- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
22 Ionawr 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
29 Ionawr 2018
Yn dod i rym
14 Mawrth 2018
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 39 a 58(2) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 39(2) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag Archwilydd Cyffredinol Cymru, y cymdeithasau hynny o awdurdodau lleol yng Nghymru y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn ymwneud â hyn a’r cyrff hynny o gyfrifwyr y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn briodol.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Mawrth 2018.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r blynyddoedd sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2018 neu ar ôl hynny.
2. Mae Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014(2) wedi eu diwygio fel a nodir yn y rheoliadau a ganlyn.
3. Yn rheoliad 2(1) (dehongli), hepgorer y diffiniad o “hysbysiad drwy hysbyseb” (“notice by advertisement”).
4. Yn rheoliad 8(1)(c) (datganiad o gyfrifon) ar ôl “hwy” mewnosoder “, ac eithrio cyfrifon ar gyfer cronfeydd pensiwn a weinyddir yn unol â Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 2013(3)”.
5.—(1) Yn rheoliad 10 (llofnodi, cymeradwyo a chyhoeddi datganiad o gyfrifon)—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “30 Mehefin” rhodder “31 Mai”;
(b)ym mharagraff (2), yn lle “30 Medi” rhodder “31 Gorffennaf”.
(2) Ar ôl rheoliad 10 mewnosoder—
10A. Mewn perthynas â’r flwyddyn sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2018, mae rheoliad 10 yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn—
(a)mae paragraff (1) i’w ddarllen fel petai “30 Mehefin” wedi ei roi yn lle “31 Mai”;
(b)mae paragraff (2) i’w ddarllen fel petai “30 Medi” wedi ei roi yn lle “31 Gorffennaf”.
10B.—(1) Mae’r addasiadau a nodir yn y rheoliad hwn yn cael effaith mewn perthynas â chyfrifon cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.
(2) Mewn perthynas â’r blynyddoedd sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2019 a 31 Mawrth 2020 mae rheoliad 10 yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn—
(a)mae paragraff (1) i’w ddarllen fel petai “15 Mehefin” wedi ei roi yn lle “31 Mai”;
(b)mae paragraff (2) i’w ddarllen fel petai “15 Medi” wedi ei roi yn lle “31 Gorffennaf”.”
6. Yn rheoliad 12(1) (hysbysiad o hawliau cyhoeddus), yn lle “hysbysu drwy hysbyseb ac ar ei wefan am” rhodder “arddangos ar ei wefan ac mewn o leiaf un lle amlwg yn ei ardal, hysbysiad sy’n cynnwys”.
7. Yn rheoliad 13 (hysbysiad o orffen yr archwiliad), yn lle “hysbysu drwy hysbyseb ac ar ei wefan” rhodder “arddangos ar ei wefan ac mewn o leiaf un lle amlwg yn ei ardal, hysbysiad”.
8.—(1) Yn rheoliad 15(5)(b) (llofnodi, cymeradwyo a chyhoeddi datganiadau cyfrifyddu), yn lle “lle neu leoedd amlwg” rhodder “o leiaf un lle amlwg”.
(2) Ar ôl rheoliad 15 (llofnodi, cymeradwyo a chyhoeddi datganiadau cyfrifyddu) mewnosoder—
15A.—(1) Mae’r addasiadau a nodir yn y rheoliad hwn yn cael effaith mewn perthynas â chyfrifon pwyllgor i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol (gan gynnwys cyd-bwyllgor).
(2) Mewn perthynas â’r blynyddoedd sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2019 a 31 Mawrth 2020, mae rheoliad 15 yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn—
(a)mae paragraff (2) i’w ddarllen fel petai “15 Mehefin” wedi ei roi yn lle “30 Mehefin”;
(b)mae paragraff (5) i’w ddarllen fel petai “15 Medi” wedi ei roi yn lle “30 Medi”.
(3) Mewn perthynas â’r blynyddoedd sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2021 neu ar ôl hynny, mae rheoliad 15 yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn—
(a)mae paragraff (2) i’w ddarllen fel petai “31 Mai” wedi ei roi yn lle “30 Mehefin”;
(b)mae paragraff (5) i’w ddarllen fel petai “31 Gorffennaf” wedi ei roi yn lle “30 Medi”.”
9. Yn rheoliad 17(1) (hysbysiad o hawliau cyhoeddus) yn lle “lle neu leoedd amlwg” rhodder “o leiaf un lle amlwg”.
10. Yn rheoliad 18 (hysbysiad o orffen yr archwiliad) yn lle “lle neu leoedd amlwg” rhodder “o leiaf un lle amlwg”.
11. Yn rheoliad 28 (archwiliad eithriadol), yn lle paragraff (1) rhodder—
“(1) Pan fydd Archwilydd Cyffredinol Cymru, o dan adran 37 o Ddeddf 2004(4), yn cynnal archwiliad eithriadol o gyfrifon corff perthnasol, rhaid i’r corff arddangos hysbysiad ar ei wefan ac mewn o leiaf un lle amlwg yn ardal y corff, ynghylch hawl unrhyw etholwr llywodraeth leol yn yr ardal y mae’r cyfrifon yn berthnasol iddi i wrthwynebu unrhyw un neu ragor o’r cyfrifon hynny.”
Alun Davies
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
22 Ionawr 2018
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adrannau 39 a 58(2) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (“Deddf 2004”) ac maent yn diwygio Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (“Rheoliadau 2014”).
Mae Rheoliadau 2014 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â chyfrifon ac archwilio cyrff llywodraeth leol yng Nghymru y mae’n ofynnol archwilio eu cyfrifon yn unol â Rhan 2 o Ddeddf 2004. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2014 mewn tri chyswllt.
Mae Rheoliadau 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff perthnasol mwy gyhoeddi hysbysiadau penodol mewn papurau newydd lleol. Mae’r Rheoliadau hyn yn dileu’r gofyniad hwnnw ac yn gosod gofyniad yn ei le i arddangos hysbysiad mewn o leiaf un lle amlwg yn ardal y corff.
Mae rheoliad 4 yn dileu’r gofyniad i gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol gynnwys, yn eu datganiad o gyfrifon, y cyfrifon ar gyfer cronfeydd pensiwn a weinyddir yn unol â Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 2013.
O dan Reoliadau 2014, mae’n ofynnol i gyrff llywodraeth leol baratoi eu datganiad o gyfrifon erbyn 30 Mehefin ar ôl y flwyddyn y mae’r datganiad yn berthnasol iddi a’i gyhoeddi erbyn 30 Medi ar ôl y flwyddyn y mae’n berthnasol iddi. Mae rheoliadau 5 ac 8 yn newid yr amserlen i gyrff llywodraeth leol baratoi a chyhoeddi eu datganiad o gyfrifon fel a ganlyn.
Mewn perthynas â’r flwyddyn sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2018, mae’n ofynnol i awdurdodau tân ac achub, awdurdodau Parciau Cenedlaethol, comisiynwyr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid baratoi eu datganiad o gyfrifon erbyn 30 Mehefin 2018’ a’i gyhoeddi erbyn 30 Medi 2018’. Mewn perthynas â blwyddyn sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2019 neu ar ôl hynny, mae’n ofynnol i gyrff o’r fath baratoi eu datganiad o gyfrifon erbyn 31 Mai ar ôl y flwyddyn y mae’r datganiad yn berthnasol iddi a’i gyhoeddi erbyn 31 Gorffennaf ar ôl y flwyddyn y mae’n berthnasol iddi.
Mewn perthynas â’r flwyddyn sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2018 mae’n ofynnol i gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol a phwyllgorau i gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol (gan gynnwys cyd-bwyllgorau) baratoi eu datganiad o gyfrifon erbyn 30 Mehefin 2018 a’i gyhoeddi erbyn 30 Medi 2018. Mewn perthynas â’r blynyddoedd sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2019 a 31 Mawrth 2020, mae’n ofynnol i gyrff o’r fath baratoi eu datganiad o gyfrifon erbyn 15 Mehefin ar ôl y flwyddyn y mae’r datganiad yn berthnasol iddi a’i gyhoeddi erbyn 15 Medi ar ôl y flwyddyn y mae’n berthnasol iddi.
Mewn perthynas â’r blynyddoedd sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2021 neu ar ôl hynny, mae’n ofynnol i gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol a phwyllgorau i gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol (gan gynnwys cyd-bwyllgorau) baratoi eu datganiad o gyfrifon erbyn 31 Mai ar ôl y flwyddyn y mae’r datganiad yn berthnasol iddi a’i gyhoeddi erbyn 31 Gorffennaf ar ôl y flwyddyn y mae’n berthnasol iddi.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
2004 p. 23; diwygiwyd adran 39 gan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (dccc 3), Atodlen 4, paragraffau 20 a 44. Diwygiwyd adran 58 gan y Ddeddf honno, Atodlen 4, paragraffau 20 a 58.
O.S. 2013/2356 fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Diwygiadau Amrywiol) 2014 (O.S. 2014/44), Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Rheoli Troseddwyr) (Diwygio) 2014 (O.S. 2014/1146), Gorchymyn Absenoldeb Rhiant a Rennir a Chyflog Rhiant Statudol a Rennir (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2014 (O.S. 2014/3255), Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Diwygio) 2015 (O.S. 2015/755), a Deddf Menter 2016 (p. 12), adran 42(2), Atodlen 6, paragraff 5 (o ddiwrnod sydd i’w bennu).
Diwygiwyd adran 37 gan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (dccc 3), Atodlen 4, paragraffau 20 a 42.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: