2020 Rhif 1366 (Cy. 302)

Ardrethu A Phrisio, Cymru

Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2020

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 60 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19881 a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2020 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2020.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

3

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 1992” yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 19922.

Diwygio Rheoliadau 19922

1

Mae Rheoliadau 1992 wedi eu diwygio fel a ganlyn mewn perthynas â’r blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2021 neu ar ôl hynny.

2

Yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 rhodder yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.

Rebecca EvansY Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLEN

Rheoliad 2

SCHEDULE 4

ADULT POPULATION FIGURES

Billing authority area

Prescribed figure

Blaenau Gwent

56,285

Bridgend/Pen-y-bont ar Ogwr

117,680

Caerphilly/Caerffili

143,125

Cardiff/Caerdydd

292,013

Carmarthenshire/Sir Gaerfyrddin

151,377

Ceredigion

60,456

Conwy

95,925

Denbighshire/Sir Ddinbych

76,246

Flintshire/Sir y Fflint

123,785

Gwynedd

101,246

Isle of Anglesey/Ynys Môn

56,637

Merthyr Tydfil/Merthyr Tudful

47,469

Monmouthshire/Sir Fynwy

77,230

Neath Port Talbot/Castell-nedd Port Talbot

115,254

Newport/Casnewydd

119,331

Pembrokeshire/Sir Benfro

101,871

Powys

108,508

Rhondda Cynon Taf

191,160

Swansea/Abertawe

200,005

Torfaen

74,510

Vale of Glamorgan/Bro Morgannwg

105,935

Wrexham/Wrecsam

106,892

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 (“Rheoliadau 1992”).

O dan Ran 2 o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, mae’n ofynnol i awdurdodau bilio (sef, yng Nghymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Weinidogion Cymru. Mae Rheoliadau 1992 yn cynnwys rheolau ar gyfer cyfrifo’r cyfraniadau hynny ar gyfer awdurdodau bilio Cymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy roi Atodlen 4 newydd (Ffigurau Poblogaeth Oedolion) yn lle’r un bresennol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.