Search Legislation

Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth ac Asesiadau Poblogaeth (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enwʼr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth ac Asesiadau Poblogaeth (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019.

(2Dawʼr Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2019.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Rheoliadau Asesiadau Poblogaeth” (“the Population Assessment Regulations”) yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Trefniadau Partneriaeth ar gyfer Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015(1);

ystyr “y Rheoliadau Partneriaeth” (“the Partnership Regulations”) yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015(2).

Diwygiadau i’r Rheoliadau Partneriaeth

2.  Mae’r Rheoliadau Partneriaeth wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 10.

Dehongli

3.  Yn rheoliad 1 (enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli), ym mharagraff (4) mewnosoder y diffiniadau a ganlyn yn y lle priodol—

ystyr “ardaloedd bwrdd partneriaeth rhanbarthol” (“regional partnership board areas”) yw pob un o’r priod ardaloedd y mae’n ofynnol i gyrff partneriaeth ymrwymo i drefniadau partneriaeth ynddynt o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol;

ystyr “pobl hŷn” (“older people”) yw personau sy’n 65 oed neu drosodd;.

Byrddau partneriaeth rhanbarthol

4.  Yn rheoliad 5 (trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Baeʼr Gorllewin)—

(a)yn y pennawd, yn lle “bwrdd partneriaeth rhanbarthol Bae’r Gorllewin” rhodder “bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gorllewin Morgannwg”;

(b)ym mharagraff (1)—

(i)yn lle “Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg” rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Bae Abertawe”, a

(ii)hepgorer “Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr”;

(c)ym mharagraff (2), yn lle “bwrdd partneriaeth rhanbarthol Bae’r Gorllewin” rhodder “bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gorllewin Morgannwg”;

(d)ym mharagraff (3), yn lle “bwrdd partneriaeth rhanbarthol Bae’r Gorllewin” rhodder “bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gorllewin Morgannwg”.

5.  Yn rheoliad 6 (trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Cwm Taf)—

(a)yn y pennawd, yn lle “bwrdd partneriaeth rhanbarthol Cwm Taf” rhodder “bwrdd partneriaeth rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg”;

(b)ym mharagraff (1)—

(i)yn lle “Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf” rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf Morgannwg”, a

(ii)ar ôl “Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf” mewnosoder “Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr”,

(c)ym mharagraff (2), yn lle “bwrdd partneriaeth rhanbarthol Cwm Taf” rhodder “bwrdd partneriaeth rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg”;

(d)ym mharagraff (3), yn lle “bwrdd partneriaeth rhanbarthol Cwm Taf” rhodder “bwrdd partneriaeth rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg”.

Aelodaeth o fyrddau partneriaeth rhanbarthol

6.—(1Mae rheoliad 11 (aelodaeth o fyrddau partneriaeth rhanbarthol) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)ym mharagraff (1)(d), o flaen “cynrychiolydd” mewnosoder “o leiaf un”;

(b)ym mharagraff (1)(e), yn lle “dau” rhodder “o leiaf ddau”;

(c)ym mharagraff (1)(g), o flaen “un person” mewnosoder “o leiaf”;

(d)ym mharagraff (1)(h), o flaen “un person” mewnosoder “o leiaf”;

(e)ym mharagraff (1)(h), yn lle “.” rhodder—

;

(i)o leiaf un uwch-swyddog awdurdod lleol syʼn gyfrifol am dai gan gynnwys y cyfrifoldeb am fuddsoddiad cyfalaf mewn tai, neu gysylltiadau â’r buddsoddiad cyfalaf hwnnw, yn yr ardal a gwmpesir gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol;

(j)o leiaf un person syʼn cynrychioli landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn yr ardal a gwmpesir gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol;

(k)o leiaf un uwch-swyddog awdurdod lleol sy’n gyfrifol am addysg yn yr ardal a gwmpesir gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol.

(2Ym mharagraff (4) mewnosoder y diffiniad a ganlyn yn y lle priodol—

ystyr “landlord cymdeithasol cofrestredig” (“registered social landlord”) yw corff Cymreig sydd wedi ei gofrestru â Gweinidogion Cymru o dan Ran 1 o Ddeddf Tai 1996(3);.

Adroddiadau

7.  Yn rheoliad 12 (adroddiadau), ym mharagraff (3)—

(a)yn lle “wedi hynny” rhodder “o fis Ebrill 2019”;

(b)ar ôl “yn flynyddol” mewnosoder “erbyn 30 Mehefin fan bellaf”.

Rhannu gwybodaeth

8.  Yn rheoliad 13 (rhannu gwybodaeth), ym mharagraff (1), yn lle “gan y” rhodder “yn unol âʼr”.

Sefydlu timau integredig cymorth i deuluoedd

9.  Yn rheoliad 16 (sefydlu timau integredig cymorth i deuluoedd), ym mharagraff (1), yn lle “trefniadau partneriaeth” rhodder “ardaloedd bwrdd partneriaeth rhanbarthol”.

Cronfeydd cyfun rhanbarthol

10.  Yn lle rheoliad 19 (sefydlu a chynnal cronfeydd cyfun) rhodder—

Sefydlu a chynnal cronfeydd cyfun

19.(1) Rhaid i gyrff partneriaeth ar gyfer pob un o’r ardaloedd bwrdd partneriaeth rhanbarthol sefydlu a chynnal—

(a)cronfa gyfun ranbarthol mewn perthynas ag arfer eu swyddogaethau llety cartref gofal i bobl hŷn, a

(b)cronfa gyfun mewn perthynas ag arfer eu swyddogaethau cymorth i deuluoedd.

(2) Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, sy’n dechrau â’r flwyddyn ariannol sy’n cychwyn ar 1 Ebrill 2019, rhaid i bob corff partneriaeth wneud cyfraniad at y gronfa gyfun ranbarthol mewn perthynas ag arfer eu swyddogaethau llety cartref gofal i bobl hŷn sy’n gymesur â’i wariant blynyddol disgwyliedig ar leoedd mewn cartrefi gofal i bobl hŷn.

(3) Nid oes dim byd yn y rheoliad hwn sy’n atal cyrff partneriaeth rhag sefydlu a chynnal cronfeydd cyfun neu gronfeydd cyfun rhanbarthol ar gyfer cyflawni unrhyw swyddogaethau eraill a bennir yn Atodlen 1.

(4) Os yw unrhyw rai o’r cyrff partneriaeth yn penderfynu arfer eu swyddogaethau ar y cyd mewn ymateb i’r asesiad a gynhelir o dan adran 14 o’r Ddeddf, rhaid iddynt ystyried a yw’n briodol sefydlu a chynnal cronfa gyfun(4).

(5) At ddibenion y rheoliad hwn—

ystyr “cartref gofal” (“care home”) yw mangre y darperir gwasanaeth cartref gofal(5) ynddi, o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(6), yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sy’n 18 oed neu drosodd;

ystyr “cronfa gyfun ranbarthol” (“regional pooled fund”) yw un gronfa gyfun y mae pob un o’r cyrff partneriaeth ar gyfer ardal bwrdd partneriaeth rhanbarthol yn gwneud cyfraniadau ati;

ystyr “swyddogaethau llety cartref gofal i bobl hŷn” (“care home accommodation functions for older people”) yw—

(a)

swyddogaethau awdurdod lleol o dan adrannau 35 ac 36 o’r Ddeddf, pan fo’r rhain yn cael eu harfer mewn perthynas â phobl hŷn i ddarparu llety mewn cartrefi gofal;

(b)

swyddogaethau Bwrdd Iechyd Lleol o dan adran 3 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(7) pan fônt yn cael eu harfer mewn perthynas â phobl hŷn—

(i)

y mae arnynt angen sylfaenol am ofal iechyd syʼn cael ei ddiwallu drwy drefnu darparu llety ynghyd â nyrsio mewn cartrefi gofal, neu

(ii)

nad oes arnynt angen sylfaenol am ofal iechyd ond y mae arnynt anghenion na ellir eu diwallu ond drwyʼr awdurdod lleol yn trefnu darparu llety ynghyd â nyrsio mewn cartref gofal.

Diwygiadau iʼr Rheoliadau Asesiadau Poblogaeth

11.  Maeʼr Rheoliadau Asesiadau Poblogaeth wedi eu diwygio yn unol âʼr rheoliad a ganlyn.

Yr Atodlen ar gyfer trefniadau partneriaeth penodedig

12.  Yn yr Atodlen (trefniadau partneriaeth penodedig), maeʼr tabl ar gyfer trefniadau partneriaeth wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)yn y golofn gyntaf (bwrdd iechyd lleol), yn lle “Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg” rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Bae Abertawe”;

(b)yn yr ail golofn gyfatebol (awdurdod lleol), ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg hepgorer “Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr”;

(c)yn y golofn gyntaf (bwrdd iechyd lleol), yn lle “Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf” rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf Morgannwg”;

(d)yn yr ail golofn gyfatebol (awdurdod lleol), ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf mewnosoder “Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr”.

Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

29 Mawrth 2019

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources