2020 Rhif 110 (Cy. 19)

Llywodraeth Leol, Cymru

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) 2020

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 21(1), 24 a 123(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 20031, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a dehongli1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) 2020 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2020.

2

Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2003” yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 20032.

Enillion a cholledion gwerth teg cronfeydd buddsoddi cyfun2

Yn Rheoliadau 2003, ar ôl rheoliad 24J mewnosoder—

Fair value gains and losses of pooled investment funds24K

1

In this regulation—

  • “administering authority” means an administering authority as defined in Schedule 1 to the Local Government Pension Scheme Regulations 20133;

  • “fair value” has the same meaning as in Regulation 25A to these Regulations;

  • “fair value gain or loss” means a change in the fair value of an investment;

  • “pooled investment fund” means—

    1. a

      a money market fund; or

    2. b

      an investment scheme approved by the Treasury under section 11(1) of the Trustee Investments Act 19614 (local authority investment schemes).

2

Paragraph (3) applies where a local authority—

a

invests in a pooled investment fund (other than in its capacity as an administering authority in relation to a pension fund); and

b

a fair value gain or loss experienced on the authority’s investment in that pooled investment fund would otherwise be charged to a revenue account by that local authority in accordance with proper practices.

3

Where this paragraph applies, the local authority—

a

must not charge to a revenue account an amount in respect of that fair value gain or loss; and

b

must charge that amount to an account established, charged and used solely for the purpose of recognising fair value gains and losses in accordance with this regulation.

4

Paragraph (3) does not apply in respect of—

a

an impairment loss in relation to the authority’s investment in a pooled investment fund as recognised in a revenue account of the authority in accordance with proper practices; or

b

a sale or other disposal of the whole or any part of the authority’s investment in a pooled investment fund.

5

This regulation applies in relation to accounts prepared for financial years falling within the period beginning with 1 April 2019 and ending with 31 March 2023.

Julie JamesY Gweinidog Tai a Llywodraeth Lleol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliad 24K newydd yn Rheoliadau 2003. Mae’r rheoliad 24K newydd yn darparu na chaiff awdurdod lleol godi swm ar ei gyfrif refeniw i adlewyrchu unrhyw amrywiad yng ngwerth teg buddsoddiad awdurdod lleol mewn cronfa fuddsoddi gyfun. Yn hytrach, rhaid cofnodi’r symiau hynny mewn cyfrif ar wahân sydd wedi ei greu at y diben hwnnw yn unig ac a ddefnyddir at y diben hwnnw yn unig.

Caiff gwerth teg buddsoddiad awdurdod lleol mewn cronfa fuddsoddi gyfun ei ganfod yn unol ag arferion cyfrifyddu priodol fel y’u diffinnir yn rheoliad 25 o Reoliadau 2003. Nid yw’r driniaeth gyfrifyddol hon i fod yn gymwys i gydnabyddiaeth o golled yn sgil lleihad yng ngwerth y buddsoddiad hwnnw fel y cydnabyddir o dan yr arferion cyfrifyddu priodol hynny, nac yn gymwys i unrhyw warediad (gan gynnwys gwerthiant) o’r buddsoddiad hwnnw. Nid yw ychwaith yn gymwys i fuddsoddiadau a wneir gan awdurdod lleol yn rhinwedd ei swyddogaeth fel awdurdod gweinyddu cronfa bensiwn llywodraeth leol.

Bydd rheoliad 24K yn gymwys i gyfrifon a baratoir ar gyfer blynyddoedd ariannol mewn cysylltiad â’r cyfnod sy’n dechrau â 1 Ebrill 2019 ac sy’n gorffen â 31 Mawrth 2023.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol llawn gan na ragwelir unrhyw effaith ar y sector preifat na’r sector gwirfoddol.