Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 372 (Cy. 93)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Anifeiliaid, Cymru

Rheoliadau Dileu a Rheoli Afiechydon Milheintiol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gofynion sifftio wedi eu bodloni

28 Ionawr 2019

Gwnaed

25 Chwefror 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

27 Chwefror 2019

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (sy’n ymwneud â gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dileu a Rheoli Afiechydon Milheintiol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Milheintiau (Monitro) (Cymru) 2007

2.—(1Mae Rheoliadau Milheintiau (Monitro) (Cymru) 2007(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2—

(a)ym mharagraff (1), hepgorer y diffiniad o “y Gyfarwyddeb”;

(b)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(3) Ym mharagraff (2), ystyr “y Gyfarwyddeb” yw Cyfarwyddeb 2003/99/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fonitro milheintiau a chyfryngau milheintiol(3).

(3Hepgorer rheoliad 3.

(4Yn rheoliad 5—

(a)ar ddiwedd paragraff (d), mewnosoder “ac”;

(b)hepgorer paragraff (e) a’r “ac” o’i flaen.

Diwygio Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010

3.—(1Mae Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010(4) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 2, hepgorer y diffiniad o “statws rhydd rhag twbercwlosis”.

(3Yn erthygl 11(3), yn lle “pa un a oes gan y fuches sy’n cynnwys yr anifail hwnnw statws rhydd rhag twbercwlosis neu beidio” rhodder “pa un a yw’r fuches sy’n cynnwys yr anifail hwnnw yn fuches dan gyfyngiadau ai peidio”.

(4Yn erthygl 12(3A)(d), yn lle “bod y fuches odro wedi colli ei statws rhydd rhag twbercwlosis” rhodder “ei bod yn fuches dan gyfyngiadau”.

(5Yn erthygl 14(4), yn lle “yn colli neu’n adennill ei statws rhydd rhag twbercwlosis” rhodder “yn dod neu’n peidio â bod yn fuches dan gyfyngiadau”.

(6Yn Atodlen 2, ym mharagraff 8, yn lle is-baragraff (c) rhodder—

(c)buches sydd wedi bod yn fuches dan gyfyngiadau ar unrhyw adeg yn ystod y 18 mis sy’n dod i ben ar ddyddiad y symud; neu.

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

25 Chwefror 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio is-ddeddfwriaeth sy’n gymwys o ran Cymru, mewn perthynas â monitro a rheoli afiechydon milheintiol yn gyffredinol, ac mewn perthynas â thwbercwlosis yn benodol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(2)

O.S. 2007/2459 (Cy. 207), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(3)

O.J. Rhif L 325, 12.12.2003, t. 31, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor (EU) 2013/20/EU (O.J. Rhif L 158, 10.06.2013, t. 234).