xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Tai, Cymru
Gwnaed
4 Rhagfyr 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
6 Rhagfyr 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan baragraff 11(3) a (4) o Atodlen 2 i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Blaendal Cadw) (Gwybodaeth Benodedig) (Cymru) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 10 Rhagfyr 2019 at ddiben rheoliad 2 ac ar 28 Chwefror 2020 at bob diben arall.
2. Mae Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Gwybodaeth Benodedig) (Cymru) 2019(2) wedi eu dirymu.
3.—(1) Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu gwybodaeth y mae rhaid i landlord (neu, os cyfarwyddir felly, ei asiant gosod eiddo) ei darparu i ddarpar ddeiliad contract(3) cyn y telir blaendal cadw(4) i landlord neu asiant gosod eiddo mewn cysylltiad â chontract meddiannaeth safonol a’r ffordd y mae rhaid darparu’r wybodaeth honno.
(2) Rhaid darparu’r wybodaeth a ganlyn i ddarpar ddeiliad contract—
(a)swm y blaendal cadw(5),
(b)cyfeiriad yr annedd y telir y blaendal mewn cysylltiad â hi,
(c)pan fo blaendal cadw i’w dalu i asiant gosod eiddo, enw a manylion cyswllt yr asiant gosod eiddo hwnnw,
(d)pan fo blaendal cadw i’w dalu i landlord, enw a manylion cyswllt y landlord hwnnw,
(e)hyd y contract,
(f)dyddiad meddiannaeth arfaethedig,
(g)swm y rhent neu gydnabyddiaeth arall,
(h)cyfnod rhentu,
(i)unrhyw delerau contract ychwanegol arfaethedig neu addasiadau arfaethedig i delerau sylfaenol neu atodol neu delerau y bwriedir eu hepgor o’r contract,
(j)swm unrhyw flaendal sicrwydd,
(k)a oes angen gwarantwr ac, os felly, unrhyw amodau perthnasol,
(l)gwiriadau geirda y bydd y landlord (neu’r asiant gosod eiddo) yn eu cynnal, ac
(m)gwybodaeth y mae ar y landlord neu’r asiant gosod eiddo ei hangen gan y darpar ddeiliad contract.
(3) Rhaid darparu’r wybodaeth i ddarpar ddeiliad contract yn ysgrifenedig a chaniateir ei rhoi yn bersonol neu ei darparu drwy ddulliau electronig os yw’r darpar ddeiliad contract yn cydsynio i’w chael yn electronig.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
4 Rhagfyr 2019
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi gwybodaeth y mae rhaid i naill ai’r landlord neu ei asiant gosod eiddo ei darparu i ddarpar ddeiliad contract, cyn y telir blaendal cadw mewn cysylltiad â chontract meddiannaeth safonol. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn pennu’r ffordd y mae rhaid darparu’r wybodaeth.
Mae rheoliad 2 yn dirymu Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Gwybodaeth Benodedig) (Cymru) 2019.
Os na ddarperir yr wybodaeth yn rheoliad 3(2) i ddarpar ddeiliad contract cyn y telir blaendal cadw, ni chaiff y landlord na’r asiant gosod eiddo ddibynnu ar yr eithriadau a nodir ym mharagraffau 8, 9 a 10 o Atodlen 2 i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 a rhaid ad-dalu’r blaendal cadw. Mae rheoliad 3(3) yn nodi’r ffordd y mae rhaid darparu’r wybodaeth.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
2019 dccc 2 (“Deddf 2019”); gweler adran 28 am y diffiniad o “rheoliadau”. Cyflwynir Atodlen 2 gan adran 9 o Ddeddf 2019.
Yn rhinwedd rheoliad 3 o O.S. 2019/1151 (Cy. 201), mae cyfeiriadau yn Neddf 2019 at ddeiliad contract i’w darllen fel cyfeiriadau at denant o dan denantiaeth fyrddaliadol sicr o dan Ran 1 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50).
Gweler paragraff 4 o Atodlen 1 i Ddeddf 2019 am y diffiniad o “blaendal cadw”.
O dan baragraff 4(c) o Atodlen 1 i Ddeddf 2019, ni chaiff blaendal cadw fod yn fwy na swm sy’n gyfwerth ag un wythnos o rent o dan y contract.