Offerynnau Statudol Cymru
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gwnaed
16 Rhagfyr 2019
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 146(4)(b) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1) (“Deddf 2014”), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Mae Gweinidogion Cymru, fel sy’n ofynnol gan adran 146(1) o Ddeddf 2014, wedi ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn meddwl eu bod yn addas ynghylch drafft o’r cod diwygiedig.
Yn unol ag adran 146(2) o Ddeddf 2014, gosodwyd drafft o’r cod diwygiedig gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru am 40 niwrnod.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cod Ymarfer Diwygiedig ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 10 (Eirioli) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2019.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Cod Diwygiedig Rhan 10” yw’r Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 10 (Eirioli) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, y gosodwyd drafft ohono gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 6 Tachwedd 2019 ac a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru ar 17 Rhagfyr 2019.
2. Y diwrnod penodedig i God Diwygiedig Rhan 10 ddod i rym yw 1 Ionawr 2020.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
16 Rhagfyr 2019
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn pennu 1 Ionawr 2020 fel y diwrnod y daw’r Cod Ymarfer diwygiedig ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 10 (Eirioli) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym (“y Cod diwygiedig”).
Mae’r Cod diwygiedig wedi ei ddyroddi gan Weinidogion Cymru o dan adran 145(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”).
Mae adran 145(3) o Ddeddf 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol weithredu yn unol ag unrhyw ofynion perthnasol sydd wedi eu cynnwys mewn cod a ddyroddwyd o dan adran 145(1) a rhoi sylw i unrhyw ganllawiau perthnasol sydd wedi eu cynnwys ynddo.
Mae’r Cod diwygiedig yn disodli cod cynharach a ddyroddwyd ym mis Ebrill 2016.
Gellir gweld y Cod diwygiedig ar y rhyngrwyd ar www.llyw.cymru.