2019 Rhif 293 (Cy. 71)

Trydan, Cymru

Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Parthau Diogelwch) (Gweithdrefnau Gwneud Cais a Rheoli Mynediad) (Diwygio) (Cymru) 2019

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 96 a 192 o Ddeddf Ynni 20041, a pharagraff 4(1) o Atodlen 16 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a chychwyn1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Parthau Diogelwch) (Gweithdrefnau Gwneud Cais a Rheoli Mynediad) (Diwygio) (Cymru) 2019 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2019.

Diwygiadau i Reoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Parthau Diogelwch) (Gweithdrefnau Gwneud Cais a Rheoli Mynediad) 20072

1

Mae Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Parthau Diogelwch) (Gweithdrefnau Gwneud Cais a Rheoli Mynediad) 20072 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 5 (cyflwyno hysbysiad o gais am hysbysiad parth diogelwch), yn lle paragraff (c) rhodder—

c

the Welsh Ministers, in the case of a safety zone proposed or located wholly or partly in Welsh waters3, except where the Welsh Ministers are the appropriate Minister;

3

Yn rheoliad 9 (llestrau a gweithgareddau a ganiateir mewn parthau diogelwch), ar ôl paragraff (1)(a) mewnosoder—

aa

(in the case of a safety zone in respect of which the Welsh Ministers are the appropriate Minister) belonging to, or acting under the authority of, a government department, the Environment Agency4, the Natural Resources Body for Wales5 or the Scottish Environment Protection Agency6, and engaged in—

i

the provision of services for,

ii

the transport of persons or goods to or from, or

iii

the inspection of,

any existing or proposed renewable energy installation in that safety zone;

Julie JamesY Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Parthau Diogelwch) (Gweithdrefnau Gwneud Cais a Rheoli Mynediad) 2007 (O.S. 2007/1948) (“Rheoliadau 2007”) o ganlyniad i adran 41 o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4), sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2019.

Mae adran 41 yn diwygio adrannau 95 a 96 o Ddeddf Ynni 2004 (p. 20) (“Deddf 2004”) fel y bydd gan Weinidogion Cymru, o 1 Ebrill 2019, swyddogaethau mewn perthynas â datgan parthau diogelwch o gwmpas gosodiadau ynni adnewyddadwy alltraeth (sydd â gallu cynhyrchu o hyd at 350 megawat) yn nyfroedd Cymru. Ystyr “dyfroedd Cymru” yw hynny o ddyfroedd mewnol a môr tiriogaethol y Deyrnas Unedig sy’n gyfagos i Gymru, a pharth Cymru. Mae i “parth Cymru” yr ystyr a roddir i “Welsh zone” yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

Mae Rheoliadau 2007 yn nodi’r wybodaeth y mae’n ofynnol iddi fynd gyda chais parth diogelwch, yn ogystal â’r gofynion gweithdrefnol y mae angen eu bodloni. Maent hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer esemptiadau rhag y gwaharddiad a nodir yn adran 96 o Ddeddf 2004 ar fynediad i barth diogelwch a gweithgareddau ynddo.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud mân ddiwygiadau i Reoliadau 2007 er mwyn adlewyrchu’r newid yn y cyfrifoldebau am ddatgan parthau diogelwch yn nyfroedd Cymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.