Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1581 (Cy. 331)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Amaethyddiaeth, Cymru

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaeth Arbed) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020

Gwnaed

17 Rhagfyr 2020

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraffau 1(1) ac 11M(1) o Atodlen 2, paragraff 7 o Atodlen 4, a pharagraff 21(b) o Atodlen 7, i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1).

Yn unol â pharagraff 4(a) o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno, ymgynghorwyd â’r Ysgrifennydd Gwladol wrth lunio’r Rheoliadau hyn.

Yn unol â pharagraff 1(8) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru(2) ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn.

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaeth Arbed) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

(2Daw’r Rhan hon a Rhan 2 i rym yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

(3Daw Rhannau 3 a 4 i rym ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

RHAN 2Diwygio is-ddeddfwriaeth Ymadael â’r UE

Rheoliadau Cynhyrchion Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Rheoleiddiedig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

2.—(1Mae Rheoliadau Cynhyrchion Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Rheoleiddiedig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Hepgorer rheoliad 2.

(3Yn rheoliad 3 (diwygio Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012)—

(a)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A) Yn rheoliad 4(3) hepgorer “Cymunedol”.

(2B) Yn rheoliad 6(1)—

(a)hepgorer is-baragraff (a);

(b)yn is-baragraff (b), yn lle “16(1)” rhodder “16”.

(b)ym mharagraff (5), yn y rheoliad newydd 10A sydd i’w fewnosod—

(i)ym mharagraff (1), yn lle “yn unol ag Erthygl 16 o Reoliad 1935/2004” rhodder “sy’n cydymffurfio â pharagraff (2)”;

(ii)ym mharagraff (2), yn lle “yn y Deyrnas Unedig” rhodder “ym Mhrydain Fawr”;

(iii)ym mharagraff (3), yn lle “i’r Deyrnas Unedig” rhodder “i Brydain Fawr”;

(c)ar ôl paragraff (6) mewnosoder—

(6A) Yn rheoliad 27(1)(a)(i), yn lle “10(4), 10(6)” rhodder “10A(1), 10A(3).

(6B) Yn Atodlen 2, ym mharagraff 1, yn yr adran 10(1A) a amnewidiwyd, yn lle “10(4), 10(6)” rhodder “10A(1), 10A(3).

(4Hepgorer rheoliad 4.

(5Yn yr Atodlen, yn yr Atodlen 5 newydd (datganiad o gydymffurfedd) sydd i’w mewnosod, ym mharagraff 1(a), yn lle “i’r Deyrnas Unedig” rhodder “i Brydain Fawr”.

Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Cymru) 2019

3.—(1Mae Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Cymru) 2019(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 4(3) (diwygio Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi’u Rhewi’n Gyflym (Cymru) 2007), yn lle is-baragraff (c), rhodder—

(c)ym mharagraff (4)—

(i)yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “unrhyw ddisgrifiad arall a restrir yn Erthygl 8.1(a) o Gyfarwyddeb 89/109” rhodder “yr hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall”;

(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “yr Undeb Ewropeaidd” rhodder “y Deyrnas Unedig”.

(3Hepgorer rheoliadau 5 a 6.

(4Yn rheoliad 7 (diwygio Rheoliadau Llestri Cegin Plastig (Amodau ar Fewnforion o Tsieina) (Cymru) 2011)—

(a)yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Yn rheoliad 3(1), yn lle “i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i Brydain Fawr”.

(b)Yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Yn rheoliad 8(3)(a)(i), yn lle “i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i Brydain Fawr”.

Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019

4.—(1Mae Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019(6) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Hepgorer rheoliad 2.

(3Hepgorer rheoliadau 4, 5, 6 a 7.

(4Yn rheoliad 8 (diwygio Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2015)—

(a)Ym mharagraff (3), yn lle is-baragraff (b) rhodder—

(b)yn lle is-baragraff (d), rhodder—

(d)ei fod yn ddŵr mwynol naturiol a fwriedir ar gyfer—

(i)ei symud i Ogledd Iwerddon; neu

(ii)ei allforio i drydedd wlad.;

(b)yn lle paragraff (4)(a)(iii), rhodder—

(iii)yn lle is-baragraff (d) rhodder—

(d)yn achos dŵr a echdynnwyd o’r ddaear mewn trydedd wlad—

(i)pan fo’r Asiantaeth yn rhoi cydnabyddiaeth yn unol â Rhan 2 o Atodlen 1;

(ii)pan fo ganddo gydnabyddiaeth gyfatebol yn Lloegr a roddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol â rheoliad 4(1)(d)(i) o Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Lloegr) 2007(7) a Rhan 2 o Atodlen 3 iddynt;

(iii)pan fo ganddo gydnabyddiaeth gyfatebol yn yr Alban a roddir gan Asiantaeth Safonau Bwyd yr Alban yn unol â rheoliad 4(1)(d)(i) o Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Yr Alban) (Rhif 2) 2007(8), a Rhan 2 o Atodlen 3 iddynt;

(iv)pan fo ganddo gydnabyddiaeth gyfatebol yng Ngogledd Iwerddon a roddir gan yr Asiantaeth yn unol â rheoliad 4(2)(d)(i) o Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Gogledd Iwerddon) 2015(9), a Rhan 2 o Atodlen 1 iddynt.;

(c)ym mharagraff 5, yn y rheoliad newydd 4A sydd i’w fewnosod—

(i)ym mharagraff (6), yn lle “mae’r diwrnod ymadael” rhodder “mae diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;

(ii)ym mharagraff (12), yn lle “y diwrnod ymadael”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”.

(d)yn lle paragraff (7), rhodder—

(7) Yn rheoliad 27A—

(a)ym mharagraff (b)—

(i)hepgorer “neu o Wladwriaeth AEE arall”;

(ii)yn lle “Erthyglau 1 i 3 o Reoliad 115/2010” rhodder “y ddeddfwriaeth berthnasol ynghylch dŵr wedi’i botelu sy’n gymwys yn y rhan honno o’r Deyrnas Unedig”;

(b)ym mharagraff (c)—

(i)yn lle “wlad nad yw’n Wladwriaeth AEE arall” rhodder “drydedd wlad”;

(ii)yn lle’r geiriau o “a awdurdodwyd” i “Erthyglau 1 i 3” rhodder “sy’n cydymffurfio â gofynion Erthyglau 1 a 2”;

(e)ym mharagraff (8)(b), ar ôl paragraff (i) mewnosoder—

(ia)ar ôl “yr Asiantaeth”, yn lle “neu” rhodder “ei bod yn cyfateb i ofynion y Rheoliadau hyn, neu gan”.

RHAN 3Diwygio is-ddeddfwriaeth Cymru

Rheoliadau Bwyd a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004

5.—(1Mae Rheoliadau Bwyd a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004(10) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn yr Atodlen, yn Rhan 2, yn y tabl—

(a)Hepgorer y cofnod ar gyfer Erthygl 8.6;

(b)yn y cofnod ar gyfer Erthygl 9.3, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn”, rhodder “Awdurdod Diogelwch Bwyd”.

Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004

6.—(1Mae Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004(11) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 4 (gofynion o dan Reoliad (EC) Rhif 178/2002: tramgwyddau), yn lle paragraff (a) rhodder—

(a)Article 12 (food and feed exported from Great Britain) in so far as it relates to food;.

Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007

7.—(1Mae Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007(12) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1), yn lle’r diffiniad o “trydedd wlad” rhodder—

ystyr “trydedd wlad” (“third country”), ac eithrio yn yr ymadrodd “mewnforyn trydedd wlad” (“third country import”) yw unrhyw wlad neu diriogaeth ac eithrio’r Ynysoedd Prydeinig;.

(3Yn lle rheoliad 4 rhodder—

Cyfwerthoedd y bunt â’r Ewro

4.  Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at nifer penodedig o Ewros (“EUR”) i’w ddarllen fel y swm hwnnw wedi ei drosi i bunnoedd (“GBP”) gan ddefnyddio’r gyfradd gyfnewid o GBP1 = EUR1.1413.

(4Yn lle’r pennawd i’r Atodlen, rhodder—

DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH.

Rheoliadau Arbelydru Bwyd (Cymru) 2009

8.—(1Mae Rheoliadau Arbelydru Bwyd (Cymru) 2009(13) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3(1)—

(a)yn y diffiniad o “mewnforio”, yn lle “o Aelod-wladwriaeth arall neu o wlad arall y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig”;

(b)yn y diffiniad o “rhif cyfeirnod swyddogol”, yn lle “rhif cyfeirnod a ddyrennir gan yr Aelod-wladwriaeth mewn cysylltiad â chael ei gymeradwyo fel cyfleuster arbelydru (sef y rhif a ddangosir ar ei gyfer yn y rhestr yn Atodlen 3)” rhodder “rhif a ddangosir ar ei gyfer yn y rhestr yn Atodlen 3”.

(3Yn rheoliad 5(1)—

(a)Yn lle is-baragraff (b) rhodder—

(b)ei fod wedi’i arbelydru yn un o’r cyfleusterau a restrir yn y Tabl yn Atodlen 3 neu Atodlen 4;;

(b)Yn is-baragraff (ch), hepgorer “arall”.

(4Yn lle’r pennawd i Atodlen 3, rhodder—

RHESTR O GYFLEUSTERAU YN AELOD-WLADWRIAETHAU YR UE AC YN Y DEYRNAS UNEDIG.

Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2009

9.  Yn Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2009(14), yn lle’r pennawd i Atodlen 1, rhodder—

DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH.

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009

10.—(1Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009(15) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1)—

(a)ar ôl y diffiniad o “y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol”, hepgorer yr “ac”;

(b)yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw unrhyw wlad neu diriogaeth ac eithrio’r Ynysoedd Prydeinig.

(3Yn rheoliad 4—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “ac Aelod-wladwriaethau” rhodder “a Gweinidogion Cymru”;

(b)ym mharagraff (4), yn lle “ddeddfwriaeth yr UE” rhodder “unrhyw ddeddfwriaeth arall sy’n gymwys”.

(4Yn rheoliad 5(1), yn lle “ac Aelod-wladwriaethau” rhodder “a Gweinidogion Cymru”.

(5Hepgorer rheoliadau 14, 15 a 16.

(6Yn rheoliad 17—

(a)hepgorer paragraff (3);

(b)ym mharagraff (5), hepgorer is-baragraffau (a) a (b).

(7Yn rheoliad 19(1)—

(a)yn is-baragraff (a), hepgorer “14, 15 neu”;

(b)yn is-baragraff (b)—

(i)hepgorer “14, 15 neu”;

(ii)yn lle “rheoliadau hynny” rhodder “rheoliad hwnnw”.

(8Yn rheoliad 20(2), hepgorer “neu reoliad 16”.

(9Yn rheoliad 22, hepgorer y diffiniad o “y tiriogaethau perthnasol” a’r “ac” o’i flaen.

(10Yn rheoliad 28(1), hepgorer is-baragraffau (b) ac (ch).

(11Hepgorer rheoliad 35(16).

(12Yn rheoliad 41—

(a)ym mharagraff 1(b), hepgorer “neu baragraff (4) neu (5) o reoliad 35”;

(b)ar ôl paragraff 1(d) mewnosoder—

(e)yn mynd yn groes i ddarpariaethau unrhyw offeryn a wneir o dan Erthygl 53 o Reoliad 178/2002 neu’n methu â chydymffurfio â hwy.

(13Yn Atodlen 6, yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 5(1)(b) o Reoliad 2019/1602, yn yr ail golofn, yn lle “IMSOC” rhodder “system rheoli gwybodaeth gyfrifiadurol briodol”.

Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013

11.—(1Mae Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013(17) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 2—

(a)yn Rhan 1, ym mharagraff 6, yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd”;

(b)yn Rhan 2—

(i)ym mharagraff 2, yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd”;

(ii)ym mharagraff 4, yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd”.

Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2013

12.—(1Mae Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2013(18) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 5—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “o’r darpariaethau UE” rhodder “o ddarpariaethau cyfraith yr UE a ddargedwir”;

(b)ym mharagraff (2), yn lle “darpariaethau UE” rhodder “darpariaethau cyfraith yr UE a ddargedwir”.

(3Yn rheoliad 8(2) (cymhwyso adrannau amrywiol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990), yn nhestun adran 9 a addaswyd, yn lle “the EU requirements”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “the retained EU law requirements”.

Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013

13.—(1Mae Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013(19) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 10(b), yn lle “i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i Brydain Fawr”.

(3Yn rheoliad 14(1)(d), yn lle “nhiriogaeth yr UE” rhodder “y Deyrnas Unedig”.

(4Hepgorer rheoliad 15.

(5Yn Atodlen 1—

(a)yn Nhabl 1, yn y cofnod ar gyfer Erthygl 26.1, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”;

(b)Yn Nhabl 2—

(i)yn y cofnod ar gyfer Erthygl 21.1 (fel y’i darllenir gydag Erthygl 22), yn yr ail golofn, yn lle “mewn iaith a deellir yn hawdd gan y prynwyr” rhodder “yn Saesneg, neu yn Gymraeg a Saesneg”;

(ii)yn y cofnod ar gyfer Erthygl 26.2, yn yr ail golofn, yn lle “y Comisiwn” rhodder “yr Awdurdod”.

(6Yn Atodlen 2, yn Nhabl 1—

(a)yn y cofnod ar gyfer Erthygl 10, yn yr ail golofn, yn lle “restr yr Undeb” rhodder “y rhestr ddomestig”;

(b)yn y cofnod ar gyfer Erthygl 19.2, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”;

(c)yn y cofnod ar gyfer Erthygl 19.3, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”.

(7Yn Atodlen 3, yn Nhabl 1, yn y cofnod ar gyfer Erthygl 9.5, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”.

(8Yn Atodlen 4, yn Nhabl 1—

(a)yn y cofnod ar gyfer Erthygl 4, yn yr ail golofn, yn lle “yn rhestr yr Undeb” rhodder “yn y rhestr ddomestig”;

(b)yn y cofnod ar gyfer Erthygl 14.1, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”;

(c)yn y cofnod ar gyfer Erthygl 14.2, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”.

Rheoliadau Mêl (Cymru) 2015

14.—(1Mae Rheoliadau Mêl (Cymru) 2015(20) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 17—

(a)Ym mharagraff (1)—

(i)hepgorer “Aelod-wladwriaeth neu drydedd”;

(ii)yn lle’r geiriau o “un o’r mynegiadau a ganlyn” hyd at y diwedd, rhodder “y mynegiad “blend of honeys from more than one country”, neu geiriad yn Saesneg ag ystyr cyfatebol.”;

(b)ym mharagraff (6), yn lle’r geiriau o “mynegiadau a ganlyn” hyd at y diwedd, rhodder “mynegiad “cyfuniad o felau o fwy nag un wlad”, neu geiriad yn Gymraeg ag ystyr cyfatebol.”

Rheoliadau Caseinau a Chaseinadau (Cymru) 2016

15.—(1Mae Rheoliadau Caseinau a Chaseinadau (Cymru) 2016(21) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 6—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn is-baragraff (d), yn lle “yr Undeb Ewropeaidd, enw neu enw busnes a chyfeiriad y sawl a’i mewnforiodd i farchnad yr Undeb Ewropeaidd” rhodder “y Deyrnas Unedig, enw neu enw busnes a chyfeiriad y sawl a’i mewnforiodd i farchnad y Deyrnas Unedig”;

(ii)yn is-baragraff (e), yn lle “wledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “drydedd wlad”;

(b)ar ôl paragraff (8) mewnosoder—

(9) Yn y rheoliad hwn, ystyr “trydedd wlad” yw unrhyw wlad ac eithrio yr Ynysoedd Prydeinig.

RHAN 4Darpariaeth Arbed

Arbed datganiadau a wnaed o dan reoliad 35 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009

16.  Er gwaethaf dirymu rheoliad 35 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 (gan reoliad 10(11) o’r Rheoliadau hyn), mae unrhyw ddatganiad a wneir o dan reoliad 35 sydd mewn grym yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu yn cael effaith ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu fel pe bai wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru mewn offeryn statudol o dan Erthygl 53 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd(22).

Eluned Morgan

Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, un o Weinidogion Cymru

17 Rhagfyr 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraffau 1(1) ac 11M(1) o Atodlen 2, paragraff 7 o Atodlen 4, a pharagraff 21(b) o Atodlen 7, i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i ddeddfwriaeth ym maes diogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid.

Mae Rhan 2 yn cynnwys diwygiadau i ddarpariaethau is-ddeddfwriaeth Cymru sy’n ymwneud ag Ymadael â’r UE. Mae’r diwygiadau yn cynnwys cywiro gwallau a nodwyd, a darpariaeth sy’n ofynnol i weithredu’r Protocol o ran Iwerddon/Gogledd Iwerddon yn y cytundeb ymadael â’r UE. Mae Rhan 2 hefyd yn hepgor nifer o ddarpariaethau a oedd wedi eu cynnwys er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd. O ran y darpariaethau sydd wedi eu hepgor, naill ai nid ydynt yn gymwys mwyach neu mae’r diwygiadau a wnaed gan y darpariaethau hynny wedi eu hamnewid gan ddiwygiadau eraill a wneir gan y Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 3 yn cynnwys diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n gymwys o ran Cymru, er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol ac i weithredu’r protocol o ran Iwerddon/Gogledd Iwerddon. Mae nifer o’r diwygiadau yn cydgrynhoi ac yn diweddaru (gyda diwygiadau) darpariaethau a oedd wedi eu cynnwys mewn is-ddeddfwriaeth flaenorol sy’n ymwneud ag Ymadael â’r UE sydd wedi eu hepgor yn Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth arbed.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2018 p.16. Gweler adran 20(1) o’r Ddeddf honno am ddiffiniad o “devolved authority”. Mae diwygiadau i baragraff 1 o Atodlen 2 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Mewnosodwyd paragraff 11M o Atodlen 2 gan adran 22 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1) a diwygiwyd paragraff 21 o Atodlen 7 gan baragraff 53 o Atodlen 5 i’r Ddeddf honno.

(2)

Mae’r cyfeiriad yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(3)

OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1.

(5)

O.S. 2019/434 (Cy. 102), a ddiwygiwyd yn rhagolygol gan O.S. 2020/44 (Cy. 5).

(7)

O.S. 2007/2785, a ddiwygiwyd gan O.S. 2009/1598, 2010/433, 2011/451, 2014/1855, 2018/352, 2019/526 a 2019/1488; a ddiwygiwyd yn rhagolygol gan 2019/150, 2019/775 a 2019/778.

(9)

Rh. St. 2015 Rhif 365, a ddiwygiwyd gan Rh. St. 2017 Rhif 201; a ddiwygiwyd yn rhagolygol gan Rh. St. Rhif 353.

(10)

O.S. 2004/3220 (Cy. 276), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/806; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Fe’i ddiwygiwyd yn rhagolygol gan O.S. 2019/425 (Cy. 99) ond mae’r diwygiad hwnnw wedi ei hepgor gan reoliad 2(2) o’r Rheoliadau hyn.

(11)

O.S. 2004/3279, a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/3254 (Cy. 247) a 2011/1043; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Fe’i ddiwygiwyd yn rhagolygol gan O.S. 2019/1046 (Cy. 185) ond mae’r diwygiad hwnnw wedi ei hepgor gan reoliad 4(2) o’r Rheoliadau hyn.

(12)

O.S. 2007/3462 (Cy. 307), a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/1043, 2018/806 (Cy. 162) a 2019/1481 (Cy. 265); mae offeryn diwygio arall ond nid yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Fe’i ddiwygiwyd yn rhagolygol gan O.S. 2019/1046 (Cy. 185) ond mae’r diwygiad hwnnw wedi ei hepgor gan reoliad 5(4) o’r Rheoliadau hyn.

(13)

O.S. 2009/1795 (Cy. 162), a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/1043, 2018/806 (Cy. 162); mae offeryn diwygio arall ond nid yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(14)

O.S. 2009/1557 (Cy. 152), a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/1043, 2019/1480 (Cy. 264); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Fe’i ddiwygiwyd yn rhagolygol gan O.S. 2019/434 (Cy. 102) ond mae’r diwygiad hwnnw wedi ei hepgor gan reoliad 3(3) o’r Rheoliadau hyn.

(15)

O.S. 2009/3376 (Cy. 298), a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/1043, 2019/1482 (Cy. 266); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Fe’i ddiwygiwyd yn rhagolygol gan O.S. 2019/434 (Cy. 102) a 2019/1046 (Cy. 185) ond mae’r diwygiadau hynny wedi eu hepgor, yn rhagolygol, gan reoliadau 3(3) a 5(4) o’r Rheoliadau hyn.

(16)

Gweler rheoliad 16 o’r Rheoliadau hyn ar gyfer datganiadau arbed darpariaethau a wneir o dan reoliad 35 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 sydd mewn grym yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

(17)

O.S. 2013/479 (Cy. 55), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(19)

O.S. 2013/2591 (Cy. 255), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Fe’i ddiwygiwyd yn rhagolygol gan O.S. 2019/425 (Cy. 99) a 2019/1046 (Cy. 185) ond mae’r diwygiadau hynny wedi eu hepgor, yn y drefn honno, gan reoliadau 2(4) a 5(4) o’r Rheoliadau hyn.

(20)

O.S. 2015/1507 (Cy. 174), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(22)

EUR 178/2002, fel y’i diwygiwyd yn rhagolygol gan O.S. 2019/641.