2019 Rhif 296 (Cy. 74)

Trydan, Cymru

Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Ffioedd) (Cymru) 2019

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 36(8A) a 60 o Ddeddf Trydan 19891, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a dehongli1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Ffioedd) (Cymru) 2019 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2019.

2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “cais” (“application”) yw cais i Weinidogion Cymru o dan adran 362 o Ddeddf Trydan 1989 am gydsyniad i adeiladu, estyn neu weithredu gorsaf gynhyrchu alltraeth, ynghyd ag unrhyw gais o dan adran 36A3 o’r Ddeddf honno am ddatganiad sy’n ymwneud â hawliau mordwyo sy’n cael ei wneud gyda’r cais o dan adran 36; ac

    ystyr “colofn 3” (“column 3”) yw colofn 3 o’r tabl yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.

Ffioedd2

1

Rhaid i’r ceisydd dalu ffi i Weinidogion Cymru am wneud cais.

2

Y ffi yw cyfanswm—

a

y ffi gychwynnol yn unol â rheoliad 3;

b

y ffi ar gyfer archwilio cais a gyfrifir yn unol â rheoliad 4; ac

c

y ffi ar gyfer gwneud penderfyniad ynghylch cais a gyfrifir yn unol â rheoliad 5.

Y ffi gychwynnol3

1

Pan fo cais yn cael ei wneud i Weinidogion Cymru, rhaid talu ffi gychwynnol i Weinidogion Cymru (“y ffi gychwynnol”).

2

Y ffi gychwynnol yw’r swm a nodir yn rhes 1 o golofn 3.

3

Rhaid i’r ffi gychwynnol fynd gyda’r cais.

Y ffi archwilio4

1

Rhaid talu ffi i Weinidogion Cymru am archwilio cais (“y ffi archwilio”).

2

Mae’r ffi archwilio i’w gyfrifo fel cyfanswm—

a

nifer y diwrnodau neu ran o ddiwrnod a dreulir yn archwilio cais wedi ei luosi â—

i

pan fo cais yn cael ei archwilio drwy wrandawiad neu ymchwiliad, y gyfradd ddyddiol a nodir yn rhes 2 o golofn 3;

ii

ym mhob achos arall, y gyfradd ddyddiol a nodir yn rhes 3 o golofn 3; a

b

unrhyw gostau ac alldaliadau yr eir iddynt mewn gwirionedd gan Weinidogion Cymru neu ar ran Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag archwilio’r cais.

3

Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, roi amcangyfrif ysgrifenedig i’r ceisydd o nifer y diwrnodau y disgwylir eu cymryd i archwilio’r cais.

4

Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r amcangyfrif y cyfeirir ato ym mharagraff (3) ar unrhyw adeg.

5

Caiff Gweinidogion Cymru anfonebu’r ceisydd ar gyfnodau rhesymol mewn cysylltiad â nifer y dyddiau a dreulir mewn gwirionedd yn archwilio’r cais ac unrhyw gostau yr eir iddynt wrth archwilio’r cais.

6

Rhaid i Weinidogion Cymru gael unrhyw ffi sy’n ddyledus o dan y rheoliad hwn o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r dyddiad yr anfonir yr anfoneb berthnasol.

7

Os bydd y ceisydd yn methu â thalu unrhyw ffi sy’n ddyledus o dan y rheoliad hwn o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (6), nid oes angen i Weinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r cais hyd nes i Weinidogion Cymru gael y taliad.

8

Os bydd y ceisydd yn methu â thalu unrhyw ffi sy’n ddyledus o dan y rheoliad hwn o fewn y cyfnod o 12 wythnos sy’n dechrau pan fydd y cyfnod a bennir ym mharagraff (6) yn dod i ben, bernir bod y cais wedi ei dynnu’n ôl.

9

Mae’r ffi archwilio yn parhau i fod yn daladwy er gwaethaf tynnu’r cais yn ôl.

10

Yn y rheoliad hwn, bernir bod “diwrnod” yn 7.4 awr.

Y ffi benderfynu5

1

Rhaid talu ffi i Weinidogion Cymru am benderfyniad ynghylch cais (“y ffi benderfynu”).

2

Y ffi benderfynu yw cyfanswm—

a

ffi benodedig sef y swm a nodir yn rhes 4 o golofn 3; a

b

unrhyw gostau ac alldaliadau yr eir iddynt mewn gwirionedd gan Weinidogion Cymru neu ar ran Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â gwneud penderfyniad ynghylch y cais.

3

Mae’r costau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(b) yn cynnwys unrhyw gostau cyfreithiol rhesymol neu alldaliadau eraill yr eir iddynt neu a delir gan Weinidogion Cymru neu ar ran Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â gwneud penderfyniad ynghylch cais.

4

Caiff Gweinidogion Cymru anfonebu’r ceisydd—

a

ar gyfer y ffi benodedig ar unrhyw adeg ar ôl gorffen archwilio’r cais, a

b

mewn cysylltiad â chostau ac alldaliadau ar gyfnodau rhesymol.

5

Rhaid i Weinidogion Cymru gael unrhyw ffi sy’n ddyledus o dan y rheoliad hwn o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r dyddiad yr anfonir yr anfoneb berthnasol.

6

Os bydd y ceisydd yn methu â thalu unrhyw ffi sy’n ddyledus o dan y rheoliad hwn o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (5), nid oes angen i Weinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r cais hyd nes iddynt gael y taliad.

7

Os bydd y ceisydd yn methu â thalu unrhyw ffi sy’n ddyledus o dan y rheoliad hwn o fewn y cyfnod o 12 wythnos sy’n dechrau pan fydd y cyfnod a bennir ym mharagraff (5) yn dod i ben, bernir bod y cais wedi ei dynnu’n ôl.

8

Mae’r ffi benderfynu yn parhau i fod yn daladwy er gwaethaf tynnu’r cais yn ôl.

Julie JamesY Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLENFfioedd penodedig a chyfraddau dyddiol

Rheoliadau 3(2), 4(2)(a)(i), 4(2)(a)(ii) a 5(2)(a)

Y Tabl

Colofn 1

Y Rheoliad

Colofn 2

Y Pwnc

Colofn 3

Y Ffi

3(2)

Y ffi gychwynnol

£15,350

4(2)(a)(i)

Y gyfradd ddyddiol pan fo cais yn cael ei archwilio mewn gwrandawiad neu ymchwiliad

£920 heb gynnwys treth ar werth os oes peth

4(2)(a)(ii)

Y gyfradd ddyddiol ym mhob achos arall

£870 heb gynnwys treth ar werth os oes peth

5(2)(a)

Y ffi benderfynu

£14,700

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer talu ffioedd mewn cysylltiad â cheisiadau am gydsyniad o dan adran 36 o Ddeddf Trydan 1989 (p. 29) (“Deddf 1989”) i adeiladu, estyn neu weithredu gorsaf gynhyrchu alltraeth.

Gweinidogion Cymru, o 1 Ebrill 2019, yw’r awdurdod priodol mewn perthynas â cheisiadau o dan adrannau 36 a 36A o Ddeddf 1989 sy’n ymwneud â gorsafoedd cynhyrchu yn nyfroedd Cymru sydd â gallu cynhyrchu nad yw’n fwy na 350 megawat.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi ar www.llyw.cymru.