Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1356 (Cy. 300)

Dehongli Deddfwriaeth, Cymru

Rheoliadau Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 1) 2020

Gwnaed

26 Tachwedd 20

Yn dod i rym

27 Tachwedd 2020

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 43(2) o’r Ddeddf honno.

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 1) 2020.

(2Deuant i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.

Diwygiadau i Atodlen 1 i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019

2.—(1Mae’r Tabl yn Atodlen 1 i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (diffiniadau o eiriau ac ymadroddion sy’n ymddangos yn Neddfau Senedd Cymru ac mewn is-offerynnau Cymreig) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Mewnosoder y cofnodion a ganlyn yn y lleoedd priodol yn nhrefn yr wyddor—

Cod Dedfrydu (Sentencing Code)ystyr “Cod Dedfrydu” yw’r cod sydd wedi ei gynnwys yn Neddf Dedfrydu 2020 (p. 17) (gweler adran 1 o’r Ddeddf honno);
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (Equality and Human Rights Commission)ystyr “Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol” yw’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2006 (p. 3);
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (Public Accounts Committee)ystyr “Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus” yw pwyllgor Senedd Cymru a sefydlwyd yn unol ag adran 30 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (ac y cyfeirir ato yn yr adran honno fel y “Pwyllgor Archwilio”);
Ymddiriedolaeth Genedlaethol (National Trust)ystyr “Ymddiriedolaeth Genedlaethol” yw’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol dros Fannau o Ddiddordeb Hanesyddol neu Harddwch Naturiol a gorfforwyd gan Ddeddf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 1907 (p. cxxxvi).

(3Yn y diffiniad o “graddfa safonol”, ar ôl “yr ystyr a roddir i “standard scale”” mewnosoder—

(a)

yn achos trosedd y mae’r troseddwr wedi ei euogfarnu ohoni ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 2020, gan adran 122 o’r Cod Dedfrydu;

(b)

yn achos trosedd yr oedd y troseddwr wedi ei euogfarnu ohoni cyn y dyddiad hwnnw,.

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

26 Tachwedd 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 1 i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, sy’n gwneud darpariaeth ynghylch ystyr geiriau ac ymadroddion penodol pan fyddant yn ymddangos yn Neddfau Senedd Cymru ac mewn is-offerynnau Cymreig. Mae’r geiriau a’r ymadroddion i’w dehongli yn unol ag Atodlen 1 ac eithrio i’r graddau y mae darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb neu y mae’r cyd-destun yn mynnu fel arall.

Mae’r Rheoliadau yn mewnosod darpariaethau yn Atodlen 1 ynghylch ystyr yr ymadroddion a ganlyn—

  • “Cod Dedfrydu”;

  • “Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol”;

  • “Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus”;

  • “Ymddiriedolaeth Genedlaethol”.

Maent hefyd yn diwygio’r diffiniad o’r “graddfa safonol” o ddirwyon am droseddau diannod o ganlyniad i’r Cod Dedfrydu (yr ailddatganiad o’r ddeddfwriaeth ddedfrydu a nodir yn Neddf Dedfrydu 2020).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2019 dccc 4, a ddiwygiwyd gan Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1), Atodlen 1, paragraff 5. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.