Search Legislation

Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) (Diwygio) 2019

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 1481 (Cy. 265)

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) (Diwygio) 2019

Gwnaed

27 Tachwedd 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

28 Tachwedd 2019

Yn dod i rym

14 Rhagfyr 2019

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi(1).

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau mewn cysylltiad â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd(2).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i unrhyw gyfeiriad yn Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007(3) at offeryn UE a ddiffinnir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hynny, fel y diwygir y Rheoliadau hynny gan y Rheoliadau hyn, gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(4) ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) (Diwygio) 2019.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Rhagfyr 2019.

Diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007

2.  Mae Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

3.  Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn lle’r diffiniad sy’n dechrau “mae i “Cyfarwyddeb 2004/41”” rhodder—

mae i “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”), “Rheoliad 2406/96” (“Regulation 2406/96”), “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”), “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”), “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”), “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”), “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”), “Rheoliad 2015/1375” (“Regulation 2015/1375”), “Rheoliad 2017/625” (“Regulation 2017/625”), “Rheoliad 2019/624” (“Regulation 2019/624”) a “Rheoliad 2019/627” (“Regulation 2019/627”) yr ystyron a roddir iddynt yn ôl eu trefn yn yr Atodlen;;

(ii)yn y diffiniad o “rhoi gyntaf ar y farchnad”, yn lle “Rheoliad 882/2004” rhodder “Rheoliad 2017/625”;

(iii)yn y diffiniad o “gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod”, yn lle “Rheoliad 882/2004” rhodder “Rheoliad 2017/625”;

(iv)yn lle’r diffiniad o “rheolaethau swyddogol” rhodder—

mae i “rheolaethau swyddogol” yr ystyr a roddir i “official controls” yn Erthygl 2(1) o Reoliad 2017/625;;

(v)yn y diffiniad o “prosesu”, yn lle “ym Mhennod V o Adran B o Atodiad IV i Reoliad 852/2004” rhodder “yn Rheoliad 2017/625”;

(vi)yn y diffiniad o “mewnforyn trydedd wlad”, yn lle “y mae tâl yn daladwy mewn cysylltiad ag ef o dan Reoliad 882/2004” rhodder “y mae tâl a nodir yn Atodiad 4 i Reoliad 2017/625 yn daladwy mewn cysylltiad ag ef”;

(b)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(3) Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at offeryn UE a ddiffinnir yn yr Atodlen yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

4.  Yn rheoliad 3 (gwir gostau)—

(a)yn lle “a restrir yn Atodiad VI i Reoliad 882/2004” rhodder “y cyfeirir atynt yn Erthyglau 81 a 82 o Reoliad 2017/625”;

(b)yn lle “Atodiad III i Reoliad 854/2004” rhodder “Deitl 6 o Reoliad 2019/627 ac Atodiad 6 iddo”.

5.  Yn rheoliad 4 (cyfwerthoedd y bunt â’r Ewro), ym mharagraff (3)—

(a)yn is-baragraff (b), ar ôl “ym mhob blwyddyn ddilynol” mewnosoder “hyd nes y daw Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) (Diwygio) 2019 i rym”;

(b)ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—

(c)ar ôl i Reoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) (Diwygio) 2019 ddod i rym, cyfartaledd y cyfraddau a gyhoeddir yng Nghyfres C o Gyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer pob diwrnod yn ystod y cyfnod tâl pan gyhoeddir y gyfradd.

6.  Yn rheoliad 9 (taliadau sy’n daladwy i fwy nag un awdurdod bwyd), yn lle “Atodiad III i Reoliad 854/2004” rhodder “Deitl 6 o Reoliad 2019/627 ac Atodiad 6 iddo”.

7.  Yn rheoliad 10 (talu tâl glanio), yn lle “Atodiad III i Reoliad 854/2004”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “Deitl 6 o Reoliad 2019/627 ac Atodiad 6 iddo”.

8.  Yn rheoliad 12 (tâl o ran sefydliadau prosesu), yn lle “Atodiad III i Reoliad 854/2004”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “Deitl 6 o Reoliad 2019/627 ac Atodiad 6 iddo”.

9.  Yn lle’r Atodlen (diffiniadau o ddeddfwriaeth yr UE) rhodder yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

27 Tachwedd 2019

Rheoliad 9

YR ATODLEN

Rheoliad 2

YR ATODLENDIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH YR UE

  • ystyr “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”) yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n diddymu Cyfarwyddebau penodol ynghylch hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy’n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i’w bwyta gan bobl ac sy’n diwygio Cyfarwyddebau’r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC(5);

  • ystyr “Rheoliad 2406/96” (“Regulation 2406/96”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2406/96 sy’n gosod safonau marchnata cyffredin ar gyfer cynhyrchion pysgodfeydd penodol(6);

  • ystyr “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar hylendid bwydydd(7) fel y’i darllenir gyda Rheoliad 2073/2005;

  • ystyr “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy’n dod o anifeiliaid(8) fel y’i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 1688/2005, Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2017/185;

  • ystyr “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1688/2005 sy’n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi o gigoedd ac wyau penodol i’r Ffindir a Sweden(9);

  • ystyr “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer bwydydd(10);

  • ystyr “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy’n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(11);

  • ystyr “Rheoliad 2015/1375” (“Regulation 2015/1375”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/1375 sy’n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig(12);

  • ystyr “Rheoliad 2017/625” (“Regulation 2017/625”) yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 999/2001, (EC) Rhif 396/2005, (EC) Rhif 1069/2009, (EC) Rhif 1107/2009, (EU) Rhif 1151/2012, (EU) Rhif 652/2014, (EU) 2016/429 ac (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, Rheoliadau’r Cyngor (EC) Rhif 1/2005 ac (EC) Rhif 1099/2009 a Chyfarwyddebau’r Cyngor 98/58/EC, 1999/74/EC, 2007/43/EC, 2008/119/EC a 2008/120/EC, ac sy’n diddymu Rheoliadau (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Cyngor 89/608/EEC, 89/662/EEC, 90/425/EEC, 91/496/EEC, 96/23/EC, 96/93/EC a 97/78/EC a Phenderfyniad y Cyngor 92/438/EEC(13) fel y’i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2015/1375 a Rheoliad 2017/185;

  • ystyr “Rheoliad 2019/624” (“Regulation 2019/624”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/624 ynghylch rheolau penodol ar gyfer cyflawni rheolaethau swyddogol ar gynhyrchu cig ac ar gyfer ardaloedd cynhyrchu ac ailddodi molysgiaid dwygragennog byw yn unol â Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor(14) fel y’i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2015/1375 a Rheoliad 2017/185;

  • ystyr “Rheoliad 2019/627” (“Regulation 2019/627”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/627 sy’n gosod trefniadau ymarferol unffurf ar gyfer cyflawni rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i’w bwyta gan bobl yn unol â Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac sy’n diwygio Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 o ran rheolaethau swyddogol(15) fel y’i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2015/1375 a Rheoliad 2017/185.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3462) (Cy. 307). Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu’n rhannol Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 15 Mawrth 2017 ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion (OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1), a Rheoliadau Gweithredu a Rheoliadau Dirprwyedig a wneir o dan y Rheoliad hwnnw.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a Rhan 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7).

(2)

O.S. 2005/1971. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae’r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiad hwn yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.

(3)

O.S. 2007/3462 (Cy. 307), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/806 (Cy. 162) ac O.S. 2019/463 (Cy. 111). Mae wedi ei ddiwygio’n rhagolygol gan O.S. 2019/1046 (Cy. 185).

(4)

OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) 2019/1243 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 198, 25.7.2019, t. 241).

(5)

OJ Rhif L 157, 30.4.2004, t. 33. Mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41/EC wedi ei nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L 195, 2.6.2004, t. 12).

(6)

OJ Rhif L 334, 23.12.1996, t. 1.

(7)

OJ Rhif L 139, 30.4.2004, t. 1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 wedi ei nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L 226, 25.6.2004, t. 3), y dylid ei ddarllen gyda Chorigendwm pellach (OJ Rhif L 204, 4.8.2007, t. 26).

(8)

OJ Rhif L 139, 30.4.2004, t. 55. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 wedi ei nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L 226, 25.6.2004, t. 22), y dylid ei ddarllen gyda Chorigendwm pellach (OJ Rhif L 204, 4.8.2007, t. 26).

(9)

OJ Rhif L 271, 15.10.2005, t. 17.

(10)

OJ Rhif L 338, 22.12.2005, t. 1, fel y’i darllenir gyda’r Corigenda yn OJ Rhif L 278, 10.10.2006, t. 32 ac OJ Rhif L 283, 14.10.2006, t. 62.

(11)

OJ Rhif L 338, 22.12.2005, t. 27.

(12)

OJ L Rhif L 212, 11.8.2015, t. 7.

(13)

OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1.

(14)

OJ Rhif L 131, 17.5.2019, t. 1.

(15)

OJ Rhif L 131, 17.5.2019, t. 51.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources