- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
Amaethyddiaeth, Cymru
Dŵr, Cymru
Gwnaed
10 Ebrill 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
12 Ebrill 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â materion sy’n ymwneud â diogelu dyfroedd rhag llygredd a achosir gan nitradau o ffynonellau amaethyddol ac yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan yr adran honno.
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) (Diwygio) 2019 a deuant i rym 21 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y’u gosodir.
2. Mae Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013(3) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 8.
3. Yn rheoliad 4—
(a)ailrifer y paragraff presennol yn baragraff (1) o’r rheoliad hwnnw;
(b)ar ôl paragraff (1) (fel y’i hailrifwyd) mewnosoder—
“(2) Mewn perthynas â daliad newydd—
(a)nid yw rheoliadau 12 i 22, 23(3), 24, 25, 30 i 33 a 36 i 46 yn gymwys hyd ddechrau’r ail flwyddyn galendr ar ôl y flwyddyn y mae Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dynodiad o barthau perygl nitradau o dan reoliad 11(3), neu’n ychwanegu ato, er mwyn cynnwys y daliad newydd;
(b)nid yw rheoliadau 23(1) a (2), 26 i 29, 34 a 35 yn gymwys hyd nes 31 Gorffennaf yn y drydedd flwyddyn galendr ar ôl y flwyddyn y mae Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dynodiad o barthau perygl nitradau o dan reoliad 11(3), neu’n ychwanegu ato, er mwyn cynnwys y daliad newydd.”
4. Yn rheoliad 6, yn y lle priodol, mewnosoder—
“ystyr “daliad newydd” (“new holding”) yw tir ynghyd â’i adeiladau cysylltiedig sy’n dod yn ddaliad o ganlyniad i Weinidogion Cymru yn diwygio’r dynodiad o barthau perygl nitradau yn dilyn adolygiad o dan reoliad 11(3), neu’n ychwanegu ato, ac nad oeddent yn ddaliad yn union cyn dyddiad y diwygio neu’r ychwanegu hwnnw;”.
5. Yn rheoliad 7—
(a)yn lle paragraffau (2) a (3) rhodder—
“(2) Mae ardal wedi ei dynodi yn barth perygl nitradau at ddibenion y Rheoliadau hyn os ydyw, fel ardal o dir sy’n draenio i ddyfroedd llygredig ac yn cyfrannu at lygru’r dyfroedd hynny, wedi ei marcio yn barth o’r fath ar fap perthnasol.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a)ar gyfer y cyfnod sy’n dechrau â 25 Hydref 2013 ac sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dynodiad o barthau perygl nitradau o dan reoliad 11(3) neu’n ychwanegu ato nesaf, ystyr “map” yw’r map sydd wedi ei farcio “Parthau Perygl Nitradau Map Mynegai 2013” ac a adneuwyd yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ;
(b)yn dilyn unrhyw adolygiad dilynol o dan reoliad 11(3), ystyr “map” yw map a adneuwyd yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac—
(i)sydd wedi ei farcio “Mae’r map hwn yn nodi’r ardaloedd hynny o Gymru sydd wedi eu dynodi gan Weinidogion Cymru yn Barth Perygl Nitradau at ddibenion Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013”; a
(ii)sy’n pennu’r cyfnod y mae’n ymwneud ag ef.”;
(b)ym mharagraff (4), yn lle “phob pedair blynedd fan hwyraf wedi hynny” rhodder “chyn 1 Ionawr bob pedwaredd flwyddyn wedi hynny”.
6. Yn rheoliad 11(2), yn lle “ac o leiaf bob pedair blynedd ar ôl hynny” rhodder “a chyn 1 Ionawr bob pedwaredd flwyddyn wedi hynny”.
7. Yn rheoliad 36, ar ôl paragraff (2), mewnosoder—
“(3) Rhaid i feddiannydd daliad newydd gofnodi maint cyfan y daliad wedi’i gyfrifo’n unol â rheoliad 12(3).”
8. Yn rheoliad 37, ar ôl paragraff (3), mewnosoder—
“(4) Rhaid i feddiannydd daliad newydd gyfrifo a chofnodi’r materion a restrir ym mharagraff (1)(a) i (c).”
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
10 Ebrill 2019
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013 (O.S. 2013/2506 (Cy. 245)) (“Rheoliadau 2013”) sy’n ymwneud â monitro llygredd nitradau a dynodi parthau perygl nitradau.
Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 7 o Reoliadau 2013 i ddiweddaru’r broses y caiff Gweinidogion Cymru ei defnyddio i ddynodi ardaloedd yn barthau perygl nitradau. Mae’r broses ddynodi gyfredol yn dibynnu ar adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a gaiff ei diddymu unwaith y mae’r Deyrnas Unedig yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 6 o Reoliadau 2013 i gyflwyno diffiniad ar gyfer “daliad newydd” yn sgil y broses ddynodi newydd.
Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 4 o Reoliadau 2013 er mwyn darparu trefniadau trosiannol ar gyfer daliadau newydd.
Mae rheoliadau 6 i 8 yn gwneud darpariaeth ganlyniadol bellach gan gynnwys cyflwyno gofynion adrodd mewn perthynas â daliadau newydd.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, nid oes unrhyw asesiad effaith wedi ei lunio ar gyfer y Rheoliadau hyn gan nad oes unrhyw newid i bolisïau, nac unrhyw effaith ar fusnesau na’r sector gwirfoddol yn cael ei rhagweld.
Gweler O.S. 2001/2555 ar gyfer y dynodiad a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn rhinwedd adrannau 59 a 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 28 o Atodlen 11 iddi, mae’r dynodiad hwnnw bellach wedi ei roi i Weinidogion Cymru.
1972 p. 68; diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a Rhan 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7).
O.S. 2013/2506 (Cy. 245), a ddiwygiwyd gan O.S. 2015/2020 (Cy. 308) ac O.S. 2018/1216 (Cy. 249). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: