Search Legislation

Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 1Cyffredinol

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 29 Ebrill 2019.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “addasiadau rhesymol” (“reasonable adjustments”) yw unrhyw addasiadau rhesymol a fyddai’n ofynnol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010(1);

ystyr “ardal benodedig” (“specified area”) yw ardal a bennir mewn amod i gofrestriad y darparwr gwasanaeth fel man y mae’r gwasanaeth i’w ddarparu mewn perthynas ag ef;

mae i “asiantaeth cymorth mabwysiadu” yr ystyr a roddir i “adoption support agency” yn adran 8 o Ddeddf 2002;

ystyr “asiantaeth fabwysiadu” (“adoption agency”) yw cymdeithas fabwysiadu neu wasanaeth mabwysiadu awdurdod lleol;

ystyr “awdurdod lleol yn Lloegr” (“local authority in England”) yw—

(a)

cyngor sir yn Lloegr,

(b)

cyngor dosbarth ar gyfer ardal yn Lloegr nad oes cyngor sir ar ei chyfer,

(c)

cyngor bwrdeistref yn Llundain, neu

(d)

Cyngor Cyffredin Dinas Llundain;

ystyr “Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol” (“the National Health Service Commissioning Board”) yw’r corff a sefydlwyd o dan adran 1H o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;

mae i “cyflogai” yr un ystyr ag “employee” yn adran 230(1) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996(2);

mae i “cymdeithas fabwysiadu” yr ystyr a roddir i “adoption society” yn adran 2(5) o Ddeddf 2002, sef sefydliad gwirfoddol o fewn ystyr “voluntary organisation” yn y Ddeddf honno;

ystyr “cynllun cymorth mabwysiadu” (“adoption support plan”) yw’r cynllun sy’n nodi’r gwasanaethau cymorth mabwysiadu y mae’r awdurdod lleol wedi penderfynu eu darparu ar gyfer y plentyn a’r teulu mabwysiadol, sut y darperir hwy a chan bwy (os yw’n gymwys);

ystyr “cynllun gofal a chymorth” (“care and support plan”) yw cynllun ar gyfer y plentyn a wneir o dan adran 54 neu adran 83 o Ddeddf 2014(3);

mae i “cynllun lleoliad” (“placement plan”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 36(2) o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005(4);

ystyr “cynrychiolydd” (“representative”) yw unrhyw berson a chanddo awdurdod cyfreithiol, neu sydd wedi cael cydsyniad yr unigolyn, i weithredu ar ran yr unigolyn;

ystyr “darparwr gwasanaeth” (“service provider”) yw darparwr gwasanaeth mabwysiadu sydd wedi ei gofrestru o dan adran 7 o’r Ddeddf;

ystyr “y datganiad o ddiben” (“the statement of purpose”) yw’r ddogfen sy’n cynnwys yr wybodaeth y mae rhaid ei darparu yn unol â rheoliad 3(c) o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017(5) ac Atodlen 2 iddynt ar gyfer y man y mae’r gwasanaeth i’w ddarparu mewn perthynas ag ef(6);

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002(7);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;

ystyr “grŵp comisiynu clinigol” (“clinical commissioning group”) yw corff a sefydlwyd o dan adran 14D o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(8);

mae i “gwarcheidwad” yr ystyr a roddir i “guardian” yn adran 5 o Ddeddf Plant 1989(9);

ystyr “y gwasanaeth” (“the service”), oni nodir fel arall, yw gwasanaeth mabwysiadu(10) a ddarperir mewn perthynas ag ardal benodedig;

ystyr “y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd” (“the Disclosure and Barring Service”) a’r “GDG” (“DBS”) yw’r corff a sefydlir gan adran 87(1) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012(11);

mae i “gwasanaeth mabwysiadu awdurdod lleol” (“local authority adoption service”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2019(12);

ystyr “gwasanaeth mabwysiadu rheoleiddiedig” (“regulated adoption service”) yw gwasanaeth mabwysiadu sydd wedi ei reoleiddio o dan y Ddeddf;

mae i “gwasanaethau cymorth mabwysiadu” yr ystyr a roddir i “adoption support services” yn adran 2(6) o Ddeddf 2002 a’r ystyr a roddir yn rheoliad 3 o Reoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2019(13);

mae i “gweithiwr” yr un ystyr â “worker” yn adran 230(3) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996;

ystyr “a gymeradwywyd gan y gwasanaeth” (“approved by the service”) yw wedi ei gymeradwyo gan y gwasanaeth yn addas i fod yn rhiant mabwysiadol yn unol â Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005;

mae i “person perthynol” (“related person”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2 o Reoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2019;

ystyr “plentyn” (“child”) yw person sydd o dan 18 oed;

mae i “plentyn mabwysiadol” (“adoptive child”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2 o Reoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2019;

ystyr “y rheoleiddiwr gwasanaethau” (“the service regulator”) yw Gweinidogion Cymru wrth arfer eu swyddogaethau rheoleiddiol(14);

mae i “rhiant mabwysiadol” (“adoptive parent”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2 o Reoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2019;

mae “staff” (“staff”) yn cynnwys—

(a)

personau a gyflogir gan y darparwr gwasanaeth i weithio yn y gwasanaeth fel cyflogai neu weithiwr, a

(b)

personau sydd wedi eu cymryd ymlaen gan y darparwr gwasanaeth o dan gontract ar gyfer gwasanaethau,

ond nid yw’n cynnwys personau y caniateir iddynt weithio fel gwirfoddolwyr;

ystyr “tystysgrif GDG” (“DBS certificate”) yw tystysgrif o fath y cyfeirir ato ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 1;

ystyr “unigolyn” (“individual”), oni bai bod y cyd-destun yn nodi fel arall, yw—

(a)

yn achos cymdeithas fabwysiadu yng nghwrs trefnu mabwysiad neu ar ôl i fabwysiad gael ei drefnu—

(i)

plentyn a all gael ei fabwysiadu, ei riant neu ei warcheidwad,

(ii)

person sy’n dymuno mabwysiadu plentyn, neu

(iii)

person mabwysiedig, ei riant, ei riant geni neu ei gyn-warcheidwad,

sy’n cael cymorth o’r math y mae’n ofynnol i gymdeithas fabwysiadu ei ddarparu yn unol â Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 neu Reoliadau Mynediad i Wybodaeth (Mabwysiadu Ôl-gychwyn) (Cymru) 2005(15);

(b)

yn achos asiantaeth cymorth mabwysiadu, neu gymdeithas fabwysiadu yng nghwrs darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu, unrhyw berson sy’n cael gwasanaethau cymorth mabwysiadu.

(2Yn y Rheoliadau hyn, pan fo’n cael ei ddefnyddio mewn perthynas â’r cymorth a ddarperir i “unigolyn” fel y’i diffinnir yn y rheoliad hwn, mae “cymorth” yn cynnwys—

(a)y cymorth y mae’n ofynnol i gymdeithas fabwysiadu ei ddarparu i unigolion yng nghwrs trefnu mabwysiad, neu ar ôl i fabwysiad gael ei drefnu, yn unol â Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 neu Reoliadau Mynediad i Wybodaeth (Mabwysiadu Ôl-gychwyn) (Cymru) 2005, neu

(b)y gwasanaethau cymorth mabwysiadu a all gael eu darparu gan gymdeithas fabwysiadu neu asiantaeth cymorth mabwysiadu.

(1)

2010 p. 15, adran 20.

(3)

Diffinnir “Deddf 2014” yn adran 189 o’r Ddeddf fel Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4).

(6)

Mae rheoliad 3(c) o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017 yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n dymuno darparu gwasanaeth mabwysiadu ddarparu datganiad o ddiben ar gyfer pob man y mae’r gwasanaeth i’w ddarparu ohono.

(10)

Mae i “gwasanaeth mabwysiadu” yr ystyr a roddir ym mharagraff 4 o Atodlen 1 i’r Ddeddf.

(11)

2012 p. 9 .

(14)

Diffinnir “swyddogaethau rheoleiddiol” yn adran 3(1)(b) o’r Ddeddf.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources