xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 3(7)
Rheoliad 10
1. Yr hylif prawf
Asid asetig 4 % (v/v), mewn hydoddiant dyfrllyd a baratowyd yn ffres.
2. Amodau’r prawf
(a)Cynhalier y prawf ar dymheredd o 22 ± 2 °C am gyfnod o 24 ± 0,5 awr.
(b)Pan yw ymfudiad plwm i’w benderfynu, rhodder gorchudd ar y sampl mewn modd priodol i’w diogelu a gadawer hi yn agored i’r amodau goleuo arferol sydd mewn labordy. Pan yw ymfudiad cadmiwm neu blwm a chadmiwm i’w penderfynu, rhodder gorchudd ar y sampl i sicrhau bod yr arwyneb y mae profion i’w cynnal arno yn cael ei gadw mewn tywyllwch llwyr.
3. Llenwi
(a)Samplau y gellir eu llenwi—
Llenwer yr eitem â hydoddiant asid asetig 4 % (v/v) hyd at lefel nad yw’n uwch nag 1 mm o’r pwynt gorlifo; mesurir y pellter o ymyl uchaf y sampl. Dylid llenwi samplau gydag ymyl gwastad neu ymyl sy’n goleddfu ychydig fel nad yw’r pellter rhwng arwyneb yr hylif a’r pwynt gorlifo yn fwy na 6 mm wrth fesur ar hyd yr ymyl sy’n goleddfu.
(b)Samplau na ellir eu llenwi—
Yn gyntaf, gorchuddir arwyneb y sampl na fwriedir iddo ddod i gysylltiad â bwydydd â haenen amddiffynnol addas sy’n gallu gwrthsefyll gweithrediad yr hydoddiant asid asetig 4 % (v/v). Yna boddir y sampl mewn cynhwysydd sy’n cynnwys cyfaint gwybyddus o hydoddiant asid asetig yn y fath fodd y bydd yr arwyneb y bwriedir iddo ddod i gysylltiad â bwydydd yn cael ei orchuddio’n llwyr gan yr hylif prawf.
4. Penderfynu’r arwynebedd
Mae arwynebedd yr eitemau yng Nghategori 1 yn hafal i arwynebedd y menisgws a ffurfir gan yr arwyneb hylif rhydd a geir wrth gydymffurfio â’r gofynion llenwi a nodir ym mharagraff 3.
Rheoliad 10
1. Amcan a maes cymhwyso
Mae’r dull yn caniatáu i’r ymfudiad penodol o blwm a/neu gadmiwm gael ei benderfynu.
2. Yr egwyddor
Penderfynir yr ymfudiad penodol o blwm a/neu gadmiwm gan ddefnyddio dull dadansoddi drwy gyfrwng offeryn sy’n bodloni’r meini prawf perfformiad ym mharagraff 4.
3. Adweithyddion
Rhaid i bob adweithydd fod o ansawdd dadansoddol, oni phennir fel arall.
Pan fo cyfeiriad at ddŵr, mae’n golygu dŵr a ddistyllwyd neu ddŵr o ansawdd cyfatebol.
(a)asid asetig 4 % (v/v), mewn hydoddiant dyfrllyd
Ychwaneger 40 ml o asid asetig grisialog at ddŵr fel bod y lefel yn cyrraedd 1 000 ml.
(b)Hydoddiannau stoc
Paratoer hydoddiannau stoc sy’n cynnwys 1 000 mg/litr o blwm ac o leiaf 500 mg/litr o gadmiwm yn eu trefn mewn hydoddiant asid asetig 4 %, fel y cyfeirir ato yn is-baragraff (a).
4. Meini prawf perfformiad y dull dadansoddi drwy gyfrwng offeryn
(a)Rhaid i’r terfyn canfod ar gyfer plwm a chadmiwm fod yn hafal i neu’n is na—
0,1 mg/litr ar gyfer plwm,
0,01 mg/litr ar gyfer cadmiwm.
Diffinnir y terfyn canfod fel y crynodiad o’r elfen yn yr hydoddiant asid asetig 4 %, fel y cyfeirir ato ym mharagraff 3(a), sy’n rhoi signal sy’n hafal i ddwywaith sŵn cefndir yr offeryn.
(b)Rhaid i’r terfyn meintioliad ar gyfer plwm a chadmiwm fod yn hafal i neu’n is na—
0,2 mg/litr ar gyfer plwm,
0,02 mg/litr ar gyfer cadmiwm.
(c)Adennill. Rhaid i’r hyn a adenillir o blwm a chadmiwm a ychwanegir at yr hydoddiant asid asetig 4 %, fel y cyfeirir ato ym mharagraff 3(a), ddod o fewn 80-120 % o’r swm a ychwanegir.
(d)Penodoldeb. Rhaid i’r dull dadansoddi drwy gyfrwng offeryn sy’n cael ei ddefnyddio fod yn rhydd o ymyriannau matrics ac ymyriannau sbectrol.
5. Dull
(a)Paratoi’r sampl
Rhaid i’r sampl fod yn lân ac yn rhydd o saim neu sylwedd arall sy’n debygol o effeithio ar y prawf.
Golcher y sampl mewn hydoddiant sy’n cynnwys glanedydd hylif i’r cartref ar dymheredd o tua 40 °C. Rinsier y sampl yn gyntaf mewn dŵr tap ac wedyn mewn dŵr wedi ei ddistyllu neu ddŵr o ansawdd cyfatebol. Draenier y sampl a’i sychu i osgoi unrhyw staen. Nid yw’r arwyneb sydd i’w brofi i’w drafod ar ôl iddo gael ei lanhau.
(b)Penderfynu plwm a/neu gadmiwm
Cynhelir prawf ar y sampl a baratowyd yn y modd hwn o dan yr amodau a osodir yn Atodlen 3.
Cyn cymryd yr hydoddiant prawf ar gyfer penderfynu plwm a/neu gadmiwm, homogeneiddier cynnwys y sampl drwy ddull priodol, sy’n osgoi colli unrhyw hydoddiant neu’n osgoi sgrafellu’r arwyneb syn cael ei brofi.
Cynhalier prawf gwag ar yr adweithydd a ddefnyddir ar gyfer pob cyfres o benderfyniadau.
Cynhalier y penderfyniadau ar gyfer plwm a/neu gadmiwm o dan amodau priodol.
Rheoliad 10A
1. Rhaid i’r datganiad ysgrifenedig y cyfeirir ato yn rheoliad 10A gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a)enw a chyfeiriad y cwmni sy’n gweithgynhyrchu’r eitem geramig orffenedig ac enw a chyfeiriad y mewnforiwr sy’n ei mewnforio i’r Deyrnas Unedig;
(b)manylion adnabod yr eitem geramig;
(c)dyddiad y datganiad;
(d)y cadarnhad bod yr eitem geramig yn bodloni’r gofynion perthnasol yn y Rheoliadau hyn a Rheoliad 1935/2004.
2. Rhaid i’r datganiad ysgrifenedig ganiatáu adnabod yn hawdd y nwyddau y’i dyroddwyd ar eu cyfer a rhaid iddo gael ei adnewyddu pan fydd newidiadau sylweddol yn y cynhyrchiant yn peri newidiadau yn ymfudiad plwm neu gadmiwm neu’r ddau.”