Offerynnau Statudol Cymru
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gwnaed
10 Rhagfyr 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
14 Rhagfyr 2020
Yn dod i rym
9 Ionawr 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 61Z(8) a (9), 62(11), 62R a 333(4B) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(1), a thrwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 59, 62(1) a (2), 71(1), (2)(a) a (2A) a 333(7) o’r Ddeddf honno(2) sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(3) (fel y’u cymhwysir yn achos adran 62(1) gydag addasiadau gan Orchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2016(4)), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ceisiadau Cynllunio (Addasiadau a Datgymhwyso Dros Dro) (Rhif 3) (Cymru) (Coronafeirws) 2020.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 9 Ionawr 2021.
2.—(1) Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012(5) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2G(2)(b), yn lle “8 Ionawr 2021” rhodder “8 Hydref 2021”.
3.—(1) Mae Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016(6) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 12(6A)(b), yn lle “8 Ionawr 2021” rhodder “8 Hydref 2021”.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Lleol, un o Weinidogion Cymru
10 Rhagfyr 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (“Gorchymyn 2012”) a Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016 (“Gorchymyn 2016”). Mae’n diwygio darpariaethau yn y Gorchmynion hynny er mwyn estyn y cyfnod pan fo gofynion penodol wedi eu haddasu neu eu datgymhwyso.
Mae erthygl 2 yn diwygio erthygl 2G(2)(b) o Orchymyn 2012 er mwyn estyn cyfnod yr argyfwng pan fo’r gofynion cyhoeddusrwydd a hysbysu ar gyfer ymgynghori cyn ymgeisio wedi eu haddasu. Mae hefyd yn estyn cyfnod yr argyfwng at ddiben yr amser sydd gan gynghorau cymuned i wneud sylwadau ar geisiadau yr hysbysir hwy amdanynt. Daw cyfnod yr argyfwng i ben ar 8 Hydref 2021.
Mae erthygl 3 yn diwygio erthygl 12(6A)(b) o Orchymyn 2016 er mwyn estyn y cyfnod pan na fo copïau caled o geisiadau ar gyfer datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol yn ofynnol. Daw’r cyfnod hwnnw i ben ar 8 Hydref 2021.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.
1990 p. 8 Mewnosodwyd adran 61Z gan adran 17(2) o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4) (“Deddf 2015”). Mewnosodwyd adran 62(11) gan adran 17(3) o Ddeddf 2015 (gweler hefyd adran 59(4) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”) (y cyfeirir ati yn y troednodyn nesaf) sy’n darparu mai ystyr gorchymyn datblygu mewn perthynas â Chymru yw gorchymyn datblygu a wneir gan Weinidogion Cymru). Mewnosodwyd adran 62R gan adran 25 o Ddeddf 2015. Amnewidiwyd adran 333(4B) gan adran 55 o Ddeddf 2015 a pharagraff 6(3) o Atodlen 7 iddi. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.
Diwygiwyd adran 59(2) gan adran 1 o Ddeddf Twf a Seilwaith 2013 (p. 27) a pharagraff 4 o Atodlen 1 iddi, a chan adran 27 o Ddeddf 2015 a pharagraff 3 o Atodlen 4 iddi. Mewnosodwyd adran 59(4) gan adran 55 o Ddeddf 2015 a pharagraff 5 o Atodlen 7 iddi. Gweler adran 71(4) am ystyr “prescribed”. Diwygiwyd adran 71 gan adran 16(2) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cofnod yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf 1990. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi.
O.S. 2012/801 (Cy. 110), a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/59 (Cy. 29), O.S. 2017/567 (Cy. 136), O.S. 2020/514 (Cy. 121) ac O.S. 2020/1004 (Cy. 223); mae offerynnau diwygio eraill ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.
O.S. 2016/55 (Cy. 25), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/514 (Cy. 121) ac O.S. 2020/1004 (Cy. 223); mae offerynnau diwygio eraill ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.