2019 Rhif 996 (Cy. 176)

Traffig Ffyrdd, Cymru

Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Bwrdeistref Sirol Torfaen) 2019

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru1 drwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan baragraff 8(1) o Atodlen 8 a pharagraff 3(1) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 20042.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru i Orchymyn gael ei wneud o dan y pwerau hyn mewn cysylltiad â rhan o ardal y Cyngor hwnnw.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â phrif swyddog Heddlu Gwent yn unol â gofynion paragraff 8(3) o Atodlen 8 a pharagraff 3(4) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004.

Enwi a chychwyn1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Bwrdeistref Sirol Torfaen) 2019 a daw i rym ar 1 Gorffennaf 2019.

Dynodi ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio ac ardal gorfodi arbennig2

Mae Gweinidogion Cymru yn dynodi’r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn yn—

a

ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio; a

b

ardal gorfodi arbennig.

Ken SkatesGweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLEN

Erthygl 2

Yr ardal a ddynodir yn ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio ac yn ardal gorfodi arbennig

Ardal Bwrdeistref Sirol Torfaen (“y Fwrdeistref Sirol”) ac eithrio—

a

y darn o Gefnffordd yr A4042 o fewn y Fwrdeistref Sirol, o’r ffin â Dinas Casnewydd hyd at y ffin â Sir Fynwy.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dynodi’r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn yn ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio ac yn ardal gorfodi arbennig at ddibenion Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004. Mae’r Gorchymyn hwn yn galluogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i orfodi’r gyfraith ar dramgwyddau parcio o fewn yr ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn drwy gyfundrefn cyfraith sifil, yn hytrach na gorfodi’r gyfraith gan yr heddlu neu wardeiniaid traffig yng nghyd-destun y gyfraith droseddol.

Gellir cael Asesiad Effaith Rheoleiddiol llawn a Memorandwm Esboniadol oddi wrth y Gangen Orchmynion, Trafnidiaeth, Seilwaith Economaidd, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar http://senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=14828.