Arbedion yn ystod y cyfnod trosiannol7
1
Yn ystod y cyfnod trosiannol, bydd cofrestriad darparwr DSG o dan Ddeddf 2000 yn parhau ac, er gwaethaf unrhyw ddiwygiadau canlyniadol i Ddeddf 2000 a wneir gan Ran 1 o Atodlen 3 i’r Ddeddf a fyddai fel arall yn eithrio ei gais, bydd darpariaethau Rhan 2 yn parhau i fod yn gymwys i—
a
darparwr DSG;
b
Gweinidogion Cymru;
c
y Tribiwnlys Haen Gyntaf;
d
Llys Ynadon,
fel pe na bai’r diwygiadau canlyniadol hynny wedi cael eu gwneud.
2
Mae adran 16 o Ddeddf Dehongli 19788 (arbedion cyffredinol) yn gymwys mewn cysylltiad â datgymhwyso’r darpariaethau yn Neddf 2000 i sefydliadau neu asiantaethau perthnasol fel y byddai pe bai Rhan 2 o Ddeddf 2000 wedi ei diddymu.
3
Pan fo cofrestriad darparwr DSG yn ddarostyngedig i amodau yn union cyn y diwrnod penodedig, bydd yr amodau hynny yn gymwys i’r cofrestriad yn ystod y cyfnod trosiannol.
4
Darpariaethau Rhan 2 yw—
a
adrannau 14, 14A, 15, 17(4) i (6), 18, 19(3) i (6), 20A, 20B, 21, 23(1), 23(4), 24, 24A, 25(2), 26, 28, 29, 30, 30A, 31, 32, 36 a 37 o Ddeddf 2000;
b
unrhyw un neu ragor o’r rheoliadau a ganlyn sy’n gymwys i’r asiantaeth y mae cofrestriad y darparwr DSG wedi ei gynnal mewn cysylltiad â hi—
i
Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu Gwirfoddol ac Asiantaethau Mabwysiadu (Diwygiadau Amrywiol) 20039;
ii
Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 200510;
iii
Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 200311;
iv
Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 200412;
v
Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Hysbysu) (Cymru) 201113;
c
unrhyw un neu ragor o’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol a wneir yn unol ag adran 23(1) o Ddeddf 2000 sy’n gymwys i’r asiantaeth o dan sylw.