2019 Rhif 1501 (Cy. 277)
Gorchymyn y Cod Ymarfer Diwygiedig ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 10 (Eirioli) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2019
Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 146(4)(b) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 20141 (“Deddf 2014”), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Mae Gweinidogion Cymru, fel sy’n ofynnol gan adran 146(1) o Ddeddf 2014, wedi ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn meddwl eu bod yn addas ynghylch drafft o’r cod diwygiedig.
Yn unol ag adran 146(2) o Ddeddf 2014, gosodwyd drafft o’r cod diwygiedig gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru am 40 niwrnod.
Enwi a dehongli1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cod Ymarfer Diwygiedig ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 10 (Eirioli) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2019.
2
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Cod Diwygiedig Rhan 10” yw’r Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 10 (Eirioli) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, y gosodwyd drafft ohono gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 6 Tachwedd 2019 ac a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru ar 17 Rhagfyr 2019.
Y diwrnod penodedig2
Y diwrnod penodedig i God Diwygiedig Rhan 10 ddod i rym yw 1 Ionawr 2020.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)