xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2Arbedion a darpariaeth drosiannol

Ceisiadau sydd yn yr arfaeth

16.—(1Pan geir cais perthnasol cyn y diwrnod ymadael, mae Deddf 2016 yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â’r cais (gan gynnwys mewn perthynas ag unrhyw apêl sy’n codi ohono) ar ac ar ôl y diwrnod ymadael fel pe na bai’r diwygiadau a wnaed gan Ran 1 wedi eu gwneud.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “cais perthnasol” yw cais—

(a)i dderbyn i ran gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad neu’r rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad o’r gofrestr a gedwir o dan adran 80 o Ddeddf 2016,

(b)i adnewyddu cofrestriad yn y rhannau hynny o’r gofrestr o dan adran 86(2) o Ddeddf 2016,

(c)i aildderbyn i’r rhannau hynny o’r gofrestr o dan adran 80 o Ddeddf 2016 ar ôl i gofrestriad ddarfod, neu

(d)i adfer i’r rhannau hynny o’r gofrestr o dan adran 96(2) neu 97(2) o Ddeddf 2016.

Gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad a rheolwyr gofal cymdeithasol sydd ar ymweliad: arbed yr hen gyfraith

17.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan—

(a)yn union cyn y diwrnod ymadael—

(i)roedd gan berson fudd rheoliad 12 o Reoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015(1) mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau fel gweithiwr cymdeithasol neu reolwr gofal cymdeithasol gan y person hwnnw, a

(ii)roedd adran 90(3) neu 90A(3) o Ddeddf 2016 yn gymwys i’r person, a

(b)bo’r person yn parhau i gael y budd hwnnw ar neu ar ôl y diwrnod ymadael.

(2Er gwaethaf y diwygiadau a wnaed gan Ran 1, mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2016 yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â darparu’r gwasanaethau hynny gan y person hwnnw ar ac ar ôl y diwrnod ymadael, fel yr oeddent yn gymwys cyn y diwrnod hwnnw, yn ddarostyngedig i’r addasiadau a bennir yn rheoliad 18 (dehongli darpariaethau sydd wedi eu harbed)—

(a)yn adran 66(1) (dehongli Rhannau 3 i 8), y diffiniadau o “gwladolyn”, “Gwladwriaeth Ewropeaidd berthnasol”, “person esempt”, “rhan gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad”, “rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad” ac “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol”;

(b)adran 74(3) (rheolau: ffioedd);

(c)yn adran 80, is-adrannau (1)(c) a (d), (2)(c) a (d) a (3)(c) a (d) (y gofrestr);

(d)adran 90 (gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol);

(e)adran 90A (rheolwyr gofal cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol);

(f)adran 113(3) i (5) (datblygiad proffesiynol parhaus).

(3Mae paragraff (2) yn cael effaith tan—

(a)yn achos person sydd wedi ei gofrestru yn unol ag adran 90(3) neu 90A(3) o Ddeddf 2016, y diwrnod y caiff enw’r person ei ddileu o’r gofrestr o dan adran 90(6) neu 90A(6) o’r Ddeddf honno yn ôl y digwydd;

(b)yn achos person sy’n cael ei drin fel pe bai wedi ei gofrestru o dan adran 90(4) neu 90A(4) o’r Ddeddf honno, y diwrnod y mae hawlogaeth y person i gael ei gofrestru o dan adran 90(3) neu 90A(3) o Ddeddf 2016 yn peidio yn rhinwedd adran 90(5) neu 90A(5) o’r Ddeddf honno yn ôl y digwydd.

Dehongli darpariaethau sydd wedi eu harbed gan reoliad 17(2)

18.  I’r graddau y mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2016 yn parhau i fod yn gymwys yn rhinwedd rheoliad 17(2), maent yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn—

(a)yn adran 90 (gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol)—

(i)mae is-adran (1) i’w darllen fel pe bai “ac eithrio’r Deyrnas Unedig” wedi ei hepgor;

(ii)mae is-adran (8) i’w darllen fel pe bai’r diffiniadau a ganlyn wedi eu rhoi yn lle’r diffiniadau o “person esempt” a “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol”—

ystyr “person esempt” (“exempt person”) yw—

(a)

person a oedd, yn union cyn y diwrnod ymadael, yn wladolyn o Wladwriaeth Ewropeaidd berthnasol,

(b)

person a oedd, yn union cyn y diwrnod ymadael, yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig ac, ar yr adeg honno, yn ceisio cael mynediad at waith cymdeithasol, neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol, neu’n dilyn y gwaith hwnnw, yn rhinwedd hawl UE orfodadwy, neu

(c)

person nad oedd, yn union cyn y diwrnod ymadael, yn wladolyn o Wladwriaeth Ewropeaidd berthnasol, ond a oedd, ar yr adeg honno, yn rhinwedd hawl UE orfodadwy, â hawlogaeth i beidio â chael ei drin, at ddibenion cael mynediad at waith cymdeithasol neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol a dilyn y gwaith hwnnw, yn llai ffafriol na gwladolyn o Wladwriaeth Ewropeaidd berthnasol,

ac at ddibenion y diffiniad hwn, ystyr “hawl UE orfodadwy” (“enforceable EU right”) yw hawl a gydnabyddir ac sydd ar gael mewn cyfraith ddomestig, yn union cyn y diwrnod ymadael, yn rhinwedd adran 2(1) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68);;;

ystyr “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol” (“the General Systems Regulations”) yw Rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015 (O.S. 2015/2059)—

(a)

mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir cyn y diwrnod ymadael, fel yr oeddent yn cael effaith ar yr adeg honno;

(b)

fel arall, fel y maent yn cael effaith (a dim ond i’r graddau y maent yn cael effaith), ar neu ar ôl y diwrnod ymadael, mewn perthynas â hawlogaeth a gododd cyn y diwrnod ymadael neu sy’n codi o ganlyniad i rywbeth a wneir cyn y diwrnod ymadael.;

(b)yn adran 90A (rheolwyr gofal cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol), mae is-adran (1) i’w darllen fel pe bai “ac eithrio’r Deyrnas Unedig” wedi ei hepgor.

Rhybuddion System Wybodaeth y Farchnad Fewnol (IMI)

19.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan—

(a)bo person, cyn y diwrnod ymadael, yn cael hysbysiad o benderfyniad a wneir o dan reoliad 67 o Reoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015 i anfon rhybudd ynglŷn â’r person, a

(b)naill ai—

(i)bo’r terfyn amser ar gyfer apelio yn erbyn y penderfyniad o dan adran 105(1)(c) o Ddeddf 2016 yn dod i ben ar neu ar ôl y diwrnod ymadael, neu

(ii)bo apêl yn erbyn y penderfyniad o dan yr adran honno yn cael ei gwneud, ond ni phenderfynir yn derfynol arni, cyn y diwrnod ymadael.

(2Er gwaethaf y diwygiadau a wnaed gan Ran 1, mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2016 yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â’r penderfyniad ar ac ar ôl y diwrnod ymadael fel yr oeddent yn gymwys cyn y diwrnod ymadael—

(a)yn adran 66(1), y diffiniad o “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol”;

(b)yn adran 90(8), y diffiniad o “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol”;

(c)adran 105(1) (ond nid paragraffau (a) a (b) o’r is-adran honno ac yn ddarostyngedig i’r addasiad a bennir ym mharagraff (3) o’r rheoliad hwn).

(3At ddibenion paragraff (2)(c), mae adran 105(1)(c) o Ddeddf 2016 i’w darllen fel pe bai “Rheoliadau Systemau Cyffredinol (fel yr oeddent yn cael effaith ar yr adeg y gwnaed penderfyniad GCC(2))” wedi ei roi yn lle “Rheoliadau hynny”.

(4Wrth waredu apêl yn erbyn y penderfyniad ar neu ar ôl y diwrnod ymadael, mae gan y tribiwnlys (yn lle’r pwerau a bennir yn adran 105(5) o Ddeddf 2016) y pŵer—

(a)i gadarnhau’r penderfyniad, neu

(b)os yw’r tribiwnlys yn ystyried y dylai’r rhybudd gael ei dynnu’n ôl neu ei ddiwygio, i gyfarwyddo Gofal Cymdeithasol Cymru i gymryd unrhyw gamau y mae’r tribiwnlys yn meddwl eu bod yn addas i hysbysu’r Comisiwn Ewropeaidd am benderfyniad y tribiwnlys.

(2)

Gweler adran 67(3) o Ddeddf 2016 am y diffiniad o Ofal Cymdeithasol Cymru (“GCC”).