Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau etc.) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1396 (Cy. 309)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau etc.) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020

Gofynion sifftio wedi eu bodloni

16 Tachwedd 2020

Gwnaed

1 Rhagfyr 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

2 Rhagfyr 2020

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1).

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (sy’n ymwneud â’r weithdrefn graffu briodol ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.

Fel sy’n ofynnol gan baragraff 4(a) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, ymgynghorwyd â’r Ysgrifennydd Gwladol wrth lunio’r Rheoliadau hyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau etc.) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

(3Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau etc.) (Cymru) 2004

2.—(1Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau etc.) (Cymru) 2004(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 2 (cyffuriau neu feddyginiaethau i’w harchebu o dan amgylchiadau penodol yn unig), yn y cofnod yng ngholofn 2 o’r tabl sy’n cyfateb i’r cofnod yng ngholofn 1 sy’n ymwneud â chyffuriau ar gyfer trin camweithredu ymgodol—

(a)yn lle paragraff (1)(b) (gan gynnwys yr “or” ar y diwedd) rhodder—

(b)a man who is a national of an EEA State who—

(i)immediately before IP completion day was entitled to treatment by virtue of Article 7(2) of Council Regulation 1612/68 as extended by the EEA Agreement or was entitled to treatment by virtue of any other enforceable EU right,

(ii)has erectile dysfunction and was on 14th September 1998 receiving a course of treatment under a national health insurance system of an EEA State for that condition with any of the drugs listed in sub-paragraph (a), and

(iii)immediately before IP completion day was receiving a course of treatment as part of the health service for the condition mentioned in paragraph (ii) of this sub-paragraph with any of the drugs listed in sub-paragraph (a), or; a

(b)yn lle paragraff (c) (gan gynnwys yr “or” ar y diwedd) rhodder –

(c)a man who is not a national of an EEA State but who is the member of the family of such a national and who—

(i)immediately before IP completion day had an enforceable EU right to be treated no less favourably than the national in the provision of medical treatment,

(ii)has erectile dysfunction and was on 14th September 1998 receiving a course of treatment for that condition with any of the drugs listed in sub-paragraph (a), and

(iii)immediately before IP completion day was receiving a course of treatment as part of the health service for the condition mentioned in paragraph (ii) of this sub-paragraph with any of the drugs listed in sub-paragraph (a), or.

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

1 Rhagfyr 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau ym mharagraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16), er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau etc.) (Cymru) 2004.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2018 p. 16. Diwygiwyd Atodlen 2 gan adran 27 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1).