2020 Rhif 1511 (Cy. 323)

Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymru

Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn a Chynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2020

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 26(1), (2) a (5) o Ddeddf Gwasanaethau Tân 19471; adran 12 o Ddeddf Blwydd-daliadau 19722, fel y’u cymhwysir gan adran 16(3) o’r Ddeddf honno3; a chan adran 34(1) i (4) o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 200445, ac a freinir bellach yng Ngweinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru hefyd yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1(1) a (2)(f)6, 2(1), 3(1) i (3) a 18(5)(a) a (6) o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 20137 ac Atodlenni 2 (paragraff 6(b)) a 3 (paragraffau 1 i 4) iddi.

Cyn gwneud y Rheoliadau hyn, ac yn unol ag adran 34(5) o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, ymgynghorodd Gweinidogion Cymru â’r personau hynny yr oeddent yn ystyried eu bod yn briodol.

Yn unol ag adran 21(1) o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y personau hynny y mae’n ymddangos yn debygol i Weinidogion Cymru y bydd y Rheoliadau hyn yn effeithio arnynt.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn a Chynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2020.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Chwefror 2021.

3

Mae’r darpariaethau yn—

a

rheoliadau 4(1), 4(2), 4(4) ac 11 yn cael effaith o 5 Rhagfyr 2005 ymlaen;

b

rheoliad 12 yn cael effaith o 1 Ebrill 2006 ymlaen;

c

rheoliad 7 yn cael effaith o 6 Ebrill 2006 ymlaen;

d

rheoliad 3 yn cael effaith o 1 Ebrill 2007 ymlaen;

e

rheoliadau 5 ac 8 yn cael effaith o 1 Rhagfyr 2009 ymlaen;

f

rheoliad 4(3) yn cael effaith o 13 Mawrth 2014 ymlaen;

g

rheoliad 14 yn cael effaith o 1 Ebrill 2015 ymlaen8.

4

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

RHAN 2Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992

Diwygiadau i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 19922

Mae Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 19929 (lle nodir Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru)10 (“Cynllun 1992”)), wedi ei diwygio fel a nodir yn rheoliadau 3 i 5.

Cynyddu pensiynau hollt: Cynllun 19923

Yn Rhan B (dyfarndaliadau personol), yn rheol B5A (yr hawlogaeth i gael dau bensiwn)11

a

ym mharagraff (2), yn lle “exceeds” rhodder “is lower than”;

b

ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

3A

The amount of the first pension determined under paragraph (3) or (4B)(a), is increased for each year before the firefighter’s last day of service by an amount equivalent to that which would apply if the first pension were a pension in payment commencing from the day after the date of the firefighter’s last day of service at the higher rate of pay, to which the Pensions (Increase) Act 197112 applied.

c

ym mharagraff (6), ar ôl “B1,” mewnosoder “B1A,”;

d

ym mharagraff (9), yn lle “paragraph (3)” rhodder “paragraph (4)”.

Buddion goroeswr i bartneriaid sifil a phriodau o’r un rhyw: Cynllun 19924

1

Yn Rhan C (dyfarndaliadau yn sgil marwolaeth – priodau)—

a

yn rheol C1 (pensiwn cyffredin priod)—

i

ym mharagraff (2)13, ar ôl “spouse” mewnosoder “or surviving civil partner”;

ii

hepgorer paragraff (2A)14;

b

yn rheol C4 (pensiwn cronedig priod), ym mharagraff (3)15

i

yn is-baragraff (a), ar ôl “spouse” mewnosoder “or surviving civil partner”;

ii

hepgorer is-baragraff (b) a’r “and” sy’n dod o’i flaen;

c

yn rheol C5 (cyfyngiad ar ddyfarndaliad i briod neu bartner sifil drwy gyfeirio at ddyddiad y briodas neu’r dyddiad y ffurfiwyd y bartneriaeth)16

i

ym mharagraff (2), ar ôl “spouse” mewnosoder “or surviving civil partner”;

ii

hepgorer paragraff (3);

d

yn rheol C6 (budd angenrheidiol a phensiwn dros dro priod neu bartner sifil), ym mharagraff (4)17

i

yn is-baragraff (a), hepgorer “in the case of a surviving spouse,”;

ii

hepgorer is-baragraff (b) a’r “and” sy’n dod o’i flaen;

e

yn rheol C8 (cyfyngiad pan fo priodau yn byw ar wahân), ym mharagraff (2)18

i

yn is-baragraff (a), hepgorer “in the case of a surviving spouse,”;

ii

hepgorer is-baragraff (b) a’r “and” sy’n dod o’i flaen.

2

Yn Rhan J (achosion arbennig), yn rheol J1 (lleiafswm pensiwn gwarantedig)19

a

ym mharagraff (2)—

i

yn lle is-baragraff (b) rhodder—

b

in the case of a person who dies at any time and leaves a widow, a surviving same sex spouse or surviving civil partner, that person is entitled to a pension of a weekly rate equal to half the deceased person’s guaranteed minimum, and

ii

hepgorer is-baragraff (d) a’r “and” sy’n dod o’i flaen;

b

ym mharagraff (4), yn lle “, (c) or (d)” rhodder “or (c)”.

3

Yn Atodlen 1 (dehongli) i Gynllun 1992, hepgorer paragraffau 1 a 2 o Ran 3 (darpariaeth yn ymwneud â chyplau o’r un rhyw)20.

4

Yn Atodlen 3 (dyfarndaliadau yn sgil marwolaeth – priodau) i Gynllun 1992—

a

yn Rhan 3 (pensiwn cronedig priod)—

i

ym mharagraff 2(1), ar ôl “spouse’s” mewnosoder “, or surviving civil partner’s,”;

ii

ym mharagraff 3(1), ar ôl “spouse” mewnosoder “or surviving civil partner”;

b

yn Rhan 4 (pensiwn i briod sy’n goroesi o briodas ar ôl ymddeol), ym mharagraffau 1(1)21 a 2(1), ar ôl “surviving spouse” mewnosoder “or surviving civil partner”.

Cymudo credydau pensiwn bach: Cynllun 19925

Yn Rhan IA (aelodau credyd pensiwn), yn rheol IA2(1)22 (cymudo’r buddion credyd pensiwn), yn lle “In the circumstances described in regulation 3(2)(b) of the Pension Sharing (Pension Credit Benefit) Regulations 2000 (commutation of pension credit benefit: small pensions)” rhodder “Where the amount of pension payable under rule IA1 does not exceed the trivial commutation lump sum limit in paragraph 7 of Schedule 29 to the Finance Act 2004 (lump sum rule)23”.

RHAN 3Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007

Diwygiadau i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 20076

Mae Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 200724 (lle nodir Cynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) (“Cynllun 2007”)) wedi ei diwygio fel a nodir yn rheoliadau 7 i 9.

Cynyddu pensiynau hollt: Cynllun 20077

Yn Rhan 3 (dyfarndaliadau personol), yn rheol 7 (yr hawlogaeth i gael dau bensiwn)25

a

ym mharagraff (2), yn lle “ym mharagraffau (3) a (4)” rhodder “ym mharagraffau (3), (3A) a (4)”;

b

ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

3A

Caiff swm y pensiwn cyntaf a ddyfernir o dan baragraff (3) ei gynyddu bob blwyddyn cyn diwrnod gwasanaeth olaf y diffoddwr tân o swm sy’n gyfwerth â’r swm a fyddai’n gymwys pe byddai’r pensiwn cyntaf yn bensiwn a delir gan gychwyn o’r dyddiad yr oedd paragraff (1) yn gymwys am y tro cyntaf i’r aelod, yr oedd Deddf Pensiynau (Cynnydd) 1971 yn gymwys iddo.

Cymudo credydau pensiwn bach: Cynllun 20078

Yn Rhan 6 (rhannu pensiwn yn sgil ysgaru), yn rheol 2 (cymudo’r cyfan o fuddion credyd pensiwn), ym mharagraff (1), yn lle “O dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn rheoliad 3(2)(b) o Reoliadau Rhannu Pensiwn (Budd Credyd Pensiwn) 2000 (cymudo budd credyd pensiwn: pensiynau bach)” rhodder “Pan na fo swm y pensiwn sy’n daladwy o dan y Rhan hon yn fwy na therfyn y cyfandaliad mân gymudiad o fewn ystyr “trivial commutation lump sum” ym mharagraff 7 o Atodlen 29 i Ddeddf Cyllid 2004 (y rheol ynghylch cyfandaliadau)26”.

Y gyfran a gymudwyd: aelodau arbennig: Cynllun 20079

Yn Atodiad ZA, yn lle’r Tabl rhodder—

Blynyddoedd

Oedran mewn blynyddoedd a misoedd cyflawn ar ddiwrnod cychwyn y pensiwn

0

1

2

3

4

5

6

7

8

9

10

11

Islaw

50

23.4

50

22.4

22.3

22.3

22.3

22.3

22.2

22.2

22.2

22.2

22.1

22.1

22.1

51

22.1

22.0

22.0

22.0

22.0

21.9

21.9

21.9

21.9

21.8

21.8

21.8

52

21.8

21.7

21.7

21.7

21.7

21.6

21.6

21.6

21.6

21.5

21.5

21.5

53

21.5

21.4

21.4

21.4

21.3

21.3

21.3

21.3

21.2

21.2

21.2

21.1

54

21.1

21.1

21.1

21.0

21.0

21.0

21.0

20.9

20.9

20.9

20.9

20.8

55

20.8

20.8

20.8

20.7

20.7

20.7

20.6

20.6

20.6

20.5

20.5

20.5

56

20.4

20.4

20.4

20.4

20.3

20.3

20.3

20.2

20.2

20.2

20.1

20.1

57

20.1

20.0

20.0

20.0

19.9

19.9

19.9

19.8

19.8

19.8

19.7

19.7

58

19.7

19.6

19.6

19.6

19.5

19.5

19.5

19.4

19.4

19.4

19.3

19.3

59

19.3

19.2

19.2

19.2

19.1

19.1

19.1

19.0

19.0

19.0

18.9

18.9

60

18.9

18.8

18.8

18.7

18.7

18.7

18.6

18.6

18.6

18.5

18.5

18.5

61

18.4

18.4

18.4

18.3

18.3

18.2

18.2

18.2

18.1

18.1

18.1

18.0

62

18.0

18.0

17.9

17.9

17.8

17.8

17.8

17.7

17.7

17.7

17.6

17.6

63

17.5

17.5

17.5

17.4

17.4

17.4

17.3

17.3

17.2

17.2

17.2

17.1

64

17.1

17.1

17.0

17.0

16.9

16.9

16.9

16.8

16.8

16.8

16.7

16.7

65

16.6

16.6

16.6

16.5

16.5

16.5

16.4

16.4

16.3

16.3

16.3

16.2

66

16.2

16.2

16.1

16.1

16.0

16.0

16.0

15.9

15.9

15.9

15.8

15.8

67

15.7

15.7

15.7

15.6

15.6

15.6

15.5

15.5

15.4

15.4

15.4

15.3

68

15.3

15.2

15.2

15.2

15.1

15.1

15.1

15.0

15.0

14.9

14.9

14.9

69

14.8

14.8

14.7

14.7

14.7

14.6

14.6

14.5

14.5

14.5

14.4

14.4

70

14.3

14.3

14.3

14.2

14.2

14.1

14.1

14.0

14.0

14.0

13.9

13.9

71

13.8

13.8

13.8

13.7

13.7

13.6

13.6

13.5

13.5

13.5

13.4

13.4

72

13.3

13.3

13.2

13.2

13.2

13.1

13.1

13.0

13.0

12.9

12.9

12.8

73

12.8

12.8

12.7

12.7

12.6

12.6

12.5

12.5

12.4

12.4

12.3

12.3

74

12.3

12.2

12.2

12.1

12.1

12.0

12.0

11.9

11.9

11.8

11.8

11.7

75

11.7

RHAN 4Gorchymyn Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007

Diwygiadau i Orchymyn Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 200710

Mae Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 200727 (lle nodir Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 (“Cynllun Digolledu 2007”)) wedi ei diwygio fel a nodir yn rheoliadau 11 a 12.

Buddion goroeswr i bartneriaid sifil a phriodau o’r un rhyw: Cynllun Digolledu 200711

Yn Rhan 3 (dyfarndaliadau yn sgil marwolaeth: priodau a phartneriaid sifil)—

a

yn rheol 1 (dyfarndaliad arbennig ar gyfer priod neu bartner sifil), ym mharagraff (3)28

i

yn is-baragraff (a), ar ôl “spouse” mewnosoder “or surviving civil partner”;

ii

hepgorer is-baragraff (b);

b

yn rheol 3 (cyfyngiad ar ddyfarndaliad i briod neu bartner sifil drwy gyfeirio at ddyddiad y briodas neu’r dyddiad y ffurfiwyd y bartneriaeth)—

i

ym mharagraff (2), ar ôl “spouse” mewnosoder “or surviving civil partner”;

ii

hepgorer paragraff (3);

c

yn rheol 4 (cyfyngiad pan fo’r priod neu’r partner sifil yn byw ar wahân), ym mharagraff (2)29

i

yn is-baragraff (a), ar ôl “spouse” mewnosoder “or surviving civil partner”;

ii

hepgorer is-baragraff (b) a’r “and” sy’n dod o’i flaen.

Dyfarndaliadau yn sgil marwolaeth: plant: Cynllun Digolledu 200712

Yn Rhan 4 (dyfarndaliadau yn sgil marwolaeth: plant), yn rheol 3 (lwfans arbennig neu rodd ariannol plentyn: cyfyngiadau)—

a

yn y pennawd, hepgorer “or gratuity”;

b

hepgorer paragraff (1);

c

ym mharagraff (5)(a), yn lle “(b) or (c)” rhodder “(2)(b) or (c)”.

RHAN 5

Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015

Diwygiadau i Reoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 201513

Mae Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015, sy’n sefydlu Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 201530 (“Cynllun 2015”), wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 14.

Taliadau gwerth trosglwyddiad clwb: Cynllun 201514

Yn Atodlen 2 (darpariaethau trosiannol), ym mharagraff 45 (derbyn taliadau gwerth trosglwyddiad clwb), ar ôl “ymwneud â budd cyflog terfynol aelod” mewnosoder “, ar wahân i daliad o Gynllun 1992 fel y mae’r cynllun hwnnw yn cael effaith yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon,”.

Hannah BlythynY Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio—

a

Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 sy’n nodi, yn Atodlen 2, Gynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (“Gorchymyn 1992”),

b

Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 sy’n nodi, yn Atodlen 1, Gynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) (“Gorchymyn 2007”),

c

Gorchymyn Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 sy’n nodi, yn Atodlen 1, Gynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 (“Gorchymyn Digolledu 2007”), a

d

Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015 sy’n nodi Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”).

Mae i rai o’r rheoliadau effaith ôl-weithredol – nodir y rhain yn rheoliad 1(3). Mae’r darpariaethau a ganlyn yn y ddeddfwriaeth alluogi yn caniatáu i’r rheoliadau a wneir o dan y darpariaethau hynny gael effaith ôl-weithredol—

a

adran 12 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972, fel y’i cymhwysir gan adran 16(3) o’r Ddeddf honno mewn perthynas â gorchmynion a wneir o dan adran 26 o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947,

b

adran 34(3) o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, ac

c

adran 3(3)(b) o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013.

Mae rheoliadau 3 i 5 yn gwneud diwygiadau i Orchymyn 1992. Mae’r diwygiadau a wneir gan reoliad 3(a), (c) a (d), yn sicrhau nad yw diffoddwr tân dan anfantais oherwydd y ddarpariaeth sy’n caniatáu i ddau bensiwn, y cânt eu cyfrifo ar wahân, gael eu dyfarnu, yn dilyn gostyngiad sylweddol mewn cyflog, ac maent hefyd yn gwneud mân ddiweddariadau eraill. Mae rheoliad 3(b) yn egluro, pan fo gan ddiffoddwr tân yr hawl i ddau bensiwn o dan Orchymyn 1992, caiff swm y pensiwn cyntaf ei uwchraddio’n flynyddol o’r dyddiad y peidiodd y diffoddwr tân ag ennill cyflog yn ôl y gyfradd uwch.

Effaith y diwygiadau yn rheoliad 4 yw cysoni’r buddion sy’n daladwy i oroeswyr partneriaethau sifil a phriodasau o’r un rhyw â’r buddion sy’n daladwy i oroeswyr priodasau rhwng pobl o rywiau gwahanol.

Mae rheoliad 5 yn diweddaru cyfeiriad statudol sydd wedi dyddio yng Ngorchymyn 1992.

Mae rheoliadau 7 i 9 yn gwneud diwygiadau i Orchymyn 2007. Mae rheoliad 7 yn egluro, pan fo gan ddiffoddwr tân yr hawl i ddau bensiwn o dan Gynllun 2007, caiff swm y pensiwn cyntaf ei uwchraddio’n flynyddol o’r dyddiad y peidiodd y diffoddwr tân ag ennill cyflog yn ôl y gyfradd uwch.

Mae rheoliad 8 yn diweddaru cyfeiriad statudol sydd wedi dyddio yng Ngorchymyn 2007.

Mae rheoliad 9 yn rhoi tabl newydd yn lle’r tabl o ffactorau cymudo ar gyfer aelodau arbennig a nodir yn Atodiad ZA i Orchymyn 2007 i gynnwys ffactorau y tu hwnt i 65 oed, hyd at 75 oed. Mae’r ffactorau cymudo fel yr oeddent ar 31 Mawrth 2014 (hyd at 65 oed) wedi eu hatgynhyrchu yn y tabl newydd ac nid ydynt wedi newid.

Mae rheoliadau 11 a 12 yn gwneud diwygiadau i Orchymyn Digolledu 2007.

Effaith y diwygiadau yn rheoliad 11 yw cysoni’r buddion sy’n daladwy i oroeswyr partneriaethau sifil a phriodasau o’r un rhyw â’r buddion sy’n daladwy i oroeswyr priodasau rhwng pobl o rywiau gwahanol.

Mae rheoliad 12 yn diwygio rheol 3 (lwfans arbennig plentyn: cyfyngiadau) yn Rhan 4 o Orchymyn Digolledu 2007 drwy ddileu rhai o’r cyfyngiadau ar blant dibynnol, llys blant a phlant wedi eu mabwysiadu, yn ogystal â phlant i rieni di-briod. Mae hefyd yn diwygio pennawd rheol 3 ac yn egluro croesgyfeiriad yn rheol 3(5)(a).

Mae rheoliad 14 yn diwygio Rheoliadau 2015 i egluro bod aelodau gwarchodedig o’r Cynllun a gyfansoddwyd gan Orchymyn 1992 sy’n trosglwyddo i Gymru o Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn parhau i fod â’r hawl i fod yn aelodau o’r Cynllun hwnnw.

Mae’r diwygiadau a wneir gan—

a

rheoliadau 4(1), 4(2), 4(4) a 11 yn cael effaith o 5 Rhagfyr 2005 ymlaen;

b

rheoliad 12 yn cael effaith o 1 Ebrill 2006 ymlaen;

c

rheoliad 7 yn cael effaith o 6 Ebrill 2006 ymlaen;

d

rheoliad 3 yn cael effaith o 1 Ebrill 2007 ymlaen;

e

rheoliadau 5 ac 8 yn cael effaith o 1 Rhagfyr 2009 ymlaen;

f

rheoliad 4(3) yn cael effaith o 13 Mawrth 2014 ymlaen;

g

rheoliad 14 yn cael effaith o 1 Ebrill 2015 ymlaen;

h

rheoliad 9 yn cael effaith o 23 Chwefror 2021 ymlaen.

Ystyriwyd Cod Asesiadau Effaith Rheoleiddiol Gweinidogion Cymru ar Is-ddeddfwriaeth mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.