2019 Rhif 165 (Cy. 41)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019

Gwnaed

Yn dod i rym

Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 2(3), 21(5), 27, 28, 30, 31, 45, 46, 186(1) a 187(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 20161 a chan baragraff 7(1) o Atodlen 1 iddi, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae Gweinidogion Cymru, fel sy’n ofynnol gan adrannau 27(4)(a) ac 28(4) o’r Ddeddf honno, wedi ymgynghori â’r personau hynny y maent yn meddwl eu bod yn briodol ac wedi cyhoeddi datganiad ynghylch yr ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan adran 27(4)(b) o’r Ddeddf honno. Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod y datganiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel sy’n ofynnol gan adran 27(5) o’r Ddeddf honno. Mae Gweinidogion Cymru hefyd wedi cynnal ymgynghoriad yn unol â’r gofyniad ym mharagraff 7(5) o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno.

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 187(2)(b), (f), (g), (j), (k) ac (w) o’r Ddeddf honno ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.