RHAN 1Rhagarweiniol

Enwi, cymhwyso a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) (Cymru) 2019.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

3

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Mawrth 2019.

Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae “anifail” (“animal”) yn cynnwys anifeiliaid dyframaethu;

  • mae “archwiliad” ac “archwilio” (“examination”) yn cynnwys archwiliad ffisegol ar anifail neu gynnyrch anifeiliaid neu eitem neu sylwedd arall a chymryd sampl swyddogol a’i dadansoddi;

  • ystyr “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) yw Gweinidogion Cymru ac—

    1. a

      pan fo’r gorfodi’n ymwneud â bwyd neu ffynonellau bwyd, awdurdod bwyd o fewn ei ardal; a

    2. b

      pan fo’r gorfodi’n ymwneud â rhywbeth heblaw bwyd neu ffynonellau bwyd, awdurdod lleol o fewn ei ardal;

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) mewn perthynas ag ardal yw’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno;

  • mae i “awdurdodiad marchnata” yr un ystyr ag sydd i "marketing authorisation" yn Erthygl 5 o Gyfarwyddeb 2001/82/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar God y Gymuned sy’n ymwneud â chynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol7;

  • ystyr “carcas” (“carcase”) yw—

    1. a

      corff cyfan anifail a gigyddwyd (heblaw aderyn heb ei ddiberfeddu) ar ôl ei waedu a’i drin; neu

    2. b

      corff cyfan aderyn a gigyddwyd ac sydd heb ei ddiberfeddu ar ôl ei waedu;

  • ystyr “Cyfarwyddeb y Cyngor 96/22” (“Council Directive 96/22”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 96/22/EC ynghylch gwahardd defnyddio sylweddau penodol ac iddynt effaith hormonaidd neu thyrostatig a beta-agonistiaid wrth ffermio da byw, ac yn diddymu Cyfarwyddebau 81/602/EEC, 88/146/EEC ac 88/299/EEC8;

  • ystyr “Cyfarwyddeb y Cyngor 96/23” (“Council Directive 96/23”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 96/23/EC ar fesurau i fonitro sylweddau penodol a’u gweddillion mewn anifeiliaid byw ac mewn cynhyrchion anifeiliaid, ac yn diddymu Cyfarwyddebau 85/358/EEC ac 86/469/EEC, a Phenderfyniadau 89/187/EEC a 91/664/EEC9;

  • ystyr “cyfnod cadw’n ôl” (“withdrawal period”), mewn perthynas â chynnyrch meddyginiaethol milfeddygol a roddwyd i anifail neu lwyth o anifeiliaid, yw’r cyfnod, a bennir mewn trwydded cynnyrch meddyginiaethol milfeddygol neu awdurdodiad marchnad cyfredol sy’n ymwneud â’r cynnyrch neu (yn niffyg manyleb o’r fath) a bennir mewn presgripsiwn a roddwyd gan filfeddyg mewn cysylltiad â rhoi’r cynnyrch, y mae’n rhaid iddo fynd heibio rhwng rhoi’r gorau i roi’r cynnyrch i’r anifail neu’r llwyth o anifeiliaid a chigydda’r anifail neu’r llwyth o anifeiliaid i’w bwyta gan bobl neu gymryd cynhyrchion anifeiliaid sy’n deillio o’r anifail neu’r llwyth o anifeiliaid i’w bwyta gan bobl;

  • mae “cynnyrch anifeiliaid” (“animal product”) yn cynnwys cig, cynhyrchion cig, cynhyrchion wedi eu prosesu sy’n deillio o anifeiliaid, llaeth, mêl ac wyau;

  • mae “dadansoddi” (“analysis”) yn cynnwys unrhyw dechneg ar gyfer darganfod cyfansoddiad sampl swyddogol;

  • ystyr “dadansoddiad cyfeirio” (“referenceanalysis”) yw dadansoddiad a gyflawnir gan labordy a gymeradwywyd i wirio canfyddiad dadansoddiad sylfaenol;

  • ystyr “dadansoddiad sylfaenol” (“primaryanalysis”) yw dadansoddiad ar sampl swyddogol a gyflawnir gan labordy a gymeradwywyd;

  • ystyr “dadansoddydd” (“analyst”) yw’r person sy’n rheoli, neu sydd â rheolaeth, labordy a gymeradwywyd;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

  • ystyr “fferm wreiddiol” (“farm of origin”), o ran sampl swyddogol a gymerwyd o unrhyw anifail neu gynnyrch anifeiliaid yw—

    1. a

      pan gymerwyd y sampl swyddogol ar fferm, y fferm honno;

    2. b

      pan gymerwyd y sampl swyddogol unrhyw le arall, y fferm ddiwethaf lle cedwid yr anifail y cymerwyd y sampl ohono neu y deilliodd y sampl ohono cyn mynd ag ef i’r lle hwnnw;

  • ystyr “gweithrediad masnachol” (“commercial operation”), o ran anifail neu lwyth o anifeiliaid, yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

    1. a

      ei werthu, meddu arno i’w werthu a’i gynnig, ei ddangos neu ei hysbysebu i’w werthu;

    2. b

      ei anfon neu ei draddodi ar ffurf ei werthu;

    3. c

      ei storio neu ei gludo er mwyn ei werthu;

    4. d

      ei gigydda neu gaffael bwyd ohono er mwyn ei werthu neu at ddibenion yn gysylltiedig â’i werthu; ac

    5. e

      ei fewnforio a’i allforio;

  • mae “gwerthu” (“sell”, “sale”, “sold”) yn cynnwys meddu er mwyn gwerthu, a chynnig, dangos neu hysbysebu i werthu;

  • ystyr “labordy a gymeradwywyd” (“approved laboratory”) yw—

    1. a

      labordy a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol at ddibenion Cyfarwyddeb y Cyngor 96/23; neu

    2. b

      unrhyw labordy sydd o dan gyfarwyddyd neu reolaeth dadansoddydd cyhoeddus a benodir yn unol ag adran 2710 o’r Ddeddf;

  • nid yw “meddu” (“possession”) mewn perthynas ag unrhyw anifail fferm neu anifail dyframaethu yn cynnwys meddu arno o dan reolaeth swyddogol;

  • ystyr “milfeddyg” (“veterinary surgeon”) yw person a gofrestrwyd yn y gofrestr milfeddygon neu yn y gofrestr filfeddygol atodol;

  • ystyr “offal” (“offal”) yw cig heblaw cig y carcas p’un a yw wedi ei gysylltu’n naturiol â’r carcas neu beidio;

  • mae “perchennog” (“owner”) yn cynnwys, mewn perthynas ag unrhyw anifail, llwyth o anifeiliaid neu fangre, y person sy’n gyfrifol am yr anifail hwnnw, y llwyth hwnnw o anifeiliaid neu’r fangre honno, ac mewn perthynas ag unrhyw gynnyrch anifeiliaid y person sy’n meddu ar y cynnyrch hwnnw;

  • ystyr “Rheoliad 470/2009” (“Regulation470/2009”) yw Rheoliad (EC) Rhif 470/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor yn gosod gweithdrefnau’r Gymuned ar gyfer sefydlu’r terfynau uchaf o ran gweddillion sylweddau sy’n ffarmacolegol weithredol mewn bwydydd sy’n deillio o anifeiliaid, yn diddymu Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2377/90 ac yn diwygio Cyfarwyddeb 2001/82/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 726/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor11;

  • ystyr “sampl swyddogol” (“official sample”) yw sampl a gymerir gan swyddog awdurdodedig i’w dadansoddi at ddibenion y Rheoliadau hyn ac sy’n dwyn cyfeiriad at y math, y swm neu’r nifer o dan sylw a’r dull casglu ac, yn achos anifail neu gynnyrch anifeiliaid, y rhywogaeth a, pan fo’n briodol, manylion sy’n nodi rhyw’r anifail a’i fferm wreiddiol;

  • ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw berson (p’un a yw’n swyddog i awdurdod gorfodi ai peidio) a awdurdodwyd mewn ysgrifen gan yr awdurdod hwnnw, naill ai’n gyffredinol neu’n benodol, i weithredu mewn materion sy’n codi o dan y Rheoliadau hyn;

  • ystyr “sylwedd diawdurdod” (“unauthorisedsubstance”) yw sylwedd Tabl 2, sylwedd gwaharddedig ac unrhyw sylwedd neu gynnyrch arall y gwaherddir ei roi i anifeiliaid gan ddeddfwriaeth yr UE neu odani;

  • ystyr “sylwedd didrwydded” (“unlicensedsubstance”) yw sylwedd—

    1. a

      y mae terfyn gweddillion uchaf wedi ei sefydlu ar ei gyfer o dan Reoliad 470/2009, a

    2. b

      sydd—

      1. i

        wedi ei roi (neu wedi ei fwriadu i’w roi) yn y Deyrnas Unedig i anifail neu i lwyth o anifeiliaid, neu

      2. ii

        wedi ei roi i anifail y tu allan i’r Deyrnas Unedig,

  • a’r sylwedd hwnnw, ac unrhyw gynnyrch sy’n ei gynnwys, adeg ei roi, heb ei awdurdodi i’w ddefnyddio yn yr anifail hwnnw yn y wlad lle’r oedd yn cael ei roi;

  • ystyr “sylwedd gwaharddedig” (“prohibitedsubstance”) yw unrhyw feta-agonist neu sylwedd hormonaidd a roddir i anifail yn groes i’r gwaharddiad yn rheoliad 5;

  • ystyr “sylwedd hormonaidd” (“hormonal substance”) yw unrhyw sylwedd yn y naill neu’r llall o’r categorïau a ganlyn—

    1. a

      stilbenau a sylweddau thyrostatig;

    2. b

      sylweddau ac iddynt effaith estrogenaidd, androgenaidd neu gestagenaidd;

  • ystyr “sylwedd rhestr A” (“list A substance”) yw sylwedd a enwir yn Rhestr A o Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 96/22;

  • ystyr “sylwedd rhestr B” (“list B substance”) yw sylwedd a enwir yn Rhestr B o Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 96/22;

  • ystyr “sylwedd Tabl 1” (“Table 1 substance”) yw sylwedd a ddosbarthwyd o dan Erthygl 14(2)(a), (b) neu (c) o Reoliad 470/2009;

  • ystyr “sylwedd Tabl 2” (“Table 2 substance”) yw sylwedd a ddosbarthwyd o dan Erthygl 14(2)(d) o Reoliad 470/2009;

  • ystyr “terfyn gweddillion uchaf” (“maximum residue limit”) yw’r crynodiad uchaf o weddill, neu weddillion, o ganlyniad i ddefnyddio cynnyrch meddyginiaethol milfeddygol (a fynegir mewn µg/kg neu µg/L ar sail pwysau ffres) y mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi ei sefydlu mewn perthynas â sylwedd a ddosbarthwyd o dan Erthygl 14 o Reoliad 470/2009 fel sy’n angenrheidiol neu’n briodol ar gyfer diogelu iechyd dynol;

  • ystyr “tystysgrif dadansoddiad cyfeirio” (“reference analysis certificate”) yw tystysgrif dadansoddydd yn pennu canfyddiad dadansoddiad cyfeirio;

  • ystyr “tystysgrif dadansoddiad sylfaenol” (“primary analysis certificate”) yw tystysgrif dadansoddydd yn pennu canfyddiad dadansoddiad sylfaenol.

2

Er mwyn darganfod a aed y tu hwnt i’r terfyn gweddillion uchaf a sefydlwyd ar gyfer sylwedd sy’n ffarmacolegol weithredol at ddibenion y Rheoliadau hyn—

a

rhaid cymryd bod presenoldeb y cyffur neu fetabolit y cyffur (neu gyfuniad ohonynt) fel y’i pennir yn y gweddill sy’n dynodi’r sylwedd ffarmacolegol weithredol hwnnw yn dynodi presenoldeb y sylwedd hwnnw yn y rhan honno o anifail neu mewn llwyth o anifeiliaid, neu mewn unrhyw gynnyrch anifeiliaid sy’n deillio o’r rhan honno o anifail neu o lwyth o anifeiliaid, fel y’i pennir yn y meinweoedd targed ar gyfer y sylwedd hwnnw;

b

mae’r terfyn gweddillion uchaf (os oes un) sy’n cyfateb i’r sylwedd hwnnw i’w gymhwyso mewn cysylltiad â phresenoldeb unrhyw gyffur neu fetabolit cyffur o’r fath (neu gyfuniad ohonynt) yn y rhan honno o anifail neu mewn llwyth o anifeiliaid, neu mewn unrhyw gynnyrch anifeiliaid sy’n deillio o’r rhan honno o anifail neu o lwyth o anifeiliaid fel pe bai’n gyfystyr â’r sylwedd hwnnw.

3

Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 96/22, Cyfarwyddeb y Cyngor 96/23 neu Reoliad 470/2009 yr un ystyr, i’r graddau y mae’r cyd-destun yn caniatáu hynny, ag sydd i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Cyfarwyddebau hynny neu yn y Rheoliad hwnnw, fel y bo’n briodol.

4

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 96/22 neu Gyfarwyddeb y Cyngor 96/23 yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.