Search Legislation

Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) (Diwygio) 2018

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 887 (Cy. 176)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) (Diwygio) 2018

Gwnaed

19 Gorffennaf 2018

Yn dod i rym

2 Awst 2018

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 18(1), 203 a 204(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1), a pharagraff 5 o Atodlen 3 iddi, ar ôl cwblhau’r ymgynghoriad a ragnodir o dan adran 18(3) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) (Diwygio) 2018 a daw i rym ar 2 Awst 2018.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y prif Orchymyn” yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993(2).

Diwygio erthygl 1 o’r prif Orchymyn

2.  Yn erthygl 1(2) o’r prif Orchymyn, yn y diffiniad o “the trust”, yn lle “Velindre National Health Service Trust” rhodder “Velindre University National Health Service Trust”.

Diwygio erthygl 2 o’r prif Orchymyn

3.  Yn lle erthygl 2 o’r prif Orchymyn, rhodder—

2.    Establishment of the trust

There is hereby established an NHS trust which shall be called Velindre University National Health Service Trust or Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Prifysgol Felindre.

Ymrwymiad addysgu sylweddol

4.  Ar ôl erthygl 4 o’r prif Orchymyn, mewnosoder—

4A.    Significant teaching commitment

(1) The trust is to be regarded as having a significant teaching commitment by virtue of paragraph 5(3)(b) of Schedule 3 to the National Health Service (Wales) Act 2006(3).

(2) One of the non-executive directors must be appointed from Cardiff University.

Arbed

5.  Nid yw’r enw newydd y rhoddir effaith iddo gan reoliad 3—

(a)yn effeithio ar unrhyw hawl neu rwymedigaeth unrhyw berson; na

(b)yn annilysu unrhyw offeryn (pa un a’i gwnaed cyn, ar neu ar ôl y diwrnod y daw’r Gorchymyn hwn i rym) sy’n cyfeirio at Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre, a rhaid dehongli pob offeryn neu ddogfen arall sy’n cyfeirio at yr enw hwnnw fel pe bai’n cyfeirio at yr ymddiriedolaeth.

Vaughan Gething

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

19 Gorffennaf 2018

NODYN ESBONIADOL

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993 (“y prif Orchymyn”) er mwyn newid enw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Prifysgol Felindre.

Gan y bydd gan Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre ymrwymiad addysgu sylweddol bellach, mae’r Gorchymyn yn pennu hyn ac yn diwygio’r prif Orchymyn ymhellach i ragnodi bod rhaid i un o’r cyfarwyddwyr anweithredol gael ei benodi o Brifysgol Caerdydd.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources