurfir o dan neu yn rhinwedd y paragraff hwn.

10

Yn y paragraff hwn, ystyr “aelwyd anghenion llesiant” yw—

a

aelwyd un oedolyn;

b

aelwyd ag 1 neu ragor o blant a dim oedolion;

c

aelwyd ag—

i

2 neu ragor o oedolion,

ii

1 neu ragor o blant o dan 1 oed, a

iii

unrhyw nifer o blant eraill.

RHAN 2Cyfyngiadau ar drefnu digwyddiadau

Gwaharddiad ar drefnu digwyddiadau5

1

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymwneud â threfnu—

a

digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do lle y mae mwy na 15 o bobl yn bresennol, neu

b

digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored lle y mae mwy na 30 o bobl yn bresennol,

heb gyfrif personau F88... sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.

F811A

Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n ymwneud â threfnu digwyddiad a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 5A.

2

At ddibenion is-baragraff (1)—

a

nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad drwy fynd iddo;

b

mae esgus rhesymol yn cynnwys pan fo’r person wedi cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau nad oes mwy na 15 neu 30 o bobl yn bresennol, yn ôl y digwydd;

c

nid yw’r canlynol i’w trin yn ddigwyddiadau—

i

arddangosiad ffilm mewn sinema o sedd cerbyd;

ii

perfformiad mewn theatr o sedd cerbyd;

iii

marchnad;

iv

gwasanaeth crefyddol;

v

digwyddiad chwaraeon elît os athletwyr elît a phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo yw’r unig bobl sy’n bresennol.

F13Digwyddiadau awdurdodedig5A

1

Caiff Gweinidogion Cymru roi awdurdodiad ysgrifenedig i ddigwyddiad gael ei gynnal—

a

lle y mae mwy na 15 o bobl yn bresennol pan fo’r digwyddiad yn digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do, neu

b

lle y mae mwy na 30 o bobl yn bresennol pan fo’r digwyddiad yn digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored.

2

Nid yw cyfeiriadau yn is-baragraff (1) at niferoedd o bobl yn cynnwys personau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.

3

Caniateir rhoi awdurdodiad o dan is-baragraff (1) mewn perthynas â digwyddiad penodol neu ddisgrifiad penodol o ddigwyddiadau.

4

O ran awdurdodiad o dan is-baragraff (1)—

a

rhaid iddo gael ei roi i berson y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn gyfrifol am drefnu’r digwyddiad, a

b

caiff ei gwneud yn ofynnol i’r digwyddiad gael ei gynnal yn unol ag unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru.

5

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi—

a

awdurdodiad a roddir o dan is-baragraff (1), a

b

manylion unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â digwyddiad sydd i’w gynnal o dan yr awdurdodiad.

6

Caiff Gweinidogion Cymru dynnu awdurdodiad yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person y rhoddwyd yr awdurdodiad iddo.

7

Ni chaniateir i awdurdodiad gael ei dynnu yn ôl o dan is-baragraff (6)—

a

onid oes gan Weinidogion Cymru sail resymol dros gredu na chaiff y digwyddiad ei gynnal, neu nad yw’n cael ei gynnal, yn unol â gofyniad, cyfyngiad neu amod arall a bennwyd ganddynt, neu

b

onid yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur tynnu’r awdurdodiad yn ôl at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint gan y coronafeirws.

F13RHAN 3Cyfyngiadau ar deithio

Cyfyngiad ar deithio i ardal Lefel Rhybudd 3 ac o ardal Lefel Rhybudd 3F486

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

RHAN 4Cyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau penodol

PENNOD 1Busnesau a gwasanaethau y mae’n ofynnol cau eu mangreoedd ond y caniateir mynediad cyfyngedig iddynt

Cau F207mangreoedd o dan do busnesau bwyd a diod7

1

O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 12 i 14 (busnesau bwyd a diod)—

a

rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw F101ran o’i fangre sydd o dan do ac a ddefnyddir i fwyta bwyd neu i yfed diod, a

F80b

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

2

Nid yw is-baragraff (1) yn atal—

a

defnyddio mangre ar gyfer—

i

gwerthu bwyd a diod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre, neu

ii

gwasanaethau sy’n darparu bwyd neu ddiod i bobl ddigartref;

b

darparu gwasanaeth ystafell mewn gwesty neu lety arall (pan fo’r gwesty neu’r llety arall yn parhau i weithredu yn unol â’r eithriadau a ganiateir gan baragraff 8);

c

ffreutur yn y gweithle rhag bod ar agor pan na fo dewis ymarferol arall i staff yn y gweithle hwnnw gael bwyd neu ddiod;

F74ca

defnyddio mangre at unrhyw ddiben y gofynnir amdano neu a awdurdodir gan Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol;

d

gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach.

3

At ddibenion is-baragraff (1), mae ardal o dan do sy’n gyfagos i fangre’r busnes lle y mae seddau yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid y busnes (pa un ai gan y busnes ai peidio) i’w thrin fel pe bai’n rhan o fangre’r busnes hwnnw.

4

Pan—

a

bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a

b

bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.

Cau llety gwyliau neu lety teithio nad yw’n hunangynhwysol8

1

O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 15 i 18 (llety gwyliau neu lety teithio)—

a

rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes, a

b

ni chaiff gynnal busnes yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r paragraff hwn.

2

Ond nid yw is-baragraff (1) yn atal defnyddio mangre ar gyfer darparu llety—

a

mewn safle gwersylla neu safle gwyliau, ar yr amod mai pwyntiau dŵr a phwyntiau gwaredu gwastraff yw’r unig gyfleusterau a rennir a ddefnyddir gan westeion yn y safle gwersylla neu’r safle gwyliau, neu

b

mewn mangre ar wahân a hunangynhwysol.

3

Ac nid yw is-baragraff (1) yn atal—

a

gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;

b

defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;

c

darparu llety ar gyfer unrhyw bersonau sy’n aros yn y llety hwnnw pan ddechreuodd y paragraff hwn fod yn gymwys yn fwyaf diweddar i’r ardal y mae’r llety wedi ei leoli ynddi ac—

i

nad ydynt yn gallu dychwelyd i’w prif breswylfa, neu

ii

sy’n defnyddio’r llety fel eu prif breswylfa;

d

defnyddio mangre i gynnal y busnes drwy ddarparu gwybodaeth neu wasanaethau eraill—

i

drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

ii

dros y ffôn, gan gynnwys ymholiadau drwy neges destun, neu

iii

drwy’r post.

4

Nid yw mangre ar wahân ac yn hunangynhwysol at ddibenion y paragraff hwn ond—

a

os y’i darperir i bersonau sy’n aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig, a

b

os na rennir unrhyw un neu ragor o’r canlynol ag aelodau o unrhyw aelwyd arall—

i

ceginau,

ii

mannau cysgu,

iii

ystafelloedd ymolchi, neu

iv

mannau cymunedol o dan do.

5

Yn y paragraff hwn—

a

nid yw derbynfa i’w thrin fel pe bai’n gyfleuster a rennir at ddibenion is-baragraff (2)(a);

b

mae “mannau cymunedol” yn cynnwys unrhyw ardal o’r fangre sydd ar agor i’r cyhoedd, ond nid yw’n cynnwys derbynfa na choridorau, lifftiau na grisiau a ddefnyddir i fynd i rannau eraill o’r fangre.

6

Pan—

a

bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a

b

bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.

Cau canolfannau cymunedol F75...9

1

Rhaid i berson sy’n gyfrifol am fangre sydd o fath a restrir ym F11mharagraff 19 sicrhau bod y fangre ar gau i aelodau’r cyhoedd, ac eithrio ar gyfer y defnydd a ganiateir gan F185is-baragraff (2) .

2

Caiff canolfan gymunedol fod ar agor—

a

i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol hanfodol, neu

b

F95at unrhyw ddiben y gofynnir amdano neu a awdurdodir gan Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol.

F163

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

4

Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r tir o amgylch—

a

canolfan gymunedol;

F158b

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F1395

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

PENNOD 2Busnesau neu wasanaethau y mae’n ofynnol cau eu mangreoedd

Cau busnesau a gwasanaethau10

1

O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir ym mharagraffau F9624 i 44

a

rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes neu’r gwasanaeth, a

b

ni chaiff gynnal y busnes neu’r gwasanaeth yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r paragraff hwn.

F11A

O ran ei gymhwysiad i fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraffau 33, 34, 35, 37, 39, 40 a 41, nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i—

a

ardal gyhoeddus awyr agored o’r fangre, neu

b

ardal gyhoeddus o dan do o’r fangre pan fo’n angenrheidiol i’r ardal o dan do fod ar agor—

i

i ganiatáu mynediad i ardal gyhoeddus awyr agored,

ii

am resymau iechyd a diogelwch, neu

iii

i sicrhau y cydymffurfir â’r gofynion yn Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn mewn perthynas â’r fangre.

2

Nid yw is-baragraff (1) yn atal—

a

gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;

b

defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;

c

defnyddio mangre i ddarlledu heb gynulleidfa yn bresennol yn y fangre (pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu) neu i ymarfer;

d

defnyddio mangre ar gyfer darparu nwyddau neu wasanaethau (gan gynnwys eu gwerthu, eu llogi, eu casglu neu eu danfon) mewn ymateb i archeb neu ymholiad a wneir—

i

drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

ii

dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu

iii

drwy’r post;

e

defnyddio mangre ar gyfer darparu gwybodaeth—

i

drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

ii

dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu

iii

drwy’r post.

3

Er gwaethaf is-baragraff (1), caiff person sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth—

F146a

a restrir ym mharagraff 39 neu 42 (sbaon a chyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd o dan do) agor ei fangre i’r cyhoedd, ond dim ond at ddibenion darparu, drwy apwyntiad, wasanaethau cysylltiad agos neu wasanaethau a ddarperir gan ddeintyddion, optegwyr, optometryddion, awdiolegwyr, ciropodyddion, ceiropractyddion, osteopathiaid, ffisiotherapyddion ac aciwbigwyr;

F82b

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

4

Pan—

a

bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a

b

bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.

PENNOD 3Busnesau a gwasanaethau y mae eu mangreoedd wedi eu hesemptio rhag y gofyniad i gau

Esemptiad rhag y gofyniad i gau11

1

Er gwaethaf darpariaethau blaenorol y Rhan hon—

a

caiff mangreoedd a weithredir gan fusnesau neu wasanaethau a restrir ym mharagraffau F15751 a 52 barhau i fod ar agor;

b

caiff mangre a gymeradwywyd agor i’r cyhoedd i’r graddau y mae hyn yn ofynnol at ddibenion gweinyddu priodas, ffurfio partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall yn y fangre;

F47c

caiff mangre a ddefnyddir fel lleoliad ar gyfer gweinyddu priodas, ffurfio partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall, neu ar gyfer dathlu digwyddiad o’r fath, agor i’r cyhoedd at ddibenion galluogi person i ymweld â’r fangre, drwy apwyntiad, gyda golwg ar archebu’r fangre ar gyfer gweinyddu priodas, ffurfio partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall, neu ar gyfer dathlu digwyddiad o’r fath;

F1632

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F1773

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

4

Yn y paragraff hwn, ystyr “mangre a gymeradwywyd” yw mangre sydd wedi ei chymeradwyo yn unol â Rheoliadau Priodasau a Phartneriaethau Sifil (Mangreoedd a Gymeradwywyd) 2005—

a

fel mangre y caniateir i briodasau gael eu gweinyddu ynddi yn unol ag adran 26(1)(bb) o Ddeddf Priodas 1949, neu

b

at ddibenion adran 6(3A)(a) o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004.

PENNOD 4Rhestr o fangreoedd sydd ar gau

Mangreoedd sydd ar gau

Busnesau bwyd a diod

12

Bariau (gan gynnwys bariau mewn clybiau aelodau).

13

Tafarndai.

14

Caffis, ffreuturau a bwytai (gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle ac ystafelloedd bwyta mewn clybiau aelodau).

Llety gwyliau neu lety teithio

15

Safleoedd gwersylla.

16

Safleoedd gwyliau.

17

Gwestai a llety gwely a brecwast;

18

Llety gwyliau arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau, hostelau a thai byrddio).

Gwasanaethau cyhoeddus etc.

19

Canolfannau cymunedol.

F18120

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Gwasanaethau personol etc.

F18121

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F18122

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F18123

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Hamdden a chymdeithasol etc.

24

Clybiau nos, disgos, neuaddau dawnsio neu leoliadau eraill sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol lle y darperir cerddoriaeth fyw neu wedi ei recordio i aelodau’r cyhoedd neu aelodau’r lleoliad ddawnsio.

25

Lleoliadau adloniant rhywiol (o fewn yr ystyr a roddir i “sexual entertainment venue” gan baragraff 2A o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982).

F21726

Sinemâu, ac eithrio sinemâu o sedd cerbyd.

F21627

Neuaddau cyngerdd a theatrau, ac eithrio theatrau o sedd cerbyd.

28

Casinos.

29

Neuaddau bingo.

30

Arcedau diddanu.

31

Alïau bowlio.

32

Canolfannau neu fannau chwarae o dan do.

33

Ffeiriau pleser, parciau diddanu a pharciau thema.

34

Busnesau gwyliau, gweithgareddau hamdden neu ddigwyddiadau.

35

Amgueddfeydd ac orielau.

36

Rinciau sglefrio F215.

37

Parciau a chanolfannau trampolîn.

38

Parciau a chanolfannau sglefrio o dan do.

39

Sbaon.

40

Lleoliadau ar gyfer digwyddiadau neu gynadleddau (gan gynnwys lleoliadau ar gyfer priodasau).

F21341

Atyniadau i ymwelwyr.

Chwaraeon ac ymarfer corff

42

Cyfleusterau chwaraeon neu ymarfer corff o dan do, gan gynnwys stiwdios ffitrwydd a champfeydd o dan do.

F21443

Pyllau nofio o dan do.

44

Cyrtiau chwaraeon o dan do, lawntiau bowlio o dan do a meysydd neu leiniau chwaraeon eraill o dan do.

Manwerthu etc.

F5445

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F5446

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F5447

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Mangreoedd esempt

Gwasanaethau cyhoeddus etc.

F5448

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F5449

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F5450

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Busnesau bwyd a diod

51

Caffis a ffreuturau mewn ysbyty, cartref gofal, ysgol neu mewn llety a ddarperir ar gyfer myfyrwyr.

52

Ffreuturau mewn carchar neu sefydliad y bwriedir ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu’r awyrlu neu at ddibenion Adran yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol am amddiffyn.

Manwerthu etc.

F1053

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F1054

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F1055

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F1056

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F1057

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F1058

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F1059

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F1060

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

61

Gwasanaethau trwsio ceir ac MOT.

F1062

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F1063

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F1064

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F1065

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F1066

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

ATODLEN 4Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 4

Rheoliad 4(5)

RHAN 1Cyfyngiadau ar symud ac ymgynnull gydag eraill

I1371

1

Ni chaiff unrhyw berson ymadael â’r man lle y mae’n byw neu aros i ffwrdd o’r man hwnnw heb esgus rhesymol.

2

At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—

a

os yw’r person yn ymadael â’r man lle y mae’n byw, neu’n aros i ffwrdd o’r man hwnnw, at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

b

os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (4) yn gymwys.

3

Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson ymadael â’r man lle y mae’n byw neu aros i ffwrdd o’r man hwnnw yn cynnwys—

a

cael cyflenwadau oddi wrth fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraffau 55 i 66 gan gynnwys—

i

bwyd a chyflenwadau meddygol ar gyfer y rheini ar yr un aelwyd neu’r aelwyd estynedig (gan gynnwys anifeiliaid ar yr aelwyd neu’r aelwyd estynedig) neu ar gyfer personau hyglwyf;

ii

cyflenwadau ar gyfer cynnal, cynnal a chadw a gweithrediad hanfodol yr aelwyd neu’r aelwyd estynedig, neu aelwyd person hyglwyf;

b

cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

c

gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

d

cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

e

darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

f

mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

g

symud cartref;

h

cael arian oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 39(g) o Atodlen 7 neu adneuo arian gydag unrhyw fusnes neu wasanaeth o’r fath;

i

gweld eiddo mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu’r eiddo;

j

ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

k

cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;

l

cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.

4

Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2)(b) yw bod y person yn—

a

darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

b

osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

c

mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—

i

fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall,

ii

os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu

iii

fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;

d

mynd i angladd—

i

fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

ii

os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

iii

fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;

e

mynd i addoldy;

f

gwneud ymarfer corff, naill ai—

i

ar ei ben ei hun,

ii

gydag aelodau eraill o aelwyd neu aelwyd estynedig y person, F36... F7neu

iii

gyda gofalwr y person F156...

F156F189iv

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

g

athletwr elît ac yn hyfforddi neu’n cystadlu;

h

darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn—

i

digwyddiad chwaraeon elît, neu

ii

digwyddiad chwaraeon sy’n digwydd y tu allan i Gymru;

i

teithio er mwyn pleidleisio mewn etholiad;

j

teithio i fan neu o fan, neu’n bresennol mewn man, lle y mae aelod o’i aelwyd estynedig yn byw.

5

Yn is-baragraff (4)(f)—

a

rhaid i ymarfer corff ddechrau a gorffen yn y man lle y mae’r person yn byw neu lle y mae aelod o aelwyd estynedig y person yn byw, neu

b

pan fo angen i’r person, am resymau salwch neu nam corfforol neu feddyliol, neu anabledd (o fewn yr ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010), wneud ymarfer corff mewn man arall, rhaid i ymarfer corff ddigwydd mewn ardal sy’n lleol i’r man lle y mae’r person yn byw.

6

Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

Gofyniad i beidio ag ymgynnull gyda phobl eraillI12

1

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymgynnull gydag unrhyw berson arall ac eithrio—

a

aelodau o’i aelwyd,

b

ei ofalwr, neu

c

person y mae’n darparu gofal iddo.

2

At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—

a

os yw’r person yn ymgynnull gyda phobl eraill at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

b

os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (4) yn gymwys.

3

Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—

a

cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

b

gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

c

cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

d

darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

e

mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

f

symud cartref;

g

gweld eiddo mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu’r eiddo;

h

ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

i

cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;

j

cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny;

k

osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed.

4

Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2)(b) yw bod y person yn—

a

darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

b

mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—

i

fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas,

ii

os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas, neu

iii

fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas;

c

mynd i angladd—

i

fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

ii

os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

iii

fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;

d

mynd i addoldy;

e

athletwr elît ac sy’n hyfforddi neu’n cystadlu ;

f

darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn digwyddiad chwaraeon elît;

g

cymryd rhan mewn cynulliad gydag aelodau o’i aelwyd estynedig mewn man lle y mae aelodau o’r aelwyd estynedig yn byw;

h

cymryd rhan mewn cynulliad o ddim mwy na 4 o bobl pan fo’r holl bersonau yn y cynulliad—

i

yn byw yn yr un fangre, a

ii

yn rhannu cyfleusterau toiled, ymolchi, bwyta neu goginio gyda’i gilydd.

F15i

gwneud ymarfer corff yn yr awyr agored, ac eithrio mewn annedd breifat—

i

gydag aelodau o aelwyd estynedig y person, F153...

F153ii

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

ynghyd ag unrhyw ofalwr i berson sy’n cymryd rhan sy’n bresennol.

5

Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

Aelwydydd estynedigI913

1

Caiff aelwyd F53anghenion llesiant ac aelwyd arall gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig.

2

Er mwyn cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig, rhaid F22i holl aelodau’r aelwydydd gytuno.

3

Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o 1 aelwyd estynedig F133ar unrhyw un adeg .

4

Pan fo aelwyd F57anghenion llesiant wedi cytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig gyda hyd at—

a

3 aelwyd arall o dan baragraff 3 o Atodlen 1, neu

b

2 aelwyd arall o dan—

i

paragraff 3 o Atodlen 2, neu

ii

paragraff 3 o Atodlen 3,

F103(“yr aelwyd estynedig flaenorol”), dim ond rhwng yr aelwyd F57anghenion llesiant ac 1 o’r aelwydydd eraill hynny y caniateir gwneud cytundeb o dan y paragraff hwn F144oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd F57anghenion llesiant gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag aelod o’r aelwydydd hynny gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig flaenorol .

5

Mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig os yw unrhyw aelod o’r aelwyd F131... yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig.

F1785A

Mae is-baragraff (5B) yn gymwys—

a

pan fo person a fyddai’n aelod o aelwyd estynedig, neu sy’n aelod o aelwyd estynedig, yn blentyn, a

b

pan fo person (“P”) a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn aelod o aelwyd y plentyn.

5B

Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys—

a

mae’r cytundeb sy’n ofynnol gan is-baragraff (3) i’w roi gan P (ac nid gan y plentyn), a

b

mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig yn unol ag is-baragraff (5) os yw P yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig (pa un a yw’r plentyn yn peidio â chytuno hefyd ai peidio).

6

Os yw aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig gydag unrhyw aelwyd arall F41oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag unrhyw aelod o aelwyd arall gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig â’r aelwyd honno .

7

Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at aelwyd estynedig yn gyfeiriadau at aelwyd estynedig a ffurfir o dan neu yn rhinwedd y paragraff hwn.

F1428

Yn y paragraff hwn, ystyr “aelwyd anghenion llesiant” yw—

a

aelwyd un oedolyn;

b

aelwyd ag 1 neu ragor o blant a dim oedolion.

RHAN 2Cyfyngiadau ar drefnu digwyddiadau

Gwaharddiad ar drefnu digwyddiadauI364

1

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymwneud â threfnu—

a

digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do lle y mae mwy na 15 o bobl yn bresennol, neu

b

digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored lle y mae mwy na 30 o bobl yn bresennol,

heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.

2

Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n ymwneud â threfnu digwyddiad chwaraeon elît sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 5.

3

At ddibenion is-baragraff (1)

a

nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad drwy fynd iddo;

b

mae esgus rhesymol yn cynnwys pan fo’r person wedi cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau nad oes mwy na 15 neu 30 o bobl yn bresennol, yn ôl y digwydd;

c

nid yw’r canlynol i’w trin yn ddigwyddiadau—

i

marchnad;

ii

gwasanaeth crefyddol.

Annotations:
Commencement Information
I36

Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Digwyddiadau chwaraeon elît awdurdodedigI995

1

Caiff Gweinidogion Cymru roi awdurdodiad ysgrifenedig i ddigwyddiad chwaraeon elît gael ei gynnal.

2

O ran awdurdodiad o dan is-baragraff (1)

a

rhaid iddo gael ei roi i berson y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn gyfrifol am drefnu’r digwyddiad, a

b

caiff ei gwneud yn ofynnol i’r digwyddiad gael ei gynnal yn unol ag unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru.

3

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi—

a

awdurdodiad a roddir o dan is-baragraff (1), a

b

manylion unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r digwyddiad.

4

Caiff Gweinidogion Cymru dynnu awdurdodiad yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person y rhoddwyd yr awdurdodiad iddo.

5

Ni chaniateir i awdurdodiad gael ei dynnu yn ôl o dan is-baragraff (4)

a

onid oes gan Weinidogion Cymru sail resymol dros gredu na chaiff y digwyddiad ei gynnal, neu nad yw’n cael ei gynnal, yn unol â gofyniad, cyfyngiad neu amod arall a bennir ganddynt, neu

b

onid yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur tynnu’r awdurdodiad yn ôl at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint gan y coronafeirws.

Annotations:
Commencement Information
I99

Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

RHAN 3Cyfyngiadau ar deithio

Cyfyngiad ar deithio i ardal Lefel Rhybudd 4F126I1586

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F186...

Annotations:
Amendments (Textual)
F186

Atod. 4 Rhn. 3A wedi ei hepgor (13.3.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021 (O.S. 2021/307), rhlau. 1(2), 2(7)(b)

F204Cyfyngiadau ar fynd i fangreoedd ysgolion6A

1

Ni chaiff perchennog ysgol yng Nghymru ganiatáu i ddisgybl F193dynodedig fynd i fangre’r ysgol.

F231A

Yn y paragraff hwn, ystyr “disgybl dynodedig” yw disgybl ym mlwyddyn 3 neu’n uwch.

2

Ond nid yw is-baragraff (1) yn atal perchennog rhag caniatáu—

a

i ddisgybl F134dynodedig fynd i fangre ysgol—

i

i sefyll arholiad neu wneud asesiad arall;

ii

pa fo perchennog yr ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi yn hysbysu rhiant y disgybl ei fod yn ystyried ei bod yn briodol i’r disgybl fynd yno oherwydd hyglwyfedd y disgybl;

iii

pan—

aa

bo’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi, neu

bb

perchennog yr ysgol annibynnol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi,

yn penderfynu bod y disgybl yn blentyn i weithiwr hanfodol;

b

F210i ddisgybl dynodedig fynd i fangre ysgol arbennig;

c

F76i ddisgybl dynodedig fynd i fangre uned cyfeirio disgyblion;

d

F124i ddisgybl dynodedig fynd i fangre uned mewn ysgol, pan—

i

bo awdurdod lleol yn cydnabod bod yr uned wedi ei neilltuo ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig, a

ii

bo’r disgybl yn cael ei addysgu’n gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr uned;

e

F155i ddisgybl dynodedig sy’n ddisgybl preswyl breswylio mewn llety ym mangre’r ysgol.

3

Wrth benderfynu a yw disgybl yn blentyn i weithiwr hanfodol, rhaid i’r awdurdod lleol neu berchennog ysgol annibynnol roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru ynghylch adnabod plant gweithwyr hanfodol.

Cyfyngiad ar fynd i fangre addysg bellach6B

1

Ni chaiff perchennog sefydliad addysg bellach yng Nghymru ganiatáu i fyfyriwr fynd i fangre’r sefydliad addysg bellach.

2

Ond nid yw is-baragraff (1) yn atal perchennog rhag caniatáu i fyfyriwr fynd i fangre—

F55a

sefydliad addysg bellach—

i

i sefyll arholiad neu wneud asesiad arall, neu

ii

i wneud cwrs mewn peirianneg, adeiladu, lletygarwch, arlwyo neu amaethyddiaeth, pan fo presenoldeb yn y sefydliad yn angenrheidiol er mwyn galluogi’r myfyriwr i gwblhau elfen ofynnol o’r cwrs;

b

sefydliad yn y sector addysg bellach pan fo’r sefydliad yn hysbysu’r myfyriwr ei fod yn ystyried ei bod yn briodol i’r myfyriwr fynd yno oherwydd hyglwyfedd y myfyriwr.

Gorfodi6C

Mae unrhyw fethiant gan berchennog i gydymffurfio â pharagraff 6A neu 6B yn orfodadwy drwy gais am waharddeb gan Weinidogion Cymru neu gan yr awdurdod lleol y digwyddodd y methiant honedig yn ei ardal i’r Uchel Lys neu’r Llys Sirol, heb rybudd.

F186

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

RHAN 4Cyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau penodol

PENNOD 1Busnesau a gwasanaethau y mae rhaid cau eu mangreoedd ond y caniateir mynediad cyfyngedig iddynt

Cau busnesau bwyd a diodI1047

1

O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 12 i 14 (busnesau bwyd a diod)—

a

rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes, a

b

ni chaiff gynnal busnes yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r paragraff hwn.

2

Nid yw is-baragraff (1) yn atal—

a

defnyddio mangre ar gyfer—

i

gwerthu bwyd a diod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre, neu

ii

gwasanaethau sy’n darparu bwyd neu ddiod i bobl ddigartref;

b

darparu gwasanaeth ystafell mewn gwesty neu lety arall (pan fo’r gwesty neu’r llety arall yn parhau i weithredu yn unol â’r eithriadau a ganiateir gan baragraff 8);

c

ffreutur yn y gweithle rhag bod ar agor pan na fo dewis ymarferol arall i staff yn y gweithle hwnnw gael bwyd neu ddiod;

d

gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach.

3

At ddibenion is-baragraff (1), mae ardal o dan do sy’n gyfagos i fangre’r busnes lle y mae seddau yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid y busnes (pa un ai gan y busnes ai peidio) i’w thrin fel rhan o fangre’r busnes hwnnw.

4

Pan—

a

bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a

b

bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.

Annotations:
Commencement Information
I104

Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Cau llety gwyliau neu lety teithioI828

1

O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 15 i 18 (llety gwyliau neu lety teithio)—

a

rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes, a

b

ni chaiff gynnal busnes yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r rheoliad hwn.

2

Nid yw is-baragraff (1) yn atal—

a

gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;

b

defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;

c

darparu llety ar gyfer unrhyw bersonau sy’n aros yn y llety hwnnw pan ddechreuodd y paragraff hwn fod yn gymwys yn fwyaf diweddar i’r ardal y mae’r llety wedi ei leoli ynddi ac—

i

nad ydynt yn gallu dychwelyd i’w prif breswylfa, neu

ii

sy’n defnyddio’r llety fel eu prif breswylfa;

d

defnyddio mangre i gynnal y busnes drwy ddarparu gwybodaeth neu wasanaethau eraill—

i

drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

ii

dros y ffôn, gan gynnwys ymholiadau drwy neges destun, neu

iii

drwy’r post.

3

Pan—

a

bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a

b

bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.

Annotations:
Commencement Information
I82

Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Cau canolfannau cymunedol F113...I319

1

Rhaid i berson sy’n gyfrifol am fangre sydd o fath a restrir ym F115mharagraff 19 sicrhau bod y fangre ar gau i aelodau’r cyhoedd, ac eithrio ar gyfer y defnydd a ganiateir gan F162is-baragraff (2) .

2

Caiff canolfan gymunedol fod ar agor—

a

i darparu gwasanaethau gwirfoddol hanfodol, neu

b

i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol.

F1913

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F1914

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

5

Yn y paragraff hwn, mae “gwasanaethau cyhoeddus” yn cynnwys darparu banciau bwyd neu gymorth arall ar gyfer pobl ddigartref neu bobl hyglwyf, gofal plant, sesiynau rhoi gwaed neu gymorth mewn argyfwng.

PENNOD 2Busnesau neu wasanaethau y mae’n ofynnol cau eu mangreoedd

Cau busnesau a gwasanaethauI13910

1

O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir ym mharagraffau 21 i 48

a

rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes neu’r gwasanaeth, a

b

ni chaiff gynnal y busnes neu’r gwasanaeth yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r paragraff hwn.

2

Nid yw is-baragraff (1) yn atal—

a

gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;

b

defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;

c

defnyddio mangre i ddarlledu heb gynulleidfa yn bresennol yn y fangre (pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu) neu i ymarfer ar gyfer darllediad o’r fath;

d

defnyddio mangre ar gyfer darparu nwyddau neu wasanaethau (gan gynnwys eu gwerthu, eu llogi, eu casglu neu eu danfon) mewn ymateb i archeb neu ymholiad a wneir—

i

drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

ii

dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu

iii

drwy’r post;

e

defnyddio mangre ar gyfer darparu gwybodaeth—

i

drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

ii

dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu

iii

drwy’r post.

3

Pan—

a

bo’n ofynnol, yn rhinwedd y paragraff hwn, i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a

b

bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.

Annotations:
Commencement Information
I139

Atod. 4 para. 10 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

PENNOD 3Busnesau a gwasanaethau y mae eu mangreoedd wedi’u heithrio rhag y gofyniad i gau

Esemptiad rhag y gofyniad i gauI8311

1

Er gwaethaf darpariaethau blaenorol y Rhan hon, caiff mangreoedd a weithredir gan fusnesau neu wasanaethau a restrir ym mharagraffau 49 i 66 barhau i fod ar agor.

2

A chaiff canolfannau siopa, arcedau siopa a marchnadoedd fod ar agor i’r cyhoedd i’r graddau y mae hyn yn ofynnol i fynd i fusnes neu ddefnyddio wasanaeth a restrir ym mharagraffau 49 i 66.

3

Ni chaiff person sy’n gyfrifol am fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed oddi ar y fangre werthu neu gyflenwi alcohol rhwng 10.00 p.m. a 6.00 a.m.

4

Nid yw is-baragraff (3) yn caniatáu i’r person sy’n gyfrifol am y fangre werthu neu gyflenwi alcohol yn groes i awdurdodiad sydd wedi ei ganiatáu neu ei roi mewn cysylltiad â’r fangre.

Annotations:
Commencement Information
I83

Atod. 4 para. 11 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

PENNOD 4Rhestr o fangreoedd sydd ar gau

Mangreoedd sydd ar gau

Busnesau bwyd a diod

I5012

Bariau (gan gynnwys bariau mewn clybiau aelodau).

I18013

Tafarndai.

I11014

Caffis, ffreuturau a bwytai (gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle ac ystafelloedd bwyta mewn clybiau aelodau).

Llety gwyliau neu lety teithio

I6115

Safleoedd gwersylla.

I19416

Safleoedd gwyliau.

I19917

Gwestai a llety gwely a brecwast.

I1018

Llety gwyliau arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau, hostelau a thai byrddio).

Gwasanaethau cyhoeddus etc.

I1119

Canolfannau cymunedol.

F218I1820

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

I10121

Llyfrgelloedd a gwasanaethau archifau.

Gwasanaethau personol etc.

I12422

Salonau gwallt a barbwyr.

I16623

Salonau ewinedd a harddwch gan gynnwys gwasanaethau lliw haul ac electrolysis.

I16824

Gwasanaethau tyllu’r corff a thatŵio.

Hamdden a chymdeithasol etc.

I9425

Clybiau nos, disgos, neuaddau dawnsio neu leoliadau eraill sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol lle y darperir cerddoriaeth fyw neu wedi ei recordio i aelodau’r cyhoedd neu aelodau’r lleoliad ddawnsio.

I13426

Lleoliadau adloniant rhywiol (o fewn yr ystyr a roddir i “sexual entertainment venue” gan baragraff 2A o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982).

I8927

Sinemâu.

I12128

Neuaddau cyngerdd a theatrau.

I9329

Casinos.

I7630

Neuaddau bingo.

I7531

Arcedau diddanu.

I18932

Alïau bowlio.

I8533

Canolfannau neu fannau chwarae o dan do.

I7934

Ffeiriau pleser, parciau diddanu a pharciau thema.

I6035

Busnesau gwyliau, gweithgareddau hamdden neu ddigwyddiadau.

I3736

Amgueddfeydd ac orielau.

I1937

Rinciau sglefrio F62 .

I13238

Parciau a chanolfannau trampolîn.

I7739

Parciau a chanolfannau sglefrio amgaeedig neu o dan do.

I4040

Sbaon.

I1641

Lleoliadau ar gyfer digwyddiadau neu gynadleddau (gan gynnwys lleoliadau ar gyfer priodasau).

I942

Atyniadau i ymwelwyr.

Chwaraeon ac ymarfer corff

I2243

Cyfleusterau chwaraeon neu ymarfer corff, gan gynnwys stiwdios ffitrwydd o dan do a champfeydd.

I12944

Pyllau nofio.

I19245

Cyrtiau chwaraeon, lawntiau bowlio, cyrsiau golff a meysydd neu leiniau chwaraeon amgaeedig (boed yn yr awyr agored neu o dan do).

Manwerthu etc.

I4346

Unrhyw fusnes sy’n cynnig nwyddau neu wasanaethau ar gyfer eu gwerthu neu eu llogi mewn mangre fanwerthu.

I14847

Canolfannau siopa ac arcedau siopa.

I13348

Asiantau eiddo neu asiantau gosod eiddo F138a swyddfeydd gwerthiant datblygwyr .

Annotations:
Commencement Information
I50

Atod. 4 para. 12 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I180

Atod. 4 para. 13 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I110

Atod. 4 para. 14 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I61

Atod. 4 para. 15 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I194

Atod. 4 para. 16 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I199

Atod. 4 para. 17 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I10

Atod. 4 para. 18 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I11

Atod. 4 para. 19 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I18

Atod. 4 para. 20 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I101

Atod. 4 para. 21 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I124

Atod. 4 para. 22 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I166

Atod. 4 para. 23 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I168

Atod. 4 para. 24 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I94

Atod. 4 para. 25 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I134

Atod. 4 para. 26 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I89

Atod. 4 para. 27 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I121

Atod. 4 para. 28 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I93

Atod. 4 para. 29 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I76

Atod. 4 para. 30 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I75

Atod. 4 para. 31 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I189

Atod. 4 para. 32 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I85

Atod. 4 para. 33 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I79

Atod. 4 para. 34 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I60

Atod. 4 para. 35 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I37

Atod. 4 para. 36 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I19

Atod. 4 para. 37 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I132

Atod. 4 para. 38 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I77

Atod. 4 para. 39 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I40

Atod. 4 para. 40 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I16

Atod. 4 para. 41 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I9

Atod. 4 para. 42 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I22

Atod. 4 para. 43 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I129

Atod. 4 para. 44 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I192

Atod. 4 para. 45 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I43

Atod. 4 para. 46 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I148

Atod. 4 para. 47 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I133

Atod. 4 para. 48 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Mangreoedd esempt

Gwasanaethau cyhoeddus etc.

I649

Gwasanaethau deintyddol, optegwyr, gwasanaethau awdioleg, gwasanaethau trin traed, ceiropractyddion, osteopathiaid, gwasanaethau ffisiotherapi, gwasanaethau aciwbigo a gwasanaethau meddygol neu iechyd eraill, gan gynnwys gwasanaethau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl.

I14150

Llyfrgelloedd ysbytai a llyfrgelloedd mewn sefydliadau addysgol.

I16751

Trefnwyr angladdau.

I2152

Milfeddygon.

Busnesau bwyd a diod.

I14253

Caffis a ffreuturau mewn ysbyty, cartref gofal, ysgol neu mewn llety a ddarperir ar gyfer myfyrwyr.

I18454

Ffreuturau mewn carchar neu sefydliad y bwriedir iddo gael ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu’r llu awyr neu at ddibenion Adran yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol am amddiffyn.

Manwerthu etc.

I11255

Busnesau sy’n cynnig y nwyddau a ganlyn ar gyfer eu gwerthu neu eu llogi mewn siop—

a

bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre (gan gynnwys bwyd ar gyfer anifeiliaid anwes ac anifeiliaid domestig arall);

b

cynhyrchion sy’n hanfodol ar gyfer storio a pharatoi bwyd neu ddiod neu ar gyfer bwyta bwyd neu yfed diod;

c

cynhyrchion ar gyfer cynnal, cynnal a chadw neu weithrediad hanfodol y cartref neu weithle;

d

cynhyrchion fferyllol, cynhyrchion iechyd a gofal personol, cynhyrchion babanod (gan gynnwys dillad), cynhyrchion ymolchi a chynhyrchion cosmetig;

e

papurau newydd a chylchgronau;

f

beiciau a chynhyrchion sy’n hanfodol ar gyfer defnyddio a chynnal a chadw beiciau,

ond dim ond at ddibenion gwerthu neu logi’r nwyddau hynny.

I7156

Marchnadoedd bwyd, siopau cyfleustra, siopau cornel, siopau anifeiliaid anwes, siopau sydd â thrwydded i werthu alcohol i’w yfed oddi ar eu mangreoedd a gorsafoedd petrol.

I18557

Archfarchnadoedd a siopau eraill sy’n gwerthu sawl math o nwyddau ond dim ond at ddibenion—

a

gwerthu’r nwyddau a restrir ym mharagraff 55;

b

gwerthu nwyddau o fath a werthir fel arfer gan unrhyw un neu ragor o’r busnesau a restrir yn is-baragraff 56;

c

gwerthu nwyddau eraill—

i

pan na fo’n rhesymol ymarferol gwahanu neu ddarnodi’r ardaloedd hynny o siop sy’n arddangos nwyddau o’r fath fel arfer oddi wrth yr ardaloedd hynny sy’n arddangos y nwyddau a grybwyllir ym mharagraffau (a) a (b);

ii

ar sail eithriadol pan fo angen y nwyddau mewn argyfwng neu ar sail dosturiol.

I15658

Siopau sy’n cynnig gwasanaethau cynnal a chadw neu atgyweirio ar gyfer dyfeisiau telathrebu neu dechnoleg gwybodaeth.

I3459

Siopau cyflenwadau adeiladu ac offer.

I19160

Banciau, cymdeithasau adeiladu a darparwyr gwasanaethau ariannol eraill.

I2361

Swyddfeydd post.

I862

Gwasanaethau trwsio ceir ac MOT.

F16662A

Golchfeydd ceir awtomatig.

I6463

Marchnadoedd neu arwerthiannau da byw.

I3564

Golchdai a siopau sychlanhau.

I2765

Busnesau tacsi neu logi cerbydau.

I1266

Siopau cyflenwadau amaethyddol neu ddyframaethu.

Annotations:
Commencement Information
I6

Atod. 4 para. 49 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I141

Atod. 4 para. 50 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I167

Atod. 4 para. 51 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I21

Atod. 4 para. 52 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I142

Atod. 4 para. 53 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I184

Atod. 4 para. 54 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I112

Atod. 4 para. 55 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I71

Atod. 4 para. 56 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I185

Atod. 4 para. 57 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I156

Atod. 4 para. 58 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I34

Atod. 4 para. 59 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I191

Atod. 4 para. 60 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I23

Atod. 4 para. 61 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I8

Atod. 4 para. 62 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I64

Atod. 4 para. 63 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I35

Atod. 4 para. 64 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I27

Atod. 4 para. 65 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I12

Atod. 4 para. 66 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

ATODLEN 5F59Ardaloedd ac addasiadau dros dro

Rheoliad 4(8)

Annotations:

I1251

Dyma’r tabl y cyfeirir ato yn rheoliad 4(8)

Colofn 1

Colofn 2

Colofn 3

Ardal

Lefel Rhybudd yr Ardal F1653

1

Cymru gyfan

F1354

F122Addasiadau dros dro

Annotations:
Amendments (Textual)
F122

Atod. 5 para. 2 wedi ei amnewid (27.3.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2021 (O.S. 2021/413), rhlau. 1(2), 2(5)(b)

2

Mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 3, am y cyfnod sy’n dod i ben ar ddiwedd y diwrnod ar F1112 Mai 2021—

a

mae rheoliad 25 i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (3)(a)(iv)—

iv

paragraff 7(1), 8(1), 9(1), 10(1) neu 11(2) o Atodlen 3A, neu

b

mae rheoliad 27 i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (1)(d)—

d

paragraff 7(1), 8(1), 9(1), 10(1) neu 11(2) o Atodlen 3A, neu

c

mae rheoliad 28 i’w ddarllen fel pe bai—

i

ym mharagraff (1)(c), “Atodlen 3A” wedi ei roi yn lle “Atodlen 3”;

ii

y canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (3)(c)—

c

paragraff 2(1) neu 3(1) o Atodlen 3A, neu

F212d

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

e

mae rheoliad 31(1)(b) i’w ddarllen fel pe bai “paragraff 5 o Atodlen 3A” wedi ei roi yn lle “paragraff 4 o Atodlen 3”;

F65ea

mae rheoliad 31(3) i’w ddarllen fel pe bai “paragraff 5A o Atodlen 3A” wedi ei roi yn lle “paragraff 6 o Atodlen 3”;

f

mae rheoliad 37 i’w ddarllen fel pe bai—

i

y canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (1)(c)—

c

paragraff 1(1), 2(1) neu 3(1) o Atodlen 3A, neu

ii

ym mharagraff (2)(c)(iii), “Atodlen 3A” wedi ei roi yn lle “Atodlen 3”;

F106g

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

h

mae rheoliad 39 i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (1)(c)—

c

paragraff 5 o Atodlen 3A, neu

i

mae rheoliad 42 i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (1)(c)—

c

paragraff 7(1), 8(1), 9(1), 10(1) neu 11(2) o Atodlen 3A, neu

F93ATODLEN 5APersonau sydd wedi eu hesemptio rhag y cyfyngiadau ar ymadael â’r Deyrnas Unedig, a’r gofyniad i gael ffurflen datganiad teithio

Rheoliadau 14A a 14B

Annotations:

1

1

Person (“P”)—

a

sy’n aelod o genhadaeth ddiplomyddol yn y Deyrnas Unedig,

b

sy’n aelod o swyddfa gonsylaidd yn y Deyrnas Unedig,

c

sy’n swyddog neu’n was i sefydliad rhyngwladol,

d

a gyflogir gan sefydliad rhyngwladol fel arbenigydd neu ar genhadaeth,

e

sy’n gynrychiolydd i sefydliad rhyngwladol,

f

sy’n gynrychiolydd mewn cynhadledd ryngwladol neu gynhadledd y Deyrnas Unedig y rhoddir breintiau a breinryddidau iddo yn y Deyrnas Unedig,

g

sy’n aelod o staff swyddogol cynrychiolydd i sefydliad rhyngwladol, neu berson sy’n dod o fewn paragraff (f),

h

a ddisgrifir ym mharagraff (a) neu (b) sy’n pasio drwy’r Deyrnas Unedig i gychwyn neu barhau â’i swyddogaethau ar genhadaeth ddiplomyddol neu mewn swydd gonsylaidd mewn gwlad neu diriogaeth arall, neu i ddychwelyd i wlad ei genedligrwydd,

i

sy’n gynrychiolydd i wlad dramor neu diriogaeth dramor sy’n teithio i’r Deyrnas Unedig i gynnal busnes swyddogol gyda’r Deyrnas Unedig,

j

sy’n gynrychiolydd llywodraeth i diriogaeth dramor Brydeinig,

k

sy’n gludydd diplomyddol neu’n gludydd consylaidd, neu

l

sy’n aelod o’r teulu sy’n ffurfio rhan o aelwyd person sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (k).

2

At ddibenion y paragraff hwn—

a

ystyr “cludydd consylaidd” yw person sydd wedi cael dogfen swyddogol gan y Wladwriaeth y mae’n gweithredu ar ei rhan sy’n cadarnhau ei statws fel cludydd consylaidd yn unol ag Erthygl 35(5) o Gonfensiwn Fienna ar Gysylltiadau Consylaidd 1963;

b

ystyr “swyddfa gonsylaidd” yw unrhyw gonsyliaeth gyffredinol, consyliaeth, is-gonsyliaeth neu asiantaeth gonsylaidd;

c

ystyr “cludydd diplomyddol” yw person sydd wedi cael dogfen swyddogol gan y Wladwriaeth y mae’n gweithredu ar ei rhan sy’n cadarnhau ei statws fel cludydd diplomyddol yn unol ag Erthygl 27(5) o Gonfensiwn Fienna ar Gysylltiadau Diplomyddol 1961;

d

ystyr “sefydliad rhyngwladol” yw sefydliad rhyngwladol y rhoddwyd breintiau a breinryddidau iddo yn y Deyrnas Unedig;

e

ystyr “aelod o swyddfa gonsylaidd” yw swyddog consylaidd, cyflogai consylaidd ac aelod o staff y gwasanaeth yn unol â’r diffiniadau o “consular officer”, “consular employee” a “member of the service staff” yn Atodlen 1 i Ddeddf Cysylltiadau Consylaidd 1968, ac mae i “pennaeth swyddfa gonsylaidd” yr ystyr a roddir i “head of consular post” yn yr Atodlen honno;

f

ystyr “aelod o genhadaeth ddiplomyddol” yw pennaeth y genhadaeth, aelodau o’r staff diplomyddol, aelodau o’r staff gweinyddol a thechnegol ac aelodau o staff y gwasanaeth yn unol â’r diffiniadau o “head of the mission”, “members of the diplomatic staff”, “members of the administrative and technical staff” a “members of the service staff” yn Atodlen 1 i Ddeddf Breintiau Diplomyddol 1964.

2

1

Gwas i’r Goron neu gontractwr llywodraeth pan fo’n ymgymryd â gwaith llywodraeth hanfodol sy’n gysylltiedig â ffin y Deyrnas Unedig y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

2

At ddibenion is-baragraff (1) a pharagraff 3—

a

mae i “gwas i’r Goron” yr ystyr a roddir i “Crown servant” yn adran 12(1)(a) i (e) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989;

b

ystyr “gwaith llywodraeth hanfodol” yw gwaith sydd wedi ei ddynodi felly gan yr Adran berthnasol neu’r cyflogwr perthnasol;

c

mae i “contractwr llywodraeth” yr ystyr a roddir i “government contractor” yn adran 12(2) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989.

3

1

Person sy’n was i’r Goron, yn gontractwr llywodraeth neu’n aelod o lu ar ymweliad—

a

y mae’n ofynnol iddo ymgymryd â gwaith sy’n angenrheidiol er mwyn i weithgareddau amddiffyn hanfodol gael eu cyflawni;

b

sy’n teithio ar lestr neu awyren a weithredir gan luoedd arfog Ei Mawrhydi, neu sy’n eu cefnogi, neu a weithredir gan lu ar ymweliad, neu sy’n ei gefnogi.

2

At ddibenion is-baragraff (1)—

a

mae i “amddiffyn” yr ystyr a roddir i “defence” yn adran 2(4) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989;

b

ystyr “llu ar ymweliad” yw unrhyw gorfflu, criw neu adran o luoedd gwlad, sy’n gorfflu, criw neu adran o luoedd sy’n bresennol am y tro yn y Deyrnas Unedig (gan gynnwys dyfroedd tiriogaethol y Deyrnas Unedig), ar wahoddiad Llywodraeth Ei Mawrhydi ar gyfer y Deyrnas Unedig.

4

Swyddog i Lywodraeth dramor, a ddaeth i’r Deyrnas Unedig i ymgymryd â dyletswyddau diogelwch ffin hanfodol, neu gontractwr sy’n cefnogi’r dyletswyddau diogelwch ffin hanfodol hyn yn uniongyrchol.

5

1

Teithiwr tramwy.

2

At ddibenion is-baragraff (1), ystyr “teithiwr tramwy” yw person sydd, ar ôl cyrraedd y Deyrnas Unedig—

a

yn pasio drwodd i wlad neu diriogaeth arall y tu allan i’r ardal deithio gyffredin heb ddod i’r Deyrnas Unedig, neu

b

yn dod i’r Deyrnas Unedig at ddiben parhau â thaith i wlad neu diriogaeth y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, ac at y diben hwnnw yn unig, ac—

i

yn aros o fewn y porthladd lle y mae’n dod i’r Deyrnas Unedig hyd nes y bo’n ymadael â Chymru, neu

ii

yn teithio’n uniongyrchol o’r porthladd lle y mae’n dod i’r Deyrnas Unedig i borthladd ymadael arall yng Nghymru.

6

1

Gweithiwr cludiant ffyrdd neu weithiwr cludiant teithwyr ffyrdd.

2

At ddibenion y paragraff hwn—

a

mae “gyrrwr” yn cynnwys person sy’n teithio mewn cerbyd fel gyrrwr wrth gefn;

b

mae i “cerbyd nwyddau” yr ystyr a roddir i “goods vehicle” yn adran 192 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988;

c

ystyr “gweithiwr cludiant ffyrdd” yw—

i

gyrrwr cerbyd nwyddau sy’n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â chludo nwyddau, ac eithrio nwyddau at ddiben personol anfasnachol y gyrrwr, neu

ii

person a gyflogir gan ddeiliad trwydded Gymunedol a ddyroddwyd o dan Erthygl 4 o Reoliad (EC) Rhif 1072/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac sy’n gweithredu yng nghwrs ei gyflogaeth;

d

mae i “cerbyd gwasanaeth cyhoeddus” yr ystyr a roddir i “public service vehicle” yn adran 1 o Ddeddf Cerbydau Cyhoeddus i Deithwyr 1981;

e

ystyr “gweithiwr cludiant teithwyr ffyrdd” yw—

i

gyrrwr cerbyd gwasanaeth cyhoeddus, neu

ii

person a gyflogir gan ddeiliad trwydded Gymunedol a ddyroddwyd o dan Erthygl 4 o Reoliad (EC) Rhif 1073/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac sy’n gweithredu yng nghwrs ei gyflogaeth.

7

1

Morwyr a meistri, fel y diffinnir “seaman” a “master” yn adran 313(1) o Ddeddf Llongau Masnach 1995, pan fônt yn teithio o’r Deyrnas Unedig yng nghwrs eu gwaith neu’n cael eu dychwelyd o’r Deyrnas Unedig yn unol â’r Confensiwn Llafur Morwrol, 2006 neu’r Confensiwn Gwaith mewn Pysgota, 2007.

2

At ddibenion is-baragraff (1)—

a

ystyr “y Confensiwn Llafur Morol, 2006” yw’r Confensiwn a fabwysiadwyd ar 23 Chwefror 2006 gan Gynhadledd Gyffredinol y Sefydliad Llafur Rhyngwladol;

b

ystyr “y Confensiwn Gwaith mewn Pysgota, 2007” yw’r Confensiwn a fabwysiadwyd yng Ngenefa ar 14 Mehefin 2007 gan y Sefydliad Llafur Rhyngwladol.

8

Peilot, fel y diffinnir “pilot” ym mharagraff 22(1) o Atodlen 3A i Ddeddf Llongau Masnach 1995, pan fo’n teithio o’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith neu’n cael ei ddychwelyd o’r Deyrnas Unedig.

9

Arolygydd neu syrfëwr llongau a benodwyd o dan adran 256 o Ddeddf Llongau Masnach 1995 neu gan lywodraeth meddiant Prydeinig perthnasol fel y diffinnir “relevant British possession” yn adran 313(1) o’r Ddeddf honno, pan fo’n teithio o’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.

10

1

Aelod o griw awyren pan fo’n teithio o’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith neu y mae’n ofynnol iddo deithio o’r Deyrnas Unedig fel arall at ddibenion gwaith.

2

Yn is-baragraff (1)—

a

ystyr “aelod o griw awyren” yw person sydd—

i

yn gweithredu fel peilot, llywiwr hedfan, peiriannydd hedfan neu weithredwr radioteleffoni hedfan yr awyren,

ii

yn cael ei gludo ar y dec hedfan ac yn cael ei benodi gan weithredwr yr awyren i roi neu i oruchwylio’r hyfforddiant, y profiad, yr ymarfer a’r profion cyfnodol sy’n ofynnol ar gyfer y criw hedfan o dan erthygl 114(2) o Orchymyn Llywio Awyr 2016 neu o dan Atodiad III neu Atodiad VI i Reoliad Gweithrediadau Awyr EASA, neu

iii

yn cael ei gludo ar yr hediad at ddiben cyflawni dyletswyddau sydd i’w haseinio gan y gweithredwr neu’r peilot sydd â rheolaeth o’r awyren er budd diogelwch teithwyr neu’r awyren;

b

mae i “Rheoliad Gweithrediadau Awyr EASA” yr ystyr a roddir i “EASA Air Operations Regulation” ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i Orchymyn Llywio Awyr 2016.

11

Arolygwyr hedfan sifil, fel y diffinnir “civil aviation inspector” yn Atodiad 9 i’r Confensiwn ar Hedfan Sifil Rhyngwladol a lofnodwyd yn Chicago ar 7 Rhagfyr 1944, pan fônt yn teithio o’r Deyrnas Unedig wrth ymgymryd â dyletswyddau arolygu.

12

1

Unrhyw un o’r personau a ganlyn sy’n teithio o’r Deyrnas Unedig yng nghwrs eu gwaith—

a

gyrwyr a chriwiau ar wasanaethau gwennol ac ar wasanaethau ar gyfer cludo teithwyr neu nwyddau drwy gyfrwng system y twnnel;

b

gweithwyr gweithredol, gweithwyr cynnal a chadw rheilffyrdd, a gweithwyr diogelwch a diogeledd sy’n gweithio ar system y twnnel;

c

gweithwyr eraill sy’n cyflawni rolau hanfodol ar gyfer gweithredu, mewn modd diogel neu effeithlon, system y twnnel, gwasanaethau gwennol neu wasanaethau ar gyfer cludo teithwyr neu nwyddau drwy gyfrwng system y twnnel, neu sy’n ymwneud â diogelwch system y twnnel neu unrhyw wasanaethau o’r fath.

2

At ddibenion is-baragraff (1)—

a

mae i “gwasanaeth gwennol” yr ystyr a roddir i “shuttle service” yn adran 1(9) o Ddeddf Twnnel y Sianel 1987;

b

mae i “system y twnnel” yr ystyr a roddir i “tunnel system” yn adran 1(7) o’r Ddeddf honno.

13

Person a ddynodir gan y Gweinidog perthnasol o dan adran 5(3) o Ddeddf Dychwelyd Carcharorion i’w Gwlad eu Hunain 1984.

14

Person sy’n cael ei symud o’r Deyrnas Unedig yn unol â gwarant a ddyroddwyd o dan adran 1 o Ddeddf Dychwelyd Carcharorion i’w Gwlad eu Hunain 1984.

15

Person sy’n gyfrifol am hebrwng person a geisir i’w estraddodi yn unol â gwarant a ddyroddwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Estraddodi 2003, neu berson a geisir i’w estraddodi yn unol ag unrhyw drefniadau estraddodi eraill.

16

Cynrychiolydd i unrhyw diriogaeth a deithiodd i’r Deyrnas Unedig er mwyn cymryd i’r ddalfa berson y gorchmynnwyd ei ildio yn unol ag unrhyw ddarpariaeth yn Neddf Estraddodi 2003.

17

Person sy’n cael ei estraddodi neu ei allgludo o’r Deyrnas Unedig, ac unrhyw berson sy’n cael ei symud o’r Deyrnas Unedig, neu sy’n ymadael â hi yn wirfoddol, am nad oes ganddo ganiatâd i ddod i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi.

18

1

Peiriannydd awyrofod arbenigol, neu weithiwr awyrofod arbenigol, pan fo’n teithio o’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.

2

At ddibenion is-baragraff (1)—

a

ystyr “peiriannydd awyrofod arbenigol” yw person sydd wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen fel arall i ddarparu gwasanaethau peirianyddol at ddiben sicrhau bod gweithgareddau hedfan yn parhau i weithredu (gan gynnwys darparu gwasanaethau cynnal a chadw ac atgyweirio ar gyfer llinellau cynhyrchu, cydrannau hedfan, awyrennau ar y ddaear ac awyrennau newydd, ond heb ei gyfyngu i hynny);

b

ystyr “gweithiwr awyrofod arbenigol” yw person sydd wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen fel arall i ddarparu gwasanaethau at ddiben sicrhau bod diogelwch yn cael ei reoli a bod ansawdd yn cael ei sicrhau fel sy’n ofynnol gan y safonau, y canllawiau a’r cyhoeddiadau perthnasol ar ddiogelwch hedfan a gynhyrchir gan yr Awdurdod Hedfan Sifil neu Asiantaeth Diogelwch Hedfan yr Undeb Ewropeaidd.

F92ATODLEN 6Addasiadau dros dro ar gyfer y Nadolig: aelwydydd estynedig a theithio

Rheoliad 4(7)

Annotations:

Y Nadolig: addasiadau dros dro i gyfyngiadau ar gynulliadau mewn anheddau preifat a chyfyngiadau ar deithioF921

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diffiniad o “cyfnod y Nadolig”F922

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Aelwydydd estynedig yn ystod cyfnod y Nadolig

F923

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F924

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Darpariaeth drosiannol ynghylch aelwydydd estynedigF925

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

I119ATODLEN 7Mangreoedd rheoleiddiedig

Rheoliad 15

Annotations:
Commencement Information
I119

Atod. 7 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I119Busnesau bwyd a diod

I1161

Bariau (gan gynnwys bariau mewn clybiau aelodau).

I392

Tafarndai.

I903

Caffis, ffreuturau a bwytai (gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle ac ystafelloedd bwyta mewn clybiau aelodau).

Llety gwyliau a llety teithio

I1404

Safleoedd gwersylla.

I875

Safleoedd gwyliau.

I696

Gwestai a llety gwely a brecwast.

I1207

Llety gwyliau arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau, hostelau a thai byrddio).

Gwasanaethau cyhoeddus etc.

I1158

Gwasanaethau meddygol neu iechyd.

I1829

Gwasanaethau ailgylchu a gwastraff.

I10310

Canolfannau cymunedol.

I19511

Llyfrgelloedd a gwasanaethau archifau.

I12612

Addoldai.

I8013

Trefnwyr angladdau.

I15114

Amlosgfeydd.

I14715

Milfeddygon.

Gwasanaethau personol etc.

I13116

Salonau gwallt a barbwyr.

I15317

Salonau ewinedd a harddwch gan gynnwys gwasanaethau lliw haul ac electrolysis.

I17618

Gwasanaethau tyllu’r corff a thatŵio.

Hamdden a chymdeithasol etc.

I13619

Sinemâu.

I16520

Neuaddau cyngerdd a theatrau.

I14621

Casinos.

I4422

Neuaddau bingo.

I11723

Arcedau diddanu.

I2824

Alïau bowlio.

I10825

Canolfannau neu fannau chwarae o dan do.

I12826

Meysydd chwarae.

I11127

Ffeiriau pleser, parciau diddanu a pharciau thema.

I14428

Busnesau gwyliau, gweithgareddau hamdden neu ddigwyddiadau.

I11829

Amgueddfeydd ac orielau.

I17830

Rinciau sglefrio F202.

I5931

Parciau a chanolfannau trampolîn.

I17332

Parciau a chanolfannau sglefrio o dan do.

I12333

Sbaon.

I8634

Lleoliadau ar gyfer digwyddiadau neu gynadleddau (gan gynnwys lleoliadau ar gyfer priodasau).

I435

Atyniadau i ymwelwyr.

Chwaraeon ac ymarfer corff

I4636

Cyfleusterau chwaraeon neu ymarfer corff, gan gynnwys stiwdios ffitrwydd o dan do a champfeydd.

I2037

Pyllau nofio.

I17238

Cyrtiau chwaraeon, lawntiau bowlio, cyrsiau golff a meysydd neu leiniau chwaraeon amgaeedig (boed yn yr awyr agored neu o dan do).

Manwerthu etc.

I15439

Unrhyw fusnes sy’n cynnig nwyddau neu wasanaethau ar gyfer eu gwerthu neu eu llogi mewn mangre fanwerthu, gan gynnwys—

a

tai arwerthiant;

b

delwriaethau ceir;

c

marchnadoedd;

d

siopau betio;

e

canolfannau garddio a meithrinfeydd planhigion;

f

fferyllfeydd (gan gynnwys fferyllfeydd nad ydynt yn darparu cyffuriau ar bresgripsiwn) a siopau cemist;

g

banciau, cymdeithasau adeiladu a darparwyr gwasanaethau ariannol eraill;

h

swyddfeydd post;

i

gwasanaethau trwsio ceir ac MOT;

j

marchnadoedd neu arwerthiannau da byw;

k

golchdai a siopau sychlanhau;

l

gorsafoedd petrol;

m

busnesau tacsi neu logi cerbydau.

I740

Canolfannau siopa ac arcedau siopa.

I13541

Cyfleusterau storio a dosbarthu, gan gynnwys mannau gollwng danfoniadau.

I20042

Asiantau eiddo neu asiantau gosod eiddo, swyddfeydd gwerthiant datblygwyr a chartrefi arddangos.

ATODLEN 8Gorfodi gofyniad i gymryd mesurau ataliol mewn mangre reoleiddiedig

Rheoliad 26

Hysbysiad gwella mangreI51

1

Caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad gwella mangre”) i berson cyfrifol os yw’r swyddog yn ystyried—

a

nad yw’r person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir ar y person gan reoliad 16F63, 17 neu 17A , a

b

bod y mesurau a bennir yn yr hysbysiad yn angenrheidiol ac yn gymesur er mwyn sicrhau bod y person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau hynny.

2

Rhaid i hysbysiad gwella mangre—

a

pennu’r fangre y mae’n ymwneud â hi;

b

pennu’r mesurau y mae’n ei gwneud yn ofynnol eu cymryd er mwyn sicrhau bod y person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliad 16F29, 17 neu 17A ;

c

pennu terfyn amser y mae rhaid cymryd y mesurau oddi mewn iddo (na chaniateir iddo fod yn llai nag 48 awr sy’n dechrau â’r amser y dyroddir yr hysbysiad);

d

rhoi manylion yr hawl i apelio a roddir gan baragraff 5.

3

Yn yr Atodlen hon, mae i “person cyfrifol” yr ystyr a roddir gan reoliad 15(2).

Hysbysiad cau mangreI1502

1

Os yw naill ai amod 1 neu amod 2 wedi ei fodloni, caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad cau mangre”) i berson cyfrifol sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r fangre, neu ran o’r fangre, gael ei chau.

2

Amod 1 yw—

a

bod hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi i’r person,

b

bod y swyddog gorfodaeth yn ystyried bod y person wedi methu â chymryd y mesurau a bennir yn yr hysbysiad gwella mangre o fewn y terfyn amser penodedig, ac

c

bod y swyddog yn ystyried bod cau’r fangre, neu ran o’r fangre, yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

3

Amod 2 yw bod y swyddog gorfodaeth yn ystyried—

a

nad yw’r person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliad 16F85, 17 neu 17A , a

b

bod cau’r fangre, neu ran o’r fangre, (heb fod hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi) yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

4

Rhaid i hysbysiad cau mangre—

a

cynnwys disgrifiad o’r fangre sydd i’w chau,

b

pan fo hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi, nodi’r mesurau y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried—

i

nad ydynt wedi eu cymryd, a

ii

y mae rhaid eu cymryd er mwyn sicrhau bod y person cyfrifol yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliad 16F50, 17 neu 17A ,

c

pan na fo hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi, nodi’r rhesymau pam y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried nad yw’r person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliad 16F42, 17 neu 17A ,

d

yn y naill achos neu’r llall, nodi’r rhesymau pam y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried bod cau’r fangre yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws,

e

pennu’r cyfnod y mae’r hysbysiad yn cael effaith amdano, ac

f

rhoi manylion yr hawl i apelio a roddir gan baragraff 5.

5

Ni chaniateir i’r cyfnod a bennir o dan is-baragraff (4)(e) fod yn hwy na 672 o oriau (28 o ddiwrnodau) sy’n dechrau â’r amser y dyroddir yr hysbysiad.

6

Mae hysbysiad cau mangre yn cael effaith o’r amser y’i dyroddir neu o amser diweddarach a bennir yn yr hysbysiad.

7

Ni chaniateir dyroddi hysbysiad cau mangre mewn perthynas â mangre sy’n rhan o seilwaith hollbwysig (er enghraifft, mangre a ddefnyddir i gynhyrchu trydan neu gyflenwi dŵr) neu a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.

8

Pan fo—

a

swyddog gorfodaeth yn ystyried bod person cyfrifol wedi methu â chymryd y mesurau a bennir mewn hysbysiad gwella mangre o fewn y terfyn amser penodedig, a

b

naill ai—

i

hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi, neu

ii

achos wedi ei ddwyn am drosedd,

mewn perthynas â’r methiant hwnnw,

caiff y swyddog gorfodaeth serch hynny ddyroddi hysbysiad cau mangre o dan is-baragraff (1).

Effaith hysbysiad cau mangreI333

1

Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i hysbysiad cau mangre gymryd effaith, rhaid i’r person y’i dyroddir iddo sicrhau—

a

bod y fangre y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi yn cael ei chau, a

b

na chynhelir unrhyw fusnes neu na ddarperir unrhyw wasanaeth yn y fangre neu ohoni.

2

Ni chaiff unrhyw berson fynd i’r fangre, neu fod yn y fangre, sydd wedi ei chau o dan is-baragraff (1) heb esgus rhesymol.

3

At ddibenion is-baragraff (2), mae’r amgylchiadau pan fo gan berson esgus rhesymol yn cynnwys—

a

pan fo’r person yn byw yn y fangre;

b

pan fo’r person yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu atgyweirio hanfodol;

c

pan fo’r person yn gwneud pethau sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau y gellir cydymffurfio â rheoliad 16 a, phan fo’n berthnasol, reoliad 17F19neu 17A , pan ganiateir i’r fangre fod ar agor;

d

pan fo’r person yn swyddog gorfodaeth neu berson sy’n cynorthwyo swyddog gorfodaeth;

e

pan fo’n angenrheidiol i’r person fod yn y fangre er mwyn osgoi anaf neu salwch neu ddianc rhag risg o niwed.

Terfynu hysbysiad gwella neu gau mangreI1934

1

Caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad sy’n terfynu hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre os yw wedi ei fodloni—

a

bod y mesurau a bennir yn yr hysbysiad gwella mangre (os dyroddwyd un) wedi eu cymryd, neu

b

bod mesurau eraill wedi eu cymryd i sicrhau y gellir cydymffurfio â rheoliad 16 a, phan fo’n berthnasol, reoliad 17F137neu 17A yn y fangre o dan sylw.

2

Mae hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre yn peidio â chael effaith ar yr amser y dyroddir hysbysiad o’r terfyniad.

ApelauI545

1

Caiff person y dyroddir hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre iddo apelio i lys ynadon yn erbyn yr hysbysiad.

2

Rhaid i apêl gael ei wneud—

a

drwy gŵyn am orchymyn, ac yn unol â Deddf Llysoedd Ynadon 1980, a

b

o fewn 7 niwrnod ar ôl y diwrnod y dyroddir yr hysbysiad.

3

Ond caiff llys ynadon ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-baragraff (2)(b) os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros fethu ag apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw (a thros unrhyw oedi cyn gwneud cais am ganiatâd i apelio y tu allan i amser).

4

Caiff llys ynadon atal dros dro effaith hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre wrth aros am y penderfyniad ar yr apêl.

5

Ar apêl yn erbyn hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre, caiff llys ynadon—

a

cadarnhau’r penderfyniad i ddyroddi’r hysbysiad;

b

cyfarwyddo bod yr hysbysiad i beidio â chael effaith;

c

addasu’r hysbysiad;

d

gwneud unrhyw orchymyn arall y mae’r llys yn ystyried ei fod yn briodol.

6

Os yw’r llys ynadon yn cyfarwyddo bod hysbysiad i beidio â chael effaith neu’n addasu hysbysiad, caiff orchymyn i’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y mae’r fangre o dan sylw ddigolledu’r person sy’n gyfrifol am y fangre am golled a ddioddefir o ganlyniad i ddyroddi’r hysbysiad.

7

Caiff y naill parti neu’r llall ddwyn apêl yn erbyn penderfyniad llys ynadon ar apêl o dan yr adran hon i Lys y Goron.

8

Ar apêl i Lys y Goron, caiff y Llys—

a

cadarnhau, amrywio neu wrthdroi penderfyniad y llys ynadon;

b

anfon yr achos yn ôl i’r llys ynadon i’w waredu yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Lys y Goron.

Annotations:
Commencement Information
I54

Atod. 8 para. 5 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Dyroddi hysbysiadau gwella a chau mangreoedd a therfyniadauI1986

1

Caiff hysbysiad gwella mangre, hysbysiad cau mangre neu derfyniad o’r naill neu’r llall o’r mathau hynny o hysbysiad ei ddyroddi i berson drwy roi copi ohono yn ysgrifenedig i’r person hwnnw.

2

Ond pan na fo’r person sy’n gyfrifol am y fangre y mae’r hysbysiad neu’r terfyniad yn ymwneud â hi yn y fangre pan yw’r hysbysiad i’w ddyroddi, mae’r hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei ddyroddi i’r person—

a

os rhoddir copi ohono i unrhyw berson arall yn y fangre yr ymddengys ei fod yn gyfrifol am unrhyw fusnes neu wasanaeth a gynhelir yn y fangre, neu

b

os nad oes unrhyw berson o’r fath yn y fangre pan yw’r hysbysiad i’w ddyroddi, os gosodir copi o’r hysbysiad mewn lle amlwg yn y fangre.

Annotations:
Commencement Information
I198

Atod. 8 para. 6 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Rhoi cyhoeddusrwydd i hysbysiadau gwella a chau mangreoeddI967

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog gorfodaeth wedi dyroddi hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre.

F722

Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl dyroddi’r hysbysiad, rhaid i’r swyddog gorfodaeth—

a

arddangos mewn man amlwg yn agos i bob mynedfa i’r fangre—

i

copi o’r hysbysiad, neu wybodaeth ynghylch ble y gellir gweld yr hysbysiad, a

ii

arwydd ar y ffurf a nodir yn Atodlen 9;

b

trefnu i’r hysbysiad gael ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y mae’r fangre.

3

Rhaid i F173... arwydd a arddangosir o dan is-baragraff (2)(a) fod o faint A4 o leiaf.

F2054

Rhaid i’r canlynol barhau i gael eu harddangos neu eu cyhoeddi (yn ôl y digwydd) yn unol ag is-baragraff (2) am gyhyd ag y mae’r hysbysiad yn cael effaith—

a

copi o’r hysbysiad neu wybodaeth ynghylch ble y gellir gweld yr hysbysiad;

b

yr arwydd.

Dangos dogfennau etc.I488

1

Caiff swyddog gorfodaeth, er mwyn hwyluso arfer pŵer a roddir i’r swyddog gan yr Atodlen hon, ei gwneud yn ofynnol dangos unrhyw ddogfennau neu gofnodion electronig, edrych ar y dogfennau hynny neu’r cofnodion electronig hynny a chymryd copïau ohonynt.

2

Ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol o dan is-baragraff (1) i berson ddarparu dogfen, cofnod neu wybodaeth arall y gellid maentumio hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hi neu ag ef mewn achos cyfreithiol.

Annotations:
Commencement Information
I48

Atod. 8 para. 8 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

ATODLEN 9Y ffurf ar arwydd i fynd gyda hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre

Rheoliad 26

Yr arwydd sydd i’w arddangos gyda hysbysiad gwella mangre

I521

F1021

Rhaid i arwydd sydd i’w arddangos o dan baragraff 7(2)(a)(ii) o Atodlen 8 mewn cysylltiad â dyroddi hysbysiad gwella mangre fod ar y ffurf a nodir isod.

2

Rhaid defnyddio’r lliwiau gwyn, du ac ambr C0 M60 Y100 K0 yn yr arwydd.

Image_r00001

Yr arwydd sydd i’w arddangos gyda hysbysiad cau mangre

I1062

F1541

Rhaid i arwydd sydd i’w arddangos o dan baragraff 7(2)(a)(ii) o Atodlen 8 mewn cysylltiad â dyroddi hysbysiad cau mangre fod ar y ffurf a nodir isod.

2

Rhaid defnyddio’r lliwiau gwyn, du a choch C15 M100 Y100 K0 yn yr arwydd.

Image_r00002

EXPLANATORY NOTE

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru. Mae’r Rheoliadau yn gosod gofynion a chyfyngiadau ar unigolion, busnesau ac eraill.

Mae 9 Rhan i’r Rheoliadau.

Mae Rhan 1 yn darparu bod y Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 21 Rhagfyr 2020 (ac eithrio Rhan 6 sy’n dod i rym ar 23 Rhagfyr 2020) ac yn dod i ben ar ddiwedd y dydd ar 31 Mawrth 2021. Mae hefyd yn darparu bod rhaid adolygu’r Rheoliadau yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir yn parhau i fod yn gymesur.

Mae Rhan 2 yn gosod cyfyngiadau ar bobl yn ymgynnull, ar bobl yn teithio ac ar ddefnyddio mangreoedd busnesau neu wasanaethau penodedig sydd fel arfer ar agor i’r cyhoedd. Mae Rhan 2 yn rhoi 4 lefel wahanol o gyfyngiadau yn eu lle a all fod yn gymwys gan ddibynnu ar yr amgylchiadau. Mae’r lefel sy’n gymwys yn seiliedig ar yr hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ei ystyried yw’r ymateb priodol a chymesur i fynychder a lledaeniad y coronafeirws.

Mae Atodlen 1 yn nodi’r lefel isaf – sef cyfyngiadau Lefel Rhybudd 1; mae Atodlen 2 yn nodi cyfyngiadau Lefel Rhybudd 2; mae Atodlen 3 yn nodi cyfyngiadau Lefel Rhybudd 3 ac mae Atodlen 4 yn nodi’r lefel uchaf – sef cyfyngiadau Lefel Rhybudd 4 (lle y mae cyfyngiadau caeth ar bobl yn ymgynnull ac yn teithio, a lle y mae’n ofynnol i’r rhan fwyaf o fangreoedd gau). Mae Atodlen 5 yn nodi pa lefel rhybudd sy’n gymwys i ardal. Ar adeg gwneud y Rheoliadau mae’r un lefel rhybudd yn gymwys ledled Cymru, ond gellid diwygio’r Rheoliadau i gymhwyso lefelau rhybudd gwahanol ar sail ranbarthol neu leol (yn ogystal â diwygio lefel y rhybudd ar gyfer Cymru gyfan).

Mae nifer o’r cyfyngiadau yn cyfeirio at y cysyniad o “aelwyd estynedig”. Mae hyn yn galluogi mwy nag un aelwyd i gytuno i ddod at ei gilydd at ddibenion y rheolau drwy ffurfio aelwyd estynedig fwy. Yn ogystal, mae darpariaethau ar wahân sy’n caniatáu i aelwyd un oedolyn (person sy’n byw ar ei ben ei hun neu gyda phlentyn neu oedolyn y mae’n gofalu amdano yn unig) gytuno i ddod at ei gilydd gydag aelwyd arall at y dibenion hyn. Mae’r trefniadau hyn yn gyfyngedig i’r aelwydydd hynny yn unig a rhaid i’r holl oedolion ar bob aelwyd sy’n ffurfio aelwyd estynedig gytuno iddynt.

Ceir crynodeb o’r cyfyngiadau sy’n gymwys ar bob lefel rhybudd isod. Mae’r holl gyfyngiadau yn ddarostyngedig i eithriadau a restrir yn y Rheoliadau.

Pan fydd cyfyngiadau Lefel Rhybudd 1 yn gymwys i ardal:

  • dim ond rhwng hyd at 6 o bobl, neu fwy os yw pawb sy’n bresennol yn aelodau o’r un aelwyd neu’n aelodau o aelwyd estynedig sy’n cynnwys hyd at 3 aelwyd ac aelwyd un oedolyn, y caniateir cynulliadau o dan do yng nghartrefi pobl;

  • mae cynulliadau o dan do (i ffwrdd o gartrefi pobl) wedi eu cyfyngu i 6 o bobl (heb gynnwys plant o dan 11 oed) neu i aelodau o 1 aelwyd os yw’r nifer yn fwy na hynny;

  • mae cynulliadau yn yr awyr agored (gan gynnwys yng ngerddi pobl) wedi eu cyfyngu i 30 o bobl (heb gynnwys plant o dan 11 oed) neu i aelodau o 1 aelwyd neu o aelwyd estynedig os yw’r nifer yn fwy na hynny;

  • mae rheolau gwahanol yn gymwys i gynulliadau ar gyfer gweithgareddau a drefnir yn ffurfiol, sy’n caniatáu i ragor o bobl (hyd at 50 o bobl o dan do a hyd at 100 o bobl yn yr awyr agored) ddod at ei gilydd;

  • fel eithriad i’r gwaharddiad cyffredinol ar drefnu digwyddiadau, caniateir digwyddiadau sy’n golygu bod hyd at 50 o bobl yn bresennol ar unrhyw adeg o dan do, neu 100 o bobl yn yr awyr agored;

  • mae’n bosibl y caniateir digwyddiadau ar raddfa fwy hefyd, ond dim ond gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru;

  • caniateir teithio o fewn ardal Lefel 1 ac i unrhyw ardal Lefel 1 arall neu unrhyw ardaloedd Lefel 2 ac ohonynt, ond ni chaniateir teithio o ardal Lefel 1 i unrhyw ardal o Gymru sydd ar Lefel 3 neu 4 nac i unrhyw ardaloedd mewn mannau eraill yn y DU lle y ceir llawer o achosion o’r coronafeirws;

  • yn yr un modd, ni chaniateir teithio o ardal Lefel 3 neu 4, nac o unrhyw ardaloedd mewn mannau eraill yn y DU lle y ceir llawer o achosion o’r coronafeirws, i ardal Lefel 1;

  • caiff bron pob mangre busnes sydd ar agor i’r cyhoedd fel arfer barhau i fod ar agor ond ni chaiff mangreoedd sydd wedi eu trwyddedu i werthu alcohol wneud hynny ar ôl 10.00 p.m. a rhaid iddynt gau yn ddim hwyrach na 10.20 p.m.

Pan fydd cyfyngiadau Lefel Rhybudd 2 yn gymwys i ardal:

  • dim ond rhwng aelodau o aelwyd estynedig sy’n cynnwys hyd at 2 aelwyd ac aelwyd un oedolyn, y caniateir cynulliadau o dan do yng nghartrefi pobl;

  • mae cynulliadau o dan do (i ffwrdd o gartrefi pobl) wedi eu cyfyngu i 4 o bobl (heb gynnwys plant o dan 11 oed) neu’r aelodau o 1 aelwyd os yw’r nifer yn fwy na hynny;

  • mae cynulliadau yn yr awyr agored (gan gynnwys yng ngerddi pobl) wedi eu cyfyngu i 4 o bobl (heb gynnwys plant o dan 11 oed) neu’r aelodau o 1 aelwyd neu o aelwyd estynedig os yw’r nifer yn fwy na hynny;

  • mae rheolau gwahanol yn gymwys i gynulliadau ar gyfer gweithgareddau a drefnir yn ffurfiol, sy’n caniatáu i ragor o bobl (hyd at 15 o bobl o dan do a hyd at 30 o bobl yn yr awyr agored) ddod at ei gilydd;

  • fel eithriad i’r gwaharddiad cyffredinol ar drefnu digwyddiadau, caniateir digwyddiadau sy’n golygu bod hyd at 15 o bobl yn bresennol ar unrhyw adeg o dan do, neu 30 o bobl yn yr awyr agored;

  • mae’n bosibl y caniateir digwyddiadau ar raddfa fwy hefyd, ond dim ond gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru;

  • caniateir teithio o fewn ardal Lefel 2 ac i unrhyw ardal Lefel 2 arall neu unrhyw ardaloedd Lefel 1 ac ohonynt, ond ni chaniateir teithio o ardal Lefel 2 i unrhyw ardal o Gymru sydd ar Lefel 3 neu 4, nac i unrhyw ardaloedd mewn mannau eraill yn y DU lle y ceir llawer o achosion o’r coronafeirws;

  • yn yr un modd, ni chaniateir teithio o ardal Lefel 3 neu 4, nac o unrhyw ardaloedd mewn mannau eraill yn y DU lle y ceir llawer o achosion o’r coronafeirws, i ardal Lefel 2;

  • caiff bron pob mangre sydd ar agor i’r cyhoedd fel arfer barhau i fod ar agor ond ni chaiff mangreoedd sydd wedi eu trwyddedu i werthu alcohol ond gwneud hynny gyda phryd o fwyd ac ni chaniateir gwerthu alcohol ar ôl 10.00 p.m. (a rhaid cau yn ddim hwyrach na 10.20 p.m.).

Pan fydd cyfyngiadau Lefel Rhybudd 3 yn gymwys i ardal:

  • dim ond rhwng aelodau o aelwyd estynedig sy’n cynnwys hyd at 2 aelwyd ac aelwyd un oedolyn y caniateir cynulliadau yng nghartrefi pobl (o dan do ac yn yr awyr agored);

  • mae cynulliadau o dan do (i ffwrdd o gartrefi pobl), neu yn yr awyr agored mewn mangreoedd rheoleiddiedig, wedi eu cyfyngu i 4 o bobl (heb gynnwys plant o dan 11 oed) neu’r aelodau o 1 aelwyd os yw’r nifer yn fwy na hynny;

  • mae cynulliadau yn yr awyr agored (i ffwrdd o gartrefi pobl) neu mewn mangreoedd rheoleiddiedig wedi eu cyfyngu i 4 o bobl (heb gynnwys plant o dan 11 oed) neu’r aelodau o 1 aelwyd neu o aelwyd estynedig os yw’r nifer yn fwy na hynny;

  • mae rheolau gwahanol yn gymwys i gynulliadau ar gyfer gweithgareddau a drefnir yn ffurfiol, sy’n caniatáu i ragor o bobl (hyd at 15 o bobl o dan do a hyd at 30 o bobl yn yr awyr agored) ddod at ei gilydd;

  • fel eithriad i’r gwaharddiad cyffredinol ar drefnu digwyddiadau, caniateir digwyddiadau sy’n golygu bod hyd at 15 o bobl yn bresennol ar unrhyw adeg o dan do, neu 30 o bobl yn yr awyr agored;

  • caniateir teithio o fewn ardal Lefel 3 ond ni chaniateir teithio o ardal Lefel 3 i unrhyw ardal arall o Gymru, nac i unrhyw ardaloedd mewn mannau eraill yn y DU lle y ceir llawer o achosion o’r coronafeirws;

  • yn yr un modd, ni chaniateir teithio o ardal Lefel 1, 2 neu 4, nac o unrhyw ardaloedd mewn mannau eraill yn y DU lle y ceir llawer o achosion o’r coronafeirws, i ardal Lefel 3;

  • caiff y rhan fwyaf o fangreoedd sydd ar agor i’r cyhoedd fel arfer barhau i fod ar agor ond rhaid i fangreoedd a ddefnyddir ar gyfer adloniant neu letygarwch naill ai fod ar gau neu cânt agor tan 6.00 p.m. yn unig – ac ni chaiff mangreoedd sydd wedi eu trwyddedu i werthu alcohol werthu alcohol i’w yfed yn y fangre.

Pan fydd cyfyngiadau Lefel Rhybudd 4 yn gymwys i ardal:

  • mae gofyniad cyffredinol i aros gartref os ydych yn byw yn yr ardal a pheidio â theithio i’r ardal os ydych yn byw y tu allan iddi;

  • mae’n ofynnol cau’r rhan fwyaf o fangreoedd sydd ar agor i’r cyhoedd fel arfer.

Mae’r gallu i bobl ddod at ei gilydd ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau a drefnir yn ffurfiol, ac i fangreoedd fod ar agor i’r cyhoedd, yn ddarostyngedig i’r angen i gymryd “pob mesur rhesymol” i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws a’i ledaenu (gweler Rhan 5).

Mae cysylltiad agos rhwng y cyfyngiadau ar ddigwyddiadau a’r cyfyngiadau ar gynulliadau gan y gallai pobl sy’n mynychu digwyddiad hefyd fod yn ymgynnull gydag eraill. Caiff digwyddiad ei ddiffinio yn eang (yn rheoliad 57(4)) fel unrhyw achlysur sydd wedi ei gynllunio neu ei amserlennu at ddiben penodol lle y mae pobl yn yr un man at y diben hwnnw (pa un a ydynt hefyd yn ymgynnull ai peidio).

Fel eithriad i’r system hon, mae Atodlen 6 yn gwneud darpariaeth benodol sy’n addasu’r cyfyngiadau sy’n ymwneud ag aelwydydd estynedig (a theithio i gwrdd ag aelodau o aelwyd estynedig) am y cyfnod rhwng 23 a 27 Rhagfyr 2020 (gyda diwrnod ychwanegol yn cael ei ganiatáu cyn ac ar ôl y cyfnod hwn yn achos personau sy’n teithio o Ogledd Iwerddon ac i Ogledd Iwerddon).

Mae Rhannau 3 i 6 yn gosod cyfyngiadau a gofynion pellach sy’n gymwys yn gyffredinol o dan bob amgylchiad.

Mae Rhan 3 yn gosod gofynion ar bobl sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws a’u cysylltiadau agos. Mae rheoliadau 6 a 7 yn darparu na chaiff oedolion na phlant sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws ymadael â’r man lle y maent yn byw am 10 niwrnod (ac eithrio o dan yr amgylchiadau y darperir ar eu cyfer gan reoliad 10). Mae rheoliadau 8 a 9 yn darparu na chaiff pobl sydd wedi cael “cysylltiad agos” â rhywun sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws ymadael â’r man lle y maent yn byw am 10 niwrnod (ac eithrio o dan yr amgylchiadau y darperir ar eu cyfer gan reoliad 10). Mae’r cyfnod ynysu o 10 niwrnod yn dechrau naill ai’r diwrnod ar ôl i berson gael canlyniad positif, y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae person yn rhoi gwybod mai dyna’r diwrnod y profodd y symptomau gyntaf neu’r diwrnod ar ôl i berson gael cysylltiad agos. Mae rheoliad 11 yn darparu eithriad i’r gofyniad i ynysu os yw pobl yn profi’n negyddol yn rheolaidd yn unol â chynllun profi ffurfiol. Mae rheoliad 12 yn ymwneud â rhwymedigaethau oedolion mewn cysylltiad â phlant y mae’n ofynnol iddynt ynysu, mae rheoliad 13 yn galluogi i hysbysiadau a roddir o dan y Rhan hon gan swyddogion olrhain cysylltiadau gael eu tynnu’n ôl ac mae rheoliad 14 yn gwneud darpariaeth ynghylch defnyddio’r wybodaeth a ddelir gan swyddogion olrhain cysylltiadau.

Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn mangreoedd sydd ar agor i’r cyhoedd ac mewn gweithleoedd. Mae rheoliad 16 yn gymwys i “mangreoedd rheoleiddiedig” ac mae’n ei gwneud yn ofynnol: (1) i bob mesur rhesymol gael ei gymryd i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau yn y fangre; (2) i bob mesur rhesymol arall gael ei gymryd, er enghraifft i gyfyngu ar ryngweithio wyneb yn wyneb agos a chynnal hylendid; a (3) i wybodaeth gael ei darparu i’r rheini sy’n mynd i fangre neu sy’n gweithio mewn mangre ynghylch sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws. Mae hefyd yn pennu y gall peidio â chynnal gweithgaredd, cau rhan o fangre, caniatáu i staff ynysu a chasglu gwybodaeth gyswllt oddi wrth y rheini sydd yn y fangre fod yn fesurau rhesymol.

Mae Rhan 5 yn darparu bod rhaid gwisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys mewn tacsis, ac mewn mannau penodol o dan do, yn ddarostyngedig i esemptiadau ac eithriadau a restrir.

Mae Rhan 6 yn darparu ar gyfer amgylchiadau pan fo rhaid i ysgolion fod ar agor pan fyddant ar gau fel arall i ganiatáu i blant gweithwyr hanfodol neu blant sy’n agored i niwed fynychu.

Mae Rhan 7 yn ymwneud â gorfodi’r cyfyngiadau a’r gofynion. Mae rheoliad 25 yn gwneud darpariaeth ynghylch y rheini a gaiff gymryd camau gorfodi, mae rheoliad 26 yn gwneud darpariaeth bellach (yn Atodlenni 8 a 9) ynghylch gorfodi’r angen i gymryd camau ataliol o dan reoliad 16, mae rheoliad 27 yn ymwneud â hysbysiadau cydymffurfio, ac mae rheoliad 28 yn ymwneud â phwerau symud a gwasgaru. Mae rheoliadau 29 i 32 yn ymwneud yn benodol â gorfodi’r gofynion mewn perthynas â theithio, ynysu, digwyddiadau a gwisgo gorchudd wyneb ac mae rheoliad 33 yn ymwneud â chymhwyso’r gofynion i blant. Mae rheoliad 34 yn cynnwys pŵer i fynd i fangre, mae rheoliad 35 yn ymwneud â phwerau’r heddlu i gynnal archwiliadau ffyrdd ac mae rheoliad 36 yn gwneud darpariaeth atodol ynghylch arfer pwerau drwy bwerau gorfodi.

Mae Rhan 8 yn gwneud darpariaeth ynghylch troseddau a chosbau. Mae rheoliadau 37 i 43 ym Mhennod 1 yn darparu bod person sydd, heb esgus rhesymol, yn torri’r cyfyngiadau neu’r gofynion y cyfeirir atynt yn cyflawni trosedd. Mae trosedd i’w chosbi drwy ddirwy ddiderfyn (rheoliad 44). Mae Pennod 2 yn caniatáu i droseddau gael eu cosbi drwy hysbysiadau cosb benodedig ac yn gwneud darpariaeth ynghylch sut y cânt eu cymhwyso ac mae Pennod 3 yn ymwneud ag achosion am droseddau o dan y Rheoliadau.

Mae Rhan 9 yn cynnwys termau wedi eu diffinio (rheoliad 57), yn dirymu Rheoliadau blaenorol ac yn gwneud diwygiad canlyniadol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.