2019 Rhif 371 (Cy. 92)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Anifeiliaid, Cymru

Rheoliadau Clefydau Egsotig mewn Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gofynion sifftio wedi eu bodloni

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20181, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (sy’n ymwneud a gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Clefydau Egsotig mewn Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.

3

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Gorchymyn Clwy’r Traed a’r Genau (Cymru) 20062

Yng Ngorchymyn Clwy’r Traed a’r Genau (Cymru) 20062, ym mharagraff 7 o Atodlen 7, yn lle “another member State” rhodder “a member State, Norway, Iceland or Liechtenstein”.

Rheoliadau Clwy’r Traed a’r Genau (Rheoli Brechu) (Cymru) 20063

1

Diwygir Rheoliadau Clwy’r Traed a’r Genau (Rheoli Brechu) (Cymru) 20063 fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 9, ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

4

At ddibenion paragraff (1)(c), mae pwynt 3.2 o Atodiad X i Gyfarwyddeb y Cyngor 2003/85/EC i’w ddarllen fel pe bai—

a

y cyfeiriad at “Member States” yn gyfeiriad at “the Welsh Ministers”;

b

Erthygl 2(u) o Gyfarwyddeb 2001/89/EC fel y mae’n gymwys i bwynt 3.2 wedi ei haddasu fel bod—

i

y geiriau “region, as defined in Article 2(2)(p) of Council Directive 64/432/EEC”, wedi eu disodli gan “county or county borough in Wales”;

ii

“such a region” wedi ei ddisodli gan “such a county or county borough"

3

Yn rheoliad 27—

a

yn lle “o fewn y Gymuned” rhodder “ag Aelod-wladwriaeth, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein”;

b

disodlir pennawd y rheoliad hwnnw gan “Masnach mewn anifeiliaid a frechwyd”.

4

Yn rheoliad 35(2)(a), yn lle “rhwymedigaethau UE” rhodder “chyfraith yr UE a ddargedwir”.

Rheoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal) (Cymru) 20064

1

Diwygir Rheoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal) (Cymru) 20064 fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 9(5), yn lle’r geiriau o “gan y Comisiwn Ewropeaidd” hyd at y diwedd, rhodder “yn unol ag Erthygl 56(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2005/94/EC ynghylch mesurau Cymunedol i reoli ffliw adar ac yn diddymu Cyfarwyddeb 92/40/EEC fel y’i darllenir gydag Erthygl 5 o Benderfyniad y Comisiwn 2007/598 ynghylch mesurau i atal ffliw adar pathogenig iawn rhag ymledu i adar caeth eraill a gedwir mewn sŵau a mangreoedd cyrff, sefydliadau a chanolfannau a gymeradwywyd” (ond nid yw’r troednodyn i reoliad 9(5) i gael ei ddisodli).

3

Yn rheoliad 11, ym mharagraffau (2)(a) a (3), hepgorer “arall”.

4

Yn rheoliad 18(3)(c), yn lle “rhwymedigaethau Cymunedol” rhodder “cyfraith yr UE a ddargedwir”.

Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Dod o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 20065

1

Diwygir Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Dod o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 20065 fel a ganlyn.

2

Yn erthygl 22(2), yn lle “another” rhodder “a”.

3

Yn erthygl 32, yn lle “intra-Community or international trade” rhodder “export outside the United Kingdom”.

4

Yn erthygl 50(1)(b)(ii), yn lle “another”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “a”.

5

Yn erthygl 63(5), yn lle “intra-Community or international trade” rhodder “export outside the United Kingdom”.

Rheoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) (Rhif 2) 20066

1

Diwygir Rheoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) (Rhif 2) 20066 fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2—

a

ym mharagraff (1)—

i

yn lle’r diffiniad o “cynllun brechu brys” rhodder—

  • ystyr “cynllun brechu brys” (“emergency vaccination plan”) yw cynllun brechu brys a gyhoeddir yn unol ag Erthygl 53 o’r Gyfarwyddeb fel y’i darllenir gyda’r addasiadau a nodir ym mharagraff (3)

ii

yn lle’r diffiniad o “cynllun brechu ataliol” rhodder—

  • ystyr “cynllun brechu ataliol” (“preventivevaccinationplan”) yw cynllun brechu ataliol a gyhoeddir yn unol ag Erthygl 56 o’r Gyfarwyddeb fel y’i darllenir gyda’r addasiadau a nodir ym mharagraff (4)

b

ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

3

At ddibenion y diffiniad o “cynllun brechu brys” ym mharagraff (1), mae Erthygl 53 o’r Gyfarwyddeb i’w darllen fel pe bai wedi ei haddasu fel a ganlyn—

a

ym mharagraff 1—

i

yn lle “A Member State” rhodder “The Welsh Ministers”;

ii

yn lle’r geiriau o “the Member State concerned” hyd at y diwedd rhodder “Wales”;

b

ym mharagraff 2—

i

yn lle “a Member State intends” rhodder “the Welsh Ministers intend”;

ii

yn lle “it shall submit an emergency vaccination plan to the Commission for its approval” rhodder “the Welsh Ministers must publish an emergency vaccination plan”;

iii

yn is-baragraff (g), yn lle “the measures provided for in Sections 3, 4 and 5 of Chapter IV and Section 3 of Chapter V” rhodder

any provision of—

i

the Avian Influenza (Preventive Measures) (Wales) Regulations 2006 (S.I. 2006/2803);

ii

the Avian Influenza and Influenza of Avian Origin in Mammals (Wales) (No. 2) Order 2006 (S.I. 2006/2927);

iii

the Avian Influenza (Vaccination) (Wales) (No. 2) Regulations 2006 (S.I. 2006/2932)

c

hepgorer paragraff 3.

4

At ddibenion y diffiniad o “cynllun brechu ataliol” ym mharagraff (1), mae Erthygl 56 o’r Gyfarwyddeb i gael ei darllen fel pe bai wedi ei haddasu fel a ganlyn—

a

ym mharagraff 1—

i

yn lle “Member States” rhodder “The Welsh Ministers”;

ii

yn lle “their territory” rhodder “Wales”;

b

ym mharagraff 2—

i

yn lle “a Member State intends” rhodder “the Welsh Ministers intend”;

ii

yn lle “it shall submit a preventive vaccination plan to the Commission for its approval” rhodder “the Welsh Ministers must publish a preventive vaccination plan”;

iii

yn is-baragraff (g), yn lle “the measures provided for in Sections 3, 4 and 5 of Chapter IV and Section 3 of Chapter V” rhodder

any provision of—

i

the Avian Influenza (Preventive Measures) (Wales) Regulations 2006 (S.I. 2006/2803);

ii

the Avian Influenza and Influenza of Avian Origin in Mammals (Wales) (No. 2) Order 2006 (S.I. 2006/2927);

iii

the Avian Influenza (Vaccination) (Wales) (No. 2) Regulations 2006 (S.I. 2006/2932)

c

hepgorer paragraff 3.

3

Yn rheoliad 6(3), yn lle “pan gyflwynir hysbysiad brechu brys ar ôl i gynllun brechu brys gael ei ddwyn gerbron y Comisiwn Ewropeaidd a’i gymeradwyo ganddo yn unol ag Erthyglau 53 a 54 o’r Gyfarwyddeb” rhodder “gyhoeddir”.

4

Yn rheoliad 7(2)(b), yn lle “wedi’i ddwyn gerbron y Comisiwn Ewropeaidd ac wedi’i gymeradwyo ganddo yn unol ag Erthyglau 56 a 57 o’r Gyfarwyddeb” rhodder “wedi’i gyhoeddi”.

5

Yn rheoliad 10—

a

disodlir y pennawd gan “Brechu brys heb gynllun wedi’i gyhoeddi”;

b

ym mharagraff (1), yn lle “gymeradwyo gan y Comisiwn Ewropeaidd yn unol ag Erthygl 54 o’r Gyfarwyddeb” rhodder “gyhoeddi”;

c

ym mharagraff (7), yn lle “i gynllun brechu brys gael ei gymeradwyo gan y Comisiwn Ewropeaidd yn unol ag Erthygl 54 o’r Gyfarwyddeb” rhodder “i gynllun sy’n cyfateb i gynllun brechu brys gael ei gyhoeddi gan Weinidogion yr Alban, yr Ysgrifennydd Gwladol neu Weithrediaeth Gogledd Iwerddon, yn ôl y digwydd”.

6

Yn rheoliad 19(3)(c), yn lle “rhwymedigaethau UE” rhodder “cyfraith yr UE a ddargedwir”.

Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Dofednod) (Cymru) 20067

1

Diwygir Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Dofednod) (Cymru) 20067 fel a ganlyn.

2

Yn erthygl 2—

a

Yn y diffiniad o “approved body”, yn lle’r geiriau o “in accordance with” hyd at y diwedd rhodder

    1. a

      where the body is in Wales, by the Welsh Ministers,

    2. b

      where the body is in England, by the Secretary of State,

    3. c

      where the body is in Scotland, by the Scottish Ministers,

    4. d

      where the body is in Northern Ireland, by the Northern Ireland Executive, or

    5. e

      where the body is in a member State, in accordance with Article 2(1)(c) of Directive 92/65/EEC laying down animal health requirements governing trade in and imports into the Community of animals, semen, ova and embryos not subject to animal health requirements laid down in specific Community rules referred to in Annex A(I) to Directive 90/425/EEC;

b

ar ôl y diffiniad o “temporary movement restriction zone” mewnosoder—

  • “third country” means any country that is neither the United Kingdom nor a member State;

3

Yn erthyglau 9(1), 10(1) ac 11(1), hepgorer y gair “other”.

4

Yn erthyglau 9(3)(c) a 10(3)(c) ac (e), yn lle “another” rhodder “a”.

5

Yn erthygl 12, hepgorer paragraffau (1)(b) a (2).

6

Yn erthygl 14—

a

ym mharagraff (1)(d), yn lle “another” rhodder “a”;

b

ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

3A

In paragraph (2)(p), the reference to “the competent authority” includes the Secretary of State, the Welsh Ministers, the Scottish Ministers or the Northern Ireland Assembly, as the case may be.

Rheoliadau’r Tafod Glas (Cymru) 20088

Yn Rheoliadau’r Tafod Glas (Cymru) 20088, yn lle rheoliad 19(4) rhodder—

4

Dim ond os yw’r penderfyniad i ddefnyddio’r brechlyn wedi ei seilio ar ganlyniad asesiad risg penodol a gyflawnwyd gan Weinidogion Cymru y caniateir i Weinidogion Cymru roi trwydded o dan baragraff (1) neu ddatgan parth o dan baragraff (2).

Rheoliadau Cynhyrchion sy’n Dod o Anifeiliaid (Rheoli Clefydau) (Cymru) 20089

1

Diwygir Rheoliadau Cynhyrchion sy’n Dod o Anifeiliaid (Rheoli Clefydau) (Cymru) 20089 fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 17, yn lle paragraff (15) rhodder—

15

Caiff arolygydd sy’n mynd i mewn i unrhyw fangre, sefydliad neu gerbyd fynd ag unrhyw bersonau eraill y mae’n barnu eu bod yn angenrheidiol.

3

Yn Atodlen 3, ym mharagraff 1(b), hepgorer paragraff (iii).

Gorchymyn Compartmentau Dofednod (Cymru) 201010

Yng Ngorchymyn Compartmentau Dofednod (Cymru) 201010, yn erthygl 5(1)(dd) yn lle “â chynrychiolydd o’r Comisiwn Ewropeaidd gydag ef neu” mewnosoder “ag”.

Rheoliadau Clefyd Affricanaidd y Ceffylau (Cymru) 201311

1

Diwygir Rheoliadau Clefyd Affricanaidd y Ceffylau (Cymru)11 fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 20(1)(a), yn lle “gadarnhau’n swyddogol at ddibenion Cyfarwyddeb y Cyngor 92/35/EEC, sy’n gosod rheolau a mesurau rheoli i drechu clefyd Affricanaidd y ceffylau” rhodder “gadarnhau”.

3

Yn lle rheoliad 29(8)(b) rhodder—

b

mynd ag unrhyw bersonau eraill y mae’n barnu eu bod yn angenrheidiol.

Lesley GriffithsGweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwiedig, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth, sy’n gymwys o ran Cymru, ym maes rheoli ac atal clefydau egsotig mewn anifeiliaid.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.