Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 1399 (Cy. 246)

Ardrethu A Phrisio, Cymru

Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2019

Gwnaed

28 Hydref 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

29 Hydref 2019

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2019

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2019 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2019.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992(2).

Diwygio Rheoliadau 1992

2.—(1Mae Rheoliadau 1992 wedi eu diwygio fel a ganlyn mewn perthynas â’r blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020 neu ar ôl hynny.

(2Yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 rhodder yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

28 Hydref 2019

Rheoliad 2

YR ATODLEN

SCHEDULE 4

ADULT POPULATION FIGURES

Billing authority areaPrescribed figure
Blaenau Gwent56,110
Bridgend/Pen-y-bont ar Ogwr115,510
Caerphilly/Caerffili142,910
Cardiff/Caerdydd289,610
Carmarthenshire/Sir Gaerfyrddin150,170
Ceredigion60,670
Conwy95,780
Denbighshire/Sir Ddinbych75,920
Flinthsire/Sir y Fflint123,400
Gwynedd100,760
Isle of Anglesey/Ynys Môn56,520
Merthyr Tydfil/Merthyr Tudful47,370
Monmouthshire/Sir Fynwy76,570
Neath Port Talbot/Castell-nedd Port Talbot114,860
Newport/Casnewydd118,370
Pembrokeshire/Sir Benfro101,000
Powys108,420
Rhondda Cynon Taf190,140
Swansea/Abertawe199,280
Torfaen73,820
Vale of Glamorgan/Bro Morgannwg104,760
Wrexham/Wrecsam106,930

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 (“Rheoliadau 1992”).

O dan Ran 2 o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, mae’n ofynnol i awdurdodau bilio (sef yng Nghymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Weinidogion Cymru. Mae Rheoliadau 1992 yn cynnwys rheolau ar gyfer cyfrifo’r cyfraniadau hynny ar gyfer awdurdodau bilio Cymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy roi Atodlen 4 newydd (Ffigurau Poblogaeth Oedolion) yn lle’r un bresennol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.