2019 Rhif 829 (Cy. 152)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 4) 2019

Gwnaed

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 126(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 20171, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 4) 2019.

2

Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 April 20192

Y diwrnod penodedig i Ran 7 (gwasanaethau fferyllol) o’r Ddeddf ddod i rym yw 1 April 2019.

Vaughan GethingY Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn, sydd wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru, yn dwyn i rym ddarpariaethau penodedig o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 yn dwyn i rym ddarpariaethau o’r Ddeddf sy’n ymwneud â gwasanaethau fferyllol ar 1 Ebrill 2019.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y Ddarpariaeth

Y Dyddiad Cychwyn

Rhif O.S.

Adran 2

4 Hydref 2017

2017/949 (Cy. 237)

Adran 3

4 Hydref 2017

2017/949 (Cy. 237)

Adran 94

1 Chwefror 2018

2018/1 (Cy. 1)

Rhan 5

1 Chwefror 2018

2018/1 (Cy. 1)

Rhan 8

31 Mai 2018

2018/605 (Cy. 116)

Adran 119

4 Hydref 2017

2017/949 (Cy. 237)

Atodlen 4

31 Mai 2018

2018/605 (Cy. 116)

Gweler hefyd adran 126(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 3 Gorffennaf 2017 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol).