Search Legislation

Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Blaendal Cadw) (Gwybodaeth Benodedig) (Cymru) 2019

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 1493 (Cy. 272)

Tai, Cymru

Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Blaendal Cadw) (Gwybodaeth Benodedig) (Cymru) 2019

Gwnaed

4 Rhagfyr 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

6 Rhagfyr 2019

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan baragraff 11(3) a (4) o Atodlen 2 i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Blaendal Cadw) (Gwybodaeth Benodedig) (Cymru) 2019.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 10 Rhagfyr 2019 at ddiben rheoliad 2 ac ar 28 Chwefror 2020 at bob diben arall.

Dirymu

2.  Mae Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Gwybodaeth Benodedig) (Cymru) 2019(2) wedi eu dirymu.

Gwybodaeth benodedig

3.—(1Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu gwybodaeth y mae rhaid i landlord (neu, os cyfarwyddir felly, ei asiant gosod eiddo) ei darparu i ddarpar ddeiliad contract(3) cyn y telir blaendal cadw(4) i landlord neu asiant gosod eiddo mewn cysylltiad â chontract meddiannaeth safonol a’r ffordd y mae rhaid darparu’r wybodaeth honno.

(2Rhaid darparu’r wybodaeth a ganlyn i ddarpar ddeiliad contract—

(a)swm y blaendal cadw(5),

(b)cyfeiriad yr annedd y telir y blaendal mewn cysylltiad â hi,

(c)pan fo blaendal cadw i’w dalu i asiant gosod eiddo, enw a manylion cyswllt yr asiant gosod eiddo hwnnw,

(d)pan fo blaendal cadw i’w dalu i landlord, enw a manylion cyswllt y landlord hwnnw,

(e)hyd y contract,

(f)dyddiad meddiannaeth arfaethedig,

(g)swm y rhent neu gydnabyddiaeth arall,

(h)cyfnod rhentu,

(i)unrhyw delerau contract ychwanegol arfaethedig neu addasiadau arfaethedig i delerau sylfaenol neu atodol neu delerau y bwriedir eu hepgor o’r contract,

(j)swm unrhyw flaendal sicrwydd,

(k)a oes angen gwarantwr ac, os felly, unrhyw amodau perthnasol,

(l)gwiriadau geirda y bydd y landlord (neu’r asiant gosod eiddo) yn eu cynnal, ac

(m)gwybodaeth y mae ar y landlord neu’r asiant gosod eiddo ei hangen gan y darpar ddeiliad contract.

(3Rhaid darparu’r wybodaeth i ddarpar ddeiliad contract yn ysgrifenedig a chaniateir ei rhoi yn bersonol neu ei darparu drwy ddulliau electronig os yw’r darpar ddeiliad contract yn cydsynio i’w chael yn electronig.

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

4 Rhagfyr 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi gwybodaeth y mae rhaid i naill ai’r landlord neu ei asiant gosod eiddo ei darparu i ddarpar ddeiliad contract, cyn y telir blaendal cadw mewn cysylltiad â chontract meddiannaeth safonol. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn pennu’r ffordd y mae rhaid darparu’r wybodaeth.

Mae rheoliad 2 yn dirymu Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Gwybodaeth Benodedig) (Cymru) 2019.

Os na ddarperir yr wybodaeth yn rheoliad 3(2) i ddarpar ddeiliad contract cyn y telir blaendal cadw, ni chaiff y landlord na’r asiant gosod eiddo ddibynnu ar yr eithriadau a nodir ym mharagraffau 8, 9 a 10 o Atodlen 2 i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 a rhaid ad-dalu’r blaendal cadw. Mae rheoliad 3(3) yn nodi’r ffordd y mae rhaid darparu’r wybodaeth.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2019 dccc 2 (“Deddf 2019”); gweler adran 28 am y diffiniad o “rheoliadau”. Cyflwynir Atodlen 2 gan adran 9 o Ddeddf 2019.

(3)

Yn rhinwedd rheoliad 3 o O.S. 2019/1151 (Cy. 201), mae cyfeiriadau yn Neddf 2019 at ddeiliad contract i’w darllen fel cyfeiriadau at denant o dan denantiaeth fyrddaliadol sicr o dan Ran 1 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50).

(4)

Gweler paragraff 4 o Atodlen 1 i Ddeddf 2019 am y diffiniad o “blaendal cadw”.

(5)

O dan baragraff 4(c) o Atodlen 1 i Ddeddf 2019, ni chaiff blaendal cadw fod yn fwy na swm sy’n gyfwerth ag un wythnos o rent o dan y contract.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources