2019 Rhif 1508 (Cy. 279)

Ardrethu A Phrisio, Cymru

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2019

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 43(4B)(b) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19881, ac a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 143(1) a 146(6) o’r Ddeddf honno, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2.

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2019.

2

Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2020.

Diwygio Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 20172

1

Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 20173 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn erthygl 2—

a

yn y man priodol mewnosoder y diffiniad a ganlyn—

  • ystyr “peiriant arian awtomatig” (“automatic teller machine”) yw cyfleuster awtomatig sy’n darparu mynediad hunanwasanaeth i ystod o wasanaethau bancio;

b

yn y diffiniad o “hereditament a eithrir” (“excepted hereditament”), ar ôl paragraff (f) mewnosoder—

g

a ddefnyddir ar gyfer peiriant arian awtomatig yn unig;

Rebecca EvansY Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017 (O.S. 2017/1229 (Cy. 293)) (“Gorchymyn 2017”). Mae Gorchymyn 2017 yn darparu ar gyfer cynllun rhyddhad ardrethi annomestig (“y cynllun”) sy’n gymwys i gategorïau penodol o hereditamentau.

Effaith y diwygiadau a wneir gan y Gorchymyn hwn yw sicrhau nad yw hereditamentau a ddefnyddir ar gyfer peiriannau arian awtomatig yn unig yn cael budd o ryddhad ardrethi i fusnesau bach o dan y cynllun.

Mae hyn yn dilyn dyfarniad yr Uchel Lys yn Cardtronics UK Limited v Pembrokeshire County Council [2018] EWHC 1167 (Admin) nad oedd peiriannau arian awtomatig yn “cyfarpar cyfathrebiadau electronig” o fewn ystyr Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/229 (Cy. 11)), ac felly yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi i fusnesau bach.

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio erthygl 2 o Orchymyn 2017 drwy fewnosod diffiniad newydd sef “peiriant arian awtomatig” ac mae’n cynnwys y diffiniad hwnnw o fewn y diffiniad o “hereditament a eithrir”. Mae hyn yn golygu na fydd peiriannau arian awtomatig yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi i fusnesau bach gydag effaith o 1 Ebrill 2020.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.