Gorchymyn Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 6, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) 2019

Arbedion yn ystod y cyfnod trosiannol

7.—(1Yn ystod y cyfnod trosiannol, bydd cofrestriad darparwr DSG o dan Ddeddf 2000 yn parhau ac, er gwaethaf unrhyw ddiwygiadau canlyniadol i Ddeddf 2000 a wneir gan Ran 1 o Atodlen 3 i’r Ddeddf a fyddai fel arall yn eithrio ei gais, bydd darpariaethau Rhan 2 yn parhau i fod yn gymwys i—

(a)darparwr DSG;

(b)Gweinidogion Cymru;

(c)y Tribiwnlys Haen Gyntaf;

(d)Llys Ynadon,

fel pe na bai’r diwygiadau canlyniadol hynny wedi cael eu gwneud.

(2Mae adran 16 o Ddeddf Dehongli 1978(1) (arbedion cyffredinol) yn gymwys mewn cysylltiad â datgymhwyso’r darpariaethau yn Neddf 2000 i sefydliadau neu asiantaethau perthnasol fel y byddai pe bai Rhan 2 o Ddeddf 2000 wedi ei diddymu.

(3Pan fo cofrestriad darparwr DSG yn ddarostyngedig i amodau yn union cyn y diwrnod penodedig, bydd yr amodau hynny yn gymwys i’r cofrestriad yn ystod y cyfnod trosiannol.

(4Darpariaethau Rhan 2 yw—

(a)adrannau 14, 14A, 15, 17(4) i (6), 18, 19(3) i (6), 20A, 20B, 21, 23(1), 23(4), 24, 24A, 25(2), 26, 28, 29, 30, 30A, 31, 32, 36 a 37 o Ddeddf 2000;

(b)unrhyw un neu ragor o’r rheoliadau a ganlyn sy’n gymwys i’r asiantaeth y mae cofrestriad y darparwr DSG wedi ei gynnal mewn cysylltiad â hi—

(i)Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu Gwirfoddol ac Asiantaethau Mabwysiadu (Diwygiadau Amrywiol) 2003(2);

(ii)Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005(3);

(iii)Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003(4);

(iv)Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 2004(5);

(v)Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Hysbysu) (Cymru) 2011(6);

(c)unrhyw un neu ragor o’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol a wneir yn unol ag adran 23(1) o Ddeddf 2000 sy’n gymwys i’r asiantaeth o dan sylw.

(2)

O.S. 2003/367 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2005/3341, O.S. 2007/603 ac O.S. 2013/235.

(5)

O.S. 2004/1756 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2005/3302, O.S. 2006/3251 (Cy. 295), O.S. 2006/878 (Cy. 83), O.S. 2010/2585 (Cy. 217), O.S. 2012/2404, O.S. 2014/107 ac 2016/481. Dylid darllen cyfeiriadau at gynlluniau lleoli oedolion, a chymhwysiad y darpariaethau yn Neddf 2000 i’r cynlluniau hynny, ar y cyd â’r addasiadau a gynhwysir yn Rheoliadau 2004.