- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Rheoliad 6(d)
1.—(1) At ddibenion Erthygl 11, rhaid i unrhyw berson sydd ag unrhyw anifail yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth nad yw yn fuchol, yn ddefeidiog nac yn afraidd ac sydd o dan amheuaeth o fod wedi ei effeithio gan TSE hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith a’i gadw yn y daliad hyd nes yr archwilir yr anifail gan arolygydd milfeddygol.
(2) Rhaid i unrhyw filfeddyg sy’n archwilio neu’n arolygu unrhyw anifail o’r fath hysbysu Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl.
(3) Rhaid i unrhyw berson (ac eithrio Gweinidogion Cymru) sy’n archwilio corff anifail nad yw’n fuchol, yn ddefeidiog nac yn afraidd, neu unrhyw ran ohono, mewn labordy ac sy’n amau’n rhesymol fod TSE yn bresennol, hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith, a chadw’r corff ac unrhyw rannau ohono hyd nes yr awdurdodir eu gwaredu gan arolygydd milfeddygol.
(4) Mae methu â chydymffurfio â’r paragraff hwn yn drosedd.
2.—(1) Os yw anifail yn destun hysbysiad o dan baragraff 1, neu yr amheuir fel arall ei fod wedi ei heintio â TSE at ddibenion Erthygl 12, rhaid i arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad yn gwahardd symud yr anifail hwnnw o’i ddaliad.
(2) Ni chaniateir symud anifeiliaid sydd o dan gyfyngiadau ac eithrio yn unol â rheoliad 18.
(3) Os yw’r arolygydd milfeddygol yn penderfynu, yn dilyn ymchwiliad, nad amheuir bod unrhyw anifail yn y daliad wedi ei heintio â TSE, rhaid i’r arolygydd dynnu’r holl gyfyngiadau ar y daliad hwnnw.
3.—(1) At ddibenion Erthygl 12(1) a (2), os yw arolygydd milfeddygol yn amau bod anifail nad yw’n fuchol, yn ddefeidiog nac yn afraidd wedi ei heintio â TSE, rhaid i’r arolygydd milfeddygol naill ai—
(a)ei ladd yn y daliad ar unwaith;
(b)cyflwyno hysbysiad yn gwahardd symud yr anifail o’r daliad hyd nes y bo wedi ei ladd; neu
(c)cyflwyno hysbysiad yn cyfarwyddo’r meddiannydd i’w draddodi i fangre arall i’w ladd, ac yn gwahardd symud ac eithrio yn unol â’r cyfarwyddyd hwnnw.
(2) Os lleddir yr anifail yn y daliad (neu os yw’n marw yno), mae symud y corff o’r daliad neu ei waredu, ac eithrio yn unol â chyfarwyddyd ysgrifenedig gan arolygydd milfeddygol, yn drosedd.
4.—(1) Pan leddir anifail o dan baragraff 3, rhaid i Weinidogion Cymru dalu digollediad i berchennog yr anifail hwnnw.
(2) Y digollediad yw gwerth yr anifail ar y farchnad ar yr adeg y’i lleddir.
(3) At ddibenion y paragraff hwn, y gwerth ar y farchnad yw’r pris y disgwylid yn rhesymol fod wedi ei gael am yr anifail gan brynwr ar y farchnad agored ar yr adeg y’i prisiwyd, a hynny gan ragdybio nad oedd yr anifail wedi ei effeithio gan TSE.
(4) Pan na fo’r perchennog a Gweinidogion Cymru yn gallu cytuno ar werth ar y farchnad, rhaid cynnal y prisiad yn unol â’r weithdrefn a osodir yn rheoliad 12(3) i (7) gyda’r perchennog yn talu unrhyw ffi a godir ynglŷn â’r prisio.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: