Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Gwnaed
am 2.14 p.m. ar 27 Tachwedd 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
ar 5.00 p.m. ar 27 Tachwedd 2020
Yn dod i rym
am 4.00 a.m. ar 28 Tachwedd 2020
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 28 Tachwedd 2020.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(2).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 28.11.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
2. Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), hepgorer y cofnodion a ganlyn—
“Estonia”
“Latfia”.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 28.11.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
3.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a)yn cyrraedd Cymru am 4:00 a.m. ar 28 Tachwedd 2020 neu wedi hynny, a
(b)wedi bod mewn gwlad a restrir yn rheoliad 2 ddiwethaf—
(i)o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a
(ii)cyn 4.00 a.m. ar 28 Tachwedd 2020.
(2) Mae P, yn rhinwedd y ffaith iddo fod mewn gwlad a restrir yn rheoliad 2, i’w drin at ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel pe bai wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu fel pe bai wedi cyrraedd ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 28.11.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
4. Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), yn y lle priodol mewnosoder—
“Aruba”
“Gweriniaeth Ddemocrataidd Timor-Leste”
“Gweriniaeth Kiribati”
“Gweriniaeth Vanuatu”
“Gwladwriaeth Annibynnol Samoa”
“Gwladwriaethau Ffederal Micronesia”
“Mongolia”
“Teyrnas Bhutan”
“Teyrnas Tonga”
“Ynysoedd Solomon”.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 28.11.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
5.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan, yn union cyn 4.00 a.m. ar 28 Tachwedd 2020—
(a)oedd person (“P”) yn ddarostyngedig i ofyniad i ynysu yn rhinwedd y ffaith iddo gyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 4, neu ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath, a
(b)diwrnod olaf ynysiad P yw 28 Tachwedd 2020 neu ddiwrnod ar ôl y diwrnod hwnnw.
(2) Nid yw ychwanegu’r gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn rheoliad 4 at Ran 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn effeithio ar y gofyniad i ynysu fel y mae’n gymwys i P, nac ar y modd y pennir diwrnod olaf ynysiad P o dan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
(3) Mae paragraff (4) yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a)yn cyrraedd Cymru am 4.00 a.m. ar 28 Tachwedd 2020 neu wedi hynny, a
(b)wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 4 o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.
(4) At ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, mae’r cwestiwn o ran a yw P wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt neu ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath i’w bennu, mewn perthynas â gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 4, drwy gyfeirio at ba un a oedd y wlad neu’r diriogaeth yn wlad neu’n diriogaeth nad oedd yn esempt pan oedd P yno ddiwethaf (ac nid drwy gyfeirio at statws y wlad neu’r diriogaeth pan fo P yn cyrraedd Cymru).
(5) Yn y rheoliad hwn, mae i “gofyniad i ynysu” yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol; ac mae cyfeiriadau at ddiwrnod olaf ynysiad P i’w dehongli yn unol â rheoliad 12 o’r Rheoliadau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 28.11.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
6.—(1) Mae Rhan 3 (gofyniad i ynysu etc.) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 9(2)(b), yn lle “38” rhodder “39”.
(3) Hepgorer rheoliad 12A.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 28.11.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
7. Pan, yn union cyn 4.00 a.m. ar 28 Tachwedd 2020, yr oedd rheoliad 12A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gymwys i berson, mae’r rheoliad hwnnw yn parhau i fod yn gymwys i’r person hwnnw er gwaethaf ei ddirymiad gan reoliad 6(3).
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 7 mewn grym ar 28.11.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
8.—(1) Hepgorer Rhan 3A (teithio o Ddenmarc) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
(2) Mae rheoliad 14(1) yn Rhan 4 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a)yn is-baragraff (c), ar y diwedd mewnosoder “neu”;
(b)yn is-baragraff (f), hepgorer “neu”;
(c)hepgorer is-baragraff (g).
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 8 mewn grym ar 28.11.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
9. Ym mharagraff 13(2)(c) o Atodlen 2 (personau esempt) i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, yn lle “gan yr” rhodder “gan Weinidogion Cymru neu’r”.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 9 mewn grym ar 28.11.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
10.—(1) Mae Atodlen 4 (digwyddiadau chwaraeon penodedig) i’r Rheoliadau Teithio Ryngwladol wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 3, ar y diwedd mewnosoder—
“(n)Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol – Meistri Ladbrookes.”
(3) Ym mharagraff 7, ar y diwedd mewnosoder—
“(m)Motorsport UK – Pencampwriaeth Rali Groes Prydain a’r Bencampwriaeth Gefnogi.”
(4) Ym mharagraff 10, ar y diwedd mewnosoder—
“(l)Taith Snwcer y Byd – Meistri’r Almaen;
(m)Taith Snwcer y Byd – Y Meistri;
(n)Taith Snwcer y Byd – Pencampwriaeth y Chwaraewyr;
(o)Taith Snwcer y Byd – Pencampwriaeth Agored Cymru.”
(5) Ar ôl paragraff 24 mewnosoder—
“25. Nofio – Cyfarfod Rhyngwladol British Swimming.”
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 10 mewn grym ar 28.11.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 2.14 p.m. ar 27 Tachwedd 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”). Diwygiwyd y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn flaenorol gan:
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595) (Cy. 136);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714) (Cy. 160);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/726) (Cy. 163);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/804) (Cy. 177);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020 (O.S. 2020/817) (Cy. 179);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020 (O.S. 2020/840) (Cy. 185);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020 (O.S. 2020/868) (Cy. 190);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 (O.S. 2020/886) (Cy. 196);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020 (O.S. 2020/917) (Cy. 205);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2020 (O.S. 2020/944) (Cy. 210);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2020 (O.S. 2020/962) (Cy. 216);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2020 (O.S. 2020/981) (Cy. 220);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) 2020 (O.S. 2020/1015) (Cy. 226);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020 (O.S. 2020/1042) (Cy. 231);
Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor, Materion y Gymanwlad a Materion Datblygu) 2020 (O.S. 2020/942);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2020 (O.S. 2020/1080) (Cy. 243);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) 2020 (O.S. 2020/1098) (Cy. 249);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) 2020 (O.S. 2020/1133) (Cy. 258);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) 2020 (O.S. 2020/1165) (Cy. 263);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020 (O.S. 2020/1191) (Cy. 269);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 18) 2020 (O.S. 2020/1223) (Cy. 277);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2020 (O.S. 2020/1232) (Cy. 278);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1237) (Cy. 279);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1288) (Cy. 286);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 20) 2020 (O.S. 2020/1329) (Cy. 295).
Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod i’w bennu yn unol â’r Rheoliadau hynny.
Mae gofynion y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o bersonau wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio.
Nid yw’n ofynnol i bersonau sy’n dod i Gymru ynysu ar ôl bod mewn un neu ragor o’r gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Cyfeirir at y gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 fel “gwledydd a thiriogaethau esempt”.
Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt. Mae rheoliad 2 yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn hepgor y cofnodion ar gyfer Estonia a Latfia. Mae rheoliad 4 yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn ychwanegu Aruba, Gweriniaeth Ddemocrataidd Timor-Leste, Gweriniaeth Kiribati, Gweriniaeth Vanuatu, Gwladwriaeth Annibynnol Samoa, Gwladwriaethau Ffederal Micronesia, Mongolia, Teyrnas Bhutan, Teyrnas Tonga ac Ynysoedd Solomon at y rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt.
Mae rheoliadau 3 a 5 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â’r newid yn statws y gwledydd a’r tiriogaethau hyn. Mae’r ddarpariaeth drosiannol yn ymdrin â maes a all fod yn destun amheuaeth o ran effaith y diwygiadau a wneir gan reoliadau 2 a 4 o’r Rheoliadau hyn ar weithredu’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rhan 3 ac yn hepgor Rhan 3A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol ac yn gwneud diwygiad canlyniadol i reoliad 14 yn Rhan 4 o’r Rheoliadau hynny.
Mae rheoliad 6 yn diwygio Rhan 3 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Yn gyntaf, mae’n gwneud diwygiad technegol i reoliad 9 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn cynnwys cyfeiriad at baragraff 39 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau hynny. Yn ail, mae’n hepgor rheoliad 12A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol sy’n gosod rheolau arbennig ar unrhyw berson sy’n teithio o Ddenmarc ac aelodau o aelwyd y person hwnnw. Mae rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth arbed mewn cysylltiad â hepgor rheoliad 12A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae’r ddarpariaeth arbed yn ymdrin â maes a all fod yn destun amheuaeth o ran effaith y diwygiadau a wneir gan reoliad 6(3) o’r Rheoliadau hyn ar weithredu’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Mae rheoliad 8 yn hepgor Rhan 3A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol sy’n gwahardd awyrennau a llestrau sy’n teithio’n uniongyrchol o Ddenmarc rhag cyrraedd Cymru. Mae hefyd yn gwneud diwygiad canlyniadol i reoliad 14 yn Rhan 4 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol i hepgor y drosedd a gyflawnir drwy dorri gofynion rheoliad 12B(1) yn Rhan 3A o’r Rheoliadau hynny.
Nid yw Denmarc wedi ei chynnwys yn y rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Felly, bydd yn dal yn ofynnol i deithwyr o Ddenmarc ynysu yn unol â’r Rheoliadau hynny.
Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn – yn rheoliad 9 – yn diwygio paragraff 13 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn pennu y caiff Gweinidogion Cymru ddynodi bod gwaith yn “gwaith llywodraeth hanfodol” at ddibenion yr esemptiad i’r gofyniad i ynysu sydd yn y paragraff hwnnw.
Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn – yn rheoliad 10 – yn diwygio’r rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon yn Atodlen 4 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Caniateir i berson sy’n ddarostyngedig i ofyniad i ynysu a osodir gan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol adael y man lle y mae’r person yn ynysu am nifer cyfyngedig o resymau. Nodir yr eithriadau hyn i’r gofyniad i ynysu yn rheoliad 10 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, ac maent yn cynnwys eithriad sy’n caniatáu i berson gymryd rhan mewn digwyddiad chwaraeon a restrir.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1984 p. 22. Mewnosodwyd Rhan 2A gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaeth o wneud rheoliadau o dan Ran 2A wedi ei rhoi i “the appropriate Minister”. O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984 y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.
O.S. 2020/574 (Cy. 132), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2020/595 (Cy. 136), O.S. 2020/714 (Cy. 160), O.S. 2020/726 (Cy. 163), O.S. 2020/804 (Cy. 177), O.S. 2020/817 (Cy. 179), O.S. 2020/840 (Cy. 185), O.S. 2020/868 (Cy. 190), O.S. 2020/886 (Cy. 196), O.S. 2020/917 (Cy. 205), O.S. 2020/942, O.S. 2020/944 (Cy. 210), O.S. 2020/962 (Cy. 216), O.S. 2020/981 (Cy. 220), O.S. 2020/1015 (Cy. 226), O.S. 2020/1042 (Cy. 231), O.S. 2020/1080 (Cy. 243), O.S. 2020/1098 (Cy. 249), O.S. 2020/1133 (Cy. 258), O.S. 2020/1165 (Cy. 263), O.S. 2020/1191 (Cy. 269), O.S. 2020/1223 (Cy. 277), O.S. 2020/1232 (Cy. 278), O.S. 2020/1237 (Cy. 279), O.S. 2020/1288 (Cy. 286) ac O.S. 2020/1329 (Cy. 295).