Gorchymyn a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan baragraff 5(15) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, i’w gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru cyn i’r Cynulliad gymeradwyo’r adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020.
2019 Rhif (Cy. )
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2019
Cymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ***
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2019.
2
Daw’r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y’i cymeradwyir drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ar yr amod y cymeradwyir y Gorchymyn cyn i’r Cynulliad gymeradwyo’r adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020.
3
Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Y lluosydd ardrethu annomestig2
At ddiben paragraff 3B o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020, pennir mai 289.0 yw B.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)